{"id":21719,"date":"2023-06-26T00:00:00","date_gmt":"2023-06-25T23:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/?post_type=resource&#038;p=21719"},"modified":"2025-07-21T11:51:26","modified_gmt":"2025-07-21T10:51:26","slug":"cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/","title":{"rendered":"Cynllunio Digidol Cynhwysol: Hygyrchedd, Rhagdybiaethau a Rhwystrau"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">I fod yn effeithiol yn yr hyn a wnawn, rhaid cyrraedd y bobl sydd ein hangen. Er mwyn cyflawni&#8217;r cyrhaeddiad yma, rhaid i ni fod yn hygyrch ac yn gynhwysol. Gan sicrhau nad oes neb yn cael ei eithrio o&#8217;r hyn a gynigiwn.<\/h3>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n swnio&#8217;n syml iawn, ond beth olygai hyn yn y byd digidol? Beth yn union yw &#8216;hygyrchedd&#8217; a sut mae&#8217;n berthnasol i &#8216;gynllunio cynhwysol&#8217;? Pa lensys sydd ei angen arnom i archwilio ein gwasanaethau digidol?<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Amdanaf i<\/h4>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Fy enw i yw Jamie. Rwy\u2019n arbenigwr a gwneuthurwr hygyrchedd digidol awtistig. Dwi byth yn bell oddi wrth <a href=\"https:\/\/jamieandlion.com\/\">fy ffrind ffyddlon Lion<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi bod yn adeiladu cynhyrchion digidol ers dros 20 mlynedd. Rydym newydd orffen 10 mlynedd yn gweithio i&#8217;r BBC. Mewn rolau peirianneg am y tair blynedd gyntaf ac yna fel uwch aelod o\u2019r T\u00eem Hygyrchedd Digidol am y 7 mlynedd olaf. Roeddwn yn arwain y t\u00eem cyn gadael y BBC yn gynnar yn 2022.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn weithgar yng nghymunedau hygyrchedd a niwroamrywiaeth gan gyfrannu at ddigwyddiadau, cyflwyno gweithdai a chreu podlediadau. Mae gennym brosiect arall hefyd sy&#8217;n datblygu offer i ganfod troseddau ariannol.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd tyfu i fyny yn awtistig yn golygu gorfod byw mewn byd nad oedd yn fy neall i gymaint \u00e2 nad oeddwn i&#8217;n ei ddeall o.<\/p>\n\n\n\n<p>Yna, fe glywais am y <a href=\"https:\/\/www.disabilityrightsuk.org\/social-model-disability-language\">fodel gymdeithasol o anabledd<\/a> gan newid fy safbwynt ar anabledd. Bellach rwyf o&#8217;r farn nad yr awtistiaeth sy&#8217;n fy analluogi, ond y rhwystrau o fewn yr amgylchedd. Wrth ddeall mwy, a&#8217;u dileu, rwy&#8217;n ffynnu mwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Dewch i ni siarad am rwystrau.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter w-richtext-figure-type-image w-richtext-align-fullwidth\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/637e048fd9a4573e4d409253_3-barriers.png\" alt=\"3 icons on an orange-brown background: a circle with a line across it to block, a stopwatch icon to limit and an icon showing blocked pathways from 1 point to another\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Mae rhwystrau yn atal, cyfyngu, ac yn rhwystro pobl rhag defnyddio eich gwasanaethau digidol.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">3 math o rwystr<\/h4>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Mae rhwystrau wrth wraidd hygyrchedd a gwaith cynllunio cynhwysol. Yn dod mewn amrywiaeth o siapiau a meintiau, eu deall yw&#8217;r llwybr i gynyddu eich cyrhaeddiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Er bod rhwystrau yn niferus ac yn amrywiol, maent yn tueddu i fod yn un o dri math:<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Rhwystrau sy&#8217;n <em>atal<\/em><\/h4>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Dyma\u2019r rhwystrau sy\u2019n atal rhywun rhag cael mynediad i\u2019r cyfle i wneud rhywbeth. Er enghraifft, dwi&#8217;n aml yn peidio siarad. Mae darparu gwasanaeth dros y ff\u00f4n yn rhwystr sy&#8217;n ei wneud yn anghyraeddadwy i mi.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Rhwystrau sy&#8217;n <em>cyfyngu<\/em><\/h4>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Dyma\u2019r rhwystrau sy\u2019n codi yn ystod gweithgaredd ac sy\u2019n ein cyfyngu rhag cyflawni ein potensial. Er enghraifft, mae gen i sgiliau ar-lein gwych, ond efallai na fydd proses archebu gyda therfyn amser yn rhoi digon o amser i mi i ddod i&#8217;r penderfyniadau sydd eu hangen. Mae fy ymatebion brysiog yn golygu nad wyf yn cyflawni i&#8217;m ngallu gorau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Rhwystrau sy&#8217;n <em>blocio<\/em><\/h4>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Dyma\u2019r rhwystrau sy\u2019n ein hatal rhag cwblhau gweithgaredd neu dasg. Er enghraifft, methu \u00e2 chyflwyno ffurflen treth cyngor am fod y botwm cyflwyno yn anweledig i&#8217;r darllenydd sgrin. Mae&#8217;r darllenydd sgrin yn darllen tudalennau gwe yn uchel wrth i mi eu defnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i ni wneud penderfyniadau am ein cynnyrch a&#8217;n gwasanaethau, mae&#8217;n bwysig edrych am ffyrdd y gall y penderfyniadau yma atal, cyfyngu neu rwystro defnyddwyr.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n anodd gweld rhwystrau weithiau. Yn aml rydym yn gyfyngedig i&#8217;r rhwystrau y gallwn eu dychmygu. Ac mae&#8217;r hyn y gallwn ei ddychmygu yn cael ei lunio gan ein safbwyntiau a&#8217;n profiadau. Felly, i ddeall rhwystrau, mae angen i ni ystyried cyfyngiadau ein safbwyntiau a&#8217;n profiadau; y tybiaethau a wnawn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">O ble y daw rhwystrau<\/h4>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Daw rhwystrau yn bennaf o ragdybiaethau. Mae popeth rydyn ni&#8217;n ei greu yn dod o amgodio ein rhagdybiaethau o&#8217;r byd o&#8217;n cwmpas.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhagdybiaethau&#8217;n ddefnyddiol, yn helpu ni i fodelu&#8217;r byd a gwneud penderfyniadau bywyd. Datblygir barn dda dros amser wrth ddod yn ymwybodol o&#8217;r rhagdybiaethau a wnawn a&#8217;u gwella. Byddem hefyd yn sicr o wneud rhagdybiaethau anghywir ar y daith hon.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel arfer mae dau fath o ragdybiaethau sy&#8217;n arwain at rwystrau:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhagdybiaeth am gorff a gallu defnyddiwr<\/li>\n\n\n\n<li>Rhagdybiaeth am amgylchedd neu sefyllfa defnyddiwr<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter w-richtext-figure-type-image w-richtext-align-fullwidth\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/637e030357513197cb885dd8_assumptions.png\" alt=\"4 icons on a red background showing a person in a wheelchair. A brain with a dot pattern on one side and wiggly lines on another. An eye with a line through it and an ear with a line through it.\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Dyma 4 math o dybiaeth am gyrff a galluoedd pobl: gweithredol, gwybyddol, clyw, golwg.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Rhagdybiaethau math 1: cyrff a galluoedd<\/h4>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Mae pobl yn dod ymhob lliw a llun. Gellir grwpio ein rhagdybiaethau yn bedwar maes sy&#8217;n effeithio ar hygyrchedd. Rhagdybiaethau ynghylch <strong>galluoedd gweithredol, gwybyddol, golwg<\/strong> a <strong>chlyw<\/strong> pobl.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar yr un pryd mae angen ystyried gallu, medrusrwydd a chapasiti.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>1. Gweithredol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae gweithredol yn cyfeirio at ein gallu i symud a rheoli ein cyrff. Gall fod yn bethau mawr fel cerdded neu bethau bach fel cydlynu symudiadau m\u00e2n ar gyfer ysgrifennu neu glymu careiau esgidiau. Gall fod am gyfnod byr (fel torri braich) neu am byth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Yn y byd digidol, <\/strong>gallwn dybio bod pob defnyddiwr yn gallu defnyddio sgrin gyffwrdd, llygoden neu dracpad yn gywir. Gall hyn arwain at rwystrau i ddefnyddwyr sy&#8217;n defnyddio offer i fewnbynnu fel lleferydd, technoleg eyegaze, bysellfyrddau a switshis brathu.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>2. Gwybyddol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwybyddol yn ymwneud \u00e2 sut rydym yn derbyn, prosesu a gweithredu ar wybodaeth. Mae&#8217;n cynnwys meysydd fel canolbwyntio, cof, gwneud penderfyniadau a chyfathrebu.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Yn y byd digidol, <\/strong>gallwn dybio&#8217;r hyn mae rhywun yn ei wybod yn barod, neu sut y byddant yn dehongli ein cynnwys. Gall hyn arwain at rwystrau i ddefnyddwyr h\u0177n neu niwrowahanol a allai fod yn anghyfarwydd \u00e2 therm neu gysyniad a ddefnyddiwn, neu gysylltiad a wnawn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>3. Golwg<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae golwg yn ymwneud \u00e2 sut canfyddir gwybodaeth weledol. Mae golwg yn cwmpasu ystod o feysydd megis craffter (yr hyn mae optegydd yn ei fesur), yn ogystal \u00e2&#8217;r gallu i wahanu lliwiau ac amcangyfrif pellteroedd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Yn y byd digidol, <\/strong>gallwn dybio bob pob defnyddiwr yn gallu cael mynediad at wybodaeth weledol. Gall hyn gyflwyno rhwystrau pan fyddwn yn defnyddio lliwiau i gyfleu gwybodaeth mewn siart na all rhai defnyddwyr ei weld. Neu pan fyddwn yn mewnosod geiriau o fewn delwedd na all darllenydd sgrin ei ddarllen yn uchel.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>4. Clyw<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae clyw yn ymwneud \u00e2 sut canfyddir sain. Mae&#8217;r clyw yn cwmpasu meysydd fel sensitifrwydd sain a dehongliad.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Yn y byd digidol, <\/strong>gallwn dybio bod pob defnyddiwr yn gallu cael mynediad at sain, neu dybio bod iaith arwyddion a chynnwys ysgrifenedig yr un mor hygyrch. Gall hyn gyflwyno rhwystrau pan na ellir cynhyrchu sain ar lefel ganfyddadwy, na ellir ei deall yn glir neu pan fydd gallu defnyddiwr iaith arwyddion yn llawer cryfach na&#8217;i allu i ddarllen.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Gallu<\/h4>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Mae gallu yn faes cymhleth. Er nad yw&#8217;n un o&#8217;r pedwar prif gr\u0175p bydd yn effeithio arnoch chi a phob un o&#8217;ch defnyddwyr ar ryw adeg. Pan fyddwn yn ei ystyried yng nghyd-destun gallu a chapasiti unigolyn, mae\u2019n ein helpu i nodi rhagor o rwystrau a thybiaethau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gallu<\/strong> &#8211; Popeth y gall defnyddiwr ei wneud. Eu holl wybodaeth a sgiliau. Mae&#8217;n debyg bod hon yn rhestr hir. <br>E.e. Rwy&#8217;n gallu cwblhau siopa bwyd ar-lein<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Medrusrwydd<\/strong> &#8211; Dyma restr fyrrach o&#8217;r pethau y gall defnyddwyr eu gwneud heddiw. Mae hyn yn dibynnu ar ffactorau fel hyder, pryder, yfed alcohol, yr amser a&#8217;r offer sydd ar gael. <br>E.e. Nid allaf gwblhau siopa bwyd ar-lein heddiw gan nad wyf yn hyderus y bydd eitem cyfnewid yn briodol ar gyfer fy anghenion dietegol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Capasiti<\/strong> &#8211; Dyma&#8217;r egni sydd gennym i wneud yr hyn y gallwn ei wneud. Mae pethau fel salwch a blinder yn cael effaith ar hyn. Cyfeirir ato fel <a href=\"https:\/\/butyoudontlooksick.com\/articles\/written-by-christine\/the-spoon-theory\/\">llwyau<\/a> weithiau.&nbsp;<br>E.e. Hyd yn oed os byddwn yn gwybod pa eitemau fydda&#8217;n diwallu fy anghenion, mae&#8217;n ddiwedd y dydd ac rwyf wedi blino gormod i gwblhau&#8217;r broses o dalu.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd gallu a chapasiti&#8217;r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn newid trwy gydol y dydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall y rhagdybiaethau a wnawn am allu arwain yn sydyn iawn at rwystrau i lawer o ddefnyddwyr mewn sefyllfaoedd byd go iawn.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter w-richtext-figure-type-image w-richtext-align-fullwidth\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/637e03107241f89993e6d591_assumptions-environment.png\" alt=\"4 icons: A person holding a handle in a train carriage, a cloud of dust representing an emergency, a sun, and a person in bed\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Rhai sefyllfaoedd ac amgylcheddau: bod ar dr\u00ean, argyfwng (cwmwl o lwch), bod yn y gwely, y tywydd.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Rhagdybiaethau math 2: amgylchedd a sefyllfa<\/h4>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Mae ail fath o ragdybiaeth yn gorgyffwrdd \u00e2 gallu. Gall y byd go iawn fod yn fl\u00ear ac yn gymhleth i bob defnyddiwr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Amgylchedd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gallwn dybio bod ein defnyddwyr mewn amgylchedd statig, sefydlog a chaniataol. Gall y tybiaethau yma gyflwyno rhwystrau e.e. wrth ddefnyddio dyfais symudol gydag un llaw ar dr\u00ean ysgytiog, neu yn y gwely wrth ochr partner sy&#8217;n cysgu.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sefyllfa<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gallwn dybio bod defnyddiwr mewn sefyllfa gyfforddus a diogel. Gall defnyddwyr fod dan straen, yn rhuthro neu&#8217;n delio ag argyfwng.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall rhwystrau sefyllfaol eraill ddod i&#8217;r amlwg o ragdybiaethau cymdeithasol, megis fforddiadwyedd (bod yn berchen ar ddyfais symudol \u00e2 data) neu ragdybiaethau diwylliannol o ran sut rydym yn defnyddio lliw neu eiconograffig. I rai defnyddwyr gall coch ddangos perygl, i ddefnyddwyr eraill gall coch ddangos lwc a llawenydd. Efallai y bydd rhai defnyddwyr yn dehongli eicon o amlen fel cyfeiriad e-bost, eraill yn ei weld fel cyfeiriad post.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Dileu&#8217;r rhwystrau yma o&#8217;n gwasanaethau<\/h4>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Wrth ymchwilio i&#8217;r mathau yma o dybiaethau gallwn wella ein cyrhaeddiad gyda defnyddwyr. Dyma rai camau gellir eu cymryd i ddefnyddio ein gwybodaeth am rwystrau yn ein gwaith.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Awgrym 1: Aros yn chwilfrydig<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae chwilfrydedd am ein defnyddwyr a brwdfrydedd i ddysgu am y rhwystrau y maent yn eu hwynebu yn gyfuniad da.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwn ymgysylltu \u00e2&#8217;n defnyddwyr trwy ddulliau ffurfiol megis <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-category\/ymchwil-defnyddwyr\/\">ymchwil defnyddwyr<\/a> neu <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/resource-articles\/how-to-test-your-website-with-your-users-in-10-steps\/\">brofi defnyddwyr<\/a>, neu&#8217;n anffurfiol wrth gysylltu \u00e2 gwahanol gymunedau, gwahodd adborth a chynnig cefnogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Awgrym 2: Bod yn strategol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Strategaeth gychwynnol dda yw nodi pa grwpiau yr ydych yn gyfforddus i&#8217;w heithrio.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall hyn ymddangos yn groes i&#8217;r cysyniad o gynllunio cynhwysol, ond mae&#8217;n helpu i osod y cwmpas.<\/p>\n\n\n\n<p>Er enghraifft, mae llawer o&#8217;r cynhyrchion digidol rwy&#8217;n gweithio arnynt yn hapus i eithrio plant bach a phlant ifanc oherwydd rhwystrau gwybyddol fel darllen. Fodd bynnag, nid ydynt eisiau eithrio defnyddwyr sydd yn wynebu rhwystrau tebyg yn ddamweiniol, fel rhywun sy&#8217;n siarad Saesneg fel ail iaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn seiliedig ar hyn, canolbwyntiwyd ein gwaith wrth <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/accessibility\/forproducts\/xr\/barriers#3.4-text\">dracio rhwystrau darllen defnyddwyr,<\/a> y rhagdybiaethau oedd wedi creu&#8217;r rhwystrau yma, a&#8217;r hyn a wnaethpwyd i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r rhwystrau yma&#8217;n llwyddiannus o fewn sylfaen defnyddwyr y cynnyrch.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylech chi:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Nodi pwy sy&#8217;n cael ei wahardd yn fwriadol<\/li>\n\n\n\n<li>Rhestru&#8217;r rhwystrau pam<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyried pa grwpiau eraill gellir eu heithrio&#8217;n ddamweiniol gan yr un rhwystrau.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p><strong>Awgrym 3: Ymestyn allan<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae adeiladu cymuned o amgylch eich gwaith yn ffordd wych o hybu ei effeithiolrwydd. Mae grwpiau cynllunio cynhwysol yn bodoli yn y rhan fwyaf o ddiwydiannau a dinasoedd. Ystyriwch gysylltu ag eraill sydd ar lwybr tebyg. Mae&#8217;n gymuned gyfeillgar i fod yn rhan ohoni.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">I gloi<\/h4>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-category\/hygyrchedd-digidol\/\">hygyrchedd<\/a> a <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-category\/cynhwysiant-digidol\/\">chynllunio cynhwysol<\/a> yn bynciau dwfn. Ond, daw&#8217;r cyfan yn \u00f4l at y cysyniad o rwystrau. Mae ymwybyddiaeth o&#8217;n rhagdybiaethau yn ein galluogi i leihau rhwystrau, cynyddu ein cyrhaeddiad a galluogi ein buddiolwyr i ffynnu.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":21741,"template":"","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2005,2004],"class_list":["post-21719","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","resource-category-cynhwysiant-digidol","resource-category-hygyrchedd-digidol"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cynllunio Digidol Cynhwysol: Hygyrchedd, Rhagdybiaethau a Rhwystrau - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Beth yw hygyrchedd a sut mae&#039;n berthnasol i gynllunio cynhwysol? 3 rhwystr, 7 rhagdybiaeth a 3 awgrym cynllunio cynhwysol i ddileu rhwystrau.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cynllunio Digidol Cynhwysol: Hygyrchedd, Rhagdybiaethau a Rhwystrau - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Beth yw hygyrchedd a sut mae&#039;n berthnasol i gynllunio cynhwysol? 3 rhwystr, 7 rhagdybiaeth a 3 awgrym cynllunio cynhwysol i ddileu rhwystrau.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-21T10:51:26+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1748\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1240\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/\",\"name\":\"Cynllunio Digidol Cynhwysol: Hygyrchedd, Rhagdybiaethau a Rhwystrau - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg\",\"datePublished\":\"2023-06-25T23:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-21T10:51:26+00:00\",\"description\":\"Beth yw hygyrchedd a sut mae'n berthnasol i gynllunio cynhwysol? 3 rhwystr, 7 rhagdybiaeth a 3 awgrym cynllunio cynhwysol i ddileu rhwystrau.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg\",\"width\":1748,\"height\":1240},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Cynllunio Digidol Cynhwysol: Hygyrchedd, Rhagdybiaethau a Rhwystrau\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cynllunio Digidol Cynhwysol: Hygyrchedd, Rhagdybiaethau a Rhwystrau - ProMo Cymru","description":"Beth yw hygyrchedd a sut mae'n berthnasol i gynllunio cynhwysol? 3 rhwystr, 7 rhagdybiaeth a 3 awgrym cynllunio cynhwysol i ddileu rhwystrau.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cynllunio Digidol Cynhwysol: Hygyrchedd, Rhagdybiaethau a Rhwystrau - ProMo Cymru","og_description":"Beth yw hygyrchedd a sut mae'n berthnasol i gynllunio cynhwysol? 3 rhwystr, 7 rhagdybiaeth a 3 awgrym cynllunio cynhwysol i ddileu rhwystrau.","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2025-07-21T10:51:26+00:00","og_image":[{"width":1748,"height":1240,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/","name":"Cynllunio Digidol Cynhwysol: Hygyrchedd, Rhagdybiaethau a Rhwystrau - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg","datePublished":"2023-06-25T23:00:00+00:00","dateModified":"2025-07-21T10:51:26+00:00","description":"Beth yw hygyrchedd a sut mae'n berthnasol i gynllunio cynhwysol? 3 rhwystr, 7 rhagdybiaeth a 3 awgrym cynllunio cynhwysol i ddileu rhwystrau.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Featured-image-ProMo-blogs-3.jpg","width":1748,"height":1240},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Cynllunio Digidol Cynhwysol: Hygyrchedd, Rhagdybiaethau a Rhwystrau"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/21719","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21741"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21719"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21719"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=21719"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}