{"id":20194,"date":"2024-05-22T19:26:21","date_gmt":"2024-05-22T18:26:21","guid":{"rendered":"https:\/\/techforgood.cymru\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/"},"modified":"2025-07-10T15:56:30","modified_gmt":"2025-07-10T14:56:30","slug":"ein-meddyliau-ein-dyfodol","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/","title":{"rendered":"Ein Meddyliau Ein Dyfodol"},"content":{"rendered":"\n<\/div>\n<div  class=\"title-image-link-block\" style=\"\">\n\n    <div class=\"container mx-auto my-20\">\n        <div class=\"text-center\">\n            <h2 class=\" h1 my-20\">Ein Meddyliau Ein Dyfodol<\/h2>\n\n            \n            <img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"870\" height=\"697\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/OMOF-Logo-Black-2.png\" class=\"w-full my-20\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/OMOF-Logo-Black-2.png 870w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/OMOF-Logo-Black-2-300x240.png 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/OMOF-Logo-Black-2-768x615.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 870px) 100vw, 870px\" \/>\n                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>\n\n<div class=\"container mx-auto\">\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-center\">Mae Ein Meddyliau Ein Dyfodol (EMED) yn brosiect sydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc i ddylanwadu ar y ffordd mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynllunio a\u2019u cynnal ledled y DU.<\/h2>\n\n\n\n<\/div>\n<div  class=\"project-top-section-block\" style=\"\">\n\n    <div class=\"container mx-auto my-20\">\n        <div class=\"max-w-[720px] mx-auto\">\n            <div class=\"text-center\">\n            <h3 class=\"!font-bold\"><\/h3>\n            <\/div>\n            <div class=\"flex flex-wrap justify-between items-start lg:px-12 my-20\">\n                <div class=\"w-full lg:w-5\/12\">\n                    <div class=\"flex items-center justify-start\">\n                        <img decoding=\"async\" class=\"w-[20px] mr-2\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/themes\/promo-cymru-2024\/img\/star-orange.svg\"\n                             alt=\"star\">\n                        <h4>Cleient<\/h4>\n                    <\/div>\n                    <div class=\"pl-[28px] mt-4\">\n                    <p>Youth Access<\/p>\n                    <\/div>\n                <\/div>\n                <div class=\"w-full lg:w-5\/12\">\n                    <div class=\"flex items-center justify-start\">\n                        <img decoding=\"async\" class=\"w-[20px] mr-2\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/themes\/promo-cymru-2024\/img\/star-orange.svg\"\n                             alt=\"star\">\n                        <h4>Sector<\/h4>\n                    <\/div>\n                    <div class=\"pl-[28px] mt-4\">\n                    <p>Trydydd Sector<\/p>\n                    <\/div>\n                <\/div>\n                <div class=\"w-full lg:w-5\/12\">\n                    <div class=\"flex items-center justify-start\">\n                        <img decoding=\"async\" class=\"w-[20px] mr-2\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/themes\/promo-cymru-2024\/img\/star-orange.svg\"\n                             alt=\"star\">\n                        <h4>Partneriaid<\/h4>\n                    <\/div>\n                    <div class=\"pl-[28px] mt-4\">\n                    <p>Youth Access Adferiad National Children&#8217;s Bureau Scottish Action for Mental Health Scottish Youth Parliament<\/p>\n                    <\/div>\n                <\/div>\n                <div class=\"w-full lg:w-5\/12\">\n                    <div class=\"flex items-center justify-start\">\n                        <img decoding=\"async\" class=\"w-[20px] mr-2\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/themes\/promo-cymru-2024\/img\/star-orange.svg\"\n                             alt=\"star\">\n                        <h4>Gwasanaethau<\/h4>\n                    <\/div>\n                    <div class=\"pl-[28px] mt-4\">\n                    <p>Gwybodaeth Ieuenctid Digidol <\/p>\n                    <\/div>\n                <\/div>\n            <\/div>\n        <\/div>\n\n\n    <\/div>\n<\/div>\n\n<div class=\"container mx-auto\">\n\n\n<p>Mae pobl ifanc yn dod at ei gilydd ar draws Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru, i godi llais cyfunol ar gyfer y math o newid trawsffurfiol maent am ei weld yn y system iechyd meddwl yn eu cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<p>Yng Nghymru, mae EMED yn cael ei ddarparu gan ProMo Cymru a\u2019n partner, <a href=\"https:\/\/adferiad.org\/\">Adferiad<\/a> (Hafal gynt). Gyda\u2019n gilydd, rydym yn cefnogi gr\u0175p o bobl ifanc o ledled Cymru i fod yn rhan o waith ymgyrchu a dylanwadu i greu newid ystyrlon. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae partneriaid y prosiect o genhedloedd eraill yn cynnwys <a href=\"https:\/\/www.youthaccess.org.uk\/\">Youth Access<\/a> (Lloegr), <a href=\"https:\/\/www.ncb.org.uk\/\">National Children&#8217;s Bureau<\/a> (Gogledd Iwerddon), <a href=\"https:\/\/www.samh.org.uk\/\">Scottish Action for Mental Health <\/a>(Yr Alban) a&#8217;r <a href=\"https:\/\/syp.org.uk\/\">Scottish Youth Parliament <\/a>(Yr Alban). <\/p>\n\n\n\n<p>Ariannir y prosiect am 5 mlynedd, diolch i grant gan <a href=\"https:\/\/www.tnlcommunityfund.org.uk\/welsh\">Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol<\/a> o 2019-2024.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/In-project-images-Featured-Images-New-website-2-1024x576.jpg\" alt=\"Pedwar aelod staff yn eistedd ar soffa yn gwenu ar y camera. Yn dal un llaw i fyny gyda bysedd wedi croesi, fel logo Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.  \" class=\"wp-image-19128\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/In-project-images-Featured-Images-New-website-2-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/In-project-images-Featured-Images-New-website-2-300x169.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/In-project-images-Featured-Images-New-website-2-768x432.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/In-project-images-Featured-Images-New-website-2-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/In-project-images-Featured-Images-New-website-2-2048x1152.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth oedd y broblem?<\/h3>\n\n\n\n<p>Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae yna bryderon cynyddol wedi bod am iechyd meddwl a llesiant emosiynol pobl ifanc, a galwadau cynyddol i wella\u2019r ffordd mae pobl ifanc yn cael eu helpu a\u2019u cefnogi.<\/p>\n\n\n\n<p>Y lleisiau mwyaf dylanwadol yw rhai\u2019r bobl ifanc eu hunain. Mae eiriolwyr ifanc EMED, gr\u0175p o bobl ifanc sydd yn rhan o\u2019r prosiect, wedi bod yn ddewr iawn yn rhannu eu profiadau o wasanaethau iechyd meddwl yn y gobaith o wella hyn ar gyfer cenedlaethau\u2019r dyfodol. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r ddogfen <a href=\"https:\/\/www.promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/Call-to-action-Cymraeg.pdf\">Galwad i Weithredu<\/a>, wedi\u2019i gynhyrchu ar y cyd ag eiriolwyr ifanc EMED o Gymru gan ddefnyddio dull wedi\u2019i selio ar hawliau, yn egluro\u2019r newidiadau mae pobl ifanc Cymru yn mynnu arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna 5 gorchymyn sydd yn cael eu hamlygu:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Gorchymyn 1 <\/strong>\u2013 Rydym eisiau dull canolog i bobl ifanc 16-25 oed i ddarganfod a chael mynediad i gefnogaeth<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gorchymyn 2 <\/strong>\u2013 Rydym eisiau gweld gwasanaethau yn defnyddio dull holistig i weithio\u2019n dda gyda\u2019i gilydd i\u2019n helpu<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gorchymyn 3 <\/strong>\u2013 Rydym eisiau mynediad i osodiadau wyneb i wyneb ac ar-lein sydd yn ddiogel, yn groesawus, ac yn barchus<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gorchymyn 4 <\/strong>\u2013 Rydym eisiau i ddylanwadwyr a\u2019r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau i wrando arnom, i glywed ein llais ac i fod yn atebol i ni<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gorchymyn 5 <\/strong>\u2013 Rydym eisiau gweld gweinidog gyda phortffolio ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Galwad i Weithredu yn siarad gyda phobl ifanc ac oedolion gan fod gan bawb ran i\u2019w chwarae i wneud gwahaniaeth i iechyd meddwl a llesiant emosiynol plant a phobl ifanc.<br><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/In-project-images-Featured-Images-New-website-1-1024x576.jpg\" alt=\"Pump o bobl yn cydweithio ar y prosiect Ein Meddyliau Ein Dyfodol yn swyddfa Caerdydd.\" class=\"wp-image-19126\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/In-project-images-Featured-Images-New-website-1-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/In-project-images-Featured-Images-New-website-1-300x169.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/In-project-images-Featured-Images-New-website-1-768x432.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/In-project-images-Featured-Images-New-website-1-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/In-project-images-Featured-Images-New-website-1-2048x1152.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/FINAL-POSTER.png\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ein dull<\/h3>\n\n\n\n<p>Ers cychwyn y prosiect, mae\u2019r eiriolwyr ifanc EMED o Gymru wedi ymgyrchu fel bod dylanwadwyr a\u2019r rhai sydd yn gwneud y penderfyniadau pan ddaw at iechyd meddwl a gwleidyddiaeth yn clywed y gorchmynion yma.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae eiriolwyr ifanc EMED wedi bod yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gysylltu gyda gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys ysgrifennu llythyrau ac e-byst i Aelodau\u2019r Cabinet a Gweinidogion <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/\">Llywodraeth Cymru<\/a>, a mynychu gweithdai wedi\u2019i gyflwyno gan <a href=\"https:\/\/www.complantcymru.org.uk\/\">Gomisiynydd Plant Cymru.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Maent wedi cynnal cyfarfodydd a fforymau trafod gyda rhanddeiliaid i godi ymwybyddiaeth o\u2019r prosiect a\u2019n nodau.<\/p>\n\n\n\n<p>Y digwyddiad mwyaf dylanwadol oedd cynhadledd ar-lein cynhaliwyd ar 8fed Mehefin 2023. Roedd y digwyddiad pedair awr ar-lein yn canolbwyntio ar dri phrif faes oedd yn bwysig i\u2019r 7 person ifanc sydd yn rhan o\u2019r prosiect. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gweithdy 1 <\/strong>\u2013 yn archwilio gofal iechyd meddwl fel claf mewnol i bobl ifanc yng Nghymru. Rhannodd dau eiriolwr ifanc, Martha a Rain, eu hanes personol o fod yng ngofal claf mewnol, yn arwain at drafodaethau am yr hyn aeth yn dda a\u2019r hyn gellir ei wella. Hwyluswyd y gweithdy gan <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/ACoAAAoDrzcBOXVtuHORatB_gi08FiB8kakHlWw\">Dr. Euan Hails,<\/a> a dderbyniodd MBE yn Rhestr Anrhydeddau Flwyddyn Newydd y Frenhines yn 2022 am ei wasanaethau i iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru.  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gweithdy 2 <\/strong>\u2013 yn amlygu sut gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo iechyd meddwl da. Eglurodd <a href=\"https:\/\/www.promo.cymru\/staff\/andrew-collins\/?lang=cy\">Andrew Collins<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.promo.cymru\/staff\/lucy-palmer\/?lang=cy\">Lucy Palmer<\/a>, arbenigwyr digidol yn ProMo Cymru, bod angen i wasanaethau fod ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel y gallant gynnig cymorth i bobl ifanc yn y llefydd maent yn treulio\u2019u hamser. Canolbwyntiwyd ar sut gall sefydliadau dorri trwy\u2019r s\u0175n cynnwys niweidiol ar-lein a bod yno i gynnig cymorth i bobl ifanc. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gweithdy 3 <\/strong>\u2013 yn amlygu\u2019r <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/fframwaith-nyth-iechyd-meddwl-lles-cyflwyniad?_gl=1*1bhcd83*_ga*MTI0NjYwMzk2NS4xNzI3MzQ3NTI4*_ga_L1471V4N02*MTcyNzc5NzYxNy4yLjAuMTcyNzc5NzYxNy4wLjAuMA..\">rhwydwaith NYTH<\/a> a sut mae hwnnw\u2019n gwneud gwahaniaeth mawr gydag ymyrraeth gynnar a gofal atal yng Nghymru. Cyflwynwyd y sesiwn gan <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/ACoAADC9PecBYbYNvO3WwFSt75XPdoHNwV-x788\">Millie Boswell,<\/a> Arweinydd gweithredu NYTH Llywodraeth Cymru. Eglurodd sut y mae hi\u2019n gweithredu\u2019r fframwaith NYTH i greu dull system gyfan i wella gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant i fabanod, plant a phobl ifanc. Rhannodd Josh a pherson ifanc arall, dau eiriolwr ifanc EMED, eu hanes o sut mae cymorth ymyrraeth gynnar dda yn edrych a sut mae hyn wedi helpu yn eu hadferiad.   <\/p>\n\n\n\n<p>Roedd dros 30 o weithwyr proffesiynol o sefydliadau cyhoeddus a trydydd sector wedi mynychu\u2019r gynhadledd, gan gynnwys CAMHS, Llywodraeth Cymru, Platfform, Barnardo\u2019s, Mind, GIG Cymru, Mind Casnewydd, Y Fenter, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Roedd pawb yn ymgysylltu\u2019n dda ac wedi gadael adborth positif iawn, gan gynnwys: <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>\u201cDyma\u2019r gynhadledd ar-lein gorau i mi fynychu\u201d.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>\u201cWrth fy modd clywed yn syth gan y bobl ifanc. Roedd hwn mor bwerus ac atyniadol, ac wedi synnu pa mor hyderus a huawdl oeddent o ystyried pwnc mor heriol a phersonol. Da iawn wir ar eich gwaith yn ymgysylltu \u00e2 nhw; mae\u2019n amlwg eu bod yn gallu ymddiried ynoch chi ac yn teimlo eu bod wedi\u2019u grymuso!\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/IMG_3405-1024x768.jpg\" alt=\"Pedwar person yn eistedd ar soffa o flaen cloc.\" class=\"wp-image-17871\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/IMG_3405-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/IMG_3405-300x225.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/IMG_3405-768x576.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/IMG_3405-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/IMG_3405-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Canlyniadau<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae newid polis\u00efau yn gallu bod yn broses hir iawn. Ond, rydym yn teimlo fel bod y prosiect Ein Meddyliau Ein Dyfodol (Cymru) wedi cysylltu pobl ifanc gyda\u2019r dylanwadwyr a\u2019r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau yn llwyddiannus, a\u2019u bod wedi gwrando ar eu profiadau ac am symud hyn ymlaen wrth ystyried newidiadau polisi. <\/p>\n\n\n\n<p>Rhannodd un rhanddeiliaid:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>\u201cFel rhywun sydd yn gweithio i CAMHS yn Llywodraeth Cymru, nid oes gen i gysylltiad \u00e2 phobl ifanc, felly mae\u2019r hyn dwi wedi\u2019i ddysgu yn si\u0175r o fod ar flaen y meddwl pan fyddaf mewn cyfarfodydd ac yn gwneud gwaith o hyn ymlaen\u201d.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r eiriolwyr ifanc EMED yn falch iawn o\u2019u gwaith ymgyrchu ac wedi mynegi sut mae\u2019r prosiect Ein Meddyliau Ein Dyfodol wedi helpu iddynt gynyddu hyder ac wedi bod yn gymorth wrth wella\u2019u hiechyd meddwl.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd un aelod o Gaerdydd, sydd yn 19 oed, \u201cRoeddwn eisiau ymuno i gyfarfod \u00e2 phobl ifanc arall gyda chefndir tebyg i mi, sydd \u00e2 safbwyntiau a barn debyg am wasanaethau a gwella gwasanaethau\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae llawer ohonynt bellach yn rhan o brosiectau iechyd meddwl eraill, fel \u2018Don\u2019t Touch \u2013 Tell\u2019 (Adferiad Recovery), Bwrdd Cynghori\u2019r Senedd, Ymyrraeth Gynnar yn y Gwasanaethau Seicosis yng Ngwent (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan), Cyngor Ieuenctid Caerdydd, gr\u0175p strategol Mind, a gr\u0175p strategol Blooming Change.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhai wedi penderfynu ceisio cael cymwysterau ac wedi cofrestru ar gyrsiau fel cwrs mentora cyfoed NYAS a chwrs cwnsela yng Ngholeg Caerdydd a\u2019r Fro.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyfwelwyd yr eiriolwyr ifanc EMED i helpu mesur effaith y prosiect. Mae\u2019r fideo yma yn amlygu\u2019r newidiadau positif mae pobl ifanc wedi\u2019i weld mewn gwasanaethau yng Nghymru, a hefyd yn rhoi cipolwg o gynnydd personol y bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o\u2019r prosiect EMED. <\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Our Minds Our Future Outcomes\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/syFbnyBEdqY?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/OMOF-Eng-Logo.png\"><\/a><\/p>\n","protected":false},"featured_media":22191,"template":"","class_list":["post-20194","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Ein Meddyliau Ein Dyfodol - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ein Meddyliau Ein Dyfodol - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Ein Meddyliau Ein Dyfodol (EMED) yn brosiect sydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc i ddylanwadu ar y ffordd mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynllunio a\u2019u cynnal ledled y DU. Mae pobl ifanc yn dod at ei gilydd ar draws Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru, i godi llais cyfunol ar [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-10T14:56:30+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/OMOF.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2010\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1508\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/\",\"name\":\"Ein Meddyliau Ein Dyfodol - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/OMOF.jpg\",\"datePublished\":\"2024-05-22T18:26:21+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-10T14:56:30+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/OMOF.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/OMOF.jpg\",\"width\":2010,\"height\":1508},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Projects\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/projects\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Ein Meddyliau Ein Dyfodol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ein Meddyliau Ein Dyfodol - ProMo Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Ein Meddyliau Ein Dyfodol - ProMo Cymru","og_description":"Mae Ein Meddyliau Ein Dyfodol (EMED) yn brosiect sydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc i ddylanwadu ar y ffordd mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynllunio a\u2019u cynnal ledled y DU. Mae pobl ifanc yn dod at ei gilydd ar draws Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru, i godi llais cyfunol ar [&hellip;]","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2025-07-10T14:56:30+00:00","og_image":[{"width":2010,"height":1508,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/OMOF.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/","name":"Ein Meddyliau Ein Dyfodol - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/OMOF.jpg","datePublished":"2024-05-22T18:26:21+00:00","dateModified":"2025-07-10T14:56:30+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/OMOF.jpg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/OMOF.jpg","width":2010,"height":1508},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/ein-meddyliau-ein-dyfodol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Projects","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/projects\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Ein Meddyliau Ein Dyfodol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/20194","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22191"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20194"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}