Pwysigrwydd Cynllunio Sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr a Phrofi Syniadau
Mae ProMo Cymru wedi bod yn cefnogi Tempo i wella’u llwyfan digidol Credyd Amser Tempo, fel ei fod yn fwy clir, hygyrch a deniadol i ddefnyddwyr a staff.
Beth oedd y broblem?
Mae Tempo yn elusen gofrestredig sy’n gweithio gyda’r gymuned i annog pobl o bob cefndir i wirfoddoli. Mae eu cynllun gwobrwyo gwirfoddolwyr, sef Credyd Amser Tempo, yn galluogi gwirfoddolwyr i gasglu pwyntiau wrth iddynt weithio oriau gwirfoddol. Credydau Amser yw’r pwyntiau yma, a gellir eu cyfnewid am ddewis o wasanaethau a gweithgareddau, o nofio yn y ganolfan hamdden leol i docyn sinema.
Ym mis Hydref 2019, lansiodd Tempo lwyfan digidol isafswm cynnyrch hyfyw wedi’i gynllunio gan ddefnyddwyr nifer fach o brosiectau. Yn dilyn profion ac adborth pellach gan ddefnyddwyr, lansiwyd hwn i weddill yr elusen ym mis Ionawr 2020. Mae bellach yn gweithredu fel y prif lwyfan ar gyfer eu Model Credyd Amser. Nid yw Tempo bellach yn defnyddio Credydau Amser Papur, ac mae pob grŵp, partner a gwirfoddolwr presennol wedi cofrestru ar y llwyfan digidol.
Dros amser, mae mân atgyweiriadau i ddiffygion bach wedi’u gwneud, ond teimlai Tempo fod angen iddynt weithredu i ddiwallu anghenion esblygol defnyddwyr a’r gymuned. Problem a nodwyd oedd yr angen am wybodaeth fwy clir a hygyrch i wirfoddolwyr a staff ar y llwyfan. Mynegodd gwirfoddolwyr ddryswch wrth geisio darganfod cynigion a sut i ddefnyddio Credydau Amser. Roedd staff hefyd yn wynebu anawsterau wrth geisio egluro’r cynigion i wirfoddolwyr, gan effeithio ar eu gallu i hyrwyddo’r platfform yn hyderus. Roedd angen canolbwyntio ar wella’r rhyngwyneb defnyddiwr a’u taith gyffredinol fel ei fod yn haws i’w ddefnyddio ac yn fwy apelgar.
Yn y rhaglen yma, mae sefydliadau trydydd sector Cymru yn derbyn hyfforddiant, mentora ac arweiniad i gynllunio a datblygu gwasanaeth digidol newydd, neu i ail feddwl gwasanaethau presennol, gan ddefnyddio’r fethodoleg cynllunio gwasanaeth. Mae cyfranogwyr yn dilyn y broses Darganfod, Diffinio, Datblygu a Chyflwyno i ddarganfod datrysiadau sydd yn gwneud gwir wahaniaeth wrth ganolbwyntio ar y defnyddwyr.
Bwriad y cwrs yw darparu cyfranogwyr gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i gynllunio gwasanaethau digidol hygyrch sydd yn canolbwyntio ar y defnyddwyr, gan arwain at ganlyniadau gwell i gymunedau Cymru.
Ymchwilio anghenion defnyddwyr
Datgelodd ymchwil defnyddwyr bod staff a gwirfoddolwyr angen cynrychioliadau gweledol cliriach a mynediad haws at wybodaeth ynglŷn â chynigion. Roedd gwirfoddolwyr yn awyddus i ddeall yn syth sut i ddefnyddio Credydau Amser heb orfod chwilota trwy sawl tudalen. Roedd diffyg cynlluniad greddfol yn creu ansicrwydd, ac roedd hyn yn arwain at atal defnydd. Ar y llaw arall, roedd angen adnodd symlach ar staff i arwain gwirfoddolwyr yn hyderus.
Newidiadau bach ond effeithiol
Canolbwyntiodd Tempo ar gyflwyno’r nodwedd ‘Cofio Lleoliad’, sy’n adnabod ac yn dangos y cynigion agosaf o ran lleoliad i’r defnyddiwr yn awtomatig. Maent hefyd wedi gweithio ar newidiadau sy’n symleiddio’i ddefnydd. Ychwanegwyd eiconau clir i’r prif grid ar y dudalen gweithgareddau, yn dangos sut i archebu gweithgareddau. Rhoddwyd allwedd er gwybodaeth hefyd, i sicrhau y gall defnyddwyr ddeall a chael mynediad i wybodaeth archebu yn sydyn heb orfod darllen trwy baragraffau hir.
Nod y prototeip hwn oedd darparu gwybodaeth glir a hygyrch ar unwaith i wirfoddolwyr, gan wella eu profiad cyffredinol.
Rhannodd aelod staff Tempo:
“Dysgom fod angen cadw’r cam yma yn syml, ac i beidio gor-gynllunio. Wrth wrando ar ddefnyddwyr ein gwasanaeth, deallwyd nad oedd angen newid y llwyfan cyfan. Aethom ati i greu delweddau gweledol i ddangos sut y gallai hyn edrych a holi barn gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn gefnogwyr brwd o’r nodwedd yma.”
Canlyniadau a dysgu
Mae’r diweddariadau wedi gwella hygyrchedd a rhwyddineb defnydd i wirfoddolwyr yn sylweddol, yn eu helpu i archwilio a defnyddio’u Credydau Amser gyda hyder. Wrth symleiddio’r ffordd cyflwynir y wybodaeth a’i droi’n rhywbeth sydd yn fwy deniadol, mae gwirfoddolwyr yn fwy tebygol o ryngweithio â’r llwyfan, gan gynyddu’r defnydd o Gredyd Amser.
Bydd defnydd cynyddol o Gredydau Amser yn chwarae rhan bwysig yn iechyd meddwl a chorfforol gwirfoddolwyr wrth iddynt gael eu gwobrwyo am eu hamser, yn ogystal â bod yn atyniad i bobl gymryd rhan mewn gwirfoddoli.
Yn dilyn y Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol, mae Tempo yn gwreiddio’r hyn a ddysgwyd yn y cwrs i’w strategaeth, gan weithio gyda staff allweddol i gasglu adborth a arweinir gan ddefnyddwyr yn barhaus er mwyn darparu adborth byw yn gyson ar nifer o deithiau defnyddwyr gwahanol o fewn eu llwyfan.
Pan ofynnom i Tempo beth oedd agweddau mwyaf defnyddiol a heriol y cwrs, eu hymateb oedd:
“Roedd y pwyslais ar adborth defnyddwyr a phrototeipio yn bwysig. Mae deall pwysigrwydd cynllunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, a gallu profi syniadau gyda phrototeipiau cyn gweithredu’n llawn, wedi bod yn werthfawr. Amlygodd bwysigrwydd gwrando ar anghenion defnyddwyr ac integreiddio’u hadborth i sicrhau bod y llwyfan yn darparu profiad effeithiol a deniadol. Y rhan fwyaf heriol oedd hidlo trwy’r ystod eang o adborth gan ddefnyddwyr i flaenoriaethu’r anghenion mwyaf hanfodol. Roedd angen ystyried yn ofalus y cydbwysedd rhwng datrysiadau uniongyrchol, megis gwella eglurder gweledol, a datblygiadau technegol hirdymor, fel y nodwedd eicon.”
Diddordeb yng ngrym cynllunio gwasanaeth ar gyfer eich sefydliad?
Yma yn ProMo Cymru rydym yn helpu sefydliadau i gynllunio gwasanaethau gwell gyda’r bobl sydd yn defnyddio methodoleg cynllunio gwasanaeth. Mae ein dull yn cyfuno ein profiad gwaith ieuenctid, trefnu cymunedol, cyd-gynllunio, ac ymgysylltu diwylliannol ac mae ein meddwl creadigrwydd digidol yn sail iddo.
Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn hyrwyddo Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol 6 mis newydd. Gwahoddwyd sefydliadau trydydd sector Cymru i ymgeisio. Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi’r ymgeiswyr llwyddiannus fydd yn gweithio i wella eu gwasanaeth gan ddefnyddio digidol. Roedd safon y ceisiadau derbyniwyd yn wych, a chynigwyd lle i bum sefydliad […]
Over the past two years, EVI Pantry and Repair Café have become vital community resources, helping people save money, reduce waste, and support each other. Recently, we came together to celebrate their impact with a birthday party. ProMo Cymru are the guardians of Ebbw Vale Institute (EVI), a Grade II listed building that serves as […]
Bu ProMo Cymru yn cefnogi Kidscape i ddatblygu system gefnogaeth fwy effeithiol i bobl ifanc sy’n profi bwlio, gan symud tu hwnt i weithdai unigol i gymorth parhaus. Beth oedd y broblem? Mae elusen Kidscape yn canolbwyntio ar atal bwlio ac amddiffyn plant. Maent yn darparu adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i blant, teuluoedd a gweithwyr […]