Croeso Adam

Mae ProMo Cymru yn falch iawn i gael croesawu Adam Gray i’r tîm fel Swyddog Datblygu Digidol ac Eiriolwr Gynghorwr Llinell Gymorth.
Mae gan Adam brofiad helaeth yn gweithio yn y trydydd sector ac i sefydliadau digidol. Cyn ymuno â ProMo roedd yn gweithio i Gyngor ar Bopeth, yn arwain ar brosiect digidol gyda’r bwriad o sicrhau cyngor mwy hygyrch i bobl sydd ag iechyd meddwl gwael, gan gyflwyno sianeli cyngor newydd fel WhatsApp a Messenger.
Cyn hynny, roedd Adam yn gweithio i wefan cymharu prisiau arweiniol yn y DU, yn rheoli tîm o weithredwyr sydd yn canolbwyntio’n bennaf ar adnabod rhwystrau ar daith ar-lein eu cwsmeriaid a gweithio gyda thimau Datblygu Cynnyrch i greu datrysiadau cwsmer yn gyntaf.
Mae Adam wedi’i gymhwyso mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl ac mae defnyddio technoleg ddigidol i wneud gwahaniaeth positif i ddefnyddwyr gwasanaeth yn y trydydd sector yn bwysig iddo.

Mae Adam yn gyffrous iawn i ddysgu sut mae gwasanaethau ProMo yn helpu unigolion i gyflawni dyfodol mwy disglair a sut gallem helpu sefydliadau eraill i ddatblygu yn y byd digidol.
Ers ymuno â ProMo, dywedai Adam, “Dwi wir wedi mwynhau fy wythnosau cyntaf. Mae pawb wedi bod yn groesawus ac yn gefnogol iawn, yn gwneud i mi deimlo fel rhan o’r tîm yn syth.”
I ffwrdd o’r gwaith, mae Adam yn hyfforddwr pêl-droed cymwys ac mae’n gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Lerpwl. Mae’n caru teithio ac yn bwriadu ymweld â phob talaith yn yr Unol Daleithiau. Mae eisoes wedi ymweld â 20% o’r 50.
Croeso i’r tîm Adam!
Halyna Soltys
5 Mehefin 2024
Newyddion
Erthyglau Perthnasol

Heb ei gategoreiddio
Croeso Marley
Mae ProMo Cymru yn falch iawn o groesawu Marley Mussington i’r tîm fel ein Intern Busnes. Mae Marley wedi graddio mewn Rheoli Digwyddiadau ar ôl cyfnod o astudio ym Manceinion tan 2024. Yn ystod ei chyfnod ym Manceinion, llwyddodd Marley i gynllunio a chyflawni amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan ddangos sgiliau trefnu a chreadigrwydd cryf. Enillodd […]

Gwybodaeth
Adroddiad: Sut Beth Yw Arfer Da Yn y Maes Gwybodaeth Ieuenctid Digidol
Yn y byd cyflym sydd ohoni, sydd yn llawn camwybodaeth a phegynnu cynyddol, nid oes amser pwysicach wedi bod i gael gwybodaeth ieuenctid digidol o ansawdd. Crynodeb Gweithredol Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd mynediad at wybodaeth gywir a pherthnasol. Gall pobl ifanc archwilio eu diddordebau, deall eu hawliau, a llywio cymhlethdodau’r byd o’u cwmpas gyda gwybodaeth. […]

Newyddion
Crwydro Caerdydd: Cyfnewid Ieuenctid o Ffrainc
Yn ddiweddar, croesawodd ProMo Cymru berson ifanc o Ffrainc ar ymweliad cyfnewid pum niwrnod a ariannwyd gan Taith. Roedd hyn yn dilyn grŵp o bobl ifanc o Gaerdydd fu’n ymweld â Nantes fis Hydref diwethaf Mae Taith yn rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol, ble gall rhywun ymgolli eu hunain yn niwylliant a diwydiannau creadigol gwlad arall, […]