{"id":21653,"date":"2025-03-26T11:59:00","date_gmt":"2025-03-26T11:59:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/?p=21653"},"modified":"2025-04-28T15:28:14","modified_gmt":"2025-04-28T14:28:14","slug":"defnydd-vr-trydydd-sector","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/","title":{"rendered":"Defnydd Posib VR i&#8217;r Trydydd Sector"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae yna botensial aruthrol i&#8217;r trydydd sector pan ddaw at Realiti Rhithwir (VR), gan gynnig ffyrdd arloesol i adrodd straeon, codi ymwybyddiaeth, ymgysylltu \u00e2 chefnogwyr, a darparu gwasanaethau effeithiol i\u2019ch defnyddwyr gwasanaeth a\u2019ch buddiolwyr.<\/h3>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Yn yr erthygl yma, byddem yn archwilio posibiliadau cyffrous o ran VR ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Adrodd straeon ymdrochol<\/h3>\n\n\n\n<p>Anghofiwch am y delweddau a&#8217;r testun statig! Mae VR yn eich galluogi i greu naratif person cyntaf pwerus sydd yn rhoi&#8217;r cefnogwyr yn sefyllfa&#8217;r bobl rydych chi&#8217;n helpu. Dychmygwch brofi:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Taith beryglus ffoadur dros y m\u00f4r<\/li>\n\n\n\n<li>Plentyn ag anabledd yn wynebu heriau bob dydd<\/li>\n\n\n\n<li>Anifail mewn perygl a brwydro ar \u00f4l colli cynefin<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Un enghraifft, a ddatblygwyd gan <a href=\"https:\/\/www.alzheimersresearchuk.org\/\">Alzheimer\u2019s Research UK<\/a>, yw app <a href=\"https:\/\/www.alzheimersresearchuk.org\/campaigns\/awtd\/\">A Walk Through Dementia<\/a>, sy&#8217;n rhoi cipolwg o sut beth yw byw gyda Dementia.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae profiadau ymdrochol fel hyn yn ennyn emosiynau cryf iawn, gan greu ymdeimlad o empathi y mae&#8217;r cyfryngau traddodiadol yn ei chael yn anodd cyflawni&#8217;n aml. Nid clywed am eich achos yn unig fydd cefnogwyr; byddant yn ei deimlo hefyd. Mae&#8217;r cysylltiad emosiynol yma&#8217;n allweddol i ysgogi rhoddion, gwirfoddoli, a chefnogaeth hirdymor i sefydliad a&#8217;i nodau.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/2-1-1024x576.jpg\" alt=\"Man using VR headset with controllers outside\" class=\"wp-image-21409\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/2-1-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/2-1-300x169.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/2-1-768x432.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/2-1-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/2-1-2048x1152.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Teithiau Rhithwir<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae teithiau Realiti Rhithwir yn caniat\u00e1u i gefnogwyr archwilio lleoliadau,&nbsp; beth bynnag yw&#8217;r cyfyngiadau corfforol. Dychmygwch gynnig teithiau rhithwir:<\/p>\n\n\n\n<p>Eich lloches anifeiliaid, yn arddangos yr anifeiliaid wedi&#8217;u hachub a&#8217;r gofal hanfodol darparir<\/p>\n\n\n\n<p>Coedwig anghysbell, yn amlygu pwysigrwydd ymdrechion cadwraeth<\/p>\n\n\n\n<p>Safle hanesyddol rydych chi&#8217;n cynnal a chadw, gan ddod \u00e2&#8217;r gorffennol yn fyw<\/p>\n\n\n\n<p>Enghraifft o hyn yw <a href=\"https:\/\/www.visitwales.com\/metaverse\">Metaverse Cymru<\/a>, wedi&#8217;i greu gan Croeso Cymru. Ym mis Mai 2024, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i lansio yn y metaverse, sy&#8217;n rhoi blas go iawn i ymwelwyr rhithiol ledled y byd o\u2019r hyn y gallant ei ddarganfod yno go iawn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Digwyddiadau VR a chodi arian<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae digwyddiadau VR yn mynd y tu hwnt i gyfyngiadau corfforol, gan ganiat\u00e1u i bobl brofi pethau ar yr un pryd o bob rhan o&#8217;r byd.<\/p>\n\n\n\n<p>Enghraifft flaengar o ddigwyddiad VR enfawr oedd cyngerdd Sabrina Carpenter ym mis Gorffennaf 2024, a gynhaliwyd gan Meta Horizon Worlds. Gwisgodd cefnogwyr eu pensetiau VR a chael eu cludo i set a ddyluniwyd yn arbennig, ble gallent ganu a dawnsio&#8217;n rhithiol ochr yn ochr \u00e2&#8217;r seren bop o gysur cartref eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae digwyddiadau VR hefyd yn cynnig posibiliadau diddiwedd ar gyfer <a href=\"https:\/\/charitydigital.org.uk\/topics\/how-charity-water-are-using-vr-to-raise-funds-and-awareness-6644\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">codi arian yn greadigol<\/a>, gan arwain at fwy o ymgysylltiad a chefnogaeth i&#8217;ch achos. Gallai digwyddiadau codi arian VR ganiat\u00e1u i gefnogwyr gymysgu mewn ystafell rithwir, cymryd rhan mewn arwerthiant tawel, a chlywed tystebau gan fuddiolwyr.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/3-1024x576.jpg\" alt=\"Woman using VR headset outdoors\" class=\"wp-image-21411\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/3-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/3-300x169.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/3-768x432.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/3-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/3-2048x1152.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Addysg a hyfforddiant<\/h3>\n\n\n\n<p>Gall efelychiadau VR helpu i ddarparu hyfforddiant i wirfoddolwyr a staff. Mae&#8217;r opsiynau&#8217;n ddiderfyn, o ymarfer sefyllfaoedd ymateb brys, rhyngweithio gwaith cymdeithasol, neu weithdrefnau meddygol mewn amgylchedd diogel a rheoledig. Enghraifft o hyn yw <a href=\"https:\/\/www.bbc.com\/news\/uk-england-hampshire-68979661\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">sut mae&#8217;r Llynges Frenhinol yn defnyddio technoleg VR<\/a> i hyfforddi morwyr ar gyfer llongau rhyfel.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond nid sefydliadau yn unig sy\u2019n gallu defnyddio VR i ddatblygu sgiliau &#8211; mae\u2019r dechnoleg yn caniat\u00e1u i chi ddysgu amrywiaeth o bethau o gysur eich cartref eich hun, heb gost offer. Er enghraifft, gallwch <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=x0C2hGj3Afg&amp;ab_channel=TribeXR\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ddysgu sut i fod yn DJ<\/a> neu <a href=\"https:\/\/youtu.be\/6hScacmPAek?si=9dltUuj0zDAsCgzD\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">chwarae piano<\/a> wrth ddefnyddio technoleg VR.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cefnogi iechyd meddwl a chorfforol<\/h3>\n\n\n\n<p>Gall profiadau VR helpu i roi dewis arall ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl a chorfforol. Gallai&#8217;r dechnoleg ddarparu lle ar gyfer ymgynghoriadau rhithwir neu sesiynau cymorth i&#8217;r rhai sydd wedi&#8217;i hynysu&#8217;n ddaearyddol, gan wneud gwasanaethau hanfodol yn fwy hygyrch.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ymchwil yn datblygu&#8217;n gyflym, gyda chynlluniau peilot at ddefnydd VR yn digwydd ar draws y byd. Un enghraifft o&#8217;r ymchwil yma yw <a href=\"https:\/\/www.bbc.com\/news\/av\/business-49654052\">sut mae VR yn helpu pobl sydd \u00e2 dementia<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae llawer o bobl sydd yn byw mewn cartrefi gofal neu ar eu pen eu hunain gartref wedi cael diagnosis o ddementia fel na allant fentro allan eu hunain fel y gallant cynt, gan gael effaith ar ansawdd bywyd a lles. Gall VR ddarparu mynediad i alluogi pobl \u00e2 dementia i archwilio amgylchedd newydd neu ail-fyw hen atgofion tra mewn lleoliad diogel.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal, mae&#8217;r defnydd o VR yn cael ei archwilio i helpu i gefnogi diagnosis cyflyrau ochr yn ochr \u00e2 phrofion ac ymchwiliadau presennol. Er enghraifft, <a href=\"https:\/\/youtu.be\/snRCIKHnZWg?si=1kAKslzorNM5759I\">mae ymchwilwyr Alzheimer yn gobeithio bydd y clefyd yn cael ei ddarganfod yn gynnar wrth ddefnyddio VR.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i dechnoleg VR ddatblygu, gellid ei ddefnyddio i gefnogi pobl sydd \u00e2 ffobi\u00e2u neu anhwylderau pryder i wynebu eu heriau gan ddefnyddio therapi datguddio. Gellid ymarfer rhyngweithio cymdeithasol mewn amgylchedd rhithwir ar gyfer unigolion ag awtistiaeth. Gellid datblygu rhaglenni adfer ar gyfer therapi corfforol neu alwedigaethol, gan gynnig profiad mwy deniadol a rhyngweithiol i gleientiaid.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/4-1024x576.jpg\" alt=\"Two men in high-vis jackets training using VR headsets\" class=\"wp-image-21413\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/4-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/4-300x169.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/4-768x432.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/4-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/4-2048x1152.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Codi ymwybyddiaeth<\/h3>\n\n\n\n<p>Gall defnyddio VR ganiat\u00e1u i bobl brofi rhai o&#8217;r heriau a wynebir gan bobl ag anableddau. Gall hyn feithrin empathi a dealltwriaeth o&#8217;ch achos, sydd yn gallu bod yn anodd i&#8217;r rhai sydd ddim yn gallu uniaethu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cynnydd o 360 o ffilmiau a phrofiadau VR wedi golygu ei bod yn haws nag erioed arddangos profiadau. Mae enghreifftiau nodedig yn cynnwys <a href=\"https:\/\/youtu.be\/9ViF0GBt6fQ?si=XphBWgVNWxzoZDiN\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Notes of Blindness<\/a> a <a href=\"https:\/\/youtu.be\/OtwOz1GVkDg?si=g2L9KVPQWqxjriZ9\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">The Party: A Virtual Experience of Autism<\/a>. Er y gallwch wylio&#8217;r fideos yma ar ff\u00f4n symudol, gliniadur, neu deledu, mae&#8217;r profiadau&#8217;n teimlo&#8217;n llawer mwy real mewn VR.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallai VR fod yn arf y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwaith eirioli ac ymgyrchu, i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd neu helpu i egluro pethau i&#8217;r rhai sydd mewn grym. Dychmygwch ddefnyddio&#8217;r profiadau yma i roi cipolwg o heriau gwirioneddol i&#8217;r rhai sy&#8217;n gwneud penderfyniadau a dylanwadwyr sydd \u00e2 llais mewn polisi. Ar ben y profiad yma, gellid defnyddio VR i gyflwyno data ac ystadegau mewn ffordd gymhellol a bythgofiadwy i ddal sylw&#8217;r cyhoedd a llunwyr polisi.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cyflogaeth<\/h3>\n\n\n\n<p>Ystyriwch ymdrechion diweddar IKEA i&#8217;r byd rhithwir. Agorwyd <a href=\"https:\/\/www.ikea.com\/gb\/en\/newsroom\/corporate-news\/ikea-is-opening-a-new-store-on-roblox-pub8a9272d0\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">siop rithwir yn Roblox<\/a>, g\u00eam boblogaidd ar draws sawl llwyfan. Mae&#8217;r datblygiad yn galluogi defnyddwyr i archwilio opsiynau dodrefn a dylunio cartrefi eu breuddwydion ar yr app. Mae IKEA wedi cyflogi staff i weithio mewn VR i gefnogi cwsmeriaid.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn yr un modd, gall elusennau greu profiadau VR sy&#8217;n arddangos eu hamgylchedd gwaith ac effaith rolau staff.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/5-1024x576.jpg\" alt=\"Three children using VR headsets in a classroom\" class=\"wp-image-21415\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/5-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/5-300x169.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/5-768x432.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/5-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/5-2048x1152.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ystyriaethau ymarferol a moesegol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae cymwysiadau posibl VR yn y trydydd sector yn enfawr ac yn esblygu&#8217;n barhaus. Wrth groesawu technoleg VR, gall elusennau greu profiadau arloesol ac effeithiol sy&#8217;n gwneud gwir wahaniaeth. Dychmygwch ddyfodol ble mae VR yn caniat\u00e1u i wirfoddolwyr brofi grym trawsnewidiol eu gwaith yn uniongyrchol, lle i staff dderbyn hyfforddiant ymdrochol sy&#8217;n eu paratoi ar gyfer heriau&#8217;r byd go iawn, a lle i fuddiolwyr gael mynediad at wasanaethau hanfodol mewn ffordd ddiogel a deniadol.<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, mae&#8217;n bwysig bod \u00e2 phersbectif pwyllog pan ddaw at VR. Mae angen gwerthuso&#8217;n ofalus yr ystyriaethau moesegol ynghylch defnyddio VR yn y trydydd sector. Rhaid mynd i&#8217;r afael \u00e2 materion fel preifatrwydd data, y posibilrwydd o lwyrddibyniaeth, a sicrhau mynediad teg i brofiadau VR.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall pensetiau a thechnoleg VR fod yn ddrud, felly rhaid darganfod ffyrdd arloesol i wneud VR yn hygyrch ac yn gost-effeithiol, trwy bartneriaethau neu gyllid o bosib.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae profiadau mewn VR yn aml yn casglu data defnyddwyr, felly rhaid sicrhau bod mesurau diogelwch data cadarn ar waith, gan gynnwys cael caniat\u00e2d gwybodus gan ddefnyddwyr cyn defnyddio VR.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cyn cloi<\/h3>\n\n\n\n<p>Wrth i dechnoleg Realiti Rhithwir ddod yn fwy fforddiadwy, hygyrch a hawdd ei defnyddio, disgwylir gweld hyd yn oed mwy o gymwysiadau arloesol yn dod i&#8217;r amlwg. Trwy gofleidio VR yn gyfrifol ac yn greadigol, gall y trydydd sector ddatgloi ffyrdd newydd o weithio i gefnogi eu busnes a\u2019u hachos.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae VR yn arf pwerus, ond nid yw&#8217;n berffaith. Mae cynllunio gofalus, ystyriaethau moesegol, a chanolbwyntio ar anghenion defnyddwyr yn hanfodol ar gyfer gweithredu VR llwyddiannus yn y trydydd sector.<\/p>\n\n\n\n<p>Eisiau dechrau archwilio VR ar gyfer eich sefydliad trydydd sector? Edrychwch i mewn i&nbsp;<a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/meta-quest-pro-rhad-elusennau\/\">ostyngiad Charity Digital ar pensetiau Meta Quest Pro.<\/a><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Gwybodaeth bellach am Wasanaethau Cymorth Digidol ProMo Cymru <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/services\/#service-id-18253\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Chwiliwch ein <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/adnoddau\/\">cronfa enfawr o adnoddau digidol yma<\/a>. Blogiau, canllawiau, a phecynnau cymorth ar newid digidol, gwasanaethau digidol, gweithio&#8217;n ddigidol, ariannu digidol a mwy.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae yna botensial aruthrol i&#8217;r trydydd sector pan ddaw at Realiti Rhithwir (VR), gan gynnig ffyrdd arloesol i adrodd straeon, codi ymwybyddiaeth, ymgysylltu \u00e2 chefnogwyr, a darparu gwasanaethau effeithiol i\u2019ch defnyddwyr gwasanaeth a\u2019ch buddiolwyr. Yn yr erthygl yma, byddem yn archwilio posibiliadau cyffrous o ran VR ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru. Adrodd straeon [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":21903,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"categories":[2117,2120],"tags":[2453,2454,2420,2421,2449,2452],"class_list":["post-21653","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-technoleg","category-digidol-trydydd-sector","tag-vr-i-dielw","tag-beth-gall-br-wneud-i-sefydliadau","tag-rhith-realiti","tag-vr-2","tag-vr-yn-y-trydydd-sector","tag-vr-i-elusennau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Defnydd Posib VR i&#039;r Trydydd Sector - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Yn yr erthygl yma, byddwn yn archwilio rhai posibiliadau cyffrous o ran posibiliadau VR ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Defnydd Posib VR i&#039;r Trydydd Sector - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn yr erthygl yma, byddwn yn archwilio rhai posibiliadau cyffrous o ran posibiliadau VR ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2025-03-26T11:59:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-04-28T14:28:14+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1748\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1240\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Tania Russell-Owen\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Tania Russell-Owen\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/\"},\"author\":{\"name\":\"Tania Russell-Owen\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/3153ac27af697251c3232ddd4b386a67\"},\"headline\":\"Defnydd Posib VR i&#8217;r Trydydd Sector\",\"datePublished\":\"2025-03-26T11:59:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-04-28T14:28:14+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/\"},\"wordCount\":1384,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg\",\"keywords\":[\"VR i dielw\",\"Beth gall BR wneud i sefydliadau\",\"Rhith Realiti\",\"VR\",\"VR yn y trydydd sector\",\"VR i elusennau\"],\"articleSection\":[\"Technoleg\",\"Digidol Trydydd Sector\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/\",\"name\":\"Defnydd Posib VR i'r Trydydd Sector - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg\",\"datePublished\":\"2025-03-26T11:59:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-04-28T14:28:14+00:00\",\"description\":\"Yn yr erthygl yma, byddwn yn archwilio rhai posibiliadau cyffrous o ran posibiliadau VR ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg\",\"width\":1748,\"height\":1240,\"caption\":\"One professional wearing a VR headset whilst another watches what she is doing on a tablet\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Defnydd Posib VR i&#8217;r Trydydd Sector\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/3153ac27af697251c3232ddd4b386a67\",\"name\":\"Tania Russell-Owen\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/eb007df058a0e413fd01b6ff309bfa42a0a2fa5ee7f675b772ef591b3552b106?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/eb007df058a0e413fd01b6ff309bfa42a0a2fa5ee7f675b772ef591b3552b106?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Tania Russell-Owen\"},\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/author\/tania-russell-owen\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Defnydd Posib VR i'r Trydydd Sector - ProMo Cymru","description":"Yn yr erthygl yma, byddwn yn archwilio rhai posibiliadau cyffrous o ran posibiliadau VR ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Defnydd Posib VR i'r Trydydd Sector - ProMo Cymru","og_description":"Yn yr erthygl yma, byddwn yn archwilio rhai posibiliadau cyffrous o ran posibiliadau VR ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru.","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_published_time":"2025-03-26T11:59:00+00:00","article_modified_time":"2025-04-28T14:28:14+00:00","og_image":[{"width":1748,"height":1240,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Tania Russell-Owen","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Tania Russell-Owen","Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/"},"author":{"name":"Tania Russell-Owen","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/3153ac27af697251c3232ddd4b386a67"},"headline":"Defnydd Posib VR i&#8217;r Trydydd Sector","datePublished":"2025-03-26T11:59:00+00:00","dateModified":"2025-04-28T14:28:14+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/"},"wordCount":1384,"publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg","keywords":["VR i dielw","Beth gall BR wneud i sefydliadau","Rhith Realiti","VR","VR yn y trydydd sector","VR i elusennau"],"articleSection":["Technoleg","Digidol Trydydd Sector"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/","name":"Defnydd Posib VR i'r Trydydd Sector - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg","datePublished":"2025-03-26T11:59:00+00:00","dateModified":"2025-04-28T14:28:14+00:00","description":"Yn yr erthygl yma, byddwn yn archwilio rhai posibiliadau cyffrous o ran posibiliadau VR ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg","width":1748,"height":1240,"caption":"One professional wearing a VR headset whilst another watches what she is doing on a tablet"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/2025\/03\/26\/defnydd-vr-trydydd-sector\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Defnydd Posib VR i&#8217;r Trydydd Sector"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/3153ac27af697251c3232ddd4b386a67","name":"Tania Russell-Owen","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/eb007df058a0e413fd01b6ff309bfa42a0a2fa5ee7f675b772ef591b3552b106?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/eb007df058a0e413fd01b6ff309bfa42a0a2fa5ee7f675b772ef591b3552b106?s=96&d=mm&r=g","caption":"Tania Russell-Owen"},"url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/author\/tania-russell-owen\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21653","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=21653"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21653\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21770,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21653\/revisions\/21770"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21903"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21653"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21653"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21653"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}