{"id":20337,"date":"2023-02-08T00:00:00","date_gmt":"2023-02-08T00:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/?post_type=resource&#038;p=20337"},"modified":"2024-10-14T14:57:44","modified_gmt":"2024-10-14T13:57:44","slug":"gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/","title":{"rendered":"Yr hyn gall y GDS ei ddysgu i ni am arwain newid digidol"},"content":{"rendered":"\n<p>Ychydig fisoedd yn \u00f4l roeddwn eisiau curadu rhywfaint o gyngor i gleient. Roedd eu sefydliad yng nghamau cynnar trawsnewidiad digidol \u2013 sef symud i ddefnyddio technoleg mewn ffordd fwy strategol ar gyfer y sefydliad cyfan. Roedd y sefydliad yn fawr, yn hynod gymhleth, ac yn eithaf anhylaw mewn rhai ffyrdd. Rwy\u2019n eiriolwr dros ddysgu gan eraill ble&#8217;n bosib, ac felly <a href=\"https:\/\/twitter.com\/_BobiRobson\/status\/1349762439525531648\">gofynnais ar Twitter<\/a> yn y gobaith o drefnu coffi rhithiol gyda rhai o\u2019r bobl a oedd yng Ngwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) o\u2019r cychwyn cyntaf. Cefais fy ysgogi i ymestyn allan a dysgu gan y rhai oedd yno oherwydd maint y sefydliad roedd y GDS yn chwilio i gefnogi gyda gwasanaethau digidol, a&#8217;r effaith anhygoel mae creu hwn wedi cael ar y ffordd y mae sefydliadau sydd yn canolbwyntio ar y cyhoedd yn gweithio heddiw.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar y cychwyn, roedd y coffi rhithiol yma yn cael eu trefnu i lywio&#8217;r cyngor y byddwn o&#8217;n ei gynnig i&#8217;r cleient a&#8217;r gwaith y byddwn yn ei wneud gyda\u2019n gilydd i gadw trawsnewidiad y sefydliad i symud. Yn dilyn y ddau alwad cyntaf, gwyddwn fod rhaid rhannu\u2019r gwersi yma&#8217;n ehangach fel y gallai eraill gael eu hysbrydoli a&#8217;u harwain ganddynt hefyd. I rai, gall cychwyn meddwl am drawsnewid digidol ymddangos yn amhosib. Efallai bod eich t\u00eem yn fach, neu efallai mai chi ydyw. Fy ngobaith gyda&#8217;r blog yma yw rhoi dewis o offer a thechnegau i chi y gallwch chi roi cynnig arnynt yn eich sefydliad eich hun. Nid oes rhaid i chi wneud popeth gyda&#8217;i gilydd, meddyliwch am y rhain fel cynhwysion y gallwch eu defnyddio i roi hwb i&#8217;ch taith.<\/p>\n\n\n\n<p>Er nad oes yw un sefydliad wedi cael trawsnewidiad digidol 100% yn gywir (os ydych chi&#8217;n ymwybodol o un, yna rhannwch), mae GDS wedi bod yn un o&#8217;r enghreifftiau gorau ers blynyddoedd lawer, ac mae&#8217;r gwersi a ddysgwyd o&#8217;i greu bellach yn cael ei rannu trwy gefnogaeth sefydliadau fel CAST a Catalyst, yn ogystal \u00e2 mewn timau ar draws y sectorau elusennau, mentrau cymdeithasol a chyhoeddus.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth yw gwasanaeth digidol a sut mae&#8217;n wahanol i&#8217;r hyn sydd gennych chi nawr?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bwysig nodi bod yn rhaid i GDS gytuno\u2019n gyntaf beth oedd &#8216;gwasanaeth digidol&#8217; \u2013 a beth allai fod \u2013 o fewn llywodraeth. Ar gyfer y t\u00eem yma, byddai\u2019r &#8216;gwasanaeth digidol&#8217; bwriadir ei greu yn galluogi ac yn grymuso gweithwyr proffesiynol y llywodraeth i ddefnyddio offer digidol i ddarparu eu gwasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<p>Y nod oedd cyrraedd pwynt ble gallai&#8217;r sefydliad ehangach ddefnyddio digidol fel modd o wneud eu gwaith, yn hytrach na dibynnu ar adnoddau cyfyngedig. Er mwyn i hyn weithio, datblygwyd safonau gofynnol a fframweithiau ar gyfer pawb. Yn eich sefydliad, efallai bod hyn yn safon i wirio bod holl gynnwys y we yn cyrraedd oedran darllen y cytunwyd arno (gallech ddefnyddio <a href=\"https:\/\/hemingwayapp.com\/\">Hemingway Editor<\/a> i wirio).<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y blog yma yn archwilio\u2019r offer a\u2019r technegau a ddefnyddiwyd gan y t\u00eem GDS i greu eu safonau a\u2019u fframweithiau ac, yn bwysicaf oll, yr hyn oedd yn llwyddiannus pan ymgorfforwyd y rhain ar draws eu sefydliad mawr a chymhleth.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Tystiolaeth, tystiolaeth, tystiolaeth\u2026<\/h2>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Gwerth \/ Elw<\/h4>\n\n\n\n<p>Dangoswch <strong>werth \/ elw<\/strong> buddsoddi mewn gweithgaredd digidol strategol \u2013 nid oes rhaid i hyn fod yn ariannol! Gallai gwerth\/elw&#8217;r gwaith a wneir fod yn emosiynol &#8211; gan leihau llwyth gwaith aelod t\u00eem &#8211; neu&#8217;n ymarferol &#8211; gwneud gwybodaeth yn haws i&#8217;w ddarganfod ar eich gwefan. Mae\u2019n hawdd gweld bod arbedion ariannol wedi\u2019u gwneud, ond sut ydych chi\u2019n dangos tystiolaeth o\u2019r gwerth\/elw os yw&#8217;n emosiynol a\/neu\u2019n ymarferol?<\/p>\n\n\n\n<p>Yn aml byddaf yn defnyddio datganiad problem i wneud hyn; dyma dempled rwy&#8217;n defnyddio:<\/p>\n\n\n\n<p>Fel <strong>[rhowch ddisgrifiad o&#8217;r math o berson sydd \u00e2&#8217;r broblem]<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rwy&#8217;n <strong>[rhowch wybodaeth am y broblem]<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Pan<strong> [rhowch wybodaeth ynghylch pryd mae&#8217;r broblem yn bodoli]<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn wedi datrys y broblem hon pan <strong>[nodwch beth allai fod yn brofiad gwell i\u2019r person \u2013 ceisiwch wneud hyn yn rhywbeth gellir ei fesur]<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dyma enghraifft ohono:<\/p>\n\n\n\n<p>Fel <strong><em>gweinyddwr elusen<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rwy&#8217;n <strong><em>treulio llawer o&#8217;m hamser yn symud gwybodaeth o ffurflen bapur i gronfa ddata<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Pan <strong><em>fyddaf yn adolygu&#8217;r ceisiadau ar gyfer ein gwersyll haf elusennol<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn wedi datrys y broblem hon pan <strong><em>nad oes rhaid i weinyddwr elusen deipio&#8217;r ffurflenni papur i&#8217;r gronfa ddata ac mae&#8217;r gwallau mewn ceisiadau yn is.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dyma un enghraifft o sut y gallech dracio, mesur a dangos y cynnydd y mae eich sefydliad yn ei wneud; mae yna lawer, llawer, mwy (ond mae&#8217;n debyg mai erthygl arall yw honno!).<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mapio siwrne<\/h2>\n\n\n\n<p>I&#8217;r rhai ohonoch sydd wedi clywed am fap siwrne, mae&#8217;n debyg eich bod wedi darllen ychydig am gynllunio ac ymchwilio profiad defnyddiwr (UX). Ond, nid oes rhaid iddo fod yn ymarfer sydd wedi\u2019i neilltuo ar gyfer y person rydych chi\u2019n creu ar ei gyfer \u2013 gall fod o gymorth mawr i amlygu bylchau yn nhrefniant eich sefydliad, neu wasanaethau syml y mae pobl yn ceisio cael mynediad iddynt.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Enghraifft yn wynebu tuag allan:<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Mae person \u00e2 nam ar y golwg yn ceisio cael mynediad at y cymorth y mae eich elusen yn ei ddarparu. Maen nhw (neu berson cefnogol) yn ymweld \u00e2&#8217;ch gwefan i ddarganfod mwy. Maent eisiau archebu gweithdy; rhaid anfon e-bost i wneud hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Trwy fapio\u2019r profiad hwn, gallwch chi a\u2019ch t\u00eem weld ble mae&#8217;r bylchau yn eich gwasanaeth \u2013 ac yn ei dro, y problemau sydd angen eu datrys. Mae&#8217;r un peth yn wir gydag enghraifft fewnol. Pan fydd hyn yn cael ei lunio&#8217;n fwrdd stori (gweler isod) gallwch ddechrau cydymdeimlo \u00e2\u2019r person sydd eisiau mynediad i wasanaeth yr elusen a dechrau gweld beth allech chi ei wneud i leihau eu pryderon ac archwilio sut gellir eu cefnogi&#8217;n well ar y siwrne hon.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/60a275c5ae518a885e47a72d_image.png\" alt=\"Bwrdd stori o daith defnyddiwr ar gyfer person \u00e2 nam ar ei olwg sydd eisiau mynediad i wasanaeth cymorth elusen. Disgrifir y daith yn y testun uchod\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Bwrdd stori o daith defnyddiwr ar gyfer person \u00e2 nam ar ei olwg sydd eisiau mynediad i wasanaeth cymorth elusen. Disgrifir y daith yn y testun uchod.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Er enghraifft: Beth os yw ffrind wedi dweud wrth y person a oedd am gael mynediad at wasanaethau\u2019r elusen bod gwefan yr elusen yn gallu \u2018siarad \u00e2 nhw\u2019 a darllen yn uchel beth oedd ar y sgrin? Neu os mai dim ond dau glic oedd ei angen i archebu lle ar y digwyddiad?<\/p>\n\n\n\n<p>Cofiwch, gellir defnyddio&#8217;r gweithgaredd yma ar gyfer siwrneiau mewnol hefyd. Meddyliwch am y ffordd y mae timau&#8217;n gofyn am wyliau neu weithgareddau dysgu, neu sut maent yn hawlio costau.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Byddwch yn ymwybodol o &#8216;flinder nodyn post-it&#8217;<\/h2>\n\n\n\n<p>Gall newid fod yn flinedig, meddyliwch am yr holl newid yr ydych chi a\u2019ch sefydliad wedi gorfod mynd drwyddo yn ystod 2020 er mwyn rheoli a thrawsnewid i aros yn wydn trwy gyfnodau clo a llai o weithgareddau wyneb i wyneb. Mae&#8217;n debyg eich bod chi&#8217;n teimlo&#8217;n flinedig iawn \u00e2&#8217;r holl newid yma! Mewn sefydliadau ble mae &#8216;newid wedi bod yn dod ers sbel&#8217; bydd llawer o aelodau\u2019r t\u00eem yn teimlo\u2019n flinedig. Mae bod yn ymwybodol o&#8217;r blinder yma yn eich helpu i barhau i wneud newid positif yn eich sefydliad. Mae&#8217;n eich helpu i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r heriau a ddaw yn sgil hyn gyda dynoliaeth ac empathi.&nbsp; Ar ben hynny, mae rhannu gydag eraill ar gyfer ysbrydoliaeth yn gallu bod yn gynorthwyol, fel yn achos fy sgyrsiau gyda GDS.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod 2020, a 2021 cynnar, bu CAST a Catalyst yn gwneud rhywfaint o waith ysbrydoledig gydag elusennau ledled y DU i dynnu sylw at fanteision ailddefnyddio, datblygu <a href=\"https:\/\/www.thecatalyst.org.uk\/news\/service-recipes-moving-from-alpha-to-beta\">Ryseitiau Gwasanaeth<\/a>, a chefnogi elusennau i ddefnyddio technolegau ffynhonnell agored, a systemau dim cod, neu god isel, i brofi a datblygu syniadau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwch y newid hoffech chi ei weld<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych am weld newid, mae angen i chi brofi ei werth gyntaf. Y ffordd orau o wneud hyn yn fy marn i yw <strong>gwneud y newid yma eich hun<\/strong>. Os ydych am i eraill feddwl am y bobl y maent yn creu cynnwys neu&#8217;n adeiladu gwasanaeth ar eu cyfer, yna rhaid arwain trwy esiampl.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gweithio&#8217;n agored<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gweithio&#8217;n agored yn helpu i waredu&#8217;r ofn o greu heb i eraill wybod. Gall nodiadau wythnos, digwyddiadau &#8216;Dangos a Dweud&#8217;, cynlluniau prosiect cyhoeddus, a <a href=\"https:\/\/medium.com\/wethecatalysts\/charities-catch-the-working-in-the-open-bug-76491c60479f\">ffyrdd agored eraill o weithio<\/a> helpu i adrodd y stori a bod yn arf cyfeirio defnyddiol os \/ pan fydd pobl yn negyddol am eich prosiect am &#8216;nad oeddent yn gwybod amdano&#8217;. Nid yw postio blog yn ddigonol yn yr esiampl yma; mae&#8217;n rhaid cyhoeddi&#8217;n eang. Nid yn unig yw hyn yn helpu i ddileu ofn o&#8217;ch sefydliad, gall gweithio\u2019n agored helpu i ysbrydoli eraill, nid yn unig i wneud mwy, ond i geisio arbrofi ar eu taith ddigidol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cael eich arwain gan eich defnyddwyr<\/h2>\n\n\n\n<p>Nid yn unig yn y ffordd rydych chi&#8217;n datblygu gwasanaethau a chynnwys ar gyfer cynulleidfa allanol; i arwain trwy esiampl rhaid edrych ar ffyrdd gall defnyddwyr arwain eich gwaith mewnol hefyd. Mae&#8217;n eithaf derbyniol bellach bod gweithio gyda&#8217;r rhai sydd yn defnyddio&#8217;r gwasanaeth yn helpu i sicrhau gwasanaeth o werth sydd o gymorth iddynt. Rwy&#8217;n eirioli dros ddefnyddio&#8217;r un egwyddorion yn fewnol hefyd, gan sicrhau bod y bobl fydd yn rhan o ddatblygiad neu weinyddiaeth y gwasanaeth hefyd yn rhan o gynllunio&#8217;r prosesau y disgwylir iddynt eu dilyn. Mae&#8217;r profiad yn gallu bod yn un llawer gwell i bawb os ydych chi&#8217;n sicrhau bod eich timau, cefnogwr, a&#8217;r bobl rydych chi&#8217;n eu cefnogi yn rhan o&#8217;r broses trawsnewid &#8211; ac mae&#8217;n sicrhau y byddant yn dod gyda chi ar y siwrne, a <strong>byddant eisiau defnyddio a mabwysiadu&#8217;r<\/strong> hyn a ddaw ohono.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Hyfforddi a grymuso eraill yn y sefydliad i ddilyn eich arweiniad<\/h2>\n\n\n\n<p>Ni ellir cyflawni newid ar eich pen eich hun; bydd angen i chi rymuso eraill i ddod gyda chi ar y siwrne. Sicrhewch fod cyfleoedd dysgu i bawb mewn prosiectau, a&#8217;u&nbsp; hyfforddi (ble&#8217;n bosib) trwy reoli cymhlethdodau. Isod mae rhai enghreifftiau o\u2019r hyn a allai fod yn llwyddiannus i\u2019ch sefydliad:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cinio a dysgu (dylid caniat\u00e1u ac annog adegau eraill o&#8217;r diwrnod gwaith hefyd)<\/li>\n\n\n\n<li>Sesiynau Dangos a Dweud neu fwrdd dangos a dweud<\/li>\n\n\n\n<li>Llwybrau dysgu, cyrsiau, a chymunedau dysgu ar-lein<\/li>\n\n\n\n<li>Dogfennaeth a chanllawiau defnyddwyr\u200d<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Dyma uchafbwyntiau fy sgyrsiau a&#8217;m mhrofiad. Nid ydynt yn gyflawn o bell ffordd, ond rwy\u2019n gobeithio y byddant yn helpu i\u2019ch ysbrydoli neu roi\u2019r hyder i chi yn eich i helpu i symud eich sefydliadau ymlaen ar eu teithiau digidol.\u200d<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Delwedd gan <a href=\"https:\/\/pixabay.com\/users\/engin_akyurt-3656355\/?utm_source=link-attribution&amp;utm_medium=referral&amp;utm_campaign=image&amp;utm_content=2242264\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Engin Akyurt<\/a>&nbsp;o&nbsp;<a href=\"https:\/\/pixabay.com\/?utm_source=link-attribution&amp;utm_medium=referral&amp;utm_campaign=image&amp;utm_content=2242264\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Pixabay<\/a><\/p>\n","protected":false},"featured_media":18613,"template":"","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2002],"class_list":["post-20337","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","resource-category-cael-cefnogaeth-eich-tim"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Yr hyn gall y GDS ei ddysgu i ni am arwain newid digidol - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Detholiad o offer a thechnegau i chi roi cynnig arnynt yn eich sefydliad, yn seiliedig ar yr hyn a fu&#039;n llwyddiannus i Wasanaeth Digidol y Llywodraeth\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Yr hyn gall y GDS ei ddysgu i ni am arwain newid digidol - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Detholiad o offer a thechnegau i chi roi cynnig arnynt yn eich sefydliad, yn seiliedig ar yr hyn a fu&#039;n llwyddiannus i Wasanaeth Digidol y Llywodraeth\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-10-14T13:57:44+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac8ccf5a0ccbe0fb78b_60a285b2f955dc6acf6c706d_computer-2242264_1920.jpeg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1281\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/\",\"name\":\"Yr hyn gall y GDS ei ddysgu i ni am arwain newid digidol - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac8ccf5a0ccbe0fb78b_60a285b2f955dc6acf6c706d_computer-2242264_1920.jpeg\",\"datePublished\":\"2023-02-08T00:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2024-10-14T13:57:44+00:00\",\"description\":\"Detholiad o offer a thechnegau i chi roi cynnig arnynt yn eich sefydliad, yn seiliedig ar yr hyn a fu'n llwyddiannus i Wasanaeth Digidol y Llywodraeth\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac8ccf5a0ccbe0fb78b_60a285b2f955dc6acf6c706d_computer-2242264_1920.jpeg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac8ccf5a0ccbe0fb78b_60a285b2f955dc6acf6c706d_computer-2242264_1920.jpeg\",\"width\":1920,\"height\":1281},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Yr hyn gall y GDS ei ddysgu i ni am arwain newid digidol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Yr hyn gall y GDS ei ddysgu i ni am arwain newid digidol - ProMo Cymru","description":"Detholiad o offer a thechnegau i chi roi cynnig arnynt yn eich sefydliad, yn seiliedig ar yr hyn a fu'n llwyddiannus i Wasanaeth Digidol y Llywodraeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Yr hyn gall y GDS ei ddysgu i ni am arwain newid digidol - ProMo Cymru","og_description":"Detholiad o offer a thechnegau i chi roi cynnig arnynt yn eich sefydliad, yn seiliedig ar yr hyn a fu'n llwyddiannus i Wasanaeth Digidol y Llywodraeth","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2024-10-14T13:57:44+00:00","og_image":[{"width":1920,"height":1281,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac8ccf5a0ccbe0fb78b_60a285b2f955dc6acf6c706d_computer-2242264_1920.jpeg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/","name":"Yr hyn gall y GDS ei ddysgu i ni am arwain newid digidol - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac8ccf5a0ccbe0fb78b_60a285b2f955dc6acf6c706d_computer-2242264_1920.jpeg","datePublished":"2023-02-08T00:00:00+00:00","dateModified":"2024-10-14T13:57:44+00:00","description":"Detholiad o offer a thechnegau i chi roi cynnig arnynt yn eich sefydliad, yn seiliedig ar yr hyn a fu'n llwyddiannus i Wasanaeth Digidol y Llywodraeth","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac8ccf5a0ccbe0fb78b_60a285b2f955dc6acf6c706d_computer-2242264_1920.jpeg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac8ccf5a0ccbe0fb78b_60a285b2f955dc6acf6c706d_computer-2242264_1920.jpeg","width":1920,"height":1281},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gds-dysgu-am-arwain-newid-digidol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Yr hyn gall y GDS ei ddysgu i ni am arwain newid digidol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/20337","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18613"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20337"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20337"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=20337"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}