Croeso Glain

Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Glain Hughes i’r tîm fel Ysgrifennwr Cynnwys Cymraeg Iau
Graddiodd Glain o Brifysgol Aberystwyth yn 2023 gyda gradd mewn Hanes ac mae hi yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd.
Cafodd Glain brofiad gwerthfawr o weithio o fewn y trydydd sector yn ei rôl blaenorol gyda elusen GISDA, ac mae ganddi ddiddordeb gweithio o fewn gwasanaethau ieuenctid a chymunedol.

“Mae’r mis cyntaf yn ProMo wedi bod yn brysur ac yn hynod ddiddorol. Roeddwn yn gwybod ychydig am y cwmni cyn cychwyn gweithio yma, ond doeddwn i heb ddeall union raddfa’r gwaith mae’r tîm yn ei gyflawni! Mae wedi bod yn wych cyfarfod y staff a dwi’n edrych ymlaen at weddill fy nghyfnod yma yn fawr”
Yn ei rôl fel Ysgrifennwr Cynnwys Cymraeg Iau yn ProMo bydd Glain yn cynllunio a chreu cynnwys dwyieithog ac yn cyfrannu at waith tîm cyfathrebu ProMo.
Croeso i’r tîm, Glain!
Halyna Soltys
5 Tachwedd 2024
Newyddion
Erthyglau Perthnasol

Cynllunio Gwasanaeth
Hyfforddiant Iechyd Meddwl Am Ddim yng Ngwent
Dewch i ni fod yn onest: gall siarad am iechyd meddwl deimlo braidd yn lletchwith weithiau. Ond nid oes rhaid iddo fod fel hyn! Mae cael sgyrsiau agored a chefnogol yn hynod bwysig ar gyfer ein lles. Dyna pam fod prosiect Meddwl Ymlaen Gwent wedi camu ymlaen i gynnig sesiynau hyfforddiant rhyngweithiol, am ddim, i […]

Cynllunio Gwasanaeth
Arddangos Gwaith Ieuenctid Cymru yn Strasbwrg
Arddangos arfer da o Gymru mewn seminar iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn Strasbwrg Derbyniodd ProMo Cymru wahoddiad gan Bartneriaeth Ieuenctid Cyngor Ewrop i fynychu’r Seminar ar Iechyd Meddwl a Llesiant Ieuenctid yn Strasbwrg, Ffrainc rhwng 18 a 19 Mawrth 2025. Iechyd Meddwl a Gwaith Ieuenctid Yn mynychu’r seminar roedd pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid, […]

Cynllunio Gwasanaeth
Cyflwyno Carfan Ddiweddaraf Ein Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol
Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn hyrwyddo Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol 6 mis newydd. Gwahoddwyd sefydliadau trydydd sector Cymru i ymgeisio. Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi’r ymgeiswyr llwyddiannus fydd yn gweithio i wella eu gwasanaeth gan ddefnyddio digidol. Roedd safon y ceisiadau derbyniwyd yn wych, a chynigwyd lle i bum sefydliad […]