{"id":20822,"date":"2023-02-08T00:00:00","date_gmt":"2023-02-08T00:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/resource\/data-protection-online-security-introduction\/"},"modified":"2025-07-21T12:14:34","modified_gmt":"2025-07-21T11:14:34","slug":"diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/","title":{"rendered":"Diogelu Data a Diogelwch Ar-lein: Cyflwyniad"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae\u2019r canllaw yma yn cynnig trosolwg o\u2019r gweithgareddau gweithio ar-lein a gyflawnir gan sefydliadau elusennol yn y DU, ac yn cyfeirio at amrywiaeth o faterion preifatrwydd a diogelu data rydych chi&#8217;n debygol o darfu arnynt. Mae\u2019n cynnwys rhestrau gwirio, cyngor ymarferol ac adnoddau i&#8217;ch helpu deall a rheoli gweithgarwch ar-lein. Mae&#8217;r canllaw yma&#8217;n darparu manylion ar lefel cyflwyniad a dolenni i ffynonellau eraill.<\/h3>\n\n\n\n<p><em>Gwadiad: barn yn unig yw\u2019r wybodaeth a ddarperir yma ac ni ddylid ei ddehongli fel cyngor cyfreithiol.<\/em><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">1. Beth yw diogelu data?<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae deddfwriaeth diogelu data yn y DU yn cynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR). Mae\u2019r ddeddfwriaeth diogelu data yn ymwneud \u00e2 phrosesu data personol, sydd yn cynnwys data a gedwir ar daenlenni, gohebiaeth bapur, cofnodion ac o fewn ffotograffau, ffilmiau ac eitemau casglu eraill hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae data personol yn ymwneud ag unrhyw wybodaeth sydd yn perthyn i fywyd preifat, proffesiynol neu gyhoeddus person byw a all ddatgelu pwy yw\u2019r person hwnnw, naill ai\u2019n uniongyrchol neu\u2019n anuniongyrchol o\u2019i gyfuno \u00e2 gwybodaeth arall.&nbsp; Gall gynnwys mynegi barn am unigolyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae enghreifftiau o ddata personol yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhestrau aelodaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Data cwsmeriaid a chleientiaid<\/li>\n\n\n\n<li>Gwybodaeth ymwelwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Manylion staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Eitemau casgliad, fel unigolion yn ymddangos mewn lluniau a ffilmiau ac enwau a chyfeiriadau mewn llythyrau<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Rheolwr data yw unrhyw berson neu sefydliad sy\u2019n gwneud penderfyniadau am, neu\u2019n pennu, sut a pham y caiff data ei brosesu. Nhw sydd yn gyfrifol ac yn atebol am sicrhau bod unrhyw ddata personol a brosesir yn cael ei wneud yn gyfreithiol, gan gynnwys eu r\u00f4l o ran sicrhau bod data\u2019n cael ei gadw\u2019n ddiogel. Rhan o gyfrifoldeb rheolwr data yw osgoi toriad data.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd toriad data yn deillio o ddigwyddiad diogelwch sy\u2019n effeithio ar gyfrinachedd, cywirdeb neu argaeledd data personol, er enghraifft: mae toriad data wedi digwydd pan fo data personol yn cael ei: golli, dinistrio, lygru neu ddatgelu, gyrchu neu rannu heb ganiat\u00e2d, ddim ar gael neu wedi ei golli neu ddinistrio&#8217;n ddamweiniol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">2. Preifatrwydd trwy gynlluniad: meddwl am ddiogelu data o&#8217;r cychwyn cyntaf<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae preifatrwydd trwy gynlluniad yn ddull o reoli data personol sy&#8217;n hyrwyddo preifatrwydd a chydymffurfiaeth diogelu data yn eich holl weithgareddau. Mae hyn yn sicrhau bod preifatrwydd a diogelu data yn ystyriaeth allweddol yng nghamau cynnar unrhyw weithgareddau, gan gynnwys prosiect er enghraifft, ac yna drwy gydol ei gylch bywyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Er enghraifft wrth:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Adeiladu systemau TG newydd ar gyfer storio neu gael mynediad i ddata personol<\/li>\n\n\n\n<li>Casglu data personol<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu polisi neu strategaethau sydd \u00e2 goblygiadau preifatrwydd<\/li>\n\n\n\n<li>Cychwyn menter rhannu data<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddio data at ddibenion newydd<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Rhaid i sefydliadau gwblhau <a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/for-organisations\/uk-gdpr-guidance-and-resources\/accountability-and-governance\/data-protection-impact-assessments-dpias\/what-is-a-dpia\/#what1\">Asesiad Effaith Diogelu Data (DPIA)<\/a> ar gyfer prosesu sy\u2019n debygol o arwain at risg uchel i unigolion. Mae hefyd yn arfer da gwneud DPIA ar gyfer unrhyw brosiect mawr arall sy&#8217;n gofyn am brosesu data personol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">3. Rheoli &#8216;data categori arbennig&#8217;<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae yna wybodaeth sy&#8217;n cael ei ystyried yn arbennig o sensitif ac mae angen diogelwch ychwanegol os caiff ei gasglu:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ethnigrwydd<\/li>\n\n\n\n<li>Crefydd<\/li>\n\n\n\n<li>Hanes meddygol<\/li>\n\n\n\n<li>Rhywioldeb<\/li>\n\n\n\n<li>Safbwyntiau gwleidyddol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r risg o ddiffyg cydymffurfio os caiff data o\u2019r fath ei golli, ei ddwyn, neu ei gamddefnyddio, naill ai drwy ddamwain neu\u2019n fwriadol, yn golygu risg i enw da eich sefydliad a\u2019r posibilrwydd o gosbau neu ddirwyon. Gall fod yn gymhleth deall yr hyn a olygir gan \u2018data\u2019. Mae Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU (ICO) wedi darparu <a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/for-organisations\/uk-gdpr-guidance-and-resources\/lawful-basis\/special-category-data\/what-is-special-category-data\/\">canllaw manwl<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">4. Ystyried llif data<\/h4>\n\n\n\n<p>I reoli sut mae data personol yn llifo o fewn eich sefydliad, mae angen defnyddio Cofnod o Weithgareddau Prosesu Data (ROPAs) a\u2019i ddiweddaru\u2019n rheolaidd. Cofnodion yw&#8217;r rhain o sut rydym yn prosesu\u2019r data personol sydd gennym. Mae&#8217;n ofynnol bod hwn ar bapur neu ar ffurf electronig. Yn gyffredinol, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau yn elwa o gadw eu dogfennaeth yn electronig fel y gellir ei diweddaru, a&#8217;i newid yn hawdd fel dogfen fyw.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel Rheolwyr Data, bydd sefydliadau\u2019n gyfrifol ac yn atebol am ei holl waith prosesu data personol, neu ar ran trydydd parti. Mae hyn yn cynnwys adnabod unrhyw beryglon a sicrhau ei fod yn nodi&#8217;r holl weithgareddau prosesu a&#8217;r penderfyniadau sy&#8217;n cael eu gwneud. Mae\u2019n bwysig cael trywydd archwilio gellir ei adolygu\u2019n rheolaidd gan y perchnogion data sy\u2019n gyfrifol o fewn gwahanol feysydd y sefydliad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae saith egwyddor sy\u2019n sail i holl brosesu data personol:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfyngiad pwrpas<\/li>\n\n\n\n<li>Minimeiddio data<\/li>\n\n\n\n<li>Cywirdeb<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfyngiad storio<\/li>\n\n\n\n<li>Uniondeb a chyfrinachedd (diogelwch)<\/li>\n\n\n\n<li>Atebolrwydd<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p><a id=\"\" href=\"https:\/\/ico.org.uk\/for-organisations\/uk-gdpr-guidance-and-resources\/accountability-and-governance\/accountability-framework\/records-of-processing-and-lawful-basis\/record-of-processing-activities-ropa\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gwybodaeth bellach am ROPAs.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">5. Defnyddio offer digidol newydd a&#8217;r Cwmwl: eich cyfrifoldebau preifatrwydd<\/h4>\n\n\n\n<p>Wrth ddefnyddio offer digidol newydd, mae&#8217;n debygol y bydd goblygiadau diogelu data. Dylai sefydliadau wirio telerau ac amodau a hysbysiadau preifatrwydd y cyflenwr i sicrhau bod cyfrifoldebau diogelu data eu sefydliad yn cael eu cyrraedd. Mae hyn yn cynnwys darparwyr yn y Cwmwl sy&#8217;n cael eu defnyddio i gefnogi mynediad at wasanaethau, cynulleidfaoedd a chynnwys.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel arfer, mae gwasanaethau Cwmwl yn cynnwys: storio data ar-lein a datrysiadau cadw wrth gefn, gwasanaethau e-bost ar y we, gwasanaethau sw\u00eet Office a chydweithredu ar ddogfennau, prosesu cronfeydd data a gwasanaethau cymorth technegol a reolir. Gellir cyrchu darparwyr cwmwl naill ai&#8217;n uniongyrchol a\/neu drwy lwyfan arall fel Zoom (yn enwedig os ydych yn cytuno i recordiadau fod ar gael drwy&#8217;r Cwmwl). Fel Rheolwyr Data, rhaid i sefydliadau fod yn ofalus wrth ddewis pa ddarparwyr Cwmwl i&#8217;w ddefnyddio a dogfennu&#8217;r penderfyniadau a wneir. Os bydd darparwyr Cwmwl yn methu \u00e2 chyrraedd y safonau prosesu data sy&#8217;n ofynnol gan y ddeddfwriaeth, bydd angen i&#8217;r sefydliad naill ai drafod trefniadau gwell neu gerdded i ffwrdd a dewis darparwr arall yn y Cwmwl o bosib.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyn i chi ddefnyddio gwasanaethau Cwmwl, bydd angen i chi:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Cwblhau <a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/for-organisations\/uk-gdpr-guidance-and-resources\/accountability-and-governance\/data-protection-impact-assessments-dpias\/what-is-a-dpia\/\">DPIA<\/a>.<\/strong> Os ydych yn symud i ddarparwr Cwmwl, dylech gwblhau DPIA fel y gallech chi werthuso&#8217;r risg.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwirio telerau ac amodau defnydd ar-lein y darparwr Cwmwl yn ogystal \u00e2&#8217;u Datganiadau Preifatrwydd ar-lein.<\/strong> Dylai unrhyw bolis\u00efau\/datganiadau Preifatrwydd a Thelerau ac Amodau fod yn glir, yn dryloyw ac yn gyfredol.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Sicrhau bod y darparwr Cwmwl yn cynnig data ar ffurf a fyddai\u2019n bodloni\u2019r hawl i gludo data.<\/strong> Os yw rhywun eisiau&#8217;r data personol rydych chi wedi\u2019i lwytho ar y Cwmwl, ydy&#8217;r darparwr Cwmwl (neu chi), yn caniat\u00e1u i chi drosglwyddo i rywle arall? A yw&#8217;r darparwr Cwmwl, ar gais, yn gallu caniat\u00e1u i chi gael copi o&#8217;r data mewn ffurf gellir ei ddefnyddio?<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Os ydych chi&#8217;n dewis CRM, sydd yn byw ar y Cwmwl, bydd angen i chi ystyried y canlynol hefyd:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Deall beth yw eich sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol yn y modd yma<\/strong> ac ydych chi angen caniat\u00e2d? Ydy&#8217;r bobl rydych chi&#8217;n cadw eu data yn gwybod beth yw&#8217;r bwriad \u00e2&#8217;r data yma a phwy sydd \u00e2 mynediad iddo? Lle bo angen, ydych chi wedi gofyn am ganiat\u00e2d gan yr holl wrthrychau data sydd yn adlewyrchu&#8217;r prosesu gan y darparwyr Cwmwl a ddewiswyd ac unrhyw drydydd parti arall y maent yn rhannu&#8217;r data \u00e2 nhw? Ydych chi wedi diweddaru eich Hysbysiad Preifatrwydd i adlewyrchu hyn?<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Deall sut mae eich CRM yn cadw data personol yn ddiogel.<\/strong> Bydd yn bwysig deall y peryglon os yw gwybodaeth bersonol pobl yn cael ei golli, dwyn, neu ei gamddefnyddio trwy&#8217;r CRM. Pa mor gyflym bydd y darparwr CRM yn ymateb os nodir bod bregusrwydd diogelwch yn eu cynnyrch a\/neu eu bod yn canfod toriad data? A fyddant yn rhoi gwybod i chi os yw data personol y maent yn ei brosesu i chi wedi ei gynnwys a pha mor hir nes y byddant yn dweud wrthych? Fel Rheolwr data, cofiwch fod gennych chi 72 awr i roi gwybod i&#8217;r ICO am unrhyw doriadau gallai fod yn niweidiol i&#8217;r bobl dan sylw.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gyda phwy mae&#8217;r darparwr CRM yn rhannu&#8217;r data personol a ddarperir gennych ac a fydd hwn yn ddiogel? <\/strong>Ydy nhw&#8217;n gyfreithlon, a fydda nhw&#8217;n cadw\u2019r data personol yn ddiogel? Oes yna gytundeb cadarn rhwng eich darparwr CRM ac unrhyw ddarparwyr\/gwasanaethau eraill? Ym mha amgylchiadau bydd eich data yn cael ei drosglwyddo i wledydd eraill? A all eich darparwr CRM gyfyngu ar drosglwyddo eich data i wledydd sy\u2019n briodol yn eich barn chi? A yw eich darparwr CRM yn darparu asesiad diogelwch trydydd parti priodol ac ydy hwn yn cydymffurfio \u00e2 chod ymarfer priodol y diwydiant neu safon ansawdd arall?<\/li>\n\n\n\n<li><strong>A fydd eich darparwr CRM yn galluogi dileu data personol?<\/strong> Beth yw&#8217;r amserlen dileu a chadw data? A yw hyn yn cynnwys dinistrio diwedd oes? A fydd eich darparwr CRM yn dileu eich holl ddata yn ddiogel os ydych chi&#8217;n penderfynu tynnu&#8217;n \u00f4l o&#8217;r llwyfan yn y dyfodol a\/neu&#8217;n derbyn cais i ddileu&#8217;r data?<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwnewch restr o&#8217;r data personol sydd gennych a sut bydd y darparwr CRM yn ei brosesu.<\/strong> Yn y gwerthusiad, dywedwch os yw&#8217;r darparwr CRM yn cynhyrchu ystadegau defnyddwyr a.y.b. fydd yn cynhyrchu data personol ychwanegol. Mae&#8217;n bwysig gwybod pa ddata bydd y platfform hwn yn ei brosesu, er mwyn i chi fedru olrhain a chydymffurfio ag unrhyw <a href=\"https:\/\/www.nicva.org\/resource\/data-protection-toolkit-dealing-with-a-subject-access-request\">Geisiadau Gwrthrych am Wybodaeth (SARS).<\/a><\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong id=\"\">6. Seiberddiogelwch<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae cadw offer yn ddiogel yn hanfodol i reoli data da. Cadwch gofnod o ba ddyfeisiau sy\u2019n cael eu defnyddio gan yr holl staff a gwirfoddolwyr sy\u2019n gweithio i\u2019ch sefydliad, gan gynnwys brand y ddyfais, rhifau model a chodau trefniadaethol unigryw. Bydd y wybodaeth yma yn eich helpu chi i olrhain dyfeisiau mae&#8217;r sefydliad yn berchen arnynt rhag iddynt gael eu colli neu eu dwyn a nodi unrhyw ddyfeisiau sydd angen diweddariadau a meddalwedd ychwanegol i&#8217;ch diogelu rhag unrhyw faterion seiberddiogelwch posibl.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong id=\"\">Cadw data yn ddiogel<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Dim ond data sydd ei angen arnoch ar gyfer eich gwaith y dylech ei gasglu, a dylech sicrhau eich bod yn gwybod beth sy\u2019n cael ei gasglu a sut y caiff ei ddefnyddio, fel y nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd eich sefydliad. Os cesglir data personol at ddibenion gwaith, er mwyn cydymffurfio \u00e2\u2019r ddeddfwriaeth diogelu data, rydych chi angen gwybod:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Pa ddata personol sy&#8217;n cael ei gasglu a pham<\/li>\n\n\n\n<li>Ble mae&#8217;n cael ei storio<\/li>\n\n\n\n<li>Sut rydych chi&#8217;n diogelu&#8217;r data ac am ba mor hir. Mae&#8217;n ofynnol yn \u00f4l deddfwriaeth diogelu data i chi gadw data personol am yr amser rydych chi ei angen yn unig<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys pwrpas y data ac unrhyw ofynion cyfreithiol sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r cyfnod o amser y mae&#8217;n rhaid cadw mathau penodol o ddata. Er enghraifft, mae&#8217;n ofynnol yn \u00f4l rheoliadau ariannol i gadw data sy&#8217;n ymwneud \u00e2 phensiwn cyhyd ag y mae gweithiwr yn fyw, p&#8217;un a yw&#8217;n parhau i weithio i&#8217;ch sefydliad ai peidio. Mae\u2019n bosibl y bydd defnydd cyfyngedig iawn i rai o&#8217;r data personol a gesglir, fel gwybodaeth yn ymwneud \u00e2 phobl sy\u2019n mynychu digwyddiad penodol. Yn yr achos yma, heb ganiat\u00e2d ychwanegol i gysylltu \u00e2 chyfranogwyr yn y dyfodol, bydd angen i chi ddileu&#8217;r data yma ar \u00f4l y digwyddiad unwaith y bydd yr angen busnes wedi&#8217;i dod i ben.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong id=\"\">Gweithio&#8217;n ddiogel gyda data<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Sicrhewch nad yw pobl sydd heb ganiat\u00e2d i weld data cyfrinachol, masnachol, personol, neu ddata sensitif fel arall, yn gallu gweld hyn pan fyddwch chi&#8217;n edrych arno ar eich sgrin<\/li>\n\n\n\n<li>Cau eich sgrin bob amser os ydych i ffwrdd o&#8217;r cyfrifiadur<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddiwch nodweddion diogelwch fel cyfrinair neu amddiffyniad cod PIN<\/li>\n\n\n\n<li>Gosod terfyn amser sesiwn awtomatig ar eich dyfais<\/li>\n\n\n\n<li>Allgofnodi o sesiynau os ydych chi&#8217;n gadael eich dyfais heb oruchwyliaeth neu pan fyddwch yn gadael cyfrifiadur a rennir<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Canllawiau pellach ar gael yng <a href=\"https:\/\/www.heritagefund.org.uk\/sites\/default\/files\/media\/attachments\/Online%20privacy%20and%20security.pdf\">nghanllawiau Preifatrwydd a Diogelwch Ar-lein Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong id=\"\">Adnoddau defnyddiol<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/\">Gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/charitydigital.org.uk\/heritage-digital\">Gwefan Heritage Digital <\/a>ar gyfer hyfforddiant a chymorth sgiliau digidol am ddim<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.naomikorn.com\/resources\">Naomi Korn Associates <\/a>sydd wedi datblygu&#8217;r canllaw yma<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.heritagefund.org.uk\/good-practice-guidance\/digital-guide-online-privacy-and-security\">Canllaw digidol<\/a>: preifatrwydd a diogelwch ar-lein<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>\u200d<br><em>Datblygwyd gan Naomi Korn, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr <a href=\"https:\/\/naomikorn.com\/\">Naomi Korn Associates<\/a>, arbenigwyr diwydiant blaenllaw yn y maes hawlfraint a diogelu data, ar gyfer y Prosiect Beyond.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"featured_media":21023,"template":"","meta":{"_acf_changed":false,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2007],"class_list":["post-20822","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","resource-category-adrodd-effaith-diogelwch-data"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Diogelu Data a Diogelwch Ar-lein: Cyflwyniad - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Diogelu data. Preifatrwydd trwy gynlluniad. Rheoli data categori arbennig. Ystyried llif data. Cyfrifoldebau preifatrwydd. Seiberddiogelwch.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Diogelu Data a Diogelwch Ar-lein: Cyflwyniad - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Diogelu data. Preifatrwydd trwy gynlluniad. Rheoli data categori arbennig. Ystyried llif data. Cyfrifoldebau preifatrwydd. Seiberddiogelwch.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-21T11:14:34+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/DSC03282-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/\",\"name\":\"Diogelu Data a Diogelwch Ar-lein: Cyflwyniad - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/DSC03282-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2023-02-08T00:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-21T11:14:34+00:00\",\"description\":\"Diogelu data. Preifatrwydd trwy gynlluniad. Rheoli data categori arbennig. Ystyried llif data. Cyfrifoldebau preifatrwydd. Seiberddiogelwch.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/DSC03282-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/DSC03282-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Diogelu Data a Diogelwch Ar-lein: Cyflwyniad\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Diogelu Data a Diogelwch Ar-lein: Cyflwyniad - ProMo Cymru","description":"Diogelu data. Preifatrwydd trwy gynlluniad. Rheoli data categori arbennig. Ystyried llif data. Cyfrifoldebau preifatrwydd. Seiberddiogelwch.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Diogelu Data a Diogelwch Ar-lein: Cyflwyniad - ProMo Cymru","og_description":"Diogelu data. Preifatrwydd trwy gynlluniad. Rheoli data categori arbennig. Ystyried llif data. Cyfrifoldebau preifatrwydd. Seiberddiogelwch.","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2025-07-21T11:14:34+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/DSC03282-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/","name":"Diogelu Data a Diogelwch Ar-lein: Cyflwyniad - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/DSC03282-scaled.jpg","datePublished":"2023-02-08T00:00:00+00:00","dateModified":"2025-07-21T11:14:34+00:00","description":"Diogelu data. Preifatrwydd trwy gynlluniad. Rheoli data categori arbennig. Ystyried llif data. Cyfrifoldebau preifatrwydd. Seiberddiogelwch.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/DSC03282-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/DSC03282-scaled.jpg","width":2560,"height":1707},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/diogelu-data-a-diogelwch-arlein-cyflwyniad\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Diogelu Data a Diogelwch Ar-lein: Cyflwyniad"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/20822","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21023"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20822"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20822"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=20822"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}