{"id":21357,"date":"2025-03-19T12:35:20","date_gmt":"2025-03-19T12:35:20","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/?p=21357"},"modified":"2025-03-28T14:06:39","modified_gmt":"2025-03-28T14:06:39","slug":"adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/","title":{"rendered":"Adroddiad: Sut Beth Yw Arfer Da Yn y Maes Gwybodaeth Ieuenctid Digidol"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Yn y byd cyflym sydd ohoni, sydd yn llawn camwybodaeth a phegynnu cynyddol, nid oes amser pwysicach wedi bod i gael gwybodaeth ieuenctid digidol o ansawdd.<\/h2>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Crynodeb Gweithredol<\/h3>\n\n\n\n<p>Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd mynediad at wybodaeth gywir a pherthnasol. Gall pobl ifanc archwilio eu diddordebau, deall eu hawliau, a llywio cymhlethdodau\u2019r byd o\u2019u cwmpas gyda gwybodaeth. Gall gweithwyr ieuenctid gefnogi pobl ifanc yn well pan fydd ganddynt fynediad rhwydd at wybodaeth dda.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adroddiad yma yn archwilio cyflwr presennol gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru. Edrychai ar sut gellir gwella hyn i helpu pobl ifanc i lywio\u2019r byd digidol yn hyderus a gwneud penderfyniadau gwybodus.<\/p>\n\n\n\n<p>Un o\u2019r heriau sy&#8217;n wynebu gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru yw ei bod yn anodd i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ddarganfod a llywio&#8217;r wybodaeth sydd ei angen i wneud penderfyniadau gwybodus. I fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn, mae ProMo Cymru yn argymell cryfhau cydweithrediadau yn Ewrop. Argymhellir i sefydliadau ieuenctid weithio tuag at ennill y Marc Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer Gwybodaeth Ieuenctid. Dylent weithredu dull cynllunio gwasanaeth i roi hwb cychwynnol i&#8217;r gwelliannau, adeiladu ar asedau presennol Cymru, buddsoddi mewn hyfforddiant, a meithrin cydweithio gwell ar draws y sector.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"640\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Screenshot-2024-07-30-at-10.42.27-1024x640.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-21324\" style=\"width:1110px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Screenshot-2024-07-30-at-10.42.27-1024x640.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Screenshot-2024-07-30-at-10.42.27-300x188.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Screenshot-2024-07-30-at-10.42.27-768x480.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Screenshot-2024-07-30-at-10.42.27-1536x960.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Screenshot-2024-07-30-at-10.42.27-2048x1280.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cyflwyniad<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r hawl i wybodaeth yn hawl dynol sylfaenol, a gydnabyddir mewn fframweithiau rhyngwladol allweddol gan gynnwys Datganiad Cyffredinol Hawliau Dynol, y Confensiwn Ewropeaidd ar Ddiogelu Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol, a <a href=\"https:\/\/www.unicef.org.uk\/what-we-do\/un-convention-child-rights\/\">Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau\u2019r Plentyn<\/a> (CCUHP).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r CCUHP yn cynnig darpariaethau penodol gan sicrhau mynediad a chyfranogiad plant i wybodaeth:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Erthygl 12 (Parchu Safbwynt Plant): Mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei farn ar faterion sydd yn effeithio arnynt, a bod y farn yma&#8217;n cael ei hystyried o ddifrif.<\/li>\n\n\n\n<li>Erthygl 13 (Rhyddid Mynegiant): Mae gan bob plentyn yr hawl i chwilio, derbyn a lledaenu gwybodaeth a syniadau o bob math, boed ar lafar, yn ysgrifenedig neu mewn print, ar ffurf celf, neu unrhyw gyfrwng arall o\u2019u dewis.<\/li>\n\n\n\n<li>Erthygl 17 (Mynediad at Wybodaeth): Mae gan bob plentyn yr hawl i gael mynediad at wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y cyfryngau, sydd yn hyrwyddo eu lles cymdeithasol, ysbrydol a moesol yn ogystal \u00e2\u2019u hiechyd corfforol a meddyliol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ers dros 20 mlynedd mae Cymru wedi bod yn dylanwadu ar ddatblygiad gwybodaeth ieuenctid ledled Ewrop. Mae Cymru wedi cydweithio ac wedi bod yn aelod gweithgar o <a href=\"https:\/\/www.eryica.org\/who-we-are\">ERYICA<\/a> (Asiantaeth Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid Ewropeaidd). Mae ERYICA yn sefydliad annibynnol Ewropeaidd sydd yn gweithio gyda 42 o gyrff cydlynu gwybodaeth ieuenctid cenedlaethol a rhanbarthol o 26 o wledydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Yng Nghymru, pwysleisir pwysigrwydd gwybodaeth ieuenctid ymhellach yn adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/publications\/2021-09\/sicrhau-model-cyflawni-cynaliadwy-ar-gyfer-gwasanaethau-gwaith-ieuenctid-yng-nghymru-adroddiad-terfynol.pdf\">&#8220;Mae&#8217;n Bryd Cyflawni dros Bobl Ifanc yng Nghymru&#8221;<\/a>. Mae Argymhelliad 9 yn nodi\u2019n benodol &#8220;dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda&#8217;r sector i gomisiynu gwasanaeth cyfnewid gwybodaeth i Gymru, fel rhan o gynnig digidol i bobl ifanc sy&#8217;n ymwneud \u00e2 gwaith ieuenctid.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio dull cynllunio gwasanaeth i lunio datblygiad gwaith ieuenctid a gwybodaeth ieuenctid. &#8220;Yn unol ag egwyddorion cynllunio gwasanaethau, byddai pobl ifanc yn arwain y broses o benderfynu ar fformat, cynnwys a chwmpas y gwasanaeth cyfnewid gwybodaeth, er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol i&#8217;w hanghenion.&#8221; (tudalen 23)<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r argymhelliad yma yn cynnig cyfle pwysig yng Nghymru i ddysgu o arferion da, adlewyrchu ar yr hyn sydd yn llwyddiannus, adeiladu ar asedau presennol, a chydweithio gyda phobl ifanc i gynllunio a darparu gwasanaeth cydgysylltiedig ac effeithiol.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC05769-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-21328\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC05769-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC05769-300x200.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC05769-768x512.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC05769-1536x1025.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC05769-2048x1366.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Dathlu ein pen-blwydd yn 40 oed yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd fis Hydref 2024 gyda\u2019r bobl ifanc rydym yn gweithio \u00e2 nhw a Sarah Murphy AS: Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant<\/em><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Arbenigedd a Phrofiad ProMo Cymru mewn Gwybodaeth Ieuenctid<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae ProMo Cymru yn elusen gofrestredig a menter gymdeithasol a sefydlwyd yn 1982. Ei nod yw cyfathrebu, cynllunio ac adeiladu gyda phobl ifanc a chymunedau er mwyn gyrru newid positif. Rydym yn ail-fuddsoddi ein helw i greu gwasanaethau mwy teg, wedi\u2019u cynllunio a\u2019u cyflwyno mewn partneriaeth \u00e2\u2019r bobl rydym yn eu gwasanaethu.<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi\u2019i seilio ar egwyddorion ieuenctid, cymuned, a chydweithrediad, mae ProMo Cymru yn meddu ar ddegawdau o brofiad yn darparu gwybodaeth ieuenctid digidol a gwasanaethau cymunedol. Rydym wedi datblygu cysylltiadau agos \u00e2 ERYICA. Mae\u2019r profiad eang yma wedi ein gosod fel arweinwyr mewn datblygu gwasanaethau sydd yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr, gan ddefnyddio meddylfryd a thechnolegau digidol ledled Cymru ac Ewrop.<\/p>\n\n\n\n<p>Defnyddiwn ddull cynllunio gwasanaeth i sicrhau bod ein gwasanaethau a\u2019n prosiectau yn effeithiol, yn hygyrch, ac yn bodloni anghenion pobl ifanc, cymunedau, a sefydliadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Yng Nghymru, rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i gychwyn, darparu neu wella gwybodaeth i wasanaethau fel y <a href=\"https:\/\/www.gig.cymru\/\">GIG<\/a>, <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/iechyd-cyhoeddus-cymru-cynllunio-gwasanaeth-iechyd-rhywiol\/\">Iechyd Cyhoeddus Cymru<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.ofcom.org.uk\/cy\/\">Ofcom<\/a> ac aelodau\u2019r sector gwirfoddol fel <a href=\"https:\/\/www.eyst.org.uk\/\">EYST<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC07868-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-21335\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC07868-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC07868-300x200.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC07868-768x512.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC07868-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC07868-2048x1365.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Cynnal ymweliad gan Dawn Bowden AS yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd ym mis Rhagfyr 2024<\/em><\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC07992-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-21337\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC07992-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC07992-300x200.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC07992-768x512.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC07992-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC07992-2048x1365.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Staff ProMo gyda Dawn Bowden AS &#8211; Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol<br><\/em><\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Rydym yn cynnal <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/meic\/\">Meic<\/a>, y llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol i blant a phobl ifanc Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi cymryd rhan fawr yn drawsnewidiad digidol Gwasanaethau Gwybodaeth Ieuenctid yng Nghymru a thu hwnt, gyda phrosiectau fel <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/thesprout\/\">TheSprout<\/a> a CLIC sydd wedi dylanwadu ar wasanaethau gwybodaeth ieuenctid ledled Ewrop.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ProMo Cymru yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau polisi sydd yn ymwneud \u00e2 gwaith ieuenctid a gwybodaeth, gan gynnwys ein cyfranogiad ym <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/bwrdd-gweithredu-strategaeth-gwaith-ieuenctid?_gl=1*foqao2*_ga*MTU4OTY3Mjc4OS4xNzQxNzA5MzY1*_ga_L1471V4N02*MTc0MjM4NjQ3Mi41LjEuMTc0MjM4Njc0My4wLjAuMA..\">Mwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 hyn, mae ProMo yn cymryd rhan weithredol mewn sawl Gr\u0175p Strategol Cenedlaethol eraill, gan gynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gr\u0175p Cynrychiolwyr Strategol ar y Cyd Gwaith Ieuenctid<\/li>\n\n\n\n<li>Pwyllgor Gwaith a Bwrdd CWVYS<\/li>\n\n\n\n<li>Partneriaeth Diogelwch Rhyngrwyd Cymru<\/li>\n\n\n\n<li>Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Amlygir ein cyrhaeddiad rhyngwladol gan ein cydweithrediad 15+ mlynedd ag ERYICA. Mae&#8217;r bartneriaeth hon wedi arwain at gefnogi datblygiad y rhaglen <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/eryica-desyign\/\">DesYIgn<\/a>, sydd yn hyfforddi gweithwyr ieuenctid i ddefnyddio dulliau cynllunio gwasanaethau ar gyfer cyd-gynllunio gwaith ieuenctid digidol effeithiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd yn cefnogi sefydliadau trydydd sector ledled Cymru gyda digidol fel rhan o <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/cefnogaeth-ddigidol-trydydd-sector\/\">Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector<\/a>, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/newid\/\">Newid<\/a>, prosiect digidol a ariennir gan Lywodraeth Cymru (adran Cymunedau) mewn partneriaeth \u00e2 CGGC a Cwmpas.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC00381-1-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-21338\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC00381-1-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC00381-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC00381-1-768x512.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC00381-1-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC00381-1-2048x1366.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Heriau Allweddol Gwybodaeth Ieuenctid Digidol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae ein hymgysylltiad eang \u00e2\u2019r sector ieuenctid a\u2019n gwaith o ddarparu gwybodaeth ieuenctid digidol dros y blynyddoedd, wedi tynnu sylw at nifer o heriau allweddol gall rwystro gwasanaethau gwybodaeth effeithiol a deniadol i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r heriau yma hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn <a href=\"https:\/\/static1.squarespace.com\/static\/63e63a0eebdc006803f20644\/t\/641700611c935c15d7189b58\/1679229027143\/brochure-desyign-v9-2021.pdf\">Adroddiad Cyfweliad Gr\u0175p Ffocws Gwybodaeth Ieuenctid Arloesol DesYIgn<\/a> a gyhoeddwyd gan Brifysgol \u00c5bo Akademi (Y Ffindir) a ERYICA yn 2020.<\/p>\n\n\n\n<p>Nod yr astudiaeth oedd ehangu dealltwriaeth o ymddygiad ac arferion pobl ifanc sydd yn chwilio am wybodaeth, ac yn bwriadu defnyddio&#8217;r wybodaeth i wella effeithiolrwydd a moderneiddio gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid.<\/p>\n\n\n\n<p>Dysgwyd bod pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yn cael trafferth llywio a darganfod y wybodaeth sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus, oherwydd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Proses heb ei chydgysylltu sydd yn arwain at lefelau uchel o ddyblygu gwybodaeth, sydd yn creu dryswch ac aneffeithiolrwydd<\/li>\n\n\n\n<li>Diffyg pwynt cychwyn clir ar gyfer chwilio am wybodaeth, sydd yn heriol i ddefnyddwyr ddeall ble i gychwyn<\/li>\n\n\n\n<li>Absenoldeb gwybodaeth sydd yn cael ei achredu neu ei gydnabod o ran ansawdd yn gyson, sydd yn tanseilio hyder a dibynadwyaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Diffyg llwybrau sefydledig i rannu gwybodaeth dda rhwng adrannau a sectorau<\/li>\n\n\n\n<li>Diffyg mynediad at y rhyngrwyd, dyfeisiau digidol a data, gan arwain at eithrio digidol a thlodi<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC_0018-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-21340\" style=\"width:1110px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC_0018-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC_0018-300x200.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC_0018-768x512.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC_0018-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC_0018-2048x1365.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Derbyn ein Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid ym mis Hydref 2023.<\/em><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Diffinio Gwybodaeth Ieuenctid o Ansawdd<\/h3>\n\n\n\n<p>Er mwyn sefydlu fframwaith ar gyfer rhagoriaeth, mae angen sefydlu beth yw gwybodaeth ieuenctid digidol dda.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.eryica.org\/charter\">Siarter Gwybodaeth Ieuenctid Ewropeaidd <\/a>yn nodi 9 egwyddor sydd yn rhannu\u2019r safonau lleiaf a mesurau ansawdd ar gyfer gwaith gwybodaeth ieuenctid ledled Ewrop. Mae\u2019r Siarter yn pwysleisio bod rhaid i wybodaeth ieuenctid fod yn annibynnol, hygyrch, cynhwysol, yn seiliedig ar anghenion, yn grymuso, yn gyfranogol, yn foesegol, yn broffesiynol ac yn rhagweithiol. Mae\u2019n gyfeirnod ar gyfer egwyddorion a chanllawiau proffesiynol mewn gwybodaeth a chynghori ieuenctid.<\/p>\n\n\n\n<p>Datblygwyd y <a href=\"https:\/\/www.eryica.org\/label\">Label Ansawdd Gwybodaeth Ieuenctid Ewropeaidd<\/a> trwy bartneriaeth Cyngor Ewrop-ERYICA yn 2019-2020. Mae\u2019n cynnig modd i ddarparwyr ieuenctid arddangos eu hymroddiad i ansawdd. Nod y label yw helpu pobl ifanc i adnabod ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy sydd yn cydymffurfio \u00e2&#8217;r Siarter Gwybodaeth Ieuenctid Ewropeaidd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwybodaeth ieuenctid effeithiol yn gofyn am drawsnewid digidol cryf. Golygai hyn greu gwasanaethau effeithlon, cost-effeithiol, sydd yn gwella mynediad at wasanaethau ataliol ac yn cyfeirio at gymorth hanfodol pan fo angen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n rhaid i wybodaeth fod yn gywir ac yn ddibynadwy, gan rymuso pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae gwybodaeth ieuenctid da hefyd yn cysylltu gwasanaethau ar-lein a wyneb-yn-wyneb, gan ddarparu system gymorth gyflawn.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:100%\">\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"726\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2-1-1024x726.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-21367\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2-1-1024x726.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2-1-300x213.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2-1-768x545.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2-1-1536x1090.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2-1.jpg 1748w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Aelodau\u2019r Gr\u0175p Cyfranogiad Gweithredu Gwybodaeth Ieuenctid a Digidol ar ymweliad \u00e2 Gwasanaethau Ieuenctid a Gwybodaeth Catalwnia yn 2023, diolch i gyllid Taith.<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"726\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-1-1-1024x726.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-21369\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-1-1-1024x726.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-1-1-300x213.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-1-1-768x545.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-1-1-1536x1090.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-1-1.jpg 1748w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Map o Ganolfannau Gwybodaeth Ieuenctid yng Nghatalwnia, Sbaen<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Argymhellion i Wella Gwybodaeth Ieuenctid yng Nghymru<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Cryfhau Cydweithrediad Ewropeaidd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae ymgysylltu&#8217;n weithredol ag ERYICA yn bwysig er mwyn dysgu am arferion da gwledydd eraill Ewrop, a chael mewnwelediadau. Wrth gymryd rhan yng nghymuned ymarfer ERYICA, gall Cymru gael mynediad at hyfforddiant ac adnoddau gwerthfawr a&#8217;r ymchwil diweddaraf. Bydd y cydweithio yma yn ein galluogi i rannu gwybodaeth, profiadau, a dulliau arloesol o ymdrin \u00e2 gwybodaeth ieuenctid, gan gyfoethogi datblygiad gwasanaethau yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gweithredu Dull Cynllunio Gwasanaeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae defnyddio <a href=\"https:\/\/www.designcouncil.org.uk\/our-resources\/framework-for-innovation\/\">cynllunio gwasanaeth<\/a> yn bwysig wrth ddatblygu gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid sydd yn wirioneddol ymatebol i anghenion pobl ifanc. Ystyr cynllunio gwasanaeth yw meddwl am yr holl rannau ar-lein ac all-lein o wasanaeth. Rhaid meddwl am y bobl, y prosesau a&#8217;r systemau sydd eu hangen arnom i ddarparu gwasanaeth yn dda. Mae ei egwyddorion yn canolbwyntio ar yr unigolyn, cydweithredu ac iteru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae defnyddio dull cynllunio gwasanaeth mewn gwybodaeth ieuenctid yn golygu ymgysylltu\u2019n weithredol \u00e2 phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol trwy&#8217;r broses cynllunio a datblygu cyfan, gan sicrhau bod gwasanaethau\u2019n hawdd eu defnyddio, yn hygyrch ac yn effeithiol. Wrth gynnwys defnyddwyr ym mhob cam, gallem greu gwasanaethau sydd wedi&#8217;u teilwra i&#8217;w hanghenion a&#8217;u dymuniadau penodol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC05200-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-21346\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC05200-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC05200-300x200.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC05200-768x512.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC05200-1536x1025.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC05200-2048x1366.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p><strong>Adeiladu ar Asedau Presennol Cymreig<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan Gymru hanes cyfoethog o wasanaethau gwybodaeth ieuenctid, gan gynnwys mentrau cenedlaethol y gorffennol, safonau ansawdd, a grwpiau golygyddol ieuenctid. Mae&#8217;n hanfodol adeiladu ar yr asedau yma ar gyfer creu sylfaen gref ar gyfer datblygiadau&#8217;r dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\">Meic<\/a> fel gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol allweddol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae\u2019r llinell gymorth, sydd yn agored rhwng 8yb a hanner nos bob dydd, ar gael yn ddwyieithog dros y ff\u00f4n, neges WhatsApp, neges destun, a sgwrs ar-lein.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd dysgu o arfer da presennol, fel <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/\">TheSprout<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.yeps.wales\/cy\/\">YEPS<\/a>, <a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/\">Wrecsam Ifanc<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.cardiffyouthservices.wales\/cy\/digital\/\">gwaith Ieuenctid Digidol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd<\/a> hefyd yn bwysig. Mae&#8217;r gwasanaethau yma eisoes yn gwneud gwaith rhagorol. Gall clybiau a sefydliadau ieuenctid fod yn rhan o gynnig digidol ehangach, gan ehangu cyrhaeddiad a hygyrchedd gwybodaeth ieuenctid.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydda creu gr\u0175p gwybodaeth ieuenctid traws-sector yn gam nesaf perffaith, gan gynnwys cynrychiolwyr o sectorau perthnasol megis iechyd ac addysg.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn olaf, byddai\u2019n fanteisiol datblygu gwasanaeth gwybodaeth ar-lein fel <a href=\"https:\/\/young.scot\/\">Young Scot <\/a>yng Nghymru, sydd yn cefnogi pobl ifanc i gael mynediad at wybodaeth a chysylltu at wasanaethau lleol a chenedlaethol o\u2019u gliniaduron, tabledi, a ffonau symudol, ac yn ei dro yn gwella cynhwysiant digidol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Buddsoddi mewn Hyfforddiant<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae buddsoddi mewn hyfforddiant clir a chynhwysfawr yn hanfodol ar gyfer darparu gweithwyr ieuenctid gyda&#8217;r wybodaeth a&#8217;r sgiliau angenrheidiol i gyflwyno gwybodaeth ieuenctid o ansawdd uchel. Rydym yn argymell bod gwybodaeth ieuenctid yn dod yn agwedd allweddol o Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid. Yn ogystal, er mwyn gwella mynediad at wybodaeth ddibynadwy ymhellach, rydym yn argymell datblygu rhwydwaith o glybiau ieuenctid a sefydliadau sydd wedi&#8217;u hyfforddi i ddarparu gwybodaeth ieuenctid.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai hyfforddiant gwybodaeth ieuenctid, sydd yn cynnwys llythrennedd cyfryngau, fod yn hygyrch i bobl ifanc hefyd. Wrth integreiddio gwybodaeth ieuenctid i\u2019r cwricwlwm, yn ogystal \u00e2 darparu addysg sydd yn targedu grwpiau penodol, gallwn sicrhau fod pobl ifanc yn deall sut i gael mynediad i wybodaeth glir, ddibynadwy a diogel ar-lein. Gall datblygu hyfforddiant arbenigol i grewyr cynnwys ifanc fod yn agwedd allweddol o&#8217;r cynnig yma, gan eu grymuso i gynhyrchu gwybodaeth ieuenctid ar gyfer eu cyfoedion. Gallai\u2019r hyfforddiant yma ganolbwyntio ar gyflwyno newyddion a digwyddiadau, a darparu cyfeiriadau clir at wasanaethau cymorth hanfodol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC06999-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-21348\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC06999-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC06999-300x200.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC06999-768x512.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC06999-1536x1025.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/DSC06999-2048x1366.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p><strong>Derbyn y Marc Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer Gwybodaeth Ieuenctid<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae derbyn Marc Ansawdd ERYICA yn gam gwerthfawr tuag at sicrhau bod gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru yn bodloni safonau rhagoriaeth Ewropeaidd. Bydd cefnogi sefydliadau ieuenctid i gyflawni&#8217;r Nod Ansawdd Ewropeaidd yn gwella eu credadwyedd ac yn dangos eu hymrwymiad i ansawdd. Mae gweithio\u2019n agos gyda Llywodraeth Cymru a\u2019r Bwrdd Gwaith Ieuenctid yn hanfodol ar gyfer gweithredu\u2019r argymhellion yma ac i hybu gwelliant parhaus yn y sector gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Meithrin Cydweithio Gwell ar draws Sectorau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae cydweithio ar draws sectorau yn hanfodol ar gyfer creu agwedd gyfannol tuag at wybodaeth ieuenctid. Bydd sefydlu gweithgor traws-sector gweithwyr proffesiynol o feysydd iechyd, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, trafnidiaeth, a meysydd perthnasol eraill, yn helpu i alluogi cyfathrebu, cydgysylltu a rhannu adnoddau. Bydd y dull cydweithredol yma yn sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at wybodaeth gynhwysfawr a pherthnasol ble bynnag yr \u00e2nt am gymorth.<\/p>\n\n\n\n<p>I gynyddu perthnasedd a dilysrwydd gwybodaeth ieuenctid, mae&#8217;n bwysig cymryd rhan weithredol gyda chrewyr cynnwys ifanc ledled Cymru o&#8217;r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Casgliad<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adroddiad yma yn amlinellu argymhellion hollbwysig ar gyfer datblygu gwybodaeth ieuenctid digidol yng Nghymru, gan bwysleisio pwysigrwydd cydweithio, ansawdd, a hygyrchedd. Mae ProMo Cymru yn awyddus i gydweithio ymhellach \u00e2 sefydliadau ac unigolion ledled Cymru i roi\u2019r argymhellion yma ar waith a gwella gwybodaeth ieuenctid digidol. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/cysylltu\/\">cysylltwch<\/a> i drafod partneriaethau a mentrau posibl.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn y byd cyflym sydd ohoni, sydd yn llawn camwybodaeth a phegynnu cynyddol, nid oes amser pwysicach wedi bod i gael gwybodaeth ieuenctid digidol o ansawdd. Crynodeb Gweithredol Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd mynediad at wybodaeth gywir a pherthnasol. Gall pobl ifanc archwilio eu diddordebau, deall eu hawliau, a llywio cymhlethdodau\u2019r byd o\u2019u cwmpas gyda gwybodaeth. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":21352,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"categories":[2103,2122],"tags":[2342,2343,2344,2345,2346,2347,2348,2059,2061,2152,2340,2341],"class_list":["post-21357","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwybodaeth","category-promo-cymru","tag-digital-youth-work-cy","tag-europe-cy-2","tag-good-practice-report-cy","tag-promo-cymru-2-cy-2","tag-promo-cymru-digital-youth-information-cy","tag-report-on-digital-youth-information-cy","tag-svyo-cy","tag-youth-work-cy-2","tag-youth-work-wales-cy","tag-digital-youth-information-cy","tag-digital-youth-information-europe-cy","tag-digital-youth-information-wales-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Adroddiad: Sut Beth Yw Arfer Da Yn y Maes Gwybodaeth Ieuenctid Digidol - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Adroddiad yn edrych ar gyflwr gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru, gan edrych ar sut y gellir ei wella i helpu pobl ifanc i lywio\u2019r byd digidol\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Adroddiad: Sut Beth Yw Arfer Da Yn y Maes Gwybodaeth Ieuenctid Digidol - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Adroddiad yn edrych ar gyflwr gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru, gan edrych ar sut y gellir ei wella i helpu pobl ifanc i lywio\u2019r byd digidol\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2025-03-19T12:35:20+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-03-28T14:06:39+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1748\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1240\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Halyna Soltys\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Halyna Soltys\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"13 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/\"},\"author\":{\"name\":\"Halyna Soltys\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/4f3327afb238b76e6d0233f83c8d50fc\"},\"headline\":\"Adroddiad: Sut Beth Yw Arfer Da Yn y Maes Gwybodaeth Ieuenctid Digidol\",\"datePublished\":\"2025-03-19T12:35:20+00:00\",\"dateModified\":\"2025-03-28T14:06:39+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/\"},\"wordCount\":2305,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2.jpg\",\"keywords\":[\"digital youth work\",\"europe\",\"Good Practice Report\",\"Promo Cymru\",\"ProMo Cymru Digital Youth Information\",\"Report on Digital Youth Information\",\"SVYO\",\"youth work\",\"youth work wales\",\"digital youth information\",\"Digital Youth Information Europe\",\"Digital Youth Information Wales\"],\"articleSection\":[\"Gwybodaeth\",\"ProMo Cymru\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/\",\"name\":\"Adroddiad: Sut Beth Yw Arfer Da Yn y Maes Gwybodaeth Ieuenctid Digidol - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2.jpg\",\"datePublished\":\"2025-03-19T12:35:20+00:00\",\"dateModified\":\"2025-03-28T14:06:39+00:00\",\"description\":\"Adroddiad yn edrych ar gyflwr gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru, gan edrych ar sut y gellir ei wella i helpu pobl ifanc i lywio\u2019r byd digidol\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2.jpg\",\"width\":1748,\"height\":1240},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Adroddiad: Sut Beth Yw Arfer Da Yn y Maes Gwybodaeth Ieuenctid Digidol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/4f3327afb238b76e6d0233f83c8d50fc\",\"name\":\"Halyna Soltys\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Halyna Soltys\"},\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/author\/halyna-soltys\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Adroddiad: Sut Beth Yw Arfer Da Yn y Maes Gwybodaeth Ieuenctid Digidol - ProMo Cymru","description":"Adroddiad yn edrych ar gyflwr gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru, gan edrych ar sut y gellir ei wella i helpu pobl ifanc i lywio\u2019r byd digidol","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Adroddiad: Sut Beth Yw Arfer Da Yn y Maes Gwybodaeth Ieuenctid Digidol - ProMo Cymru","og_description":"Adroddiad yn edrych ar gyflwr gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru, gan edrych ar sut y gellir ei wella i helpu pobl ifanc i lywio\u2019r byd digidol","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_published_time":"2025-03-19T12:35:20+00:00","article_modified_time":"2025-03-28T14:06:39+00:00","og_image":[{"width":1748,"height":1240,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Halyna Soltys","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Halyna Soltys","Est. reading time":"13 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/"},"author":{"name":"Halyna Soltys","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/4f3327afb238b76e6d0233f83c8d50fc"},"headline":"Adroddiad: Sut Beth Yw Arfer Da Yn y Maes Gwybodaeth Ieuenctid Digidol","datePublished":"2025-03-19T12:35:20+00:00","dateModified":"2025-03-28T14:06:39+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/"},"wordCount":2305,"publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2.jpg","keywords":["digital youth work","europe","Good Practice Report","Promo Cymru","ProMo Cymru Digital Youth Information","Report on Digital Youth Information","SVYO","youth work","youth work wales","digital youth information","Digital Youth Information Europe","Digital Youth Information Wales"],"articleSection":["Gwybodaeth","ProMo Cymru"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/","name":"Adroddiad: Sut Beth Yw Arfer Da Yn y Maes Gwybodaeth Ieuenctid Digidol - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2.jpg","datePublished":"2025-03-19T12:35:20+00:00","dateModified":"2025-03-28T14:06:39+00:00","description":"Adroddiad yn edrych ar gyflwr gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru, gan edrych ar sut y gellir ei wella i helpu pobl ifanc i lywio\u2019r byd digidol","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2.jpg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/FEATURED-IMAGE-SIZE-NEW-PROMO-WEBSITE-2.jpg","width":1748,"height":1240},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/19\/adroddiad-arfer-da-gwybodaeth-ieuenctid-digidol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Adroddiad: Sut Beth Yw Arfer Da Yn y Maes Gwybodaeth Ieuenctid Digidol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/4f3327afb238b76e6d0233f83c8d50fc","name":"Halyna Soltys","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Halyna Soltys"},"url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/author\/halyna-soltys\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21357","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=21357"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21357\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21446,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21357\/revisions\/21446"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21352"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21357"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21357"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21357"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}