Defnydd Posib VR i’r Trydydd Sector

Mae yna botensial aruthrol i’r trydydd sector pan ddaw at Realiti Rhithwir (VR), gan gynnig ffyrdd arloesol i adrodd straeon, codi ymwybyddiaeth, ymgysylltu â chefnogwyr, a darparu gwasanaethau effeithiol i’ch defnyddwyr gwasanaeth a’ch buddiolwyr.
Yn yr erthygl yma, byddem yn archwilio posibiliadau cyffrous o ran VR ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru.
Adrodd straeon ymdrochol
Anghofiwch am y delweddau a’r testun statig! Mae VR yn eich galluogi i greu naratif person cyntaf pwerus sydd yn rhoi’r cefnogwyr yn sefyllfa’r bobl rydych chi’n helpu. Dychmygwch brofi:
- Taith beryglus ffoadur dros y môr
- Plentyn ag anabledd yn wynebu heriau bob dydd
- Anifail mewn perygl a brwydro ar ôl colli cynefin
Un enghraifft, a ddatblygwyd gan Alzheimer’s Research UK, yw app A Walk Through Dementia, sy’n rhoi cipolwg o sut beth yw byw gyda Dementia.
Mae profiadau ymdrochol fel hyn yn ennyn emosiynau cryf iawn, gan greu ymdeimlad o empathi y mae’r cyfryngau traddodiadol yn ei chael yn anodd cyflawni’n aml. Nid clywed am eich achos yn unig fydd cefnogwyr; byddant yn ei deimlo hefyd. Mae’r cysylltiad emosiynol yma’n allweddol i ysgogi rhoddion, gwirfoddoli, a chefnogaeth hirdymor i sefydliad a’i nodau.

Teithiau Rhithwir
Mae teithiau Realiti Rhithwir yn caniatáu i gefnogwyr archwilio lleoliadau, beth bynnag yw’r cyfyngiadau corfforol. Dychmygwch gynnig teithiau rhithwir:
Eich lloches anifeiliaid, yn arddangos yr anifeiliaid wedi’u hachub a’r gofal hanfodol darparir
Coedwig anghysbell, yn amlygu pwysigrwydd ymdrechion cadwraeth
Safle hanesyddol rydych chi’n cynnal a chadw, gan ddod â’r gorffennol yn fyw
Enghraifft o hyn yw Metaverse Cymru, wedi’i greu gan Croeso Cymru. Ym mis Mai 2024, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i lansio yn y metaverse, sy’n rhoi blas go iawn i ymwelwyr rhithiol ledled y byd o’r hyn y gallant ei ddarganfod yno go iawn.
Digwyddiadau VR a chodi arian
Mae digwyddiadau VR yn mynd y tu hwnt i gyfyngiadau corfforol, gan ganiatáu i bobl brofi pethau ar yr un pryd o bob rhan o’r byd.
Enghraifft flaengar o ddigwyddiad VR enfawr oedd cyngerdd Sabrina Carpenter ym mis Gorffennaf 2024, a gynhaliwyd gan Meta Horizon Worlds. Gwisgodd cefnogwyr eu pensetiau VR a chael eu cludo i set a ddyluniwyd yn arbennig, ble gallent ganu a dawnsio’n rhithiol ochr yn ochr â’r seren bop o gysur cartref eu hunain.
Mae digwyddiadau VR hefyd yn cynnig posibiliadau diddiwedd ar gyfer codi arian yn greadigol, gan arwain at fwy o ymgysylltiad a chefnogaeth i’ch achos. Gallai digwyddiadau codi arian VR ganiatáu i gefnogwyr gymysgu mewn ystafell rithwir, cymryd rhan mewn arwerthiant tawel, a chlywed tystebau gan fuddiolwyr.

Addysg a hyfforddiant
Gall efelychiadau VR helpu i ddarparu hyfforddiant i wirfoddolwyr a staff. Mae’r opsiynau’n ddiderfyn, o ymarfer sefyllfaoedd ymateb brys, rhyngweithio gwaith cymdeithasol, neu weithdrefnau meddygol mewn amgylchedd diogel a rheoledig. Enghraifft o hyn yw sut mae’r Llynges Frenhinol yn defnyddio technoleg VR i hyfforddi morwyr ar gyfer llongau rhyfel.
Ond nid sefydliadau yn unig sy’n gallu defnyddio VR i ddatblygu sgiliau – mae’r dechnoleg yn caniatáu i chi ddysgu amrywiaeth o bethau o gysur eich cartref eich hun, heb gost offer. Er enghraifft, gallwch ddysgu sut i fod yn DJ neu chwarae piano wrth ddefnyddio technoleg VR.
Cefnogi iechyd meddwl a chorfforol
Gall profiadau VR helpu i roi dewis arall ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl a chorfforol. Gallai’r dechnoleg ddarparu lle ar gyfer ymgynghoriadau rhithwir neu sesiynau cymorth i’r rhai sydd wedi’i hynysu’n ddaearyddol, gan wneud gwasanaethau hanfodol yn fwy hygyrch.
Mae ymchwil yn datblygu’n gyflym, gyda chynlluniau peilot at ddefnydd VR yn digwydd ar draws y byd. Un enghraifft o’r ymchwil yma yw sut mae VR yn helpu pobl sydd â dementia.
Mae llawer o bobl sydd yn byw mewn cartrefi gofal neu ar eu pen eu hunain gartref wedi cael diagnosis o ddementia fel na allant fentro allan eu hunain fel y gallant cynt, gan gael effaith ar ansawdd bywyd a lles. Gall VR ddarparu mynediad i alluogi pobl â dementia i archwilio amgylchedd newydd neu ail-fyw hen atgofion tra mewn lleoliad diogel.
Yn ogystal, mae’r defnydd o VR yn cael ei archwilio i helpu i gefnogi diagnosis cyflyrau ochr yn ochr â phrofion ac ymchwiliadau presennol. Er enghraifft, mae ymchwilwyr Alzheimer yn gobeithio bydd y clefyd yn cael ei ddarganfod yn gynnar wrth ddefnyddio VR.
Wrth i dechnoleg VR ddatblygu, gellid ei ddefnyddio i gefnogi pobl sydd â ffobiâu neu anhwylderau pryder i wynebu eu heriau gan ddefnyddio therapi datguddio. Gellid ymarfer rhyngweithio cymdeithasol mewn amgylchedd rhithwir ar gyfer unigolion ag awtistiaeth. Gellid datblygu rhaglenni adfer ar gyfer therapi corfforol neu alwedigaethol, gan gynnig profiad mwy deniadol a rhyngweithiol i gleientiaid.

Codi ymwybyddiaeth
Gall defnyddio VR ganiatáu i bobl brofi rhai o’r heriau a wynebir gan bobl ag anableddau. Gall hyn feithrin empathi a dealltwriaeth o’ch achos, sydd yn gallu bod yn anodd i’r rhai sydd ddim yn gallu uniaethu.
Mae’r cynnydd o 360 o ffilmiau a phrofiadau VR wedi golygu ei bod yn haws nag erioed arddangos profiadau. Mae enghreifftiau nodedig yn cynnwys Notes of Blindness a The Party: A Virtual Experience of Autism. Er y gallwch wylio’r fideos yma ar ffôn symudol, gliniadur, neu deledu, mae’r profiadau’n teimlo’n llawer mwy real mewn VR.
Gallai VR fod yn arf y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwaith eirioli ac ymgyrchu, i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd neu helpu i egluro pethau i’r rhai sydd mewn grym. Dychmygwch ddefnyddio’r profiadau yma i roi cipolwg o heriau gwirioneddol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a dylanwadwyr sydd â llais mewn polisi. Ar ben y profiad yma, gellid defnyddio VR i gyflwyno data ac ystadegau mewn ffordd gymhellol a bythgofiadwy i ddal sylw’r cyhoedd a llunwyr polisi.
Cyflogaeth
Ystyriwch ymdrechion diweddar IKEA i’r byd rhithwir. Agorwyd siop rithwir yn Roblox, gêm boblogaidd ar draws sawl llwyfan. Mae’r datblygiad yn galluogi defnyddwyr i archwilio opsiynau dodrefn a dylunio cartrefi eu breuddwydion ar yr app. Mae IKEA wedi cyflogi staff i weithio mewn VR i gefnogi cwsmeriaid.
Yn yr un modd, gall elusennau greu profiadau VR sy’n arddangos eu hamgylchedd gwaith ac effaith rolau staff.

Ystyriaethau ymarferol a moesegol
Mae cymwysiadau posibl VR yn y trydydd sector yn enfawr ac yn esblygu’n barhaus. Wrth groesawu technoleg VR, gall elusennau greu profiadau arloesol ac effeithiol sy’n gwneud gwir wahaniaeth. Dychmygwch ddyfodol ble mae VR yn caniatáu i wirfoddolwyr brofi grym trawsnewidiol eu gwaith yn uniongyrchol, lle i staff dderbyn hyfforddiant ymdrochol sy’n eu paratoi ar gyfer heriau’r byd go iawn, a lle i fuddiolwyr gael mynediad at wasanaethau hanfodol mewn ffordd ddiogel a deniadol.
Fodd bynnag, mae’n bwysig bod â phersbectif pwyllog pan ddaw at VR. Mae angen gwerthuso’n ofalus yr ystyriaethau moesegol ynghylch defnyddio VR yn y trydydd sector. Rhaid mynd i’r afael â materion fel preifatrwydd data, y posibilrwydd o lwyrddibyniaeth, a sicrhau mynediad teg i brofiadau VR.
Gall pensetiau a thechnoleg VR fod yn ddrud, felly rhaid darganfod ffyrdd arloesol i wneud VR yn hygyrch ac yn gost-effeithiol, trwy bartneriaethau neu gyllid o bosib.
Mae profiadau mewn VR yn aml yn casglu data defnyddwyr, felly rhaid sicrhau bod mesurau diogelwch data cadarn ar waith, gan gynnwys cael caniatâd gwybodus gan ddefnyddwyr cyn defnyddio VR.
Cyn cloi
Wrth i dechnoleg Realiti Rhithwir ddod yn fwy fforddiadwy, hygyrch a hawdd ei defnyddio, disgwylir gweld hyd yn oed mwy o gymwysiadau arloesol yn dod i’r amlwg. Trwy gofleidio VR yn gyfrifol ac yn greadigol, gall y trydydd sector ddatgloi ffyrdd newydd o weithio i gefnogi eu busnes a’u hachos.
Mae VR yn arf pwerus, ond nid yw’n berffaith. Mae cynllunio gofalus, ystyriaethau moesegol, a chanolbwyntio ar anghenion defnyddwyr yn hanfodol ar gyfer gweithredu VR llwyddiannus yn y trydydd sector.
Eisiau dechrau archwilio VR ar gyfer eich sefydliad trydydd sector? Edrychwch i mewn i ostyngiad Charity Digital ar pensetiau Meta Quest Pro.
Gwybodaeth bellach am Wasanaethau Cymorth Digidol ProMo Cymru yma.
Chwiliwch ein cronfa enfawr o adnoddau digidol yma. Blogiau, canllawiau, a phecynnau cymorth ar newid digidol, gwasanaethau digidol, gweithio’n ddigidol, ariannu digidol a mwy.
Tania Russell-Owen
26 Mawrth 2025
Technoleg
Digidol Trydydd Sector
Erthyglau Perthnasol

Institiwt Glyn Ebwy
Dathlu Dwy Flynedd o Pantri EVI a Caffi Trwsio EVI
Over the past two years, EVI Pantry and Repair Café have become vital community resources, helping people save money, reduce waste, and support each other. Recently, we came together to celebrate their impact with a birthday party. ProMo Cymru are the guardians of Ebbw Vale Institute (EVI), a Grade II listed building that serves as […]

Cynllunio Gwasanaeth
Cefnogi Kidscape i Wella eu Cefnogaeth Bwlio
Bu ProMo Cymru yn cefnogi Kidscape i ddatblygu system gefnogaeth fwy effeithiol i bobl ifanc sy’n profi bwlio, gan symud tu hwnt i weithdai unigol i gymorth parhaus. Beth oedd y broblem? Mae elusen Kidscape yn canolbwyntio ar atal bwlio ac amddiffyn plant. Maent yn darparu adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i blant, teuluoedd a gweithwyr […]

Cynllunio Gwasanaeth
Diweddariadau Dros Gyfnod: Cylchlythyrau Meddwl Ymlaen Gwent
Gall llawer ddigwydd dros gyfnod pum mlynedd. Er mwyn rhannu hyn i gyd, rydym wedi penderfynu rhannu’r holl gylchlythyrau sydd wedi’u creu dros oes prosiect Meddwl Ymlaen Gwent. Y daith cyd-gynllunio Mae prosiect Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) wedi’i gyd-gynllunio’n fwriadol gyda phobl ifanc 16-25 oed ledled Gwent. Mae’r dull cydweithredol yma o weithio, wedi’i wreiddio […]