{"id":21853,"date":"2023-08-03T09:41:00","date_gmt":"2023-08-03T08:41:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/?post_type=resource&#038;p=21853"},"modified":"2025-06-06T09:57:17","modified_gmt":"2025-06-06T08:57:17","slug":"google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/","title":{"rendered":"Google Workspace neu Microsoft 365: Pa Un yw\u2019r Gorau i Sefydliad Dielw?"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Fel sefydliad dielw, mae eich amser, arian a\u2019ch adnoddau yn bwysig iawn. Mae dewis y llwyfan cynhyrchiant cywir i chi yn hanfodol er mwyn gallu cyflymu gwaith, gwella cydweithio ymysg staff a thimau, ac optimeiddio rheoli adnoddau.<\/h3>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Mae llwyfan cynhyrchiant yn rhaglen sydd yn caniat\u00e1u i chi gynhyrchu a chreu dogfennau, graffiau, cyflwyniadau, cronfa ddata, ayb. Y ddau brif lwyfan sydd ar gael yw Google Workspace (G Suite gynt) a Microsoft 365. Mae\u2019r ddau yn cynnig amrywiaeth o offer a nodweddion wedi\u2019i deilwro i sefydliadau dielw.<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw dewis pa lwyfan sydd orau i chi yn anodd, defnyddiwch y canllaw yma. Mae\u2019n edrych ar gynigion y ddau fel y gallech chi wneud penderfyniad gwybodus.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Prisiau a gostyngiadau dielw<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae Google Workspace a Microsoft 365 yn cynnig cynlluniau am ddim neu ratach i sefydliadau dielw cymwys. Ond, mae yna rai nodweddion sydd ddim ar gael os nad ydych yn talu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.microsoft.com\/en-us\/nonprofits\/microsoft-365\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Microsoft 365<\/a>&nbsp;yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau am ddim a rhatach, yn ddibynnol ar y nodweddion sydd eu hangen a sawl person fydd yn ei ddefnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.google.com\/nonprofits\/workspace\/compare\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Google Workspace<\/a>&nbsp;yn cynnig y rhaglen Google Workspace for Non-profits, sydd yn cynnig nodweddion syml Google Workspace am ddim.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynigir amrywiaeth o gynlluniau gan y ddau yn ogystal ag opsiynau i addasu gyda thyfiant eich sefydliad, felly gellir newid y cynllun wedyn os oes angen.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth gymharu\u2019r prisiau, dylid ystyried anghenion penodol, cyllid, a nifer y defnyddwyr yn eich sefydliad i benderfynu pa opsiwn a pha gynllun fydd orau i chi.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"800\" height=\"534\" data-id=\"18122\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/mic365.png\" alt=\"Microsoft 365 Icons\" class=\"wp-image-18122\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/mic365.png 800w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/mic365-300x200.png 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/mic365-768x513.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 800px) 100vw, 800px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"800\" height=\"534\" data-id=\"18120\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/google.png\" alt=\"Google Workspace Icons\" class=\"wp-image-18120\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/google.png 800w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/google-300x200.png 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/google-768x513.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 800px) 100vw, 800px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Rhaglenni craidd<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae Microsoft 365 a Google Workspace yn cynnwys cyfres o raglenni cynhyrchiant craidd fel meddalwedd e-bost, dogfennau, taenlenni, a chyflwyniadau.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p><strong>Microsoft 365:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Outlook<\/li>\n\n\n\n<li>Word<\/li>\n\n\n\n<li>Excel<\/li>\n\n\n\n<li>PowerPoint<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p><strong>Google Workspace:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gmail<\/li>\n\n\n\n<li>Google Docs<\/li>\n\n\n\n<li>Sheets<\/li>\n\n\n\n<li>Slides<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p>Tra bod llawer o raglenni Google a Microsoft yn syml iawn, mae yna wahaniaethau bach rhwng y ddau pan ddaw at ba mor hawdd ydynt i\u2019w defnyddio, cydweithio mewn amser go iawn a\u2019r gallu i wneud pethau all-lein. Pa mor gyfarwydd ydych chi ag ef, a pha un fydda\u2019ch t\u00eem chi fwyaf cyfforddus yn ei ddefnyddio? Gall yr holl bethau yma ddylanwadu ar eich penderfyniad.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall newid i gyfres o raglenni newydd gymryd llawer o amser. Efallai bydd angen hyfforddiant a chefnogaeth ar eich t\u00eem i ddefnyddio\u2019r llwyfan newydd yma.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Offer cydweithio<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae gweithio ar yr un ffeil ar yr un amser \u00e2\u2019ch cydweithwyr, ble bynnag y maent yn y byd, yn fantais fawr pan ddaw at gynhyrchiant.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna nodweddion cydweithio ar Microsoft 365, ond mae llawer o\u2019r gred bod Google Workspace yn llawer gwell pan ddaw at weithio mewn amser go iawn gan ei fod yn brofiad mwy llyfn.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall defnyddwyr weithio all-lein ar eu cyfrifiadur gyda Microsoft 365. Mae hyn yn fuddiol iawn pan fydd problemau gyda chysylltu i\u2019r we. Mae Google Workspace hefyd yn cynnig y gallu i weithio all-lein ond nid yw hwn cystal.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaarielle-1024x683.jpeg\" alt=\"Man working on laptop as woman writes notes on paper on table. \" class=\"wp-image-18118\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaarielle-1024x683.jpeg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaarielle-300x200.jpeg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaarielle-768x512.jpeg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaarielle-1536x1025.jpeg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/canvaarielle.jpeg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Offer cyfathrebu<\/h4>\n\n\n\n<p>Weithiau mae gweithio mewn lleoliad gwahanol i\u2019ch cydweithwyr yn gallu bod yn heriol, ond gall offer cyfathrebu wneud y broses yma\u2019n llawer haws.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Google Workspace yn cynnig Google Meet a Google Chat, tra bod Microsoft 365 yn cynnig Microsoft Teams. Mae\u2019r ddau lwyfan yn cynnig cynadledda fideo, sgwrsio a rhannu ffeiliau.<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, mae Microsoft Teams yn cynnig nodweddion uwch fel bwrdd gwyn, ystafelloedd torri allan, ac integreiddio gwell gyda rhaglenni Microsoft 365. Mae\u2019r cynigion yma yn fuddiol iawn i weithio fel gr\u0175p a chreu cyfarfodydd rhithiol sydd yn fwy rhyngweithiol.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Integreiddio a chysondeb<\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd meddwl pa mor dda mae pob un yn integreiddio gyda\u2019ch offer a\u2019ch systemau presennol yn eich helpu chi i wneud penderfyniad ar y llwyfan sydd fwyaf addas i chi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Google Workspace yn integreiddio gyda gwasanaethau&nbsp;<a href=\"https:\/\/analytics.google.com\/analytics\/web\/provision\/#\/provision\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Google Analytics<\/a>,&nbsp;<a href=\"https:\/\/ads.google.com\/intl\/en_uk\/start\/overview-ha\/?subid=gb-en-ha-aw-bk-c-bau!o3~CjwKCAjw_aemBhBLEiwAT98FMqKAef2oQmec8mH8zHb0N6RDwAlPhAq1AH9QyD3D9dML164o7a2FJRoCO5EQAvD_BwE~112709317831~aud-1225341335502:kwd-94527731~11199860344~591553767976&amp;utm_source=aw&amp;utm_medium=ha&amp;utm_campaign=gb-en-ha-aw-bk-c-bau!o3~CjwKCAjw_aemBhBLEiwAT98FMqKAef2oQmec8mH8zHb0N6RDwAlPhAq1AH9QyD3D9dML164o7a2FJRoCO5EQAvD_BwE~112709317831~aud-1225341335502:kwd-94527731~11199860344~591553767976&amp;gclid=CjwKCAjw_aemBhBLEiwAT98FMqKAef2oQmec8mH8zHb0N6RDwAlPhAq1AH9QyD3D9dML164o7a2FJRoCO5EQAvD_BwE&amp;gclsrc=aw.ds\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Google Ads<\/a>, a&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.google.co.uk\/intl\/en-GB\/drive\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Google Drive<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Microsoft 365 yn integreiddio gyda chynnyrch Microsoft fel&nbsp;<a href=\"https:\/\/powerbi.microsoft.com\/en-gb\/landing\/free-account\/?ef_id=_k_CjwKCAjw_aemBhBLEiwAT98FMq94ULv4mddF5SuZJHZehuyEVmvI-yK440Oe12-Kw-mXGYGLZ3roJBoCt64QAvD_BwE_k_&amp;OCID=AIDcmmmhj6wa7w_SEM__k_CjwKCAjw_aemBhBLEiwAT98FMq94ULv4mddF5SuZJHZehuyEVmvI-yK440Oe12-Kw-mXGYGLZ3roJBoCt64QAvD_BwE_k_&amp;gclid=CjwKCAjw_aemBhBLEiwAT98FMq94ULv4mddF5SuZJHZehuyEVmvI-yK440Oe12-Kw-mXGYGLZ3roJBoCt64QAvD_BwE\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Power BI<\/a>,&nbsp;<a href=\"https:\/\/dynamics.microsoft.com\/en-gb\/?&amp;ef_id=_k_CjwKCAjw_aemBhBLEiwAT98FMk7B33iFtFQY78W-qbExO1t2Z0ZmE-ViZp_QdoEWqrriewltdQS43xoCU3oQAvD_BwE_k_&amp;OCID=AIDcmmv6h2jl8a_SEM__k_CjwKCAjw_aemBhBLEiwAT98FMk7B33iFtFQY78W-qbExO1t2Z0ZmE-ViZp_QdoEWqrriewltdQS43xoCU3oQAvD_BwE_k_&amp;gclid=CjwKCAjw_aemBhBLEiwAT98FMk7B33iFtFQY78W-qbExO1t2Z0ZmE-ViZp_QdoEWqrriewltdQS43xoCU3oQAvD_BwE\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Dynamics 365<\/a>, a&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.microsoft.com\/en-gb\/microsoft-365\/sharepoint\/collaboration\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">SharePoint<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r ddau lwyfan yn cefnogi Windows, macOS, iOS, ac Android, ond gall y cysondeb a\u2019r nodweddion amrywio. Gwiriwch os yw\u2019r llwyfan yn cyd-fynd \u00e2\u2019r dyfeisiau a\u2019r systemau gweithredu defnyddir gan eich sefydliad.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"512\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/security-1024x512.jpeg\" alt=\"Graphic of padlock and digital overlays on a blue background. \" class=\"wp-image-18124\" srcset=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/security-1024x512.jpeg 1024w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/security-300x150.jpeg 300w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/security-768x384.jpeg 768w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/security-1536x768.jpeg 1536w, https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/05\/security.jpeg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Diogelwch<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae Google Workspace a Microsoft 365 yn cynnig nodweddion diogelwch fel dilysu dau-ffactor, amgryptio data, ac amddiffyniad uwch rhag bygythiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Cred llawer yw bod nodweddion diogelwch chydymffurfiad Microsoft 365 yn fwy cynhwysfawr, gan gynnwys atal colli data, eDdarganfod uwch, ac offer cydymffurfio gellir eu haddasu.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwerthuswch ofynion diogelwch a chydymffurfiad penodol eich sefydliad i asesu pa lwyfan sydd orau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">I gloi<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae sawl ffactor dylid ystyried wrth ddewis y gyfres cynhyrchiant gorau i\u2019ch sefydliad dielw, gan gynnwys y pris, rhaglenni craidd, offer cydweithio, integreiddio a diogelwch. Treuliwch amser yn archwilio\u2019r opsiynau cynigir i chi ac ystyried pa un sydd yn gweddu anghenion eich sefydliad orau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Cefnogaeth ar gael<\/h4>\n\n\n\n<p>Gallech ddarganfod ein holl adnoddau&nbsp;<a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/adnoddau\/\">Cymorth Digidol yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n chwilio am gyngor neu gymorth i ddatblygu eich prosesau digidol fel bod eich gwaith yn haws, mae\u2019r gwasanaeth DigiCymru yn cynnig sesiynau cefnogi un i un, byr, am ddim, i sefydliadau\u2019r trydydd sector yng Nghymru.&nbsp;<strong><a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/digicymru\/\">Darganfod mwy<\/a>.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/TSDS-banner_cym.png\" alt=\"Welsh Third sector digital support logo with words Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector. Wavy lava lamp 'esque' circles in pinks, purples, red and orange.\" class=\"wp-image-14584\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Ariannir yr adnodd hwn drwy&nbsp;<a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/cefnogaeth-ddigidol-trydydd-sector\/\">Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector<\/a>, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol. I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi,&nbsp;<a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/project\/cefnogaeth-ddigidol-trydydd-sector\/\">cliciwch y ddolen<\/a>&nbsp;neu cysylltwch \u00e2&nbsp;<em><a href=\"mailto:andrew@promo.cymru\">andrew@promo.cymru<\/a><\/em><\/p>\n","protected":false},"featured_media":21849,"template":"","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2010],"class_list":["post-21853","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","resource-category-adnoddau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Google Workspace neu Microsoft 365: Pa Un yw\u2019r Gorau i Sefydliad Dielw? - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae&#039;r llwyfan cywir yn cyflymu gwaith, gwella cydweithio, ac optimeiddio rheoli adnoddau. Dyma gymharu Google Workspace a Microsoft 365\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Google Workspace neu Microsoft 365: Pa Un yw\u2019r Gorau i Sefydliad Dielw? - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae&#039;r llwyfan cywir yn cyflymu gwaith, gwella cydweithio, ac optimeiddio rheoli adnoddau. Dyma gymharu Google Workspace a Microsoft 365\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-06-06T08:57:17+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/DSC03881.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1708\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/\",\"name\":\"Google Workspace neu Microsoft 365: Pa Un yw\u2019r Gorau i Sefydliad Dielw? - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/DSC03881.jpg\",\"datePublished\":\"2023-08-03T08:41:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-06-06T08:57:17+00:00\",\"description\":\"Mae'r llwyfan cywir yn cyflymu gwaith, gwella cydweithio, ac optimeiddio rheoli adnoddau. Dyma gymharu Google Workspace a Microsoft 365\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/DSC03881.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/DSC03881.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1708},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Google Workspace neu Microsoft 365: Pa Un yw\u2019r Gorau i Sefydliad Dielw?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Google Workspace neu Microsoft 365: Pa Un yw\u2019r Gorau i Sefydliad Dielw? - ProMo Cymru","description":"Mae'r llwyfan cywir yn cyflymu gwaith, gwella cydweithio, ac optimeiddio rheoli adnoddau. Dyma gymharu Google Workspace a Microsoft 365","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Google Workspace neu Microsoft 365: Pa Un yw\u2019r Gorau i Sefydliad Dielw? - ProMo Cymru","og_description":"Mae'r llwyfan cywir yn cyflymu gwaith, gwella cydweithio, ac optimeiddio rheoli adnoddau. Dyma gymharu Google Workspace a Microsoft 365","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2025-06-06T08:57:17+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1708,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/DSC03881.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/","name":"Google Workspace neu Microsoft 365: Pa Un yw\u2019r Gorau i Sefydliad Dielw? - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/DSC03881.jpg","datePublished":"2023-08-03T08:41:00+00:00","dateModified":"2025-06-06T08:57:17+00:00","description":"Mae'r llwyfan cywir yn cyflymu gwaith, gwella cydweithio, ac optimeiddio rheoli adnoddau. Dyma gymharu Google Workspace a Microsoft 365","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/DSC03881.jpg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/DSC03881.jpg","width":2560,"height":1708},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/google-workspace-neu-microsoft-365-pa-un-ywr-gorau-i-sefydliad-dielw\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Google Workspace neu Microsoft 365: Pa Un yw\u2019r Gorau i Sefydliad Dielw?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/21853","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21849"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21853"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21853"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=21853"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}