{"id":20322,"date":"2023-02-08T00:00:00","date_gmt":"2023-02-08T00:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/?post_type=resource&#038;p=20322"},"modified":"2024-10-10T09:31:24","modified_gmt":"2024-10-10T08:31:24","slug":"diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/","title":{"rendered":"Diogelwch Seicolegol: Sut i wneud trawsnewid digidol yn haws i staff eich elusen\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae diogelwch seicolegol yn gwella perfformiad t\u00eem. Mae\u2019n werthfawr iawn i dimau sydd yn cydweithio ar brosiectau digidol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adnodd yma ar gyfer:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Uwch arweinwyr sydd eisiau creu\u2019r amodau gorau ar gyfer <a href=\"https:\/\/www.thecatalyst.org.uk\/what-we-mean-by-digital\">trawsnewid digidol<\/a> yn eu helusen\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Arweinwyr t\u00eem sydd eisiau cefnogi timau i berfformio\u2019n dda\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Aelodau t\u00eem\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Rhanddeiliaid sydd eisiau cyfrannu at ddiwylliant t\u00eem agored a chynhyrchiol\u00a0\u00a0<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n gosod allan:&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Beth yw diogelwch seicolegol?\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Manteision i elusennau\u00a0\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Sut mae\u2019n galluogi trawsnewid digidol\u00a0\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Sut allwch chi greu diogelwch seicolegol fel arweinydd neu aelod o d\u00eem\u00a0<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth yw diogelwch seicolegol?&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Diffiniad&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p>Amy Edmondson fathodd y <a href=\"https:\/\/amycedmondson.com\/psychological-safety\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">term diogelwch seicolegol.<\/a> Mae hi\u2019n ei ddiffinio fel \u2018<em>cred bod neb am gael eu cosbi neu eu cywilyddio am godi syniadau, cwestiynau, pryderon neu gamgymeriadau, a bod y t\u00eem yn mentro i gymryd risgiau rhyngbersonol.\u2019&nbsp;<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>\u201c<em>Diogelwch seicolegol: cred bod neb am gael eu cosbi neu eu cywilyddio am godi syniadau, cwestiynau, pryderon neu gamgymeriadau, a bod y t\u00eem yn mentro i gymryd risgiau rhyngbersonol.\u201d &#8211; <\/em>Amy Edmondson&nbsp;<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Felly mae diogelwch seicolegol yn eich galluogi i fod yn onest. Fedrwch chi rannu ac archwilio eich methiannau yn ogystal \u00e2\u2019ch llwyddiannau. Rydych yn teimlo\u2019n hyderus i wneud penderfyniadau. Rydych yn gwybod os aiff<strong> <\/strong>rhywbeth o\u2019i le, bydd pobl yn ei weld fel arbrawf sydd wedi methu, hynny yw, cyfle i ddysgu gwers.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Nid dim ond chi sydd angen teimlo fel hyn &#8211; ond pawb o\u2019ch cwmpas chi hefyd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pan nad oes diogelwch seicolegol&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p>Cymharwch yr uchod i beth sy\u2019n digwydd<strong> <\/strong>pan nad oes diogelwch seicolegol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r rhan fwyaf ohonom wedi profi diwylliant o<strong> <\/strong>rhoi bai<strong> <\/strong>yn ein bywydau gwaith neu bersonol.<strong> <\/strong>Mewn diwylliant o rhoi bai, mae diogelwch seicolegol yn isel. Mae gan bobl ofn gwneud camgymeriadau. Maent yn gwybod pan aiff rhywbeth o\u2019i le, bydd pobl yn meddwl yn syth <em>am<\/em> <em>bwy sy\u2019n gyfrifol<\/em>. Mewn diwylliant fel hyn, mae pobl yn amharod i wneud penderfyniadau. Byddant yn gorliwio llwyddiannau ac yn cuddio methiannau.<strong>\u00a0<\/strong>\u00a0<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pan mae diogelwch seicolegol yn bresennol&nbsp;&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p>Mewn diwylliant gyda diogelwch seicolegol yn uchel mae rhywbeth gwahanol yn digwydd. Mae pobl yn trin canlyniadau<strong> <\/strong>annymunol mewn ffordd wahanol. Mae pawb yn cydnabod bod canlyniadau annymunol yn anochel. Felly nid yw pobl sy\u2019n gwneud camgymeriadau <em>yn haeddu cael y bai.<\/em>\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Yn hytrach, mae pawb yn rhannu\u2019r gred o \u2018drin popeth fel arbrawf\u2019. Mewn geiriau eraill, mae methu yn gyfle i ddysgu a dangos chwilfrydedd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae diogelwch seicolegol yn golygu bod pobl yn teimlo\u2019n hyderus yn cymryd lefelau cymedrol o risg. Maent yn:&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gallu bod yn fwy agored am eu gwaith\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Gallu rhannu gwir ganlyniadau eu gwaith, y da a\u2019r drwg\u00a0\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Fwy gonest ac adlewyrchol\u00a0\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Gofyn mwy o gwestiynau\u00a0\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Yn fwy tebygol o herio\u2019r drefn arferol\u00a0\u00a0<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">4 mantais i elusennau&nbsp;&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae yna lawer o fanteision i elusennau wrth gynyddu diogelwch seicolegol o fewn eu timau.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">1. Mwy o wytnwch\u00a0\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r tirwedd i elusennau yn newid yn gyson, ac mae adeiladu gwytnwch yn helpu timau i ymateb i hyn. Mae timau sydd \u00e2 diogelwch seicolegol uchel yn ymateb yn gyflymach i newid. Maent yn dangos gwytnwch pan fu ffactorau allanol yn newid. Maent yn ymateb i heriau gyda hyder ac agwedd gadarnhaol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">2. Cynyddu arloesedd\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae timau sydd \u00e2 lefelau uchel o ddiogelwch seicolegol yn dda yn arloesi\u2019n gyson. Talwch sylw i elusennau sy\u2019n adeiladu capasiti newydd neu\u2019n dylunio ffyrdd newydd o weithio!&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">3. Cynyddu llesiant\u00a0\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae diwylliant o ddiogelwch seicolegol yn ei wneud yn haws i aelodau o staff fod yn onest ac yn agored. Mae hyn yn cefnogi llesiant unigolion a thimau.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">4. Gwella dysgu a datblygu\u00a0\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae diogelwch seicolegol yn annog dysgu effeithiol, i dimau ac i unigolion.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Google wedi profi effaith gadarnhaol diogelwch seicolegol gyda <a href=\"https:\/\/psychsafety.co.uk\/googles-project-aristotle\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Phrosiect Aristotle.<\/a> Roeddent wedi astudio 180 o dimau er mwyn darganfod pa nodweddion oedd yn arwain at berfformiad da. Diogelwch seicolegol&nbsp; oedd y dangosydd mwyaf dibynadwy o d\u00eem oedd yn perfformio\u2019n dda.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut mae diogelwch seicolegol yn galluogi trawsnewid digidol&nbsp;&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae diogelwch seicolegol yn arbennig o bwysig i dimau trawsnewid digidol o fewn elusen.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Delio gyda chymhlethdodau&nbsp;&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae trawsnewid digidol yn broses gymhleth. Mae\u2019n amhosib defnyddio eich dull arferol o weithio a bod yn hyderus eich bod am lwyddo. Mae angen i chi <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/resource\/the-philosophy-and-benefits-of-iterative-development\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ddysgu ac addasu wrth i chi fynd ymlaen.<\/a><strong>\u00a0<\/strong>\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>A beth ydyn ni&#8217;n gwybod sy&#8217;n helpu timau i ddod yn dda am ddysgu ac addasu\u2026? <strong>Diogelwch seicolegol.&nbsp;<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwneud digidol yn llai arswydus&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae yna sawl agwedd o waith digidol sydd yn dychryn rhai pobl. Mae\u2019n hawdd anghofio hyn os ydych chi\u2019n gweithio mewn r\u00f4l ddigidol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r egwyddorion, iaith ac arfer dda yn y maes digidol wedi newid dros amser. Bydd pobl sydd yn cydweithio gyda thimau digidol ddim bob amser yn ymwybodol o\u2019r newidiadau diweddaraf ac yn gallu poeni am wneud camgymeriadau.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><em>Dydyn ni ddim eisiau iddynt fod ag ofn.<\/em> Rydym eisiau eu croesawu &#8211; rydym angen eu syniadau, egni a chefnogaeth. Bydd canolbwyntio ar ddiogelwch seicolegol yn eich helpu i sicrhau\u2019r amodau yma.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Datgloi manteision amrywiaeth&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource\/sut-i-newid-eich-strategaeth-ddigidol-i-fod-yn-fwy-cynhwysol\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">adeiladu amrywiaeth i mewn i\u2019ch strategaeth ddigidol<\/a> yn llwybr i lwyddiant. Mae cal amrywiaeth o brofiadau, barn a gwybodaeth yn cyfoethogi eich rhaglen.\u00a0\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Mae diogelwch seicolegol uchel yn annog pobl i rannu amrywiaeth eu profiadau. Mae\u2019n eu helpu i deimlo&#8217;n ddiogel ac wedi eu cefnogi a\u2019u croesawu.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut i feithrin diogelwch seicolegol fel aelod o d\u00eem&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae pawb yn gallu cyfrannu at adeiladu diogelwch seicolegol. Beth am gychwyn gyda awgrymiadau gall pawb eu defnyddio? Yna fe wnawn ni rannu cyfleoedd ar gyfer rheolwyr ac uwch arweinwyr.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">1. Byddwch yn agored\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p>Y peth cyntaf i\u2019w wneud er mwyn meithrin diogelwch seicolegol yw<strong> <\/strong>dod i arfer<strong> <\/strong>bod yn agored ac yn onest.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Does dim rhaid i chi ddatgelu pethau mawr bob dydd. Yn hytrach, gwnewch bod yn agored yn arferiad. Byddwch yn agored pan nad yw rhywbeth wedi gweithio neu pan fyddwch wedi gwneud camgymeriad. Os nad ydych yn si\u0175r am rywbeth, <a href=\"https:\/\/medium.com\/wethecatalysts\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">archwiliwch eich gwaith yn gyhoeddus.<\/a>&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Drwy wneud hyn yn arferiad, rydych yn normaleiddio\u2019r ymddygiad yma o fewn eich t\u00eem. Fel mae eraill yn sylwi ar eich ymddygiad byddent yn teimlo\u2019n fwy cyfforddus yn gwneud yr un peth.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">2. Gwnewch le i eraill\u00a0\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p>Ym mhob ystafell, bydd rhai pobl yn fwy swnllyd ac eraill yn dawelach. Mae\u2019r rhai sydd yn dawelach yn gorfod cyfrannu&#8217;r un faint a\u2019r unigolion mwy swnllyd. Dyma un o ganfyddiadau Prosiect Aristotle. Fe welwyd bod gan nodweddion allblyg unigolion ddim cysylltiad gyda effeithlonrwydd t\u00eem.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Gydag ychydig o feddwl, fe allwch chi helpu pawb yn yr ystafell deimlo\u2019n gyfforddus i gyfrannu at drafodaethau.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Weithiau, mae\u2019n fater o roi gofod i rywun arall. Neu yn lle gwneud cyfraniad arall eich hunain, beth am wahodd rhywun arall i mewn i\u2019r sgwrs.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Os mai chi sy\u2019n gyfrifol am drefnu trafodaeth, cynigiwch amryw o ffordd o gyfrannu. Casglwch syniadau gan bobl cyn, yn ystod ac ar \u00f4l y sesiwn.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">3. Modelwch yr her gefnogol&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae yna ffordd o herio\u2019r drefn bresennol heb ymosod ar unrhyw un. Gwrandewch, dewch o hyd i dir cyffredin, ac yna heriwch drwy ofyn cwestiynau ystyriol. Cynigiwch eich syniad fel posibilrwydd yn hytrach na phenderfyniad pendant.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn i gyd yn gosod sylfaen i\u2019ch t\u00eem anghytuno mewn modd cynhyrchiol. Yna fedrwch chi weithio gyda\u2019ch gilydd er mwyn canfod datrysiadau gwell.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">4. Ystyriwch popeth fel arbrawf&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae hyn er mwyn newid eich meddylfryd. Yn lle meddwl am fethiannau fel rhywbeth drwg, meddyliwch amdanynt fel cam ar y ffordd tuag at rywbeth gwell.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Siaradwch am fethiannau, ac anogwch eich t\u00eem i wneud yr un peth. Unwaith y byddwch chi\u2019n ail ddiffinio<strong> <\/strong>beth yw methu, fedrwch chi drin popeth fel arbrawf. O dan yr amodau yma bydd dim angen cuddio methiannau gan eu bod yn allweddol ar gyfer datblygu a gwella.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Darllenwch <a href=\"https:\/\/www.waterstones.com\/book\/mindset-updated-edition\/dr-carol-dweck\/9781472139955\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mindset gan Carol Dweck<\/a> (neu gwyliwch ei <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=_X0mgOOSpLU\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Ted Talk)<\/a> i ddysgu mwy.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut i feithrin diogelwch seicolegol fel rheolwr neu uwch arweinydd&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r argymhellion uchod, fe all arweinwyr wneud y canlynol:\u00a0<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">1. Addaswch i ffordd o weithio eich t\u00eem\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p>Fel arweinydd mae gennych gyfle i adeiladu arfer da i fewn i ffordd o weithio eich t\u00eem.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Meddyliwch am y ffordd fedrwch chi wneud yr argymhellion uchod yn rhan o weithredoedd eich t\u00eem. Ymgorfforwch<strong> <\/strong>nhw mewn agenda cyfarfodydd, adolygiadau perfformiad, prosesau anwytho a chyfweliadau gadael.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">2. Rhowch eich pennau ynghyd\u00a0\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p>Un o\u2019r nodweddion mwyaf pwerus fedrwch chi ei arddangos fel arweinydd yw gwrando ac ymgynghori. Wrth wrando ar bobl; byddant yn teimlo eich gwerthfawrogiad ohonynt ac yn teimlo\u2019n ddiogel i rannu a herio. Mae ymgynghori gyda\u2019ch cydweithwyr yn creu diogelwch seicolegol.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">3. Rhannwch newid mewn da bryd\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p>Fel arweinydd byddwch yn aml yn cael gwybod am newid cyn eich cydweithwyr. Bydd pobl yn aml yn teimlo bod newid ar y gweill neu yn clywed s\u00efon. Felly rhannwch wybodaeth gyda\u2019ch t\u00eem cyn gynted a bod modd gwneud.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Hyd yn oed os nad oes gennych y darlun llawn, rydych yn creu diogelwch seicolegol drwy rannu\u2019r hyn yr ydych yn ei wybod. Byddwch yn agored am yr hyn nad ydych yn ei wybod. Mae hyn yn well na cadw gwybodaeth i\u2019ch hyn am amser hir.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">4. Dangoswch bryder\u00a0\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p>Drwy ddangos pryder<strong> <\/strong>am eich cydweithwyr rydych yn dangos eich bod yn eu gweld nhw fel pobl. Gwnewch amser i rannu diweddariadau<strong> <\/strong>gyda aelodau o\u2019ch t\u00eem a gwelwch y gwerth o wneud hynny.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">5. Ystyriwch eich dull o arwain\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p>Roedd <a href=\"https:\/\/www.mckinsey.com\/capabilities\/people-and-organizational-performance\/our-insights\/psychological-safety-and-the-critical-role-of-leadership-development\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">astudiaeth gan Mckinsey<\/a>&nbsp; yn edrych ar y cysylltiad rhwng diogelwch seicolegol a dulliau o arwain. Fe ddarganfyddwyd bod arweinyddiaeth ymgynghorol a chefnogol yn creu diogelwch seicolegol&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd yr astudiaeth hefyd yn dangos:&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall arweinyddiaeth heriol greu diogelwch seicolegol o dan amodau penodol\u00a0\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Mae arweinwyr awdurdodaidd yn cael effaith ddrwg ar eu cydweithwyr\u00a0\u00a0<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Darllen pellach&nbsp;&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p>Dysgwch fwy am ddiogelwch seicolegol a sut i\u2019w feithrin yn eich elusen:&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/psychsafety.co.uk\/newsletter\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cylchlythyr gwych<\/a> Tom Geraghty am ddiogelwch seicolegol\u00a0\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Crynodeb o <a href=\"https:\/\/psychsafety.co.uk\/googles-project-aristotle\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Brosiect Aristotle<\/a> Google \u2013 oedd yn archwilio beth sy\u2019n gwneud t\u00eem effeithiol\u00a0\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/web.mit.edu\/curhan\/www\/docs\/Articles\/15341_Readings\/Group_Performance\/Edmondson%20Psychological%20safety.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Diogelwch Seicolegol ac Ymddygiad Dysgu mewn Timau Gwaith<\/a> \u2013 papur gan Amy Edmondson. Hi fathodd y term \u2018diogelwch seicolegol\u2019.\u00a0\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>TED talk Carol Dweck ar b\u0175er <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=_X0mgOOSpLU\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">meddylfryd twf.<\/a>\u00a0\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.mckinsey.com\/capabilities\/people-and-organizational-performance\/our-insights\/psychological-safety-and-the-critical-role-of-leadership-development\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Diogelwch seicolegol a r\u00f4l allweddol datblygiad arweinyddiaeth<\/a> gan Mckinsey.\u00a0\u00a0<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"featured_media":18599,"template":"","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2002],"class_list":["post-20322","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","resource-category-cael-cefnogaeth-eich-tim"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Diogelwch Seicolegol: Sut i wneud trawsnewid digidol yn haws i staff eich elusen\u00a0 - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Diogelwch Seicolegol: Sut i wneud trawsnewid digidol yn haws i staff eich elusen\u00a0 - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae diogelwch seicolegol yn gwella perfformiad t\u00eem. Mae\u2019n werthfawr iawn i dimau sydd yn cydweithio ar brosiectau digidol.&nbsp; Mae\u2019r adnodd yma ar gyfer:&nbsp; Mae\u2019n gosod allan:&nbsp;&nbsp; Beth yw diogelwch seicolegol?&nbsp; Diffiniad&nbsp; Amy Edmondson fathodd y term diogelwch seicolegol. Mae hi\u2019n ei ddiffinio fel \u2018cred bod neb am gael eu cosbi neu eu cywilyddio am godi [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-10-10T08:31:24+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabf27c9c7608ee8a8e4_63ce6b88d79b31384beba486_safety.jpeg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"801\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/\",\"name\":\"Diogelwch Seicolegol: Sut i wneud trawsnewid digidol yn haws i staff eich elusen\u00a0 - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabf27c9c7608ee8a8e4_63ce6b88d79b31384beba486_safety.jpeg\",\"datePublished\":\"2023-02-08T00:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2024-10-10T08:31:24+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabf27c9c7608ee8a8e4_63ce6b88d79b31384beba486_safety.jpeg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabf27c9c7608ee8a8e4_63ce6b88d79b31384beba486_safety.jpeg\",\"width\":1200,\"height\":801},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Diogelwch Seicolegol: Sut i wneud trawsnewid digidol yn haws i staff eich elusen\u00a0\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Diogelwch Seicolegol: Sut i wneud trawsnewid digidol yn haws i staff eich elusen\u00a0 - ProMo Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Diogelwch Seicolegol: Sut i wneud trawsnewid digidol yn haws i staff eich elusen\u00a0 - ProMo Cymru","og_description":"Mae diogelwch seicolegol yn gwella perfformiad t\u00eem. Mae\u2019n werthfawr iawn i dimau sydd yn cydweithio ar brosiectau digidol.&nbsp; Mae\u2019r adnodd yma ar gyfer:&nbsp; Mae\u2019n gosod allan:&nbsp;&nbsp; Beth yw diogelwch seicolegol?&nbsp; Diffiniad&nbsp; Amy Edmondson fathodd y term diogelwch seicolegol. Mae hi\u2019n ei ddiffinio fel \u2018cred bod neb am gael eu cosbi neu eu cywilyddio am godi [&hellip;]","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2024-10-10T08:31:24+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":801,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabf27c9c7608ee8a8e4_63ce6b88d79b31384beba486_safety.jpeg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/","name":"Diogelwch Seicolegol: Sut i wneud trawsnewid digidol yn haws i staff eich elusen\u00a0 - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabf27c9c7608ee8a8e4_63ce6b88d79b31384beba486_safety.jpeg","datePublished":"2023-02-08T00:00:00+00:00","dateModified":"2024-10-10T08:31:24+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabf27c9c7608ee8a8e4_63ce6b88d79b31384beba486_safety.jpeg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabf27c9c7608ee8a8e4_63ce6b88d79b31384beba486_safety.jpeg","width":1200,"height":801},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelwch-seicolegol-sut-i-wneud-trawsnewid-digidol-yn-haws-i-staff-eich-elusen\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Diogelwch Seicolegol: Sut i wneud trawsnewid digidol yn haws i staff eich elusen\u00a0"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/20322","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18599"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20322"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20322"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=20322"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}