Nid Oes Angen App – Datrysiad Digidol i Connect

Nid oes angen app i yrru hysbysiadau gwthio (push notifications)
Mae’r blog hwn yn astudiaeth achos o’n gwasanaeth DigiCymru, sy’n cynnig cymorth 1-i-1, byr, rhad ac am ddim i sefydliadau trydydd sector yng Nghymru. Mae Connect yn un o sawl sefydliad sydd wedi cysylltu â’r gwasanaeth i ofyn am gyngor a chymorth i ddod o hyd i atebion i’w problem.
Beth yw Connect?
Mae Connect yn cael ei gynnal gan Adoption Cymru ac yn cael ei ariannu gan y National Adoption Service. Mae’n wasanaeth cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu.
Maent yn cynnal cyfarfodydd grŵp bob mis gyda’r nod o wella hunanhyder y plant a’r bobl ifanc. Maent yn helpu cynyddu hunan-barch, lleihau teimladau ynysiad, a datblygu sgiliau bywyd.
Cyflawnir hyn wrth gynnig amrywiaeth o weithgareddau, fel celf, drama, sgiliau syrcas, bwyta/coginio iach, cerddoriaeth, ayb.

Pa broblem oedd Connect yn wynebu?
Cyn y sesiwn DigiCymru, dywedodd Connect mai eu her ddigidol oedd:
“Rydym eisiau archwilio os dylem ddatblygu app at ddefnydd pobl ifanc”
Yn y cyfarfod cychwynnol rhwng Andrew Collins, Uwch-reolwr Digidol ProMo Cymru, ac Ann a Fran o Adoption Cymru, eglurwyd pa mor heriol oedd ceisio cysylltu gyda phobl ifanc. Oherwydd natur sensitif y broses mabwysiadu, nid ydynt yn cadw data’r bobl ifanc a dim ond manylion cyswllt syml sydd ganddynt i’r rhieni.
Mae gan Connect wefan prosiect sydd yn hysbysu cyfarfodydd grŵp ble gall pobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu gyfarfod mewn gofod diogel a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl. Ond, mae Ann a Fran yn cael trafferth rhannu’r wybodaeth yma gyda’r bobl ifanc yn uniongyrchol.
Roeddent yn teimlo fel y byddai app newydd, gall y bobl ifanc a’u rhieni lawr lwytho, yn caniatáu iddynt yrru negeseuon gwthio, heb angen unrhyw wybodaeth bersonol.
Roeddent yn poeni y byddai creu hyn yn waith mawr. Byddai’n rhaid iddynt ddiweddaru’r wefan a’r ap, gan greu mwy o waith a chostau yn yr hirdymor.
Darganfod datrysiad digidol
Mae datblygu app yn gallu bod yn broses hir a drud. Edrychom ar adnoddau fydda’n caniatáu i chi yrru negeseuon gwthio fel y gallech gyda app, heb orfod datblygu rhywbeth newydd.
Mae AppyPie yn caniatáu i chi droi eich gwefan presennol i app. Gellir ei lawr lwytho o’r Apple App Store a Google Play Store.
Mae AppyPie hefyd yn:
– Caniatáu i staff yrru negeseuon gwthio i ddefnyddwyr eu gwasanaeth
– Ddatrysiad dim cod gyda rhwystrau mynediad isel
– Tynnu cynnwys o’ch gwefan, fel nad oes angen diweddaru’r wefan a’r app
– Costio dim ond £10 y mis felly’n ddatrysiad fforddiadwy iawn ac yn llawer rhatach nag datblygu app o’r newydd.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sesiwn un i un DigiCyru am ddim ar gyfer eich sefydliad trydydd sector, gwnewch apwyntiad gydag un o’n harbenigwyr digidol yma i ddarganfod datrysiad digidol i chi.

Ariannir yr astudiaeth achos hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol.
I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru
Tania Russell-Owen
10 Ionawr 2024
Astudiaethau Achos DTS
Erthyglau Perthnasol

Cynllunio Gwasanaeth
Cyflwyno Carfan Ddiweddaraf Ein Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol
Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn hyrwyddo Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol 6 mis newydd. Gwahoddwyd sefydliadau trydydd sector Cymru i ymgeisio. Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi’r ymgeiswyr llwyddiannus fydd yn gweithio i wella eu gwasanaeth gan ddefnyddio digidol. Roedd safon y ceisiadau derbyniwyd yn wych, a chynigwyd lle i bum sefydliad […]

Institiwt Glyn Ebwy
Dathlu Dwy Flynedd o Pantri EVI a Caffi Trwsio EVI
Over the past two years, EVI Pantry and Repair Café have become vital community resources, helping people save money, reduce waste, and support each other. Recently, we came together to celebrate their impact with a birthday party. ProMo Cymru are the guardians of Ebbw Vale Institute (EVI), a Grade II listed building that serves as […]

Hyfforddiant DTS
Cefnogi Kidscape i Wella eu Cefnogaeth Bwlio
Bu ProMo Cymru yn cefnogi Kidscape i ddatblygu system gefnogaeth fwy effeithiol i bobl ifanc sy’n profi bwlio, gan symud tu hwnt i weithdai unigol i gymorth parhaus. Beth oedd y broblem? Mae elusen Kidscape yn canolbwyntio ar atal bwlio ac amddiffyn plant. Maent yn darparu adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i blant, teuluoedd a gweithwyr […]