Tudalennau ‘Cael Help’ Newydd i Meic

Mewn tirwedd ddigidol sydd wastad yn newid, mae Meic yn ymdrechu i sicrhau bod gwybodaeth yn hawdd i’w ddarganfod er mwyn cefnogi lles plant a phobl ifanc Cymru.
Prosiect datblygu gwe Meic
Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i rai dan 25 oed yng Nghymru. Mae’n cael ei reoli gan ProMo Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r gwasanaeth wedi gwella’r profiad i’w defnyddwyr wrth gyflwyno tudalennau ‘Cael Help‘ newydd ar wefan www.meic.cymru. Mae’r datblygiad yn rhan o’u hymrwymiad i sicrhau ei bod yn hawdd i bobl ifanc fedru darganfod gwybodaeth a chyngor hanfodol am y materion sydd yn bwysig iddyn nhw.
Datblygu rhyngwyneb cyfeillgar gyda chategorïau wedi’u teilwro
Cyn y datblygiad yma, roedd rhaid i ddefnyddwyr ddefnyddio’r bar chwilio i ddarganfod blogiau perthnasol. Nid oedd hyn yn broses hawdd os nad ydych chi’n gwybod yn union yr hyn rydych yn chwilio amdano. Mae’r tudalennau ‘Cael Help’ newydd wedi’u gosod yn amlwg ar y dudalen gartref er mwyn cael mynediad hawdd.
Ceir categorïau ac is-gategorïau penodol ar y tudalennau ‘Cael Help’. Mae pob pwnc yn ymateb i agweddau penodol bywydau pobl ifanc, fel iechyd meddwl, galar, e-smygu, bwlio, straen arholiadau, problemau ariannol, a gwneud ffrindiau.
Mae’r blogiau wedi’u tagio ar draws sawl categori perthnasol, yn rhoi’r cyfle gorau i’r plant a’r bobl ifanc i ddarganfod y wybodaeth maent yn chwilio amdano.
Wrth gategoreiddio fel hyn, mae tîm Meic wedi gweld ble mae’r bylchau yn y cynnwys. Maent wedi datblygu cynllun cynnwys i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu darganfod y wybodaeth maent yn chwilio amdano.
Cymorth holistig
Mae Meic yn deall pwysigrwydd dull holistig tuag at les ac iechyd meddwl. Mae’r tudalennau ‘Cael Help’ yn cynnwys dolenni i wasanaethau allanol sydd yn arbenigo mewn heriau penodol. Mae’r we o adnoddau rhyng-gysylltiedig yma yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad i’r help sydd ei angen y tu hwnt i lwyfan Meic.
Wrth ddarparu gwybodaeth a chyngor ar y tudalennau ‘Cael Help’, y gobaith yw y bydd plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad i’r cymorth yma yn amser eu hunain pan fyddant ei angen. Mae hyn o fudd i’r bobl ifanc sydd eisiau cymorth anffurfiol ond ddim eisiau sgwrsio gyda rhywun. Mae’r rhai sydd angen cymorth pellach yn cael eu cyfeirio a’u hannog i siarad gyda’r cynghorwyr ar linell gymorth Meic.


Golwg a theimlad newydd
Yn 2023, lansiodd Meic ei gyfrif TikTok. Y bwriad oedd cyrraedd mwy o blant a phobl ifanc yng Nghymru a darparu cymorth yn y gofodau ble maent yn treulio’u hamser yn barod.
Gyda’r datblygiad yma, mae pobl ifanc wedi cyd-gynhyrchu golwg a theimlad newydd i’r llwyfan, sydd wedi cynnwys creu masgotiaid categori. Mae’r cymeriadau digidol yma, sydd wedi’u darlunio â llaw, yn cynrychioli’r categori ac yn helpu i egluro’r cynnwys. Mae esiamplau yn cynnwys mochyn ar gyfer y categori arian a deilen ar gyfer y categori amgylchedd. Mae’r adran ‘Cael Help’ yn defnyddio’r golwg newydd yma i ddangos y cynnwys ac i sicrhau cysondeb rhwng y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r wefan yn gwbl ddwyieithog gan gynnig hyblygrwydd i’r defnyddwyr wrth ddewis eu hiaith.
Canlyniadau
Mae cyflwyniad y tudalennau ‘Cael Help’ yn nodi cam sylweddol yng nghenhadaeth Meic i rymuso pobl ifanc Cymru.
Gyda chynllun sydd yn gyfeillgar i’r defnyddiwr, cynnwys blog cyfoethog, a dolenni i wasanaethau allanol, mae Meic yn sicrhau nad llinell gymorth yn unig yw’r gwasanaeth, ond canolbwynt o gymorth a gwybodaeth.
Wrth i blant a phobl ifanc lywio trwy gymhlethdodau bywyd, mae Meic yma i wrando, helpu, arwain a chefnogi ieuenctid Cymru.

Halyna Soltys
31 Ionawr 2024
Meic
Gwybodaeth
Erthyglau Perthnasol

Institiwt Glyn Ebwy
Dathlu Dwy Flynedd o Pantri EVI a Caffi Trwsio EVI
Over the past two years, EVI Pantry and Repair Café have become vital community resources, helping people save money, reduce waste, and support each other. Recently, we came together to celebrate their impact with a birthday party. ProMo Cymru are the guardians of Ebbw Vale Institute (EVI), a Grade II listed building that serves as […]

Cynllunio Gwasanaeth
Cefnogi Kidscape i Wella eu Cefnogaeth Bwlio
Bu ProMo Cymru yn cefnogi Kidscape i ddatblygu system gefnogaeth fwy effeithiol i bobl ifanc sy’n profi bwlio, gan symud tu hwnt i weithdai unigol i gymorth parhaus. Beth oedd y broblem? Mae elusen Kidscape yn canolbwyntio ar atal bwlio ac amddiffyn plant. Maent yn darparu adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i blant, teuluoedd a gweithwyr […]

Cynllunio Gwasanaeth
Diweddariadau Dros Gyfnod: Cylchlythyrau Meddwl Ymlaen Gwent
Gall llawer ddigwydd dros gyfnod pum mlynedd. Er mwyn rhannu hyn i gyd, rydym wedi penderfynu rhannu’r holl gylchlythyrau sydd wedi’u creu dros oes prosiect Meddwl Ymlaen Gwent. Y daith cyd-gynllunio Mae prosiect Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) wedi’i gyd-gynllunio’n fwriadol gyda phobl ifanc 16-25 oed ledled Gwent. Mae’r dull cydweithredol yma o weithio, wedi’i wreiddio […]