Arddangos Gwaith Ieuenctid Cymru yn Strasbwrg

Woman in blue jacket stood in front of a presentation on a screen stood smiling in the middle of conference delegates sat watching.

Arddangos arfer da o Gymru mewn seminar iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn Strasbwrg


Derbyniodd ProMo Cymru wahoddiad gan Bartneriaeth Ieuenctid Cyngor Ewrop i fynychu’r Seminar ar Iechyd Meddwl a Llesiant Ieuenctid yn Strasbwrg, Ffrainc rhwng 18 a 19 Mawrth 2025.

Iechyd Meddwl a Gwaith Ieuenctid

Yn mynychu’r seminar roedd pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid, ymchwilwyr, a llunwyr polisi o ledled Ewrop, yn dod at ei gilydd i ddarganfod datrysiadau i’r heriau iechyd meddwl cynyddol y mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Dros ddau ddiwrnod, roedd y gynhadledd yn gyfle i drafod, mynychu gweithdai a gwrando ar baneli arbenigol gyda’r nod o flaenoriaethu iechyd meddwl a lles mewn polisi ac arfer ieuenctid.

Yn agor y seminar, pwysleisiodd Tobias Flessenkemper, Pennaeth Adran Ieuenctid Cyngor Ewrop, rôl hanfodol gwaith ieuenctid wrth feithrin gwydnwch meddwl, “Gall gwaith ieuenctid helpu pobl ifanc i fabwysiadu patrymau iach, dod yn rhan o ymgysylltiadau cymdeithasol, diwylliannol a dinesig, datblygu sgiliau ymdopi, datrys problemau a sgiliau rhyngbersonol, a dysgu sut i reoli emosiynau.”

Fel yr unig berson yn cynrychioli Cymru, hwylusodd Cindy Chen, ein Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, sesiwn gyfochrog 45 munud yn y seminar i arddangos arbenigedd ProMo o ran ymgysylltu’n effeithiol â phobl ifanc a rhoi llais iddynt fedru cyflawni newidiadau personol, systemau a diwylliant.

Cyflwyno Meddwl Ymlaen Gwent

Rhannodd Cindy astudiaeth achos Meddwl Ymlaen Gwent (MYG), prosiect pum mlynedd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, i egluro sut rydym yn cyd-gynllunio gwasanaethau gyda phobl ifanc.  Nod MYG yw cynllunio datrysiadau arloesol i atal heriau iechyd meddwl rhag codi neu waethygu ar draws Gwent, Cymru, gan ddilyn dull Cynllunio Gwasanaeth. Mae’r broses yma yn ein harwain i greu atebion sy’n mynd i’r afael a gwir anghenion y defnyddwyr a’r pethau sylfaenol sydd yn achosi problemau

Siaradodd Cindy, sy’n rheoli’r prosiect Meddwl Ymlaen Gwent, â chydweithwyr Ewropeaidd am ddull cyd-gynhyrchu ProMo Cymru i sicrhau, nid yn unig bod pobl ifanc yn cael mynediad i wasanaethau iechyd meddwl, ond hefyd yn benseiri gweithredol systemau cymorth eu hunain. Esboniodd fod cyd-gynhyrchu ystyrlon wrth galon MYG, “Rydym yn cyflogi 11 o bobl ifanc fel Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed ac yn eu cefnogi i ddefnyddio’r 5 piler gwaith ieuenctid, i lunio datrysiadau a fydd yn cael effaith barhaol.”

Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, dyma flaenoriaethau pwysig Meddwl Ymlaen Gwent:

  • Tyfu ein sianel cyfryngau cymdeithasol a chreu ymgyrchoedd fel y gallwn frwydro yn erbyn stigmateiddio, hyrwyddo gwasanaethau cymorth yng Ngwent a darparu gwybodaeth ddefnyddiol i bobl ifanc sy’n chwilio am gymorth
  • Cyfarparu ein tîm o Gynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed gyda’r sgiliau a’r hyder i gyflwyno dau gynnig addysg iechyd meddwl am ddim i weithwyr proffesiynol a phobl ifanc ledled Gwent
  • Meithrin perthnasoedd allweddol gyda gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid i ddylanwadu ar newid, llywio penderfyniadau ac ymateb i ddatblygiadau strategol (e.e. Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles Llywodraeth Cymru 2025 – 2035)

Daeth y sesiwn i ben gyda Cindy yn annog cydweithwyr i ystyried sut y gallent wreiddio’r dull cyd-gynhyrchu yn well yn eu gwaith wrth ddarparu cymorth i bobl ifanc.

Mae ProMo Cymru yn frwd dros wneud gwahaniaeth i fywydau beunyddiol plant a phobl ifanc nawr, a chenedlaethau’r dyfodol.

Cysylltwch i wybod sut y gallem ni eich helpu i wneud hyn: cindy@promo.cymru

Tania Russell-Owen
21 Mai 2025

star

ProMo Cymru

star

Cynllunio Gwasanaeth

star

Cydgynllunio

divider

Erthyglau Perthnasol

star

Cynllunio Gwasanaeth

Cyflwyno Carfan Ddiweddaraf Ein Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn hyrwyddo Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol 6 mis newydd. Gwahoddwyd sefydliadau trydydd sector Cymru i ymgeisio. Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi’r ymgeiswyr llwyddiannus fydd yn gweithio i wella eu gwasanaeth gan ddefnyddio digidol. Roedd safon y ceisiadau derbyniwyd yn wych, a chynigwyd lle i bum sefydliad […]

star

Institiwt Glyn Ebwy

Dathlu Dwy Flynedd o Pantri EVI a Caffi Trwsio EVI

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Pantri EVI a’r Caffi Trwsio wedi dod yn adnoddau hanfodol i’r gymuned, yn helpu pobl i arbed arian, lleihau gwastraff, a chefnogi’i gilydd. Yn ddiweddar, daethom at ein gilydd i ddathlu’r gwaith yma gyda pharti pen-blwydd. ProMo Cymru yw gwarcheidwaid Institiwt Glyn Ebwy (EVI), adeilad Gradd II sydd yn […]

Llun o ddau aelod o staff Kidscape o flaen sgrin sy'n dweud 'roedden ni'n gwybod ein bod ni eisiau helpu pobl ifanc, doedden ni ddim yn gwybod sut i wneud eto'
star

Cynllunio Gwasanaeth

Cefnogi Kidscape i Wella eu Cefnogaeth Bwlio

Bu ProMo Cymru yn cefnogi Kidscape i ddatblygu system gefnogaeth fwy effeithiol i bobl ifanc sy’n profi bwlio, gan symud tu hwnt i weithdai unigol i gymorth parhaus. Beth oedd y broblem? Mae elusen Kidscape yn canolbwyntio ar atal bwlio ac amddiffyn plant. Maent yn darparu adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i blant, teuluoedd a gweithwyr […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889