{"id":20304,"date":"2023-02-08T00:00:00","date_gmt":"2023-02-08T00:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/?post_type=resource&#038;p=20304"},"modified":"2026-02-02T12:44:04","modified_gmt":"2026-02-02T12:44:04","slug":"sut-i-arwain-tim-digidol","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/","title":{"rendered":"Sut i Arwain T\u00eem Digidol"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rydych chi angen cyflawni prosiect. Mae gennych chi&#8217;r hyfforddiant ardystio ystwyth, y mapiau proses a mil o gardiau wrth gefn. Ond yn bennaf oll, mae gennych chi d\u00eem. Sut ydych chi&#8217;n cael y t\u00eem yma i&nbsp; gyflawni?<\/h3>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Nid ydych chi! Rydych yn eu galluogi nhw i wneud.<\/p>\n\n\n\n<p>Syml?<\/p>\n\n\n\n<p>Felly sut ydych chi&#8217;n arwain sefydliad digidol llwyddiannus heb fod yn fos ar bawb? Sut ydych chi&#8217;n rhannu&#8217;r cyfrifoldeb, y gogoniant a&#8217;r manteision o gyflawni prosiect digidol teg?<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gennym rywfaint o brofiad o gyflawni prosiectau. Mae Outlandish Co-operative, busnes y mae gweithwyr yn berchen arno, yn darparu cynnyrch digidol ar gyfer sefydliadau sydd eisiau newid y byd. Dros ein 10 mlynedd o fodolaeth, rydym wedi dysgu llawer iawn o bethau. Ac rydym wedi dysgu&#8217;r pethau yma wrth roi cynnig arnynt. Rydym wedi cymryd ychydig o risgiau pwyllog, wedi bod yn barod i gyfaddef pan fydd pethau ddim yn llwyddiannus, ac wedi newid pethau. O ganlyniad, rydym wedi dysgu sut i weithio fel t\u00eem i sicrhau canlyniadau digidol da.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma ganllaw cyflym iawn i bedwar piler cynnyrch digidol effeithiol:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Strategaeth: sefydlu nod a rennir<\/li>\n\n\n\n<li>Gwneud penderfyniadau: bod yn glir sut y gwneir penderfyniadau<\/li>\n\n\n\n<li>Bod yn agored i ddysgu: ailadrodd a gwella yn hytrach nag gweld bai<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfathrebu: gwrando gweithredol ac empathi<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Wrth wneud y pethau yma rwyf wedi dysgu bod yr holl bileri yn hanfodol ar gyfer creu t\u00eem (digidol neu beidio) llwyddiannus, ymreolus, sydd yn canolbwyntio ar gyflenwi. A th\u00eem llawer hapusach a bodlon hefyd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Os ydych chi&#8217;n gwneud un peth yn unig: Penderfynwch ar nod gyda&#8217;ch gilydd<\/h4>\n\n\n\n<p>O safbwynt prosiect, mae&#8217;n hanfodol bod pob person yn gwybod yr hyn mae pawb yn ceisio cyflawni. Cytunwch arno gyda\u2019ch gilydd er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin a chynnil o\u2019r hyn sy\u2019n flaenoriaeth a\u2019r hyn sydd ddim. Dylai&#8217;r t\u00eem sy&#8217;n trafod ac yn cytuno ar y nod gynnwys y rhanddeiliaid allweddol; y rheolwyr prosiect, y datblygwyr, y dylunwyr, a&#8217;r rhanddeiliaid sefydliadol \u2026 ac yn bwysicaf oll, y bobl rydych chi&#8217;n creu rhywbeth ar eu cyfer &#8211; y defnyddwyr. Dewch \u00e2 phawb at ei gilydd, yr holl bobl y mae angen eu hymrwymiad, gwybodaeth ac arbenigedd &#8211; cymaint ag y gallech chi gael mewn ystafell (neu alwad Zoom erbyn hyn.)<\/p>\n\n\n\n<p>Cyfeiriwn at hyn fel <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Theory_of_change\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Damcaniaeth Newid<\/a>, ond fersiwn symlach nag y mae nifer o elusennau yn ei defnyddio ar gyfer eu strategaeth gyffredinol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhowch o leiaf cwpl o oriau i gytuno ar ddatganiad. Rwy&#8217;n addo i chi bydd yr amser yma&#8217;n werthfawr i ymwared ar ragdybiaethau ac unrhyw ddryswch ymhlith y t\u00eem. Gallech hefyd&nbsp; gyfeirio&#8217;n \u00f4l at hyn wrth gychwyn sgyrsiau anodd hwyrach ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Cytuno ar sut gwneir penderfyniadau (h.y. ble mae&#8217;r grym)<\/h4>\n\n\n\n<p>Grym yw&#8217;r broblem amlwg yn yr ystafell ran amlaf. Mae yno o hyd, yn rhywle, rywsut, ac mae effaith deinameg grym rhwng pobl yn anfesuradwy. Ac o fewn sefydliadau yn enwedig, anaml iawn y byddwn yn s\u00f4n amdano hyd yn oed. (Gallwch chi ddweud yr un peth am ganlyniad anghymesur grym, cyfrifoldeb.)<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn eich herio chi i ddod \u00e2\u2019r broblem yma i&#8217;r amlwg ychydig&#8230; a gweld beth fydd yn digwydd. Un o&#8217;r ffyrdd symlaf o wneud hyn yw sefydlu&#8217;n gynnar iawn sut y bydd penderfyniadau&#8217;n cael eu gwneud o fewn y t\u00eem. Oes un person yn cael y gair olaf? Ydych chi&#8217;n pleidleisio? Ai consensws ydyw? Neu efallai gellir gwneud trwy \u2018gydsyniad\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwneud penderfyniadau ar sail cydsyniad yn egwyddor <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Theory_of_change\">sosiocrataidd<\/a> allweddol a dyma&#8217;r broses a ddefnyddir gan Outlandish i wneud pob penderfyniad allweddol yn y sefydliad. Mae&#8217;r broses yn rhoi llais i holl aelodau&#8217;r t\u00eem a chyfle strwythuredig i gyfrannu at y penderfyniad gyda&#8217;r nod o gael y penderfyniad gorau posibl ar yr amser penodol i symud y prosiect ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwneud penderfyniadau ar sail cydsyniad yn ategu methodolegau ystwyth yn hynod o dda \u2013 yn enwedig yn y cyfnod cynllunio sbrint. Mae&#8217;n cefnogi ac yn hyrwyddo pawb i gael eu clywed. Mae&#8217;n cydnabod beth bynnag maen nhw&#8217;n teimlo sy&#8217;n werthfawr, ac mae&#8217;n caniat\u00e1u i wahaniaethau gael eu hintegreiddio.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallech chi ddefnyddio unrhyw ddull gwneud penderfyniadau sy&#8217;n gweddu orau i&#8217;r t\u00eem ar sefydliad wrth gwrs. Mae bod yn glir o&#8217;r cychwyn cyntaf ar sut y disgwylir i benderfyniadau gael eu gwneud yn dod ag eglurder a strwythur i&#8217;r t\u00eem.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylid hefyd cofio nad gwneud penderfyniadau yw\u2019r unig ffordd y mae grym yn cael ei weithredu \u2013 mae gan <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Steven_Lukes#:~:text=The%20three%20dimensions%20of%20power,-One%20of%20Lukes&amp;text=This%20theory%20claims%20that%20power,making%20power%2C%20and%20ideological%20power.&amp;text=Lukes%20claims%20that%20a%20full,excluded%20by%20the%20political%20process.\">Steven Lukes<\/a> safbwyntiau diddorol am y &#8216;tri dimensiwn grym&#8217; \u2013 grym gwneud penderfyniadau, grym peidio \u00e2 gwneud penderfyniadau, a grym ideolegol. Yn aml, yr hyn sydd ddim yn cael ei benderfynu (nid yn agored) sydd yn achosi&#8217;r problemau mwyaf.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Creu meddylfryd &#8216;dysgu bob amser&#8217;.<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae egwyddorion sosiocrataidd a methodolegau ystwyth eto yn mynd law yn llaw yma. Gadewch i&#8217;ch t\u00eem ailadrodd, a chael rhai pethau&#8217;n anghywir, a siarad amdano a meddwl am ffyrdd i wella. Fel hyn, bydd eich t\u00eem yn dysgu ac yn datblygu heb i chi orfod eu tywys, ac rydych chi&#8217;n sicr o ddysgu llawer iawn hefyd.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>\u00d4l-weithredu&#8217;n aml, ble mae&#8217;r t\u00eem cyfan yn cael amser i adlewyrchu ar lwyddiant y sbrint neu gyfnod allweddol. Mae&#8217;r rhain yn helpu i godi camau gwelliant syml a sicrhau bod y t\u00eem i gyd yn cael ei glywed: <a href=\"https:\/\/www.teamretro.com\/retrospectives\/mad-sad-glad-retrospective\/\">https:\/\/www.teamretro.com\/retrospectives\/mad-sad-glad-retrospective\/<\/a><\/li>\n\n\n\n<li>Buddsoddi&#8217;r amser sydd ei angen i weithredu&#8217;r hyn a ddaw o&#8217;r \u00f4l-weithredu yma. Nid yw&#8217;n ddigon i wneud amser i godi&#8217;r hyn gellir ei wella. Mae angen i chi weithredu ar y gwelliannau yma, neu&#8217;r un pethau yn codi bob tro. Mae hyn yn ddiflas ac yn wastraff llwyr o amser pawb.<\/li>\n\n\n\n<li>Byw&#8217;r brif gyfarwyddeb ystwyth o ddifrif a&#8217;i weithredu yn eich cyfarfodydd:<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>\u201cWaeth beth rydyn ni\u2019n ei ddarganfod, rydym yn deall ac yn wirioneddol credu bod pawb wedi gwneud y gwaith gorau y gallant, o ystyried yr hyn y gwyddant ar y pryd, eu sgiliau a\u2019u galluoedd, yr adnoddau sydd ar gael, a\u2019r sefyllfa wrth law.\u201d<\/em> \u2013 Norm Kerth, Project Retrospectives: A Handbook for Team Review<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Cofiwch nad yw sicrwydd a dysgu yn mynd law yn law yn gyfforddus: os yw pobl 100% yn hyderus eu bod yn mynd i gyflawni rhywbeth, gall awgrymu rhai o&#8217;r canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae&#8217;r person yn gwneud yr union beth yma bob dydd gyda chanlyniadau cyson ac felly&#8217;n gallu rhagweld y canlyniad yn rhesymol ac yn hyderus<\/li>\n\n\n\n<li>Nid yw&#8217;r nod yn uchelgeisiol<\/li>\n\n\n\n<li>Nid yw&#8217;r risgiau a&#8217;r cymhlethdod wedi&#8217;u hystyried <em>(psst, mae&#8217;n debyg mai hwn yw&#8217;r un)<\/em><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Yr un sy&#8217;n sail i&#8217;r cyfan: Buddsoddwch amser i ddeall eich gilydd a gwrando<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae pob munud rwyf wedi buddsoddi i gyfathrebu&#8217;n effeithiol \u00e2 phobl wedi talu&#8217;n \u00f4l mewn sawl ffordd. Nid siarad \u00e2 phobl yw cyfathrebu, mae&#8217;n ymwneud yn bennaf \u00e2 gwrando. Os ydych chi&#8217;n gwrando&#8217;n gywir, byddech yn dechrau deall eich gilydd yn well, a bydd hyn yn annog pobl i gael ffydd ynoch, yn creu didwylledd ac yn meithrin gallu&#8217;r t\u00eem i gydweithio&#8217;n effeithiol gydag ymreolaeth a rhyddid.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw&#8217;n waith diriaethol, sy&#8217;n cael ei yrru gan dasgau nac, hyd yn oed, yn waith mesuradwy. Ond mae&#8217;n hynod fuddiol i&#8217;r t\u00eem, y prosiect a&#8217;r bobl. Bydd buddsoddi&#8217;r amser yma cyn unrhyw wrthdaro yn arwain at atal gwrthdaro yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond beth yw ystyr hyn mewn gwirionedd? Sut ydych chi&#8217;n buddsoddi amser i feithrin dealltwriaeth?<\/p>\n\n\n\n<p>Yn gyntaf, peidiwch \u00e2 neilltuo amser arbennig ar gyfer meithrin dealltwriaeth. Dylai hyn fod yn rhywbeth sydd yn cael ei wneud bob munud o bob dydd. Bydd yr holl egwyddorion uchod yn helpu i gefnogi pobl i wrando a deall ei gilydd. Ond wedyn hefyd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cynnal sesiynau adeiladu t\u00eem arbennig (ond nid helfa drysor yn unig) &#8211; fel gosod y nod, ond hefyd o bosib, hyfforddiant NVC (cyfathrebu di-drais) neu sesiynau yn ymwneud \u00e2 deall math o berson.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwnewch waith p\u00e2r \u2013 os oes problemau, neu os oes parau neu grwpiau bach pwysig o fewn y t\u00eem, hwyluswch sgyrsiau gyda nhw<\/li>\n\n\n\n<li>Sylwch ar aelodau tawelach y t\u00eem a holi nhw &#8211; ydyn nhw&#8217;n teimlo fel eu bod yn cael eu clywed?<\/li>\n\n\n\n<li>Mewn cyfarfodydd, ceisiwch grynhoi&#8217;r hyn y mae rhywun wedi&#8217;i ddweud yn \u00f4l \u2013 gallech wirio eich bod wedi eu clywed yn gywir a hefyd sicrhau bod y person yn gwybod eich bod chi wedi deall. Syml iawn, ychydig yn anodd ar y cychwyn, ond mae&#8217;n gweithio ac mae&#8217;n anhygoel faint o anghytuno sydd yn gallu dod o gamddealltwriaeth!<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Manteision yn erbyn Cost<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae hyn i gyd yn swnio fel ei fod yn llyncu amser, ac i gychwyn, mae&#8217;n cymryd mwy o amser ac ymdrech i sefydlu&#8217;r sylfeini yma. Ond gallaf rannu fod y gwaith yn fuddiol. Rwy&#8217;n hapusach fel person, yn fwy bodlon ac yn gallu gwneud pethau&#8217;n fwy rhydd a hyderus o fewn y timau rwy&#8217;n gweithio \u00e2 nhw. Fel perchennog busnes mae llai o recriwtio a throsiant staff. Ac mae cleientiaid yn (fwy) hapus a phrosiectau&#8217;n well.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw&#8217;r egwyddorion yma yn ryw wialen hud gall ddatrys yr holl broblemau&#8217;r t\u00eem, ond gallant eich helpu i ddeall y problemau yma a rhoi cyfle i chi weithio trwyddynt a&#8217;u gwneud cam yn well. Mae digon o waith ar \u00f4l i&#8217;n t\u00eem &#8211; byddem wastad yn waith ar y gweill &#8211; ac rydym yn dysgu sut i addasu drwy&#8217;r adeg<\/p>\n\n\n\n<p>Felly os ydych chi am gymryd camau bach i greu t\u00eem sy&#8217;n llai dibynnol arnoch chi &#8211; rhowch gynnig ar yr uchod a rhowch wybod i mi pa mor llwyddiannus oedd hyn.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Mae Abi yn aelod o Outlandish Co-operative ers 10 mlynedd. Mae&#8217;n gweithio ar lawer o brosiectau yn Outlandish o gynhyrchion data cymhleth i gynllunio a chyflwyno gweithdai yn ogystal \u00e2 goruchwylio cyllid mewnol a datblygu pobl. Cynt roedd yn gweithio i&#8217;r BBC ble bu&#8217;n datblygu prosiectau dysgu digidol ar gyfer BBC Learning a gweithio ar strategaeth cyfryngau cymdeithasol cychwynnol BBC World Service.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u200dY gweithwyr sydd yn berchen ar Outlandish Co-operative ac maent wedi bod yn cyflwyno prosiectau digidol i sefydliadau gyda chenhadaeth gymdeithasol ers 10 mlynedd. Cychwynnom gan ein bod yn teimlo&#8217;n rhwystredig yn gweithio mewn sefydliadau mawr (da ar y cyfan) a oedd yn aneffeithlon, yn araf i arloesi ac yn amhendant. Credom y gallem weithio&#8217;n gyflymach, yn well ac yn decach ein hunain. O\u2019r cychwyn cyntaf, gwyddom nad oeddem eisiau tyfu i fod yn asiantaeth enfawr a oedd yn gwneud elw. Roeddem am gael ein talu\u2019n deg am ein gwaith ac eisiau adeiladu pethau da, a ddim eisiau bod yn Brif Weithredwyr, Prif Swyddogion Technoleg, na Chyfranddalwyr (dim bwriad pechu neb). A dyna&#8217;n union y gwnaethom.<\/em><\/p>\n","protected":false},"featured_media":22956,"template":"","meta":{"_acf_changed":false,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2002],"class_list":["post-20304","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","resource-category-cael-cefnogaeth-eich-tim"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Sut i Arwain T\u00eem Digidol - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Sut ydych chi&#039;n cadw t\u00eem gyda&#039;i gilydd wrth gyflawni prosiect, tra&#039;n rhoi&#039;r ymreolaeth a&#039;r rhyddid angenrheidiol i arloesi i bawb?\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Sut i Arwain T\u00eem Digidol - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Sut ydych chi&#039;n cadw t\u00eem gyda&#039;i gilydd wrth gyflawni prosiect, tra&#039;n rhoi&#039;r ymreolaeth a&#039;r rhyddid angenrheidiol i arloesi i bawb?\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-02-02T12:44:04+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/abstract-digital-arrow-growth-progress.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1435\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/\",\"name\":\"Sut i Arwain T\u00eem Digidol - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/abstract-digital-arrow-growth-progress.jpg\",\"datePublished\":\"2023-02-08T00:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2026-02-02T12:44:04+00:00\",\"description\":\"Sut ydych chi'n cadw t\u00eem gyda'i gilydd wrth gyflawni prosiect, tra'n rhoi'r ymreolaeth a'r rhyddid angenrheidiol i arloesi i bawb?\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/abstract-digital-arrow-growth-progress.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/abstract-digital-arrow-growth-progress.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1435,\"caption\":\"Abstract digital arrow showing growth and progress\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Sut i Arwain T\u00eem Digidol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Sut i Arwain T\u00eem Digidol - ProMo Cymru","description":"Sut ydych chi'n cadw t\u00eem gyda'i gilydd wrth gyflawni prosiect, tra'n rhoi'r ymreolaeth a'r rhyddid angenrheidiol i arloesi i bawb?","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Sut i Arwain T\u00eem Digidol - ProMo Cymru","og_description":"Sut ydych chi'n cadw t\u00eem gyda'i gilydd wrth gyflawni prosiect, tra'n rhoi'r ymreolaeth a'r rhyddid angenrheidiol i arloesi i bawb?","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2026-02-02T12:44:04+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1435,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/abstract-digital-arrow-growth-progress.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/","name":"Sut i Arwain T\u00eem Digidol - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/abstract-digital-arrow-growth-progress.jpg","datePublished":"2023-02-08T00:00:00+00:00","dateModified":"2026-02-02T12:44:04+00:00","description":"Sut ydych chi'n cadw t\u00eem gyda'i gilydd wrth gyflawni prosiect, tra'n rhoi'r ymreolaeth a'r rhyddid angenrheidiol i arloesi i bawb?","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/abstract-digital-arrow-growth-progress.jpg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/abstract-digital-arrow-growth-progress.jpg","width":2560,"height":1435,"caption":"Abstract digital arrow showing growth and progress"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-arwain-tim-digidol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Sut i Arwain T\u00eem Digidol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/20304","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22956"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20304"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20304"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=20304"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}