{"id":20736,"date":"2023-10-02T00:00:00","date_gmt":"2023-10-01T23:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/?post_type=resource&#038;p=20736"},"modified":"2025-07-21T12:05:48","modified_gmt":"2025-07-21T11:05:48","slug":"chwe-mantais-symud-ir-cwmwl","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/","title":{"rendered":"Chwe Mantais Symud i&#8217;r Cwmwl"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae sawl mantais i ddefnyddio&#8217;r cwmwl. Mae&#8217;n debyg eich bod yn barod i&#8217;w ddefnyddio a byddech yn elwa o&#8217;i ddefnyddio&#8217;n fwy. Yn yr erthygl yma rydym yn egluro beth yw\u2019r cwmwl ac yn helpu chi i benderfynu os yw&#8217;n addas ar gyfer eich elusen.<\/h3>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Manylion y cwmwl<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r cwmwl yn derm i ddisgrifio meddalwedd a gwasanaethau sydd yn byw ar y rhyngrwyd yn hytrach nag ar gyfrifiadur. Os yw rhywbeth \u2018yn y cwmwl\u2019 gallech chi gael mynediad iddo ar unrhyw ddyfais ar y rhyngrwyd. Nid yw&#8217;n byw ar eich cyfrifiadur nac ar weinyddwyr eich sefydliad.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid newyddbeth yw&#8217;r cwmwl. Mae rhaglenni a gwasanaethau yn bod ar-lein wedi bodoli cymaint \u00e2&#8217;r rhyngrwyd ei hun. Ond, dros y pum mlynedd diwethaf, maent wedi datblygu. Mae&#8217;r nodweddion a&#8217;r hyblygrwydd bellach yn golygu bod posib lletya holl weithrediadau eich sefydliad ar y cwmwl.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mae&#8217;r mwyafrif o raglenni bellach ar y cwmwl<\/h4>\n\n\n\n<p>Cynt, all-lein oedd yr unig ffordd i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office (Word, Excel, PowerPoint ayb.). Bellach, gellir eu defnyddio ar borwr gwe ar-lein.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddyliwch am Google Docs. Chi sydd yn dewis pwy sydd yn gallu gweld a chydweithio ar bob dogfen. Mae&#8217;n haws nag creu dogfen, ei arbed ar eich cyfrifiadur, a&#8217;i e-bostio i eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae o leiaf 90% o sefydliadau yn defnyddio&#8217;r cwmwl, felly mae&#8217;n debygol iawn y bydd o fudd i chi symud gwaith eich sefydliad yno.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Chwe mantais symud i&#8217;r cwmwl<\/h3>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">1. Gwydnwch: Gwasanaethau mwy dibynadwy<\/h4>\n\n\n\n<p>Wrth beidio defnyddio&#8217;r cwmwl rydych chi&#8217;n ddibynnol ar storio ar eich cyfrifiadur neu weinyddion ffisegol. Caledwedd cyfrifiadurol yw gweinyddion ffisegol sydd yn gwasanaethu sawl defnyddiwr.<\/p>\n\n\n\n<p>Golygai hyn bod angen technoleg, prosesau a phobl yn barod i ddelio ag unrhyw broblem gyda&#8217;r gweinydd. Gall problemau arwain at golli data neu anhawster yn cael mynediad iddo. Gall hyn fod yn gostus ac yn gymhleth i&#8217;w sefydlu a&#8217;i gynnal.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi&#8217;n defnyddio gwasanaethau yn y cwmwl ni fydd rhaid i chi ddelio gyda phroblemau. Er enghraifft, mae Microsoft a Google yn gweithredu ar rwydwaith cwbl wydn o weinyddion. Os oes problem gydag un gweinydd, bydd un arall yn bodoli eisoes. Golygai hyn na fyddech yn colli unrhyw e-byst neu ffeiliau. Mae ganddynt dimau arbenigol yn gweithio i sicrhau llwyfannau gwydn fel nad oes rhaid i chi feddwl am y peth.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">2. Diogelwch: Gwasanaethau mwy diogel<\/h4>\n\n\n\n<p>Os oes gennych chi weinydd eich hun yna rydych chi angen arbenigwyr i adeiladu diogelwch ar draws yr holl feddalwedd, gwasanaethau a dyfeisiau. Mae&#8217;n rhaid i chi reoli pwy sydd \u00e2 mynediad i bob un o&#8217;r adnoddau ac yna diogelu&#8217;r ffordd maent yn cael mynediad i&#8217;r adnoddau yma. Mae hyn yn gymhleth ac angen mewnbwn technegol parhaus.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwasanaethau cwmwl yn wahanol. Mae eu harbenigwyr diogelwch yn sicrhau bod eich data yn ddiogel. Fel arfer, mae&#8217;r diogelwch yn fwy blaengar nag gyda gosodiadau digwmwl sydd yn wir i&#8217;r mwyafrif o elusennau bach-canolig. Mae&#8217;r dylunwyr yn rhoi offer hawdd eu defnyddio i reoli mynediad i&#8217;ch gwybodaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen diweddariadau diogelwch rheolaidd er mwyn cadw systemau&#8217;n ddiogel. Mae rhoi&#8217;r cyfrifoldeb yma i ddarparwr gwasanaeth cwmwl yn lleihau risg a chost.<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, mae angen gofal pan ddaw at ddiogelwch cwmwl hefyd. Mae&#8217;n rhaid gosod a gweithredu ei ddiogelwch yn gywir ar gyfer anghenion eich sefydliad.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">3. Hyblygrwydd: Gallu addasu nodweddion a chynhwysedd heb orfod dysgu sgiliau arbenigol<\/h4>\n\n\n\n<p>Nid yw gwasanaethau cwmwl yn gyfyngedig fel y mae gweinyddion ffisegol.<\/p>\n\n\n\n<p>Er enghraifft, os yw eich sefydliad yn cyflogi mwy o staff bydd angen iddynt gael mynediad at eich systemau. Gyda gwasanaeth cwmwl yr unig beth sy&#8217;n rhaid gwneud yw prynu mwy o drwyddedau.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond mae meddalwedd ar weinyddion yn gallu cyrraedd capasiti defnyddwyr neu raglenni ac efallai bydd angen uwchraddio neu newid. Golygai hyn staff arbenigol, a gall hynny fod yn gostus. Efallai bydd angen cyfluniadau a rheoliadau diogelwch ychwanegol hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw&#8217;ch sefydliad yn mynd yn llai, gallech chi stopio neu leihau taliadau trwydded gyda gwasanaeth cwmwl.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r cwmwl wedi&#8217;i gynllunio i fod yn hyblyg i&#8217;ch anghenion a gall dyfu a lleihau gyda chi. Os yw&#8217;ch sefydliad yn dyblu, nid oes rhaid poeni am ofod storio ar eich gweinydd i ymdopi gyda mwy o ffeiliau. Os yw&#8217;ch gwefan yn cael mwy o draffig, gallech gynyddu ei adnoddau gyda chlic botwm.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">4. Symudedd: Mynediad diogel i wasanaethau a data yn unrhyw le, unrhyw amser, o unrhyw ddyfais<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r gallu i weithio o unrhyw le wedi dod yn hollbwysig. Mae hwn yn gynsail allweddol o systemau cwmwl. Gall unrhyw berson, yn gweithio o unrhyw ddyfais mewn unrhyw leoliad, gael cysylltiad ag aelodau&#8217;r t\u00eem a data sefydliadol. Bydd mewngofnodi diogel a phrotocolau priodol yn sicrhau eich bod yn rhannu data gyda&#8217;r rhai sydd angen ei weld yn unig.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">5. Cynaladwyedd: Uwchraddio neu drwsio meddalwedd neu galedwedd yn cael ei wneud i chi<\/h4>\n\n\n\n<p>Chi sydd yn gyfrifol am uwchraddio caledwedd a meddalwedd os ydych chi&#8217;n lletya gweinyddion eich hun. Bydd angen gwneud hyn bob tro bydd unrhyw ddiweddariadau a datrysiadau diogelwch newydd yn cael eu creu. Gofynnir hyn am sgiliau TG arbenigol a\/neu gefnogaeth partner TG.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae datrysiadau cwmwl yn sicrhau bod yr holl feddalwedd a chaledwedd sylfaenol yn ddiweddar ac yn gyfredol. Nid oes rhaid i chi boeni. Er enghraifft, os ydych chi&#8217;n defnyddio Google Workspace, bydd yr holl nodweddion newydd ac unrhyw newidiadau ar gael i chi wrth iddynt gael eu rhyddhau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">6. Cyllideb gyfeillgar: Costau symlach a thryloyw yn arwain at arbedion ac effeithlonrwydd<\/h4>\n\n\n\n<p>Gall prynu gweinyddion a meddalwedd eich hun fod yn ddrud, gyda chostau parhaus i orfod lletya a chadw&#8217;n rheolaidd. Mae uwchraddio ac adnewyddu sylweddol yn creu costau ychwanegol. Os yw&#8217;ch sefydliad yn tyfu mae&#8217;n debyg bydd rhaid cynyddu rhwydwaith y gweinydd. Gall y costau yma gynyddu ac maen anodd cynllunio ar gyfer hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda datrysiad cwmwl rydych chi fel arfer yn talu ar fodel tanysgrifio\/trwyddedu. Cyfyngir y costau i gymorth cychwyn a ffioedd misol. Diffinnir ffioedd gan eich tanysgrifiad a nifer y trwyddedau defnyddwyr sydd eu hangen. Mae&#8217;n syml ymateb i dwf sefydliadol wrth dalu am drwyddedau pellach.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Rhaglenni disgownt sefydliadau dielw ar wasanaethau cwmwl<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae gan sefydliadau meddalwedd mawr raglenni disgownt gwych i sefydliadau dielw. Er enghraifft:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae Google Workspace ar gael yn rhad ac am ddim i sefydliadau dielw.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae Microsoft yn cynnig deg trwydded Office 365 am ddim. Mae gostyngiad sylweddol i gostau pob trwydded ychwanegol.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae Microsoft Azure (datblygwr a datrysiadau lletya) yn cynnig grant Azure sydd yn rhoi hyd at $2000 o gredydau&#8217;r flwyddyn i gael mynediad i&#8217;w portffolio llawn a gwasanaethau cwmwl.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae Amazon Web Services (AWS) (datblygwr a datrysiadau lletya) hefyd yn cynnig rhaglen credyd dielw sydd yn rhoi hyd at $5,000 o gredyd i helpu gwrthbwyso costau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 gweithredu datrysiadau cwmwl.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Cofiwch fod costau gweithredu parhaus wrth ddefnyddio&#8217;r cwmwl hefyd. Efallai bydd angen gwybodaeth TG mewnol neu bartner TG arnoch i helpu gweithredu rhai gwasanaethau cwmwl.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Pam na fyddech chi&#8217;n symud i&#8217;r cwmwl?<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae tipyn o resymau pam fyddech chi&#8217;n dewis aros gyda datrysiad hunangynhaliol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rydych chi&#8217;n hapus gyda&#8217;ch systemau presennol a ddim angen y buddiannau disgrifir uchod.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gennych chi system sefydledig a chadarn a phartner TG gallech chi ymddiried ynddynt, nid ydych chi&#8217;n teimlo bod angen newid.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gennych feddalwedd perchnogol etifeddol yn barod.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gennych rywfaint o feddalwedd arbenigol wedi&#8217;i osod ar eich gweinyddion ac nid oes datrysiad cwmwl priodol ar gael (gallai&#8217;r sefyllfa yma fod yn risg i&#8217;ch sefydliad).<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gennych bryderon storio data. Efallai bod rheolau llym yn eich sefydliad am ble gellir storio eich data. Mae&#8217;r mwyafrif o ddarparwyr cwmwl bellach yn caniat\u00e1u i chi ddewis ble bydd eich data yn cael ei letya. Os yw eich gwefan yn cael ei letya yn Azure neu AWS, gallech ddewis lleoliadau yn y DU. Mae cyfrifon Google Worskpace a dalwyd amdano (gan gynnwys rhai \u00e2 disgownt) yn caniat\u00e1u i chi ddewis lleoliad yn y DU. Mae rhai tanysgrifiadau Microsoft yn caniat\u00e1u hyn hefyd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mynediad i&#8217;r canllaw<\/h4>\n\n\n\n<p>Nawr bod gennych chi ddealltwriaeth o&#8217;r cwmwl a&#8217;i brif fanteision, edrychwch ar <a href=\"https:\/\/docs.google.com\/document\/d\/1rYC31gNtZUN1IGjRB7hVc9Y87WOg94v1vI-e_i79q1w\/edit?usp=sharing\">ganllaw DOT PROJECT ar symud i&#8217;r cwmwl.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Nodir<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adnodd hwn yn seiliedig ar &#8216;Moving to the cloud: A guide for nonprofits&#8217; gan DOT PROJECT.&nbsp; Diolch iddynt am y caniat\u00e2d i&#8217;w ailddefnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"featured_media":21017,"template":"","meta":{"_acf_changed":false,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2007],"class_list":["post-20736","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","resource-category-adrodd-effaith-diogelwch-data"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Chwe Mantais Symud i&#039;r Cwmwl - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Buddiannau bod ar y cwmwl dros gynnal meddalwedd ar eich cyfrifiadur neu ar weinydd. Pam bod hwn yn opsiwn da i elusennau.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Chwe Mantais Symud i&#039;r Cwmwl - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Buddiannau bod ar y cwmwl dros gynnal meddalwedd ar eich cyfrifiadur neu ar weinydd. Pam bod hwn yn opsiwn da i elusennau.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-21T11:05:48+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/DSC03900-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1708\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/\",\"name\":\"Chwe Mantais Symud i'r Cwmwl - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/DSC03900-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2023-10-01T23:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-21T11:05:48+00:00\",\"description\":\"Buddiannau bod ar y cwmwl dros gynnal meddalwedd ar eich cyfrifiadur neu ar weinydd. Pam bod hwn yn opsiwn da i elusennau.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/DSC03900-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/DSC03900-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1708},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Chwe Mantais Symud i&#8217;r Cwmwl\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Chwe Mantais Symud i'r Cwmwl - ProMo Cymru","description":"Buddiannau bod ar y cwmwl dros gynnal meddalwedd ar eich cyfrifiadur neu ar weinydd. Pam bod hwn yn opsiwn da i elusennau.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Chwe Mantais Symud i'r Cwmwl - ProMo Cymru","og_description":"Buddiannau bod ar y cwmwl dros gynnal meddalwedd ar eich cyfrifiadur neu ar weinydd. Pam bod hwn yn opsiwn da i elusennau.","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2025-07-21T11:05:48+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1708,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/DSC03900-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/","name":"Chwe Mantais Symud i'r Cwmwl - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/DSC03900-scaled.jpg","datePublished":"2023-10-01T23:00:00+00:00","dateModified":"2025-07-21T11:05:48+00:00","description":"Buddiannau bod ar y cwmwl dros gynnal meddalwedd ar eich cyfrifiadur neu ar weinydd. Pam bod hwn yn opsiwn da i elusennau.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/DSC03900-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/DSC03900-scaled.jpg","width":2560,"height":1708},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/chwe-mantais-symud-ir-cwmwl\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Chwe Mantais Symud i&#8217;r Cwmwl"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/20736","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21017"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20736"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20736"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=20736"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}