{"id":21844,"date":"2023-08-27T17:02:00","date_gmt":"2023-08-27T16:02:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/?post_type=resource&#038;p=21844"},"modified":"2025-05-20T09:49:00","modified_gmt":"2025-05-20T08:49:00","slug":"gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/","title":{"rendered":"Gwella Graffeg i Sefydliadau Dielw Gyda Nodweddion AI Canva"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Os ydych chi\u2019n chwilio am ffyrdd rhad a chyflym i greu cynnwys gweledol sydd yn edrych yn broffesiynol yna efallai bydd nodweddion deallusrwydd artiffisial (AI) Canva yn gallu helpu. Lle da i gychwyn os ydych chi angen cymorth i wella\u2019ch dyluniadau.<\/h3>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p><strong>Ewch yn syth i:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#whatiscanva\">Beth yw Canva, a beth yw\u2019r buddiannau i sefydliadau dielw?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#AIhelpu\">Sut gall AI fy helpu yn Canva?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#designsuggestions\">Awgrymiadau dylunio<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#imageenhancement\">Gwella delwedd a golygu<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#texttoimage\">Testun-i-ddelwedd<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#magiceraser\">Rhwbiwr Hud<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#musicgenerator\">Generadur cerddoriaeth ar gyfer fideos<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#canvatranslate\">Cyfieithu<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#canvadraw\">Darlunio<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#magicreplace\">Ailosod Hud<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#createanimation\">Creu Animeiddiad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#magicwrite\">Ysgrifennu Hud<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#backgroundremover\">Tynnu Cefndir<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#automaticresizing\">Newid maint yn awtomatig<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promoment.co.uk\/improving-graphics-nonprofits-canva-ai\/?lang=cy#nextsteps\">Camau nesaf<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"432\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva2.png\" alt=\"Canva logo\" class=\"wp-image-18128\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva2.png 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva2-300x169.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beth yw Canva, a beth yw\u2019r buddiannau i sefydliadau dielw?<br><\/h4>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Mae&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.canva.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Canva<\/a>&nbsp;yn declyn dylunio graffeg wych i rai sydd megis cychwyn, am ddim i sefydliadau dielw trwy \u2018<a href=\"https:\/\/www.canva.com\/canva-for-nonprofits\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Canva for Nonprofits<\/a>\u2018.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallech ddefnyddio Canva yn eich porwr gwe neu ei lawr lwytho fel app. Mae\u2019n rhwydd i dimau cydweithio ar brosiectau pan fyddant yn gweithio o bell. Mae\u2019n caniat\u00e1u i chi gydweithio mewn amser go iawn i rannu a golygu dyluniadau, darparu adborth, a sicrhau cysondeb negeseuon a brandio.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r templedi sydd ar gael a\u2019r rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio yn golygu y gellir addasu popeth i weddu anghenion eich sefydliad. Pan mae cyllidebau\u2019n dynn, a dyw meddalwedd dylunio drud neu ddylunydd proffesiynol ddim yn opsiwn, gall Canva helpu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r nodwedd hwb brandio yn caniat\u00e1u i sefydliadau gynnal hunaniaeth weledol gyson wrth greu cynnwys. Llwythwch eich logo, ffontiau, a lliwiau penodol, ac yna gallwch ychwanegu\u2019r rhain i\u2019ch dyluniadau\u2019n hawdd.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch greu amrywiaeth o gynnwys digidol, o fideos, cyflwyniadau, cyfryngau cymdeithasol a gwefannau! Mae hyblygrwydd Canva yn wych i sefydliadau dielw.<\/p>\n\n\n\n<p id=\"howaicanhelp\">Dylech chi fod yn ymwybodol o\u2019r gwrthdaro moesol bosib o ddefnyddio cynnwys wedi ei greu gan AI. Mae sawl yn cyhuddo AI o dorri hawlfraint wrth ddwyn gwaith gwreiddiol i greu cynnwys wedi ei gynhyrchu gan AI. Mae AI yn gweithio trwy dderbyn llawer iawn o wybodaeth (hyfforddiant), dadansoddi\u2019r data yma a defnyddio algorithmau i greu cynnwys \u2018newydd\u2019 yn defnyddio\u2019r data a ddysgwyd. Os ydych chi\u2019n poeni am hyn, defnyddiwch gynnwys gwreiddiol eich hun, neu lawr lwythwch gynnwys heb hawlfraint y gellir ei ddefnyddio a\u2019i olygu fel y dymunwch.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Sut gall AI fy helpu yn Canva?<\/h4>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Er bod rhai sefydliadau wedi bod yn defnyddio Canva ers tro, mae yna sawl sydd ddim yn ymwybodol, neu ddim yn hyderus, yn defnyddio\u2019r offer newydd yma sydd yn defnyddio AI. Mae\u2019r nodweddion AI yma, sydd yn agored i ddefnyddwyr premiwm yn unig (gan gynnwys cyfrifon sefydliadau dielw), yn gallu helpu chi i wella eich cynnwys gweledol yn sylweddol gyda chlic y botwm!<\/p>\n\n\n\n<p>Gall deall y nodweddion newydd yma, a sut i ddefnyddio\u2019r rhain yn eich dyluniadau, gynyddu eich hyder wrth ddefnyddio nodweddion AI newydd a dysgu am bopeth sydd yn bosib.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma sut gall Canva eich helpu i greu dyluniadau deniadol ac effeithiol gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"454\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva3-1024x454.jpg\" alt=\"Screenshot of Canva offering design suggestions \" class=\"wp-image-18130\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva3-1024x454.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva3-300x133.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva3-768x340.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva3-1536x681.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva3.jpg 1600w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">1. Awgrymiadau dylunio<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r nodweddion AI yn gallu dadansoddi eich cynnwys a darparu argymhellion dylunio wrth i chi greu, gan gynnwys templedi, cynllun lliwiau, ffontiau a gosodiadau addas. Gall y meddalwedd adnabod pethau o fewn eich delweddau ac awgrymu elfennau neu eiconau dylunio perthnasol i\u2019w cynnwys. Mae\u2019r nodwedd yma yn helpu i greu dyluniadau deniadol hyd yn oed os nad oes gennych chi brofiad dylunio.<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda \u2018Magic Design\u2019 rydych yn uwch lwytho delwedd fel sylfaen eich dyluniad. Yna mae\u2019n cynhyrchu templedi yn awtomatig yn seiliedig ar y ddelwedd a thempledi Canva presennol. Bydd yn awgrymu casgliad o opsiynau ar gyfer eich cynnwys yn y gwahanol ddyluniadau yma.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch hefyd ddefnyddio \u2018Magic Design\u2019 i greu cyflwyniad gan ddefnyddio ychydig eiriau i\u2019ch rhoi ar ben ffordd. I ddefnyddio\u2019r nodwedd yma, agorwch gyflwyniad newydd ac yn y bar offer ar ochr chwith y sgrin, pwyswch \u2018design\u2019 ac yna \u2018Magic Design\u2019. Bydd yn gofyn i chi ysgrifennu pum gair neu fwy i ddisgrifio\u2019r cyflwyniad yr hoffech. Bydd y canlyniadau\u2019n darparu amlinelliad gwych i chi weithio ar bwnc eich cyflwyniad. Mae posib newid brandio\u2019r cyflwyniad yma i weddu lliwiau a ffontiau eich brand.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"332\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvamagicedit-1024x332.jpg\" alt=\"Screenshot of Canva offering Magic edit - turning a man holding a clipboard into a man holding a black and white cat. \" class=\"wp-image-18132\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvamagicedit-1024x332.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvamagicedit-300x97.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvamagicedit-768x249.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvamagicedit-1536x499.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvamagicedit.jpg 1562w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">2. Gwella delwedd a golygu&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r nodwedd AI yma yn gallu gwella edrychiad eich delweddau wrth addasu gosodiadau\u2019r ddelwedd yn awtomatig. Gall yr addasiadau gynnwys disgleirdeb, cyferbyniad, dirlawnder a miniogrwydd i helpu\u2019ch delwedd i edrych yn fwy bywiog, sgeiniog a drud! Mae posib ychwanegu sawl hidlydd ac effaith i\u2019ch dyluniadau i newid naws, steil a esthetig eich graffeg.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae \u2018Magic Edit\u2019, nodwedd AI arall gan Canva, yn caniat\u00e1u i chi ddewis darnau o ddelwedd a gosod rhywbeth arall yn eu lle. Cliciwch ar y ddelwedd sydd yn cael ei olygu yn Canva, dewiswch \u2018edit photo\u2019 ac yna \u2018Magic Edit\u2019. Brwsiwch dros yr ardal sydd angen ei ddileu, cliciwch nesaf, ac yna teipiwch rywbeth hoffech roi yn ei le.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvatools-1024x576.jpg\" alt=\"Screenshot of Canva text to image function, creating a pop-art style Tom Jones image and an image of a pig in space. \" class=\"wp-image-18134\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvatools-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvatools-300x169.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvatools-768x432.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvatools-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvatools.jpg 1600w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">3. Testun-i-ddelwedd<\/h4>\n\n\n\n<p>Methu darganfod delwedd benodol? Gyda\u2019r generadur testun-i-ddelwedd AI gallech chi deipio geiriau neu ymadroddion, a bydd y rhain yn eu trawsnewid yn ddelweddau sy\u2019n cwrdd \u00e2\u2019r gofynion. Mae posib&nbsp; chwarae gyda\u2019r steil, fel bod yr un geiriau yn creu gwahanol ganlyniadau yn ddibynnol os ydych chi wedi dewis arddull \u2018dyfrliw\u2019 neu \u2018gomig\u2019 (er enghraifft). Gall rhai o\u2019r dyluniadau yma fod ychydig yn \u2018wahanol\u2019, ond mae\u2019n wych i arbrofi a chael ysbrydoliaeth.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"326\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Magic-Eraser-1024x326.jpg\" alt=\"Screenshot of Canva magic eraser tool, removing post-it notes from a corkboard. \" class=\"wp-image-18136\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Magic-Eraser-1024x326.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Magic-Eraser-300x96.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Magic-Eraser-768x245.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Magic-Eraser-1536x489.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Magic-Eraser.jpg 1545w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">4. Rhwbiwr Hud<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r nodwedd AI \u2018Magic Erase\u2019 yn&nbsp; caniat\u00e1u i chi ddileu agweddau o\u2019ch llun. Dewiswch eich delwedd, pwyswch \u2018edit photo\u2019, a dewiswch \u2018Magic Eraser\u2019. Brwsiwch dros ran o\u2019r ddelwedd sydd angen ei ddileu, ac ar glic botwm mae wedi diflannu. Teclyn gwych i\u2019w ddefnyddio os ydych chi wedi tynnu llun a bod rhywbeth yn tynnu sylw yn y cefndir.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"304\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Beat-Sync-1024x304.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-18138\" style=\"width:1027px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Beat-Sync-1024x304.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Beat-Sync-300x89.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Beat-Sync-768x228.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Beat-Sync-1536x456.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Beat-Sync.jpg 1595w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">5. Generadur cerddoriaeth ar gyfer fideos<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae posib creu fideos proffesiynol yr olwg yn syth o\u2019r rhaglen. Mae un o\u2019r newidiadau diweddaraf yn caniat\u00e1u i chi weithio ar linell amser fideo, yn debyg i feddalwedd golygu fideo, fel y gallech lusgo, gollwng, torri a golygu fideos. Ceir lyfrgell amrywiol o drawsnewidiadau, elfennau wedi\u2019u hanimeiddio, ac effeithiau i greu golwg unigryw a phroffesiynol i\u2019ch fideos heb orfod talu am gontract allanol ar gyfer prosiectau llai.<\/p>\n\n\n\n<p>I orffen fideo yn broffesiynol, bydd angen cerddoriaeth! Yn union fel y generadur delwedd, mae\u2019r generadur cerddoriaeth AI yn caniat\u00e1u i chi greu cerddoriaeth unigryw i gyd-fynd yn berffaith \u00e2\u2019ch prosiect fideo Canva nesaf. Dewiswch y naws, genre, thema, a hyd i greu rhestr o opsiynau ar gyfer eich dyluniad diweddaraf.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae \u2018Beat Sync\u2019 yn symleiddio\u2019r broses yma ac yn gallu creu trac sain yn awtomatig sydd yn cyd-fynd yn berffaith \u00e2 amseru eich fideo.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Translate-2-2-1024x396.png\" alt=\"Cyfres 3 llun i arddangos gallu cyfieithu Canva. Llun chwith yn destun gwreiddiol Saesneg, canol yn gyfieithiad Canva, dde yn gyfieithiad proffesiynol.\n\" class=\"wp-image-15149\" style=\"width:1110px;height:auto\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">6. Cyfieithu<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r nodwedd cyfieithu yn gadael i chi gyfieithu unrhyw destun i dros 100 iaith wahanol o fewn Canva, gan gynnwys Cymraeg. Mae\u2019r nodwedd cyfieithu wedi\u2019i osod ar y bar offer ar ochr chwith y sgrin o dan yr adran apps. Dewiswch yr iaith wreiddiol a\u2019r iaith hoffech gyfieithu iddi. Mae\u2019r hud yn digwydd wrth greu tudalen ddyblyg gyda\u2019r testun wedi\u2019i gyfieithu ar gyfer pob tudalen dewiswyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Er bod offer cyfieithu yn y rhaglen yn ddefnyddiol, nid yw\u2019n gywir bob tro, gwell ei ddefnyddio ar gyfer darnau byr o destun yn unig. Dylid gwirio\u2019r cywirdeb gyda rhywun sydd yn rhugl yn yr iaith bob tro. Dylid cyfieithu darnau hirach yn broffesiynol i osgoi\u2019r perygl o dynnu\u2019n groes i\u2019ch polis\u00efau iaith neu os ydych chi\u2019n ceisio cadw at&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.comisiynyddygymraeg.cymru\/sefydliadau-cyhoeddus\/safonaur-gymraeg\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Safonau\u2019r Gymraeg<\/a>&nbsp;yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"972\" height=\"426\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvadraw.png\" alt=\"Screenshot of Canva draw tool, tidying up a wonky circle into a perfectly rounded one. \" class=\"wp-image-18142\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvadraw.png 972w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvadraw-300x131.png 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvadraw-768x337.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 972px) 100vw, 972px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">7. Darlunio<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r nodwedd \u2018Draw\u2019 yn caniat\u00e1u i chi ddwdlan yn syth ar ddarluniadau a gall hyn eich helpu i ddangos cysyniadau pwysig. Er nad yw hyn yn nodwedd newydd, mae Canva wedi defnyddio AI i ddatblygu\u2019r modd \u2018scetch assist\u2019. Os ydych chi\u2019n gwneud llun o si\u00e2p ac yn dal eich llygoden drosto cyn gollwng, bydd yn twtio\u2019r sgets yn awtomatig ac yn gwneud iddo edrych yn daclus.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"651\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Magic-Replace-1024x651.jpg\" alt=\"Screenshot of Canva Magic Replace tool \" class=\"wp-image-18144\" style=\"width:1110px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Magic-Replace-1024x651.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Magic-Replace-300x191.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Magic-Replace-768x488.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Magic-Replace-1536x976.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/Magic-Replace.jpg 1996w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">8. Ailosod Hud<\/h4>\n\n\n\n<p>Os ydych chi wedi adnewyddu pecyn brand eich sefydliad ac angen diweddaru eich holl ddyluniadau, gall meddwl am wneud hynny fod yn hunllef. Ond gyda\u2019r nodwedd \u2018Magic Replace\u2019 mae posib mynd i\u2019r hwb brand a dewis y tri dot ar eich hen logo, yna dewis \u2018replace across designs\u2019. Bydd yn chwilio am eich holl ddogfennau gyda\u2019r logo yma a\u2019i ailosod gyda\u2019r logo newydd yn awtomatig. Mae\u2019n rhaid i\u2019r logo newydd fod yr un maint \u00e2\u2019r hen un i ffitio\u2019r dyluniad yn berffaith. Mae\u2019r nodwedd yma yn gweithio gyda\u2019r delweddau defnyddiwyd hefyd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"427\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaanimate-1024x427.jpg\" alt=\"Screenshot of Canva Animate tool\" class=\"wp-image-18146\" style=\"width:1110px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaanimate-1024x427.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaanimate-300x125.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaanimate-768x320.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaanimate-1536x641.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaanimate.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">9. Creu Animeiddiad<\/h4>\n\n\n\n<p>Defnyddiwch \u2018Create Animation\u2019 i greu arddull animeiddio unigryw a dod \u00e2 stori yn fyw. Llusgwch eich elfennau ar draws y sgrin, bydd AI yn cofnodi\u2019r llwybr. Yna arbrofwch gyda\u2019r cyflymder a chyfeiriad eich elfennau animeiddiedig. I gychwyn, cliciwch ar yr elfen yr hoffech chi, dewiswch \u2018animate\u2019 ac yna \u2018create an animation\u2019.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"651\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvamagicwrite-1024x651.jpg\" alt=\"Screenshot of Canva Magic write tool\" class=\"wp-image-18148\" style=\"width:1111px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvamagicwrite-1024x651.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvamagicwrite-300x191.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvamagicwrite-768x488.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvamagicwrite-1536x976.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvamagicwrite.jpg 1986w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">10. Ysgrifennu Hud<\/h4>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n cael trafferth i feddwl am y geiriau cywir ar gyfer eich cynnwys, gall \u2018Magic Write\u2019 sy\u2019n cael ei bweru gan AI, helpu. Mae posib creu testun ysgrifenedig ar draws pob math o gynnwys, o ddogfennau a chyflwyniadau i bostiadau cyfryngau cymdeithasol a fideos. Defnyddiwch \u2018Magic Write\u2019 trwy \u2018Canva Assistant\u2019. Dewiswch \u2018Magic Write\u2019 a theipiwch bum gair neu fwy i ddisgrifio\u2019r hyn rydych chi am ysgrifennu amdano. Ar \u00f4l cael y testun, gallech chi olygu\u2019r allbwn yn sydyn gan ddewis botymau \u2018summarise\u2019, \u2018expand\u2019, \u2018rewrite\u2019, neu \u2018edit\u2019.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"475\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvabg-1024x475.jpg\" alt=\"Screenshot of Canva background remover tool, removing the background of a photo of someone holding a bunch of orange and white flowers. \" class=\"wp-image-18150\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvabg-1024x475.jpg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvabg-300x139.jpg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvabg-768x356.jpg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvabg-1536x712.jpg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvabg.jpg 1600w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">11. Tynnu Cefndir<\/h4>\n\n\n\n<p>Os oes angen i chi dynnu\u2019r cefndir mewn delwedd neu fideo, gellir ei wneud yn hawdd gyda\u2019r teclyn tynnu cefndir. Bydd yn canfod ac yn tynnu\u2019r cefndir o ddelweddau a fideos yn awtomatig. Er enghraifft, rydych chi eisiau creu tudalen \u2018Cwrdd \u00e2\u2019r T\u00eem\u2019 ar eich gwefan a hoffech gefndir cyson, ond mae\u2019r holl staff yn gweithio o bell. Gallwch dynnu\u2019r cefndir o bob llun pen a rhoi rhywbeth cyson a phroffesiynol yr olwg yn ei le. Nid yw pawb yn gyfarwydd \u00e2 golygu sgrin werdd a meddalwedd mwy arbenigol, felly mae tynnu\u2019r cefndir a rhoi rhywbeth arall yn ei le gydag ychydig bach o glicio yn nodwedd wych.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"448\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaresize.png\" alt=\"Screenshot of Canva resize tool\" class=\"wp-image-18152\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaresize.png 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaresize-300x175.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">12. Newid maint yn awtomatig<\/h4>\n\n\n\n<p id=\"nextsteps\">Er nad ellir cyfri\u2019r nodwedd yma fel AI yn dechnegol, mae\u2019n offer gwych i fod yn ymwybodol ohono er mwyn helpu eich sefydliad trydydd sector i greu cynnwys cyflym ar gyfer gwahanol lwyfannau. Dychmygwch eich bod wedi creu post Instagram sgw\u00e2r, ond yn meddwl byddai\u2019r un cynnwys yn dda fel stori fertigol Facebook. Yn lle creu\u2019r dyluniad arall mewn maint gwahanol, gallech arbed amser gyda\u2019r botwm newid maint awtomatig. Mae\u2019n newid maint eich graffeg yn awtomatig i gyd-fynd \u00e2 llwyfannau neu sianeli cyfryngau cymdeithasol eraill. Gydag ychydig o addasu, byddech wedi creu cyfres gyfan o asedau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer sawl llwyfan.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Camau nesaf<\/h4>\n\n\n\n<p>Os nad oes gennych chi fersiwn premiwm o Canva eisoes a\u2019ch bod yn sefydliad dielw, dechreuwch trwy gofrestru ar gyfer eich&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.canva.com\/canva-for-nonprofits\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cyfrif dielw rhad ac am ddim<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Dewch i adnabod Canva a chwarae o gwmpas gyda phopeth. Fel y mwyafrif o bethau, rhoi tro arni ac arbrofi yw\u2019r ffordd orau i ddysgu. Ceisiwch greu eich cyflwyniad, poster, neu raffeg cyfryngau cymdeithasol nesaf yn defnyddio Canva, a gofynnwch i\u2019ch cydweithwyr am adborth.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n dal i gael trafferth i ddefnyddio Canva yn effeithiol ar gyfer eich gwaith,&nbsp;<a href=\"mailto:andrew@promo.cymru\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cysylltwch \u00e2 ni<\/a>&nbsp;i weld sut gallem helpu. Rydym yn cynnig hyfforddiant Canva i sefydliadau ac yn gallu helpu gyda brandio.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Cefnogaeth ar gael<\/h4>\n\n\n\n<p>Gallech ddarganfod ein holl adnoddau&nbsp;<a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/adnoddau\/\">Cymorth Digidol yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n chwilio am gyngor neu gymorth i ddatblygu eich prosesau digidol fel bod eich gwaith yn haws, mae\u2019r gwasanaeth DigiCymru yn cynnig sesiynau cefnogi un i un, byr, am ddim, i sefydliadau\u2019r trydydd sector yng Nghymru.&nbsp;<strong><a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/digicymru\/\">Darganfod mwy<\/a>.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/TSDS-banner_cym.png\" alt=\"Welsh Third sector digital support logo with words Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector. Wavy lava lamp 'esque' circles in pinks, purples, red and orange.\" class=\"wp-image-14584\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Ariannir yr adnodd hwn drwy&nbsp;<a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/cefnogaeth-ddigidol-trydydd-sector\/\">Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector<\/a>, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol. I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi,&nbsp;<a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/cefnogaeth-ddigidol-trydydd-sector\/\">cliciwch y ddolen<\/a>&nbsp;neu cysylltwch \u00e2&nbsp;<em><a href=\"mailto:andrew@promo.cymru\">andrew@promo.cymru<\/a><\/em><\/p>\n","protected":false},"featured_media":18129,"template":"","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2010],"class_list":["post-21844","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","resource-category-adnoddau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Gwella Graffeg i Sefydliadau Dielw Gyda Nodweddion AI Canva - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Chwilio am ffyrdd rhad a chyflym i greu cynnwys gweledol sy&#039;n edrych yn broffesiynol? Rhowch dro ar nodweddion AI Canva.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Gwella Graffeg i Sefydliadau Dielw Gyda Nodweddion AI Canva - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Chwilio am ffyrdd rhad a chyflym i greu cynnwys gweledol sy&#039;n edrych yn broffesiynol? Rhowch dro ar nodweddion AI Canva.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-05-20T08:49:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva2.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"768\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"432\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"12 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/\",\"name\":\"Gwella Graffeg i Sefydliadau Dielw Gyda Nodweddion AI Canva - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva2.png\",\"datePublished\":\"2023-08-27T16:02:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-05-20T08:49:00+00:00\",\"description\":\"Chwilio am ffyrdd rhad a chyflym i greu cynnwys gweledol sy'n edrych yn broffesiynol? Rhowch dro ar nodweddion AI Canva.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva2.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva2.png\",\"width\":768,\"height\":432,\"caption\":\"Canva logo\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Gwella Graffeg i Sefydliadau Dielw Gyda Nodweddion AI Canva\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Gwella Graffeg i Sefydliadau Dielw Gyda Nodweddion AI Canva - ProMo Cymru","description":"Chwilio am ffyrdd rhad a chyflym i greu cynnwys gweledol sy'n edrych yn broffesiynol? Rhowch dro ar nodweddion AI Canva.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Gwella Graffeg i Sefydliadau Dielw Gyda Nodweddion AI Canva - ProMo Cymru","og_description":"Chwilio am ffyrdd rhad a chyflym i greu cynnwys gweledol sy'n edrych yn broffesiynol? Rhowch dro ar nodweddion AI Canva.","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2025-05-20T08:49:00+00:00","og_image":[{"width":768,"height":432,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva2.png","type":"image\/png"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"12 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/","name":"Gwella Graffeg i Sefydliadau Dielw Gyda Nodweddion AI Canva - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva2.png","datePublished":"2023-08-27T16:02:00+00:00","dateModified":"2025-05-20T08:49:00+00:00","description":"Chwilio am ffyrdd rhad a chyflym i greu cynnwys gweledol sy'n edrych yn broffesiynol? Rhowch dro ar nodweddion AI Canva.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva2.png","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canva2.png","width":768,"height":432,"caption":"Canva logo"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/gwella-graffeg-i-sefydliadau-dielw-gyda-nodweddion-ai-canva\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Gwella Graffeg i Sefydliadau Dielw Gyda Nodweddion AI Canva"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/21844","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18129"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21844"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21844"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=21844"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}