{"id":20817,"date":"2023-02-08T00:00:00","date_gmt":"2023-02-08T00:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/resource\/how-to-risk-assess-your-preferred-third-party-platform-for-online-service-delivery\/"},"modified":"2025-07-21T12:10:37","modified_gmt":"2025-07-21T11:10:37","slug":"asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/","title":{"rendered":"Sut i Asesu Risg eich Llwyfan Trydydd Parti i Ddarparu Gwasanaeth Ar-lein"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rydych chi eisiau symud ymlaen gyda gwasanaeth digidol, efallai symud rhywfaint o&#8217;ch gwasanaeth presennol ar-lein, gan newid neu ehangu&#8217;r gwasanaeth rydych chi&#8217;n ei gynnig. Ydych chi wedi cynnal asesiad risg i\u2019ch helpu i benderfynu sut i wneud hynny\u2019n ddiogel? <\/h3>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r erthygl hon yn eich helpu i gychwyn wrth gyflwyno proses gadarn a chanllaw gellir lawrlwytho<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Pam asesu risg?<\/h4>\n\n\n\n<p>Rydych chi eisiau symud eich gwasanaeth ar-lein, ond mae angen iddo fod yn ddiogel. Rydych chi&#8217;n poeni am ddewis yr ateb ar-lein anghywir, neu ei ddefnyddio&#8217;n anghywir, ac achosi niwed i rywun neu dorri amodau preifatrwydd. Rydych chi&#8217;n deall bod angen diogelu eich defnyddwyr, yn ogystal \u00e2&#8217;ch gwirfoddolwyr a&#8217;ch staff. Mae\u2019n debyg eich bod chi hefyd yn ystyried enw da eich sefydliad.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai bod y naid wedi ei gwneud eisoes gan fod angen i chi aros yn weithredol, neu barhau \u00e2 gwasanaeth hanfodol, yn ystod y pandemig Covid. Os gwnaethoch chi hyn, efallai nad oedd yr un ystyriaeth wedi ei rhoi i ddiogelu a diogelwch fel y byddai wedi bod ar gyfnod gwahanol.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em id=\"\">&#8220;Mae llawer o sefydliadau\u2019n ceisio trefnu datrysiad cyflym i gael trefn yn syth. Felly mae&#8217;n debyg nad yw diogelu a diogelwch wedi cael yr un rhagfeddwl nag y byddai fel arfer.&#8221; \u2013 Alison Stone, Cydlynydd Seiber-Gwydnwch yng Nghyngor Sefydliadau Gwirfoddol yr Alban<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Yn debyg i all-lein<\/h4>\n\n\n\n<p>Felly, mae angen proses asesu risg arnoch. Dyma\u2019r ffordd orau i feddwl am yr holl gamau gweithredu ac addasiadau gellir eu gwneud i ddarparu gwasanaeth digidol yn ddiogel. Er y gallai hyn swnio fel tasg frawychus, y newyddion da yw ei bod yn debyg i asesu risg gwasanaeth neu brosiect all-lein. Yn gryno:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae&#8217;n debyg i all-lein<\/li>\n\n\n\n<li>Mae egwyddorion cyffredinol yn debyg<\/li>\n\n\n\n<li>Nid yw&#8217;n bosib rheoli popeth sy&#8217;n digwydd ar-lein<\/li>\n\n\n\n<li>Mae risgiau&#8217;n parhau. Nid oes datrysiad sydd 100% yn ddiogel<\/li>\n\n\n\n<li>Mae risg derbyniol (lefel resymol o dderbyn risg) yn gysyniad allweddol i&#8217;w ddeall<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-wrth-ddarparu-gwasanaethau-ar-lein\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Darllenwch ymhellach am \u2018Sut i feddwl am ddiogelu wrth ddarparu gwasanaethau ar-lein\u2019 yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beth yw diogelu a diogelwch ar-lein?<\/h4>\n\n\n\n<p><em id=\"\">&#8220;Mae diogelu yn meddwl am yr unigolyn. Mae diogelwch gwybodaeth yn ymwneud \u00e2 systemau a diogelu data.&#8221; \u2013 Kevin Burns, Pennaeth TG, Royal Blind<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Gall diogelu digidol olygu gwahanol bethau ar draws y sector. Yn y cyd-destun o gael eich gwasanaeth ar-lein mae&#8217;n cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Diogelu:<\/strong> amddiffyn pobl wrth ddefnyddio technoleg ar-lein i ymgysylltu \u00e2 nhw. Meddyliwch am alwadau fideo, apiau negeseuon, gofodau sgwrsio rhyngweithiol ac ati.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Preifatrwydd a chaniat\u00e2d:<\/strong> parchu a sicrhau preifatrwydd a dewis pobl wrth ymgysylltu \u00e2 nhw\u2019n ddigidol. Gan fod gweithgaredd a manylion yn gallu bod yn fwy gweladwy ar-lein.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Diogelwch gwybodaeth:<\/strong> sut rydych yn diogelu systemau a data pobl rhag cael ei gamddefnyddio neu rywun yn cael mynediad heb ganiat\u00e2d. Mae diogelwch technegol yn bwysig, ond ymarfer staff sydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae Cyngor Sefydliadau Gwirfoddol yr Alban yn <a href=\"https:\/\/scvo.org.uk\/p\/37150\/2020\/04\/02\/new-world-same-rules-safeguarding-and-privacy\">disgrifio sawl enghraifft<\/a>, fel y mae The Association Of Adult and Child Online Safety Specialists yn <a href=\"http:\/\/aacoss.org\/online-safety-support-other-organizations\/\">y fideo a\u2019r trawsgrifiad yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Sut i leihau risg<\/h4>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em id=\"\">&#8220;Mae rheoli risg yn ymwneud \u00e2 dadansoddi ein hopsiynau a\u2019u canlyniadau yn y dyfodol, a chyflwyno\u2019r wybodaeth yma mewn ffurf ddealladwy, y gellir ei defnyddio er mwyn gwella\u2019r broses o wneud penderfyniadau.&#8221; &#8211; Lucas Allen, Prif Swyddog Gweithredol Ln2X<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Bydd cynnal asesiad risg yn eich helpu i leihau&#8217;r peryglon. Bydd yn rhoi cyfle i chi edrych ar nodweddion diogelwch eich llwyfan ac ystyried y materion gallai godi o ddarparu gwasanaethau drwyddo. Er bod rhai peryglon yn debyg ar draws llwyfannau, mae rhai yn unigryw, ac mae rhai yn dibynnu ar sut mae eich gwasanaeth yn defnyddio&#8217;r llwyfan. Nid yw un peth yn gweddu popeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Gweithio ar asesiad risg eich hun ac adnabod sut gallech chi reoli&#8217;r peryglon a ddaw ohono yw&#8217;r unig ffordd i leihau&#8217;r peryglon ddigon fel bod y buddion yn eu gorbwyso. Byddwch mewn lle cryf iawn ar \u00f4l cwblhau&#8217;r gwaith yma. Byddwch:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Yn fwy ymwybodol o&#8217;r hyn gallai fynd o&#8217;i le<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi rhoi rhai rheolaethau ar waith<\/li>\n\n\n\n<li>Yn adnabod digwyddiadau&#8217;n gynt<\/li>\n\n\n\n<li>Yn fwy parod i ymateb i ddigwyddiad<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Dyma&#8217;r mwyaf y gallech chi ei wneud fel arfer. Gan nad oes dim yn 100% yn ddiogel, ar-lein nac all-lein.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em id=\"\">&#8220;Mae&#8217;r holl broses yma yn golygu eich bod wedi cynllunio, rydych chi wedi ceisio rhoi rhai rheolaethau ar waith ac rydych yn barod i ddelio \u00e2&#8217;r hyn a allai ddigwydd. Mae gennych chi ryw syniad o sut y gallech chi ymateb.&#8221; \u2014 Lucas Allen<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y broses 5 cam<\/h3>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">1. Ymchwil<\/h4>\n\n\n\n<p>Wrth ddarllen yr erthygl yma rydych chi eisoes wedi cychwyn arni. Efallai eich bod chi wedi dewis datrysiad sy\u2019n diwallu anghenion eich defnyddwyr ac anghenion gweithredol eich elusen yn barod. Os ddim, yna rhestrwch 2-3 opsiwn a c<a href=\"https:\/\/medium.com\/left-travel\/product-prioritization-moscow-fbd4a450a212\">hyfiawnhewch unrhyw nodweddion y mae&#8217;n rhaid eu cael<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>O&#8217;r pwynt yma ymlaen, fel egwyddor gyffredinol, mae angen dogfennu popeth a wnewch. Bydd gennych gofnod o&#8217;r broses a lywiodd eich penderfyniad.<\/p>\n\n\n\n<p>Yna rhestrwch yr holl beryglon gallech chi feddwl amdanynt. Bydd yr erthygl yma a <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-wrth-ddarparu-gwasanaethau-ar-lein\/\">&#8216;Sut i feddwl am ddiogelu wrth ddarparu gwasanaethau ar-lein&#8217;<\/a> yn rhoi rhai syniadau i chi, fel y bydd <a href=\"https:\/\/scvo.org.uk\/p\/37150\/2020\/04\/02\/new-world-same-rules-safeguarding-and-privacy\">erthygl SCVO<\/a> a\u2019i adran dolenni. Gallech chi hefyd <a href=\"https:\/\/medium.com\/wethecatalysts\/safeguarding-online-how-young-somerset-digitised-their-1-to-1-therapy-service-in-just-one-week-d2c33c04c7cb\">ddarllen yr astudiaeth achos yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Peidiwch \u00e2 gwneud hyn ar eich pen eich hun. Dylech gynnwys eraill, gorau po fwyaf o safbwyntiau. Fel hyn, byddech yn fwy hyderus eich bod yn casglu anghenion a safbwyntiau pawb ar y peryglon.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em id=\"\">&#8220;Casglwch sawl safbwynt ar eich peryglon. Yn enwedig y rhai mwyaf. Bydd yn gwneud gwahaniaeth i\u2019ch derbyniad risg a chanlyniad yr asesiad.&#8221; &#8211; Alison Stone<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">2. Aseswch y risgiau<\/h4>\n\n\n\n<p>Ychwanegwch eich peryglon at daenlen. <a href=\"https:\/\/docs.google.com\/document\/d\/1eejkHj9wvb4wuLAmTZIgPENd7WcOLBMcADy-go-8JEI\/edit#heading=h.wegvf6259rtr\">Mae&#8217;r canllaw yma gellir ei lawrlwytho<\/a> yn awgrymu rhai penawdau.<\/p>\n\n\n\n<p>Graddiwch eich risgiau.<\/p>\n\n\n\n<p>Disgrifiwch sut y byddwch yn lliniaru neu&#8217;n rheoli pob perygl.<\/p>\n\n\n\n<p>Penderfynwch pa beryglon rydych yn fodlon eu derbyn neu os oes rhai sy&#8217;n parhau i fod yn annerbyniol.<\/p>\n\n\n\n<p>Sicrhewch gefnogaeth allanol os oes angen. Dylech fedru rheoli&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;r broses, neu&#8217;r broses gyfan, yn fewnol. Os cewch gefnogaeth chwiliwch am rywun sy&#8217;n deall y sector.<\/p>\n\n\n\n<p>Adolygwch eich 10 prif risg eto ac yna gwneud penderfyniad.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em id=\"\">&#8220;Mae posib lleihau llawer o risg wrth ymchwilio llwyfan a darganfod ei nodweddion diogelwch, yna eu defnyddio.&#8221; \u2014 Declan Doyle, Haciwr Moesegol yn y Scottish Business Resilience Centre<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">3. Gwneud penderfyniad<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n rhaid i rywun wneud penderfyniad i dderbyn (neu beidio) y risgiau a ddaw gyda&#8217;ch llwyfan dewisol. Yn ddelfrydol, bydd hyn yn ddau uwch berson dynodedig, ac mae&#8217;n rhaid iddynt gytuno cyn i&#8217;r elusen symud ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond nid yw gwneud penderfyniad yn unig yn ddigon. Dylech ysgrifennu eich rhesymeg hefyd. Efallai mai datganiad yn unig yw hwn am sut rydych chi wedi dadansoddi\u2019r peryglon ac yn ystyried y buddion i orbwyso\u2019r risgiau. Efallai eich bod yn s\u00f4n am beryglon allweddol penodol a sut i\u2019w lliniaru, neu efallai eich bod yn cyfeirio\u2019n uniongyrchol at y ddogfen asesu risg. Ceisiwch egluro pam eich bod wedi gwneud y penderfyniad yma.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">4. Disgrifio eich dull<\/h4>\n\n\n\n<p>Yna disgrifiwch sut rydych chi&#8217;n bwriadu defnyddio&#8217;r llwyfan dewisol. Gallai hyn fod yn rhestr pwynt bwled fer, neu&#8217;n sawl tudalen. Mae&#8217;n dibynnu ar yr hyn rydych chi&#8217;n ei ddefnyddio a sut.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylech gynnwys y canlynol o leiaf:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Crynodeb o sut byddech yn ei ddefnyddio<\/li>\n\n\n\n<li>Unrhyw bethau allweddol y byddwch chi neu staff yn ei wneud i leihau risg (edrychwch ar y rheolaethau ar eich asesiad risg)<\/li>\n\n\n\n<li>Yr arweiniad a&#8217;r gefnogaeth y byddwch yn eu darparu i staff pan ddaw at arfer diogel (e.e. cyfrineiriau, briff polisi, hyfforddiant ac ati)<\/li>\n\n\n\n<li>Unrhyw bolis\u00efau newydd y byddwch yn eu creu<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><em id=\"\">&#8220;Mae hyn yn ymwneud mwy \u00e2 phroses. A yw pobl yn deall polis\u00efau, a yw staff wedi&#8217;u hyfforddi, a ydynt yn gwybod beth i&#8217;w wneud os bydd mater yn codi? Y pethau diflas!&#8221; \u2014 Jess McBeath, Arbenigwr Diogelwch Ar-lein a Dinasyddiaeth Ddigidol, Jess Ltd<\/em><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">5. Adolygu a strategaeth ymadael<\/h4>\n\n\n\n<p>Sut y byddwch yn cadw llygad ar weithrediad eich gwasanaeth newydd? Beth yw pwrpas eich Cynllun B os nad yw\u2019n llwyddiannus?<\/p>\n\n\n\n<p>Disgrifiwch eich proses adolygu. Gallai hyn fod yn debyg i\u2019ch proses adolygu risg arferol, ond bydd angen i chi ei gynnal yn amlach am ychydig wythnosau cyntaf darparu gwasanaeth ar-lein.<\/p>\n\n\n\n<p>Nodwch eich Cynllun B (a C os oes gennych chi un).<\/p>\n\n\n\n<p>Nodwch sut y byddwch yn adolygu&#8217;r gwasanaeth os bydd unrhyw newidiadau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Lawrlwythiad am ddim i&#8217;ch helpu i gychwyn<\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym wedi creu <a href=\"https:\/\/docs.google.com\/document\/d\/1eejkHj9wvb4wuLAmTZIgPENd7WcOLBMcADy-go-8JEI\/edit#heading=h.hlduddazq5k3\">canllaw i&#8217;w lawrlwytho<\/a> i&#8217;ch helpu i ddilyn y broses a ddisgrifir uchod.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Adnoddau seiberddiogelwch ychwanegol<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adnoddau yma yn canolbwyntio ar seiberddiogelwch cyffredinol. Bydd rhai yn ddefnyddiol.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gweithredu <a href=\"https:\/\/cyberessentials.online\/cyber-essentials\/\">pum rheolaeth dechnegol<\/a> a argymhellir gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol fel rhan o&#8217;ch camau lliniaru ac adeiladu eich gwybodaeth am ddiogelwch gwybodaeth gyda&#8217;u canllaw: <a href=\"https:\/\/www.ncsc.gov.uk\/collection\/charity\">Seiberddiogelwch ar gyfer Elusennau Bach.<\/a><\/li>\n\n\n\n<li>Adeiladu gallu eich Bwrdd Ymddiriedolwyr i sgwrsio \u00e2 chi am ddiogelu digidol gyda <a href=\"https:\/\/www.ncsc.gov.uk\/collection\/board-toolkit\">Phecyn Cymorth Bwrdd yr NCSC.<\/a><\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch <a href=\"https:\/\/exerciseinabox.service.ncsc.gov.uk\/\">Ymarfer mewn Bocs yr NCSC<\/a> fel ffordd i asesu sefyllfa diogelwch gwybodaeth eich sefydliad.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><em>Diolch i <a id=\"\" href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/dougt1\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Douglas Trainer<\/a>, <a id=\"\" href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/declandoyle\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Declan Doyle<\/a>, <a id=\"\" href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/alisonstone3mtm\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Alison Stone<\/a>, <a id=\"\" href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/jessmcbeath\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Jess McBeath<\/a>, <a id=\"\" href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/kevin-burns-a986b041\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Kevin Burns<\/a> a Lucas Allen am eu hamser a&#8217;u mewnwelediad i ddiogelu digidol a diogelwch gwybodaeth.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>\u200d<\/p>\n","protected":false},"featured_media":21031,"template":"","meta":{"_acf_changed":false,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2006,2007],"class_list":["post-20817","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","resource-category-diogelu","resource-category-adrodd-effaith-diogelwch-data"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Sut i Asesu Risg eich Llwyfan Trydydd Parti i Ddarparu Gwasanaeth Ar-lein - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"5 cam i leihau risg. Mae&#039;r erthygl hon yn cyflwyno proses gadarn a chanllaw y gellir ei lawrlwytho i&#039;ch rhoi ar ben ffordd.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Sut i Asesu Risg eich Llwyfan Trydydd Parti i Ddarparu Gwasanaeth Ar-lein - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"5 cam i leihau risg. Mae&#039;r erthygl hon yn cyflwyno proses gadarn a chanllaw y gellir ei lawrlwytho i&#039;ch rhoi ar ben ffordd.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-21T11:10:37+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/59-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/\",\"name\":\"Sut i Asesu Risg eich Llwyfan Trydydd Parti i Ddarparu Gwasanaeth Ar-lein - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/59-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2023-02-08T00:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-21T11:10:37+00:00\",\"description\":\"5 cam i leihau risg. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno proses gadarn a chanllaw y gellir ei lawrlwytho i'ch rhoi ar ben ffordd.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/59-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/59-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Sut i Asesu Risg eich Llwyfan Trydydd Parti i Ddarparu Gwasanaeth Ar-lein\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Sut i Asesu Risg eich Llwyfan Trydydd Parti i Ddarparu Gwasanaeth Ar-lein - ProMo Cymru","description":"5 cam i leihau risg. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno proses gadarn a chanllaw y gellir ei lawrlwytho i'ch rhoi ar ben ffordd.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Sut i Asesu Risg eich Llwyfan Trydydd Parti i Ddarparu Gwasanaeth Ar-lein - ProMo Cymru","og_description":"5 cam i leihau risg. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno proses gadarn a chanllaw y gellir ei lawrlwytho i'ch rhoi ar ben ffordd.","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2025-07-21T11:10:37+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/59-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/","name":"Sut i Asesu Risg eich Llwyfan Trydydd Parti i Ddarparu Gwasanaeth Ar-lein - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/59-scaled.jpg","datePublished":"2023-02-08T00:00:00+00:00","dateModified":"2025-07-21T11:10:37+00:00","description":"5 cam i leihau risg. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno proses gadarn a chanllaw y gellir ei lawrlwytho i'ch rhoi ar ben ffordd.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/59-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/59-scaled.jpg","width":2560,"height":1707},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/asesu-risg-llwyfan-trydydd-parti\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Sut i Asesu Risg eich Llwyfan Trydydd Parti i Ddarparu Gwasanaeth Ar-lein"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/20817","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21031"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20817"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20817"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=20817"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}