Author Archives: Nathan Williams

  1. Cwrs Cynllunio Gwasanaethau Digidol Ieuenctid DesYIgn

    by Nathan Williams | 27th Ion 2022

    Disgrifiad

    Mae Cynllunio Gwasanaethau Ieuenctid Digidol yn gwrs ymarferol o gefnogaeth sydd â’r nod o rymuso sefydliadau ieuenctid trydydd sector Cymru i drawsffurfio gwasanaethau yn ddigidol gan ddefnyddio’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth.

    Dros 8 wythnos, bydd unigolion neu dimau o wahanol sefydliadau yn cael eu cefnogi i gynllunio, profi a datblygu gwasanaethau digidol/hybrid newydd neu ailfeddwl gwasanaethau presennol.

    COFRESTRU

    Yn y rhaglen yma byddech yn:

    – Cael cyfle i ddatrys her go iawn sydd yn wynebu eich sefydliad
    – Rhoi amser a gofod i brofi syniadau a dulliau newydd
    – Dysgu pethau newydd am ddefnyddwyr eich gwasanaeth a’u hanghenion
    – Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol
    – Dysgu sut i ddatblygu gwasanaethau digidol sydd yn canolbwyntio ar y person gan ddefnyddio methodoleg Cynllunio Gwasanaeth
    – Arbrofi gydag offer digidol newydd
    – Cael mynediad i’r pecyn cymorth ac adnoddau DesYIgn


    I bwy mae’r cwrs yma?

    Mae’n rhaid i chi fod yn gweithio i sefydliad trydydd sector yng Nghymru sydd yn trosglwyddo gwasanaethau i/gyda phobl ifanc er mwyn gallu cofrestru am y cwrs am ddim yma.

    I sicrhau eich bod yn cael y profiad hyfforddiant orau, byddem yn annog dau berson o bob sefydliad i fynychu’r cwrs, er nad yw hyn yn hanfodol. Bydd angen i bob person gofrestru ar wahân.

    Bydd disgwyl i bob cyfranogwr ymrwymo i 3-4 awr o amser dysgu bob wythnos dros gyfnod 8 wythnos.

    Ar ba ffurf mae’r cwrs?

    Mae hwn yn gwrs e-ddysgu 8 wythnos, gyda thua 3-4 awr o astudio ar ben eich hun a gwaith prosiect. Bydd tasgau newydd yn cael eu gosod bob wythnos i’w cwblhau unrhyw amser yn ystod yr wythnos yna. Mae 2 weminar wedi cael eu trefnu, ond mae popeth arall yn hyblyg cyhyd â bod y gwaith cwrs yn cael ei gwblhau o fewn yr 8 wythnos.

    Dyddiadau gweminar:

    – Gweminar Cyflwyno: Mawrth 7fed  2-4yp
    – Gweminar Cloi: Ebrill 28ain  2-4yp
    Mae hwn yn gwrs dwyieithog*

    Proses Ceisiadau

    Dyddiad cau ceisiadau yw 18fed Chwefror. Bydd cael eich derbyn ar y cwrs yn ddibynnol ar gyfanswm y ceisiadau ac addasrwydd. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod canlyniad eu cais erbyn 21ain Chwefror.


    Mae’r cwrs e-ddysgu a’r deunyddiau wedi cael eu creu gan bartneriaeth o ymarferwyr ieuenctid ledled Ewrop, wedi’i arwain gan ERYICA gyda chefnogaeth y rhaglen Erasmus+ yn 2021.

    Hwylusir y cwrs drwy gyllid Llywodraeth Cymru trwy’r rhaglen Newid. Mae Newid yn rhaglen o gefnogaeth a datblygiad sgiliau digidol ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru. Mae’n bartneriaeth rhwng ProMo-Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Byddem yn cynnal cwrs pellach yn fis Mai bydd ar gael i’r trydydd sector yn ehangach.

    COFRESTRU

    Am unrhyw gwestiynau, cysylltwch â arielle@promo.cymru


    • *Mae’r holl ddeunyddiau datblygwyd ar gyfer y cwrs ar gael yng Nghymraeg a Saesneg; ond, nid ydym yn gyfrifol am argaeledd iaith unrhyw ddarllen neu adnoddau allanol sydd yn cael ei argymell. Bydd hyfforddwr cwrs sydd yn siarad Cymraeg ar gael. Rydym yn arbrofi ar gynnig y cwrs yma fel un, yn hytrach nag rhannu yng Nghymraeg a Saesneg, ac yn croesawu cyfraniadau yn y ddwy iaith. Mae hwn yn gwrs cyfranogol sydd yn annog trafodaeth rhwng y cyfranogwyr. Os oes digon o bobl yn siarad Cymraeg byddem yn hwyluso grwpiau trafod yn yr iaith, ond os yw niferoedd yn isel, ac er mwyn i chi fuddio cymaint â phosib o ddysgu gan eraill, byddem yn hwyluso grwpiau ieithoedd cymysg sydd yn croesawu cyfraniadau yng Nghymraeg neu Saesneg. Bydd ein hyfforddwr iaith Gymraeg ar gael i sgwrsio a chyfieithu eich sylwadau.
  2. Ad-dalu Cyd-gynllunio

    by Nathan Williams | 11th Ion 2022

    Fel Menter Gymdeithasol, rydym yn credu yn y gwerth cymdeithasol a ddaw o gyd-gynllunio gwasanaethau gyda phobl. Rydym o’r gred y dylid cydnabod a gwerthfawrogi profiadau bywyd pobl wrth gyd-gynllunio gwasanaethau gwell. Cynhaliwyd gweithdy gyda phobl ifanc yn ddiweddar, i drafod ad-daliad am gymryd rhan yn ein gwaith Cynllunio Gwasanaeth a Chyd-gynllunio Cyfryngau.

    Mae ProMo-Cymru yn gweithio gyda sefydliadau cyhoeddus a’r trydydd sector yn eu cynorthwyo i gyrraedd mwy o bobl a chyflwyno gwasanaethau digidol gwell. Er mwyn gwneud hyn, rhaid cynnal yr hyn y gelwir yn ‘ymchwil defnyddiwr’ yn y byd cynllunio digidol. Golygai hyn ein bod yn siarad gyda phobl er mwyn dysgu mwy amdanyn nhw a’u hanghenion. Weithiau, rydym yn dangos prototeip rhywbeth sydd wedi’i greu i weld sut y byddant yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd.

    I helpu gyda’r broses yma, pan fydd y prosiect yn caniatáu, rydym yn aml yn talu pobl ifanc fel staff sydd yn gweithio ar liwt eu hunain. Mae hyn yn help iddynt gael profiad gwaith a bod yn rhan weithgar o brosiect o’r cychwyn cyntaf hyd at y diwedd. Dyma y gwnaethpwyd wrth gefnogi’r Tîm Pobl Ifanc yn Arwain, fu’n ymchwilio anghenion pobl ifanc ar gyfer Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Gyda phrosiectau eraill roedd pobl ifanc yn blaenoriaethu’r cyfle i gael eu clywed, fel y fideo ‘Think Again!’ cyd-gynlluniwyd gyda YMCA Caerdydd.

    Mae sgyrsiau am yr hyn sydd yn waith gwirfoddol neu waith taledig yn gallu bod yn ddryslyd wrth reoli elusennau, ond roeddem yn awyddus i gael clywed yr hyn roedd gan bobl ifanc i’w ddweud.

    Yr hyn mae pobl ifanc yn gwerthfawrogi

    ·  Cydnabyddiaeth

    ·  Bwyd

    ·  Cyfleoedd i gymryd rhan mewn pethau eraill

    ·  Crynodeb o ganlyniadau i ddangos gwerth eu cyfraniad

    ·  Hyfforddiant am ddim

    ·  Digwyddiadau am ddim

    ·  Hyfforddiant

    ·  Profiad gwaith

    ·  Tystysgrifau

    ·  Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant

    ·  Profiadau ystyrlon

    ·  Ymweld â gweithleoedd

    ·  Talebau

    ·  Cyfleoedd â thâl

    ·  Sesiynau helpu gyda CV

    google jamboard
    Jamboard Gweithdy

    Yr hyn y dysgwyd

    Workshop participants

    Gweithdy ieuenctid

    Yn y gweithdy, dywedodd y bobl ifanc efallai bod angen lefelau ad-dalu gwahanol i gyd-fynd â lefelau gwahanol o gyfranogiad. Roedd y bobl ifanc yn deall gall fod cyfyngiadau cyllid weithiau. Roeddent hefyd yn deall byddai rhai prosiectau yn buddio’n well gyda gwirfoddolwyr neu yn cymryd ychydig funudau yn unig, tra bod eraill yn gweddu’n well neu angen cyflogi staff. Cytunwyd ar bwysigrwydd cynnwys pobl ifanc yn y sgwrs am ad-daliadau wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd â budd cymdeithasol bwriadedig. Roedd y bobl ifanc yn ymwybodol bod rhwystrau ariannol yn gallu atal mynediad ecwitïol a bod talu rhywun yn gallu rhoi cyfle iddynt gymryd rhan.

    Cofiwch ofyn

    Mae fframwaith syml wedi cael ei greu i sefydliadau sydd yn cynnwys pobl wrth drafod ad-daliad:

    Os oes gennych chi’r gyllideb = gofynnwch.

    Os nad oes gennych chi’r gyllideb = gofynnwch.

    Beth ydym ni am wneud yn wahanol?

    Byddem yn parhau i gynnwys pobl ifanc ac, ble’n bosib, eu cyflogi. Mae hyn yn sicrhau gwir lais ieuenctid yn ein prosiectau ac yn caniatáu i nifer o bobl ifanc gael cyfle cyflogaeth gyntaf.

    Un o’r pethau gwerthfawrogwyd gan y bobl ifanc oedd gweld canlyniadau’r cyfraniad. Dywedodd rhai pobl ifanc eu bod wedi cymryd rhan mewn amryw o ymgynghoriadau neu weithgareddau cyd-gynhyrchu, ond prin ddim ohonynt oedd wedi clywed am y gwahaniaeth gwnaed y cyfraniad yma. Byddem yn sicrhau ein bod yn rhoi gwybod am ganlyniadau ein prosiectau i’r holl bobl sydd yn cymryd rhan yn ein prosiectau. Mae hwn yn newid syml, gyda’r gobaith y bydd yn cael effaith bositif ar gyfranogiad ac yn grymuso mwy o bobl i newid pethau er gwell.

    Gweithio efo ProMo


    Os hoffech siarad â ni am Gynllunio Gwasanaeth, e-bostiwch: nathan@promo.cymru

  3. Meddwl Ymlaen

    by Nathan Williams | 26th Mai 2021

    Yn gynnar yn 2020 dechreuodd tîm o bobl ifanc weithio gyda Chronfa Gymuendol y Loteri Genedlaethol. Y bwriad oedd adnabod sut mae ariannu’r Loteri Genedlaethol yn gallu cael yr effaith fwyaf positif i bobl ifanc yng Nghymru. Mae hyn wedi arwain at greu rhaglen grantiau £10 miliwn Meddwl Ymlaen sydd yn agor heddiw.

    Roedd y tîm datblygu yn cynnwys ProMo-Cymru a’r Ministry of Life sydd wedi gweithio gyda Chronfa Cymunedol y Loteri Genedlaethol a’r bobl ifanc. O’r ymchwil yma, amlygwyd blaenoriaethau allweddol i bobl ifanc

    Mae cipolwg o’r rhain yn cynnwys:

    – Mynediad i gefnogaeth iechyd meddwl a llesiant o ansawdd

    – Cael llais cyhoeddus a rhan yn gwneud penderfyniadau

    – Eu dyfodol – yn benodol cyfleoedd cyflogaeth a mynediad i dai

    – Y celfyddydau – pryderon am effaith COVID 19 ar y theatr, cerddoriaeth a ffilm

    Mae’r adroddiad llawn i’w weld yma

    Gwybodaeth lansiad y cyllid ar gael yma

  4. CDPS Cymru

    by Nathan Williams | 8th Rhag 2020

    Roedd ProMo-Cymru yn hapus iawn i gael siarad gyda Chanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru (CDPS) yn ddiweddar i glywed am eu dull Cynllunio Gwasanaeth i gynllunio gwasanaethau cyhoeddus gwell. Hoffem drafod y rhesymau pam bod y dull yma mor bwysig.

    Mae CDPS Cymru yn defnyddio methodoleg Cynllunio Gwasanaeth i feddwl am sut i gynllunio gwasanaethau digidol orau gan roi’r ystyriaeth fwyaf i anghenion y defnyddiwr. Dyma safonau CDPS Cymru:

    1. Canolbwyntio ar les presennol, a lles y dyfodol, pobl Cymru
    2. Hyrwyddo’r iaith Gymraeg
    3. Deall defnyddwyr a’u hanghenion
    4. Ailadrodd a gwella yn aml
    5. Defnyddio data ac ymchwil defnyddwyr i wneud penderfyniadau
    6. Ystyried moeseg, preifatrwydd a diogelwch trwy’r amser
    7. Mae pob gwasanaeth angen perchennog gwasanaeth awdurdodedig
    8. Mae pob gwasanaeth angen tîm amlddisgyblaethol
    9. Defnyddio technoleg graddiadwy
    10. Gweithio yn yr agored

    Manylion pellach am y safonau yma

    Rydym yn gefnogol o’r dull Cynllunio Gwasanaeth hefyd. Gellir ei ddefnyddio i greu gwasanaethau digidol a gwasanaethau sydd ddim yn ddigidol. Rydym yn awyddus i rannu pam ein bod yn teimlo bod y dull yma mor bwysig.

    Bu ProMo-Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ddiweddar. Roedd y bwrdd iechyd yn awyddus i ddarganfod sut i ddarparu gwasanaethau orau i gyfarfod anghenion pobl ifanc. Cawsom siarad gyda phobl ifanc fydda efallai wedi defnyddio’r gwasanaeth, i edrych ar bethau o’u safbwynt hwy a deall y rhwystrau wrth gysylltu gyda gwasanaeth cyffuriau ac alcohol.

    Rhoddwyd senarios i’r bobl ifanc a gofyn iddynt sut byddant yn ymddwyn os byddai’r sefyllfa yna yn digwydd iddyn nhw. Gofynnwyd cwestiynau fel

    “Pa gamau fyddet ti’n eu cymryd petai dy ffrind yn ddiymwybod wedi meddwi mewn parti?”

    “Ym mha sefyllfaoedd wyt ti’n meddwl byddai cyffuriau ac alcohol yn dod yn broblem i ti neu eraill?”

    Ar ôl mynd i fanylder dwfn i ganfyddiadau ac agweddau pobl ifanc am gyffuriau ac alcohol, ar hyn oedd yn dderbyniol iddyn nhw neu beidio, gofynnwyd iddynt sut hoffant gael mynediad i gymorth a pryd fyddant angen hynny.

    Roedd sawl person ifanc yn mynegi’r angen am wasanaethau dienw, llefydd gellir chwilio am gyngor yn hawdd, am ddim ac yn gyfrinachol.
    Ond, pan ofynnwyd yr un cwestiwn i grŵp o bobl ifanc o gymuned ble roedd y defnydd o sylweddau yn broblem sylweddol, roedd y darganfyddiadau yn wahanol iawn. Roedd y bobl ifanc yma wedi’u diarddel o’r ysgol, rhai wedi bod mewn trafferth gyda’r heddlu, a sawl un gyda phrofiad o ddefnydd sylweddau yn cael effaith arnyn nhw a’u teulu.

    Yr ymateb fwyaf cyffredin gan y grŵp oedd na fyddant yn ystyried defnyddio gwasanaeth cyffuriau ac alcohol gan ofni byddant yn gorfod mynd i ofal neu ddod i drafferthion gyda’r heddlu. Roedd y bobl ifanc yn ymwybodol iawn o’r ddyletswydd gofal sydd gan weithwyr proffesiynol i gysylltu â’r awdurdodau os ydynt yn dweud unrhyw beth sydd yn rhoi eu hunain, neu eraill mewn perygl.

    Roedd y broses yma yn amlygu rhwystr go iawn i bobl ifanc gael mynediad i gefnogaeth. Roedd y cwestiwn o sut i gynllunio gwasanaeth orau wedi newid o “sut mae darparu’r gwasanaethau cyffuriau ac alcohol orau er mwyn ymateb i anghenion bobl ifanc?” i “sut ydym ni’n sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo’n ddiogel i chwilio am gefnogaeth pan fyddant ei angen?”

    Mae’r esiampl yma yn arddangos gwerth ymchwil defnyddwyr. Mae sawl gwasanaeth yn cael eu cyfyngu oherwydd y dyluniad cychwynnol sydd wedi’i selio ar ragdybiaeth o’r hyn mae pobl ei angen a beth sydd wedi cael ei ddarparu gynt. Mae Cynllunio Gwasanaeth yn gallu cychwyn newid sut mae gwasanaethau yn gweithio gyda phobl, ac iddynt, wrth osod pobl yng nghanol dyluniad gwasanaethau newydd a phresennol.

    Rydym yn andros o falch bod CDPS bellach yn hyrwyddo Cynllunio Gwasanaeth yn y sector cyhoeddus, a byddem yn cefnogi’r cynnydd ac yn rhannu’r hyn dysgir gyda’r sefydliadau cyhoeddus, ieuenctid a trydydd sector rydym yn gweithio â nhw.

    Am wybodaeth bellach ar CDPS https://gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru/

    I siarad â ni am Gynllunio Gwasanaeth cysylltwch â arielle@promo.cymru

  5. Arolwg Pobl Ifanc Yn Arwain

    by Nathan Williams | 22nd Hyd 2020

    Rydym wedi lansio arolwg yn gofyn beth sydd yn bwysig i bobl ifanc a pa newidiadau maent yn awyddus i weld yng Nghymru. Pwrpas gofyn y cwestiynau yma ydy i ddeall blaenoriaethau pobl ifanc yng Nghymru yn well.

    Mae’r arolwg wedi cael ei greu gan dîm Pobl Ifanc yn Arwain Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Rydym yn derbyn cefnogaeth ProMo-Cymru a’r Ministry of Life.

    Bydd yr atebion yn cael eu defnyddio gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i helpu wrth greu rhaglen ariannu newydd ar gyfer 2021, fydd yn dyfarnu grantiau ar gyfer prosiectau sydd yn cefnogi pobl ifanc yng Nghymru.

    Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi.

    Tîm Pobl Ifanc yn Arwain

    Arolwg Cymraeg

    Arolwg Saesneg

  6. Mae Bywydau Du o Bwys

    by Nathan Williams | 4th Gor 2020

    Mae ProMo-Cymru yn credu bod Bywydau Du o Bwys.

    Mae ProMo wedi gweithio gyda sawl person ifanc du; maent wedi bod yn gymorth i siapio ein sefydliad. Mae pobl ifanc du angen ein cymorth, a chymorth holl elusennau a mentrau cymdeithasol, i chwalu hiliaeth systematig.

    Yr hyn mae ProMo-Cymru yn ei wneud

    Rydym yn cynnal prosiectau cenedlaethol a lleol sydd yn cefnogi pobl ifanc, ac yn gweithio ac yn ymgysylltu â phobl ifanc du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME). Mae ProMo yn cyflawni llawer o waith digidol a chynllunio ac yn sicrhau bod y delweddau defnyddir yn cynrychioli’r amrywiaeth yng Nghymru. Rydym yn cynnwys pobl ifanc wrth greu peth o’r cynnwys digidol yma, yn y dylunio ac yn gofyn eu barn am y cynnwys.

    Rydym yn gweithio gyda phartneriaid sydd yn gwasanaethu cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac yn flaenweithgar yn eu cefnogi gyda datrysiadau digidol i gryfhau eu gwaith. Mae’r sefydliadau yma yn gwneud gwaith hanfodol, ond mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i archwilio’r hyn rydym yn ei wneud i ddiweddu hiliaeth.

    Rydym yn aelodau o Race Alliance Wales.

    Beth fydd ProMo-Cymru yn ei wneud

    Mae ein staff yn dod o gefndiroedd amrywiol, ond byddem yn sicrhau ein bod yn gwneud mwy i gyrraedd a chefnogi pobl du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sydd yn ceisio gweithio o fewn elusennau a sectorau creadigol.

    Byddem yn rhoi amser a gofod i aelodau staff i drafod a dysgu sut i wneud mwy fel unigolyn ac fel sefydliad.

    Me yna fwy gallem ni ei wneud, a byddem yn dogfennu ein siwrne wrth archwilio ein gweithrediadau a sut rydym yn gweithio tuag at chwalu hiliaeth.

  7. Cynyddu Effeithlonrwydd Ynni’r EVi

    by Nathan Williams | 15th Chw 2019

    Mae ProMo-Cymru yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi derbyn cyllid o £32,523 gan Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hwn yn rhaglen gyllido Llywodraeth Cymru sydd yn cael ei redeg gan WCVA.

    Bwriedir gwella effeithlonrwydd ynni’r EVi gan gynyddu’r fioamrywiaeth leol a chynnwys y gymuned gyda gwirfoddoli a rhannu’r hyn dysgwyd.

    Yr EVi

    Mae’r EVi yn lleoliad cymunedol sydd yn garreg filltir i ProMo-Cymru, yn darparu rhaglen o weithgareddau creadigol, dysgu a datblygiadau mentrau cymdeithasol. Mae’n gartref i amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector gan gynnwys Barnardo’s, Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent, Llamau, Leeders Vale, Gyrfa Cymru a Learn About Us. Mae dros 5,000 o bobl yn ymweld â’r EVi bob mis, gydag amrywiaeth eang o ddefnyddiau a defnyddwyr i’r adeilad cymunedol yma. Bydd lleihau’r defnydd o egni mewn adeilad mor fawr yn creu arbedion sylweddol, ac yn helpu gostwng ein hôl troed carbon.

    Llun o'r tu allan i'r EVi i erthygl effeithlonrwydd ynni

    Gwella’r adeilad

    Eleni mae’r EVi yn dathlu 170 mlynedd. Mae dros degawd ers i ProMo-Cymru ddechrau rhedeg yr adeilad. Pan symudwyd i mewn i’r adeilad yn wreiddiol, gwyddom fod angen llawer o waith i wella ffabrig yr adeilad. Cychwynnodd y gwaith gyda’r dyfodol mewn meddwl. Gosodwyd dau bwmp gwres ddaear o’r radd flaenaf i gynhyrchu gwres mwy effeithlon. Diolch i’r gronfa hon, byddem yn gweithredu nifer o nodweddion arbed egni eraill cyn hir. Byddem yn cynnwys y gymuned fel gwirfoddolwyr i helpu cynyddu bioamrywiaeth o amgylch yr adeilad.

    Efallai nad yw effeithlonrwydd ynni ac arbed arian yn swnio’n gyffrous iawn i’r rhai sydd yn defnyddio’r adeilad, ond mae’n bwysig iawn i bopeth sydd yn digwydd yn yr EVi. Mae’r gwaith tu ôl i’r llenni yma yn caniatáu i’r EVi barhau i gefnogi’r gymuned leol. Dros y flwyddyn nesaf byddem yn gofyn i’r gwirfoddolwyr a’r staff yn yr EVi i rannu barn am pam bod yr EVi yn le mor arbennig i weithio a chwarae. Rydym yn gyffrous iawn hefyd i gael y bobl ifanc sydd yn defnyddio’r adeilad i rannu’r hyn maen nhw’n ei wneud. Byddem yn darlledu popeth dros ein sianeli digidol. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn cael gweld y gwaith mae ProMo-Cymru a’r gymuned yn ei wneud i ddatblygu cynaladwyedd yng Nglyn Ebwy.

    Mae hwn yn brosiect wedi’i gefnogi gan y WCVA trwy’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

    Os hoffech wybodaeth bellach am logi’r cyfleusterau’r EVi yna ewch draw i’w gwefan i ddarganfod mwy.

  8. Datblygu Gwaith Ieuenctid Digidol

    by Nathan Williams | 27th Ebr 2018

    Mae ProMo-Cymru yn gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu gwaith ieuenctid digidol a gwybodaeth ieuenctid digidol yn y DU.

    Rydym wedi derbyn cyllid gan Sefydliad Paul Hamlyn i ddatblygu model ymarfer gorau mewn gwaith ieuenctid digidol. Bydd ProMo-Cymru yn archwilio sut i wella gwaith ieuenctid traddodiadol ymhellach yn ddigidol er mwyn cefnogi iechyd, dysgu a dinasyddiaeth weithredol gydol oes. Rydym yn credu y gall Cymru ddod yn arweinydd mewn gwaith ieuenctid digidol wrth weithio gyda sefydliadau eraill a chwalu meddylfryd seilo.

    Ein datblygiadau digidol

    Mae ProMo-Cymru wedi bod ar flaen datblygiadau digidol yn ei waith gyda phobl ifanc. Cychwynnodd hyn gyda datblygiad theSprout, cylchgrawn ar-lein i bobl ifanc Caerdydd sydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 yn 2018. Roedd y datblygiad yma yn arloeswr dull digidol i wybodaeth, ymrwymiad a chyfranogiad ieuenctid. Cyfrannodd y gwaith at ddatblygiad Meic, y gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc yng Nghymru, a PwyntTeulu Cymru, sydd yn darparu gwybodaeth i deuluoedd yng Nghymru.

    Bydd y cyllid gan Sefydliad Paul Hamlyn yn ein helpu i ddatblygu gwaith ieuenctid digidol. Gan ddefnyddio’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu o’n prosiectau, a darganfod ymarferion gorau eraill, byddem yn cyd-gynhyrchu dulliau ymrwymiad digidol gyda phobl ifanc sydd o flaen y gad, ac yna’n ei rannu ar draws sectorau. Byddem hefyd yn parhau ein cysylltiad gyda’r Asiantaeth Gwybodaeth a Chynghori Ieuenctid Ewropeaidd (ERYICA). Bydd hyn yn caniatáu i ni gasglu gwybodaeth bellach gan wledydd eraill a’i fwydo’n ôl i mewn i’r rhwydwaith Ewropeaidd dylanwadol yma.

    Deall y sector

    Mae ProMo-Cymru yn sicrhau bod llais y defnyddiwr a chymunedau yn cael ei osod yng nghraidd ein gwaith. Mae arloesiad a gweithio’n ddigidol yn gallu helpu pobl a sefydliadau i gyd-gynhyrchu gwasanaethau gwell. Rydym yn deall y pwysau sydd ar ddarpariaethau ieuenctid, y trydydd sector a statudol. Rydym yn gwybod sut gall gwasanaethau ddioddef yn wyneb cyllidebau llai. Ond, gyda chydweithrediad ac arloesiad digidol, gallem weithio i chwalu’r rhwystrau cyfranogiad.

    Os hoffech chi ein cefnogi wrth ddatblygu’r model gwaith ieuenctid digidol, neu gydag unrhyw agwedd o sut mae newid digidol yn cael effaith ar eich gwaith, yna cysylltwch ar info@promo.cymru neu alw 02920 462222.


    Os oes gennych chi ddiddordeb ein gwaith yma yn ProMo-Cymru yna edrychwch ar ein herthyglau eraill yn yr adran Newyddion.


    Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

    Model TYC ar gyfer erthygl gwaith ieuenctid digidol

    Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

    029 2046 2222
    info@promo.cymru
    @ProMoCymru

  9. Apiau Negeseuo ac Ymrwymiad Cymunedol

    by Nathan Williams | 3rd Tach 2017

    Dylech chi anghofio am yr e-byst a defnyddio WhatsApp i gysylltu â’ch cleientiaid a’r rhai sy’n defnyddio’ch gwasanaeth? Edrychwn ar sut gall y trydydd sector ddefnyddio apiau negeseuo i ymrwymo gyda chymunedau.

    Mae’r trydydd sector a grwpiau cymunedol yn defnyddio Facebook a Twitter gyda’r gymuned fel mater o drefn, ac mae hyn yn wych. Ond, mae’n bwysig asesu’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn aml i ddarganfod y rhai mwyaf effeithiol i gysylltu gyda’r bobl rydym yn ei wasanaethu. Hefyd, ni ddylid teimlo’n ddrwg am adael llwyfannau sydd bellach yn aneffeithiol. Mae adroddiad newyddion Reuters diweddar wedi amlygu pwysigrwydd apiau negeseuo cymdeithasol. Yn yr erthygl hon, rydym yn trafod pwysigrwydd hyn i ymrwymiad cymunedol.

    Y broblem gyda rhaglenni negeseuo

    Bydd y mwyafrif ohonom yn gyfarwydd gyda apiau negeseuo cymdeithasol. Mae biliynau o bobl ledled y byd yn defnyddio gwasanaethau fel WhatsApp, Facebook Messenger a Snapchat yn rheolaidd. A chofiwch hefyd y rhaglen negeseuo cymdeithasol hynaf oll: y neges testun.

    Manteision y gwasanaethau yma ydy’r ffaith eu bod yn caniatáu pobl i greu rhwydweithiau preifat diogel eu hunain. Gall hyn fod gyda ffrindiau, teulu, cydweithwyr neu gymunedau o ddiddordeb eraill. Mae rhaglenni negeseuo hefyd yn helpu osgoi rhai o’r peryglon preifatrwydd sydd ynghlwm â chyfryngau cymdeithasol traddodiadol.

    Ar un adeg roedd yna bwyslais ar gael app i bopeth. Bellach, mae cyffredinrwydd gwasanaethau negeseuo cymdeithasol wedi ei wneud yn fwy pwysig i gael strategaeth i fodoli dros yr holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Y buddiannau o hyn ydy mwy o ymrwymiad o gymharu ag e-bost a chyfryngau cymdeithasol traddodiadol.

    “Negeseuo ydy un o’r ychydig bethau mae pobl yn ei wneud fwy nag rhwydweithio cymdeithasol.” Mark Zuckerberg, Prif Weithredwr Facebook.

    Mae Doctors Without Borders yn esiampl o sefydliad trydydd sector sydd yn cysylltu gyda phobl yn ei waith wrth ddefnyddio WhatsApp. Mae WhatsApp wedi caniatáu iddynt adrodd straeon yn syth o barthau gwrthdaro yn sydyn a gyda theimlad o ddigyfryngedd na cheir ei thebyg mewn cyfathrebiadau fel e-byst.

    Esiampl flaengar arall ydy un gan Charity: Water. Maent bellach yn derbyn rhoddion trwy bot, darn o feddalwedd awtomataidd, ar Facebook Messenger.

    Dim signal?

    Mae’r trydydd sector a sefydliadau cymunedol wedi bod yn araf iawn yn gyffredinol i addasu i’r gwasanaethau negeseuo newydd yma. Un o’r rhesymau am hyn ydy bod llawer yn cysylltu’r rhaglenni yma gyda ffôn symudol yn hytrach nag chyfrifiadur, a dyma sydd yn cael ei ddefnyddio am y mwyafrif o’n gwaith o ddydd i ddydd. Mae ProMo-Cymru wedi amlygu rhaglen ddefnyddiol yn y gorffennol, sef Franz. Mae’n caniatáu i chi redeg eich rhaglenni negeseuo cymdeithasol trwy’ch cyfrifiadur. Mae hyn yn golygu bod delio gyda sawl llwyfan a theipio yn llawer haws.

    Mae gennych chi’r broblem hefyd o ddod yn gyfarwydd gyda llwyfannau penodol. Efallai ei fod wedi cymryd ychydig o amser, ond yn gyffredinol mae’r trydydd sector yn deall hanfodion defnyddio Facebook a Twitter a bod pawb arall yn defnyddio’r rhain. Ond, mae yna ragdybiaeth bod y llwyfannau yma yn addas ar gyfer eu hanghenion a’u cymunedau.

    Beth sydd yn iawn i’ch cymuned chi?

    Fel dywedwyd ar gychwyn yr erthygl, mae’n bwysig i chi ddeall beth sydd yn gweithio orau i’ch cymuned chi. Os mai e-bost ydy hynny, yna grêt. Os yw’n Snapchat, gwych. Dylech chi ofyn i’ch cymuned sut maen nhw’n hoffi cysylltu. Dylid hefyd cofio bod y llwyfannau yma yn gallu ymddwyn fel ffordd i ddod yn angor cymuned ddigidol, sicrhau perthnasedd parhaol eich sefydliad ym mywydau pob dydd. Y gymuned, nid y llwyfan, yw’r flaenoriaeth.


    Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

    Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

    029 2046 2222
    info@promo.cymru
    @ProMoCymru