Diweddariadau Dros Gyfnod: Cylchlythyrau Meddwl Ymlaen Gwent

Gall llawer ddigwydd dros gyfnod pum mlynedd. Er mwyn rhannu hyn i gyd, rydym wedi penderfynu rhannu’r holl gylchlythyrau sydd wedi’u creu dros oes prosiect Meddwl Ymlaen Gwent.

Y daith cyd-gynllunio

Mae prosiect Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) wedi’i gyd-gynllunio’n fwriadol gyda phobl ifanc 16-25 oed ledled Gwent. Mae’r dull cydweithredol yma o weithio, wedi’i wreiddio mewn meddylfryd cynllunio gwasanaeth, yn golygu bod cyfeiriad a ffocws y prosiect wedi esblygu’n naturiol dros gyfnod.

Mae cyfeiriad y prosiect wedi’i lunio gan y mewnwelediadau o’r Adroddiad Darganfod ac anghenion y bobl ifanc dan sylw.

Mae’r cylchlythyrau yma yn cynnig cipolwg unigryw i’r broses ddeinamig yma. Gellir olrhain datblygiad syniadau, blaenoriaethau newydd yn codi, ac effaith diriaethol yr ethos cyd-gynllunio yma wrth bori trwy’r cylchlythyrau.

Maent yn gweithredu fel capsiwl amser gwerthfawr, gan ddangos sut mae’r prosiect wedi addasu a thyfu gan ymateb i’r union leisiau y mae’n bwriadu grymuso.

Cylchlythyrau dros gyfnod

Cliciwch ar yr eiconau isod i bori’n ôl drwy ein cylchlythyrau.

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru gyda chylchlythyrau fel y byddant yn cael eu cyhoeddi hyd ddiwedd y prosiect.

Os hoffech dderbyn y cylchlythyrau yn uniongyrchol, cofrestrwch ar gyfer rhestr bostio Meddwl Ymlaen Gwent.

Tania Russell-Owen
9 Ebrill 2025

star

Cynllunio Gwasanaeth

divider

Erthyglau Perthnasol

star

Institiwt Glyn Ebwy

Dathlu Dwy Flynedd o Pantri EVI a Caffi Trwsio EVI

Over the past two years, EVI Pantry and Repair Café have become vital community resources, helping people save money, reduce waste, and support each other. Recently, we came together to celebrate their impact with a birthday party. ProMo Cymru are the guardians of Ebbw Vale Institute (EVI), a Grade II listed building that serves as […]

Llun o ddau aelod o staff Kidscape o flaen sgrin sy'n dweud 'roedden ni'n gwybod ein bod ni eisiau helpu pobl ifanc, doedden ni ddim yn gwybod sut i wneud eto'
star

Cynllunio Gwasanaeth

Cefnogi Kidscape i Wella eu Cefnogaeth Bwlio

Bu ProMo Cymru yn cefnogi Kidscape i ddatblygu system gefnogaeth fwy effeithiol i bobl ifanc sy’n profi bwlio, gan symud tu hwnt i weithdai unigol i gymorth parhaus. Beth oedd y broblem? Mae elusen Kidscape yn canolbwyntio ar atal bwlio ac amddiffyn plant. Maent yn darparu adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i blant, teuluoedd a gweithwyr […]

Dwy aelod o staff Grŵp Cynefin yn gwneud cyflwyniad
star

Hyfforddiant DTS

Gwella Ymgysylltiad Grŵp Cynefin gyda Thenantiaid

Bu ProMo Cymru yn cefnogi Grŵp Cynefin i ailwampio eu ap i denantiaid, ApCynefin, i gwrdd ag anghenion eu defnyddwyr a gwella ymgysylltiad gyda thenantiaid. Beth oedd y broblem? Mae Grŵp Cynefin yn darparu ystod eang o wasanaethau tai a chymunedol ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Powys. Maent yn cynnig amrywiaeth o opsiynau tai, […]