Cyflwyno Carfan Ddiweddaraf Ein Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn hyrwyddo Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol 6 mis newydd. Gwahoddwyd sefydliadau trydydd sector Cymru i ymgeisio. Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi’r ymgeiswyr llwyddiannus fydd yn gweithio i wella eu gwasanaeth gan ddefnyddio digidol.


Roedd safon y ceisiadau derbyniwyd yn wych, a chynigwyd lle i bum sefydliad anhygoel. Mae’r sefydliadau yma eisoes wedi mynychu’r gweminar cychwynnol, y cam cyntaf ar y siwrne newid ddigidol yma.

Dyma’r sefydliadau rydym yn gyffrous i weithio â nhw:

Canolfan Adferiad Alcohol a Chyffuriau Brynawel

Mae Canolfan Adferiad Alcohol a Chyffuriau Brynawel yn ganolfan adferiad preswyl 24 gwely yn Llanharan, De Cymru. Gyda 47 mlynedd o hanes yn darparu adferiad i oedolion gydag anhwylder defnyddio sylweddau, mae’r elusen yn ganolfan preswyl arweiniol yn trin dibyniaeth alcohol a chyffuriau yng Nghymru.

Maent yn awyddus i ehangu eu gwasanaeth ar-lein ar y cyfan, yn enwedig o gwmpas y Gymuned Gofal Pellach, a’r Gwasanaeth Cymorth Teulu.

“Ein her yw darganfod ffordd i gyflwyno rhan o’r gwasanaeth yma ar-lein fel y gall pobl fuddio ohono yn genedlaethol nid yn unig y rhai sydd yn lleol ac sydd â’r gallu daearyddol i fynychu,” meddai Gordon Young, Gweithiwr Adferiad, Canolfan Adferiad Alcohol a Chyffuriau Brynawel.

Elusen Canser Felindre

Elusen Canser Felindre yw elusen swyddogol Canolfan Canser Felindre, sydd yn darparu gwasanaethau canser arbenigol i dros 1.5 miliwn o bobl yn ardal Dde Ddwyrain Cymru a thu hwnt.

Mae Felindre yn awyddus i archwilio sut i symleiddio prosesau cymhleth wrth reoli eu gwasanaethau Grantiau a Chymynroddion, yn ogystal â sut gall cynllunio gwasanaeth ehangu datblygiad Rhaglen Rhoddwyr Mawr newydd.

“Y gobaith yw bod y cwrs yma yn ein helpu i symleiddio ein prosesau presennol a dysgu am offer gall helpu i sefydlu system dryloyw, effeithlon, sydd yn hawdd i’w ddefnyddio ac sy’n mwyhau profiad rhoddwyr, yn gwella prosesau mewnol, ac yn cynyddu nifer a gwerth y cymynroddion derbynnir,” meddai Emma Prince, Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu Rhanbarthol, Elusen Canser Felindre.

Mind Conwy

Mae Mind Conwy yn elusen iechyd meddwl annibynnol yng Nghonwy sydd yn rhan o Rwydwaith Mind. Maent yn gweithio yn y gymuned i herio’r stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl, ac i hyrwyddo’r broses o ddarparu gwasanaethau cynhwysol.

Mae Mind Conwy yn archwilio sut gall Cynllunio Gwasanaeth eu helpu gyda datblygu system ddigidol sy’n hawdd ei ddefnyddio, gyda’r nod o drawsffurfio’r ffordd mae pobl yn cael mynediad at gymorth iechyd meddwl.

“Wrth integreiddio brysbennu digidol i’r wefan, bydd mynediad at gymorth iechyd meddwl yn gyflymach, yn gliriach, ac yn fwy effeithiol. Yn hytrach nag gwastraffu oriau staff ar dasgau gweinyddol, bydd ein timau yn gallu canolbwyntio ar ddarparu ymyriadau iechyd meddwl effeithiol,” meddai Paul Williams, Arweinydd Tîm, Mind Conwy.

Blue Cross

Mae Blue Cross yn elusen lles anifeiliaid sy’n darparu cartrefi, gofal milfeddygol, cymorth ymddygiad arbenigol, a chyngor am anifeiliaid anwes mewn angen.

Maent yn archwilio datrysiad digidol i wella mynediad i’r Blue Cross i’r rhai sy’n ildio, i wneud cysylltiad, ailgartrefu, a pharu pobl ag anifeiliaid anwes addas.

“[Gwneud hyn] i aros yn berthnasol ac i barhau i gael ei chydnabod fel un o’r elusennau lles anifeiliaid anwes mwyaf blaenllaw. Rydym hefyd angen ehangu’r ffordd darparir ein gwasanaeth i ymgorffori gallu digidol,” meddai Jane Clements, Pennaeth Strategaeth, Ailgartrefu a Maethu, Blue Cross. 

Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi bod yn darparu cymorth arbenigol i ffoaduriaid yng Nghymru ers dros 35 o flynyddoedd.

Maent yn awyddus i drawsnewid eu gwefan i fod yn llwyfan deinamig, hygyrch a hawdd ei ddefnyddio, i sicrhau bod unigolion yn gallu cael mynediad hawdd a sydyn i’r cymorth sydd ei angen arnynt.

“Gyda’r rhaglen yma, rydym eisiau ailfeddwl ac ailgynllunio ein presenoldeb ar-lein yn gyfan gwbl,” meddai Athina Summerbell, Pennaeth Cyfathrebu, Ymgysylltu, a Pholisi, Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

Darganfod

Mae’r pum sefydliad yma yng ngham Darganfod eu taith cynllunio gwasanaeth. Byddant yn cynnal darn o ymchwil Darganfod ac yn archwilio eu heriau digidol yn fanylach. Bydd angen iddynt ymgysylltu â defnyddwyr eu gwasanaeth, casglu mewnwelediadau, a dod i ddeall eu hanghenion yn fanwl. Edrychwn ymlaen at weld datblygiad eu datrysiadau digidol. Rydym yn gyffrous i weithio gyda nhw a’u cefnogi ar y daith.

Pob lwc!


Ariannir y rhaglen hon trwy’r Rhaglen Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, gyda chyllid Cronfa Gymunedol Y Loteri Genedlaethol. Os ydych chi’n sefydliad trydydd sector yn chwilio am gymorth gyda digidol, gellir darganfod mwy am y gwasanaethau darparir gennym yma.

Tania Russell-Owen
30 Ebrill 2025

star

Cynllunio Gwasanaeth

star

Digidol Trydydd Sector

divider

Erthyglau Perthnasol

star

Institiwt Glyn Ebwy

Dathlu Dwy Flynedd o Pantri EVI a Caffi Trwsio EVI

Over the past two years, EVI Pantry and Repair Café have become vital community resources, helping people save money, reduce waste, and support each other. Recently, we came together to celebrate their impact with a birthday party. ProMo Cymru are the guardians of Ebbw Vale Institute (EVI), a Grade II listed building that serves as […]

Llun o ddau aelod o staff Kidscape o flaen sgrin sy'n dweud 'roedden ni'n gwybod ein bod ni eisiau helpu pobl ifanc, doedden ni ddim yn gwybod sut i wneud eto'
star

Cynllunio Gwasanaeth

Cefnogi Kidscape i Wella eu Cefnogaeth Bwlio

Bu ProMo Cymru yn cefnogi Kidscape i ddatblygu system gefnogaeth fwy effeithiol i bobl ifanc sy’n profi bwlio, gan symud tu hwnt i weithdai unigol i gymorth parhaus. Beth oedd y broblem? Mae elusen Kidscape yn canolbwyntio ar atal bwlio ac amddiffyn plant. Maent yn darparu adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i blant, teuluoedd a gweithwyr […]

star

Cynllunio Gwasanaeth

Diweddariadau Dros Gyfnod: Cylchlythyrau Meddwl Ymlaen Gwent

Gall llawer ddigwydd dros gyfnod pum mlynedd. Er mwyn rhannu hyn i gyd, rydym wedi penderfynu rhannu’r holl gylchlythyrau sydd wedi’u creu dros oes prosiect Meddwl Ymlaen Gwent. Y daith cyd-gynllunio Mae prosiect Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) wedi’i gyd-gynllunio’n fwriadol gyda phobl ifanc 16-25 oed ledled Gwent. Mae’r dull cydweithredol yma o weithio, wedi’i wreiddio […]