{"id":21966,"date":"2024-02-21T00:00:00","date_gmt":"2024-02-21T00:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/?post_type=resource&#038;p=21966"},"modified":"2025-06-06T09:55:58","modified_gmt":"2025-06-06T08:55:58","slug":"defnyddio-ai-yn-foesegol","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/","title":{"rendered":"Sut Gall eich Elusen Ddefnyddio AI yn Foesegol"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) wedi&#8217;i fewnosod yn ein bywydau bob dydd. Ac mae <a href=\"https:\/\/charitydigitalskills.co.uk\/\">dros chwarter o elusennau<\/a> yn ei ddefnyddio yn eu gwaith bob dydd. Mae gan AI&#8217;r potensial ar gyfer lles cymdeithasol ac effeithlonrwydd, ond mae materion moesegol ynghylch ei ddefnyddio.<\/h3>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r erthygl yma yn canolbwyntio ar sut y gall eich elusen wneud y gorau o fanteision offer sy&#8217;n cael eu pweru gan AI mewn ffordd foesegol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beth yw AI<\/h4>\n\n\n\n<p>Diffiniad Swyddfa&#8217;r Comisiynydd Gwybodaeth o AI yw:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>&#8220;\u2026term ymbar\u00e9l ar gyfer ystod o <a href=\"https:\/\/www.ibm.com\/think\/topics\/artificial-intelligence\">dechnolegau sy&#8217;n seiliedig ar algorithmau<\/a> gall ddatrys tasgau cymhleth trwy gyflawni swyddogaethau a oedd gynt yn gofyn am feddwl dynol. Mae penderfyniadau a wneir gan ddefnyddio AI naill ai&#8217;n gwbl awtomataidd, neu gyda &#8216;bod dynol yn y broses.\u201d<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Cyfleoedd i ddefnyddio AI yn eich sefydliad<\/h4>\n\n\n\n<p>Gall offer AI arbed amser ac arian i&#8217;ch elusen.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall offer fel ChatGPT, Jasper AI a Copy.ai eich <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource\/sut-i-greu-cynnwys-gydag-ai\/\">helpu i greu cynnwys<\/a>. Mae Alzheimers UK yn eu defnyddio i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dechrau&#8217;r broses o feddwl am syniadau<\/li>\n\n\n\n<li>Helpu i greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol<\/li>\n\n\n\n<li>Newid adroddiadau neu ymchwil yn sgriptiau fideo. Maent hefyd yn defnyddio offer fideo AI, fel pictory.ai, i gynhyrchu fideo i fynd gyda&#8217;r sgript.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ond fel mae Tom Pratt yn amlinellu yn ei <a href=\"https:\/\/www.albertroadconsulting.co.uk\/ai-tools-for-charities\">flog ar AI i elusennau<\/a>, nid yw AI yn cychwyn nac yn gorffen gydag offer creu cynnwys. Gallwch ei ddefnyddio i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Creu delweddau a sain, yn ogystal \u00e2 fideo<\/li>\n\n\n\n<li>Codi arian yn fwy effeithlon<\/li>\n\n\n\n<li>Gwella ymgysylltiad cefnogwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Gwneud eich ymgyrchoedd marchnata yn fwy effeithiol<\/li>\n\n\n\n<li>Tracio eich cynnydd a mesur eich effaith<\/li>\n\n\n\n<li>Symleiddio prosesau a gwella llif gwaith.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae Torchbox wedi cynhyrchu <a href=\"https:\/\/ai.torchbox.com\/resources\/torchbox-introduction-to-ai-2024.pdf\">cyflwyniad clyfar i AI<\/a>. Maent hefyd wedi llunio rhai enghreifftiau o sut mae AI yn cael ei <a href=\"https:\/\/ai.torchbox.com\/resources\/torchbox-ai-for-impact.pdf\">ddefnyddio i helpu sefydliadau dielw i greu effaith.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Materion moesegol gyda sut mae AI yn cael ei ddatblygu<\/h4>\n\n\n\n<p>Nid yw materion moesegol gyda datblygu technoleg yn newydd. Er enghraifft, mae&#8217;r gadwyn gyflenwi gliniaduron a ffonau symudol yn cynnwys cloddio cobalt, achos <a href=\"https:\/\/www.amnesty.org\/en\/latest\/news\/2023\/09\/drc-cobalt-and-copper-mining-for-batteries-leading-to-human-rights-abuses\/\">camdriniaethau hawliau dynol yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Byddai rhai\u2019n dadlau bod y ffordd y mae AI yn cael ei ddatblygu hefyd yn ei gwneud yn anfoesegol. Mae\u2019r cwmn\u00efau sy\u2019n creu AI yn gyfrinachol yngl\u0177n \u00e2\u2019r setiau data maen nhw\u2019n eu defnyddio i hyfforddi eu meddalwedd. Mae\u2019r setiau data yma yn cynnwys symiau enfawr o ddelweddau, testun, sain, fideo a phwyntiau data o\u2019r rhyngrwyd. Ond ychydig iawn o sylw, neu ddim sylw o gwbl, a roddir i hawlfraint, trwyddedu, perchnogaeth na chaniat\u00e2d.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel gyda chloddio cobalt, mae yna hefyd faterion moesegol ynghylch cadwyni cyflenwi llafur dynol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 datblygu AI. Mae cwmn\u00efau\u2019n cyflogi <a href=\"https:\/\/www.cjr.org\/tow_center\/qa-uncovering-the-labor-exploitation-that-powers-ai.php\">gweithwyr yn Affrica a\u2019r Philipinas<\/a> i adolygu\u2019r cynnwys sy\u2019n pweru eu systemau AI. Mae\u2019r gweithwyr hyn yn delio \u00e2 chynnwys sy\u2019n cynnwys cam-drin rhywiol graffig, araith gasineb a thrais. Maen nhw\u2019n cael eu talu\u2019n wael, yn aml yn cael trawma o&#8217;r cynnwys maen nhw\u2019n ei gymedroli a gellir eu diswyddo ar fyr rybudd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Peryglon a chyfyngiadau AI<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae anfanteision eraill y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt os yw\u2019ch elusen am ddefnyddio AI yn foesegol.<\/p>\n\n\n\n<h5 class=\"wp-block-heading\">Materion diogelwch data a phreifatrwydd<\/h5>\n\n\n\n<p>Gall systemau AI gasglu data personol sydd ar gael i\u2019r cyhoedd o bethau fel proffiliau cyfryngau cymdeithasol a Th\u0177\u2019r Cwmn\u00efau. Gallant hefyd ei gasglu\u2019n anfwriadol, er enghraifft trwy adnabyddiaeth wyneb. A <a href=\"https:\/\/www.wired.com\/story\/ai-chatbots-can-guess-your-personal-information\/#:~:text=7%3A00%20AM-,AI%20Chatbots%20Can%20Guess%20Your%20Personal%20Information%20From%20What%20You,scammers%20or%20to%20target%20ads.\">gall sgwrsfotiaid AI ddyfalu gwybodaeth sensitif<\/a> \u2013 er enghraifft eich hil, lleoliad a galwedigaeth \u2013 gan ddefnyddio\u2019r hyn rydych chi\u2019n ei deipio. Nid ydynt yn dryloyw bob amser am sut mae systemau AI yn defnyddio\u2019r data personol yma. Nid yw pob cwmni AI yn agored yngl\u0177n \u00e2 pha mor hir, ble, a pham maen nhw\u2019n storio data personol pobl. Ac nid oes gan bob model AI fesurau diogelwch ar waith i amddiffyn data personol.<\/p>\n\n\n\n<h5 class=\"wp-block-heading\">Cynnal a gwaethygu rhagfarn a gwahaniaethu<\/h5>\n\n\n\n<p>Yn aml, mae&#8217;r setiau data a&#8217;r data y mae cwmn\u00efau AI yn eu defnyddio yn dod o&#8217;r rhyngrwyd, sy&#8217;n llawn cynnwys anghywir a rhagfarnllyd. Yn aml, mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/tooploox.com\/datasets-and-ai-ethics\">setiau data yma&#8217;n anghyflawn, anghywir, sydd ddim yn amrywiaethol.<\/a> Mae hyn yn gallu, ac wedi, arwain at <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/technology\/2023\/oct\/23\/uk-officials-use-ai-to-decide-on-issues-from-benefits-to-marriage-licences\">benderfyniadau gwahaniaetho<\/a>l.<\/p>\n\n\n\n<h5 class=\"wp-block-heading\">Cynnwys ffug<\/h5>\n\n\n\n<p>Gall offer AI fel ChatGPT gynhyrchu gwybodaeth anghywir a&#8217;i gyflwyno fel pe bai&#8217;n wir. A gellir defnyddio AI i glonio lleisiau a chreu delweddau, fideo a sain ffug. Mae hyn yn ei wneud yn offeryn sydd, fel llawer o rai eraill, yn agored i gamdriniaeth neu ei ddefnyddio i achosi niwed.<\/p>\n\n\n\n<h5 class=\"wp-block-heading\">Diffyg eglurder<\/h5>\n\n\n\n<p>Natur egluradwy (a elwir hefyd yn &#8216;natur ddeongladwy&#8217;) yw&#8217;r cysyniad y gellir egluro system AI a&#8217;i hallbwn mewn ffordd sy&#8217;n &#8220;gwneud synnwyr&#8221; i berson ar lefel dderbyniol. Ond, nid yw wastad yn glir sut mae&#8217;r algorithmau a ddefnyddir mewn systemau AI yn gwneud penderfyniadau. Felly mae&#8217;n anodd i bobl ddeall sut mae eu data yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau sy&#8217;n cael effaith arnynt.<\/p>\n\n\n\n<h5 class=\"wp-block-heading\">Perygl enw da<\/h5>\n\n\n\n<p>Os yw staff yn mewnbynnu gwybodaeth sefydliadol i offer fel ChatGPT yna gall fod yn risg gollyngiad data. Gall problemau cyfreithiol godi os bydd deallusrwydd artiffisial yn cynhyrchu cynnwys anghywir neu wahaniaethol. A gall pryderon ynghylch preifatrwydd olygu colli ffydd y bobl sy&#8217;n defnyddio eich gwasanaethau, a rhoddwyr sy&#8217;n cefnogi eich gwaith.<\/p>\n\n\n\n<h5 class=\"wp-block-heading\">Effaith amgylcheddol<\/h5>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r swm enfawr o ynni sydd ei angen i hyfforddi model AI fel arfer yn cael ei gynhyrchu gan danwydd ffosil. Mae hyn yn arwain at allyriadau nwyon t\u0177 gwydr. Mae datblygu modelau AI hefyd yn creu gwastraff electronig sy&#8217;n cynnwys cemegau peryglus. Gall y rhain lygru cyflenwadau d\u0175r a phridd, niweidio ein hiechyd a difrodi&#8217;r amgylchedd.<\/p>\n\n\n\n<h5 class=\"wp-block-heading\">Effaith gymdeithasol negyddol<\/h5>\n\n\n\n<p>Mae gan AI ac awtomeiddio&#8217;r potensial i newid y ffordd rydym yn gweithio. Os na all pobl ddod o hyd i gyflogaeth arall neu ailhyfforddi, mae posib y bydd swyddi&#8217;n cael eu colli.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir defnyddio AI i greu proffiliau o bobl heb eu caniat\u00e2d. Ac oherwydd bod cwmn\u00efau fel Google, Apple a Microsoft yn bwerus, y nhw fydd yn llunio&#8217;r cyfeiriad y mae AI yn ei gymryd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Rheoleiddio AI yn y DU<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/ai-regulation-a-pro-innovation-approach\/white-paper#executive-summary\">papur gwyn <\/a>(Mawrth 2023) Llywodraeth y DU&nbsp; yn gosod dull rheoleiddio AI. Yn wahanol i&#8217;r UE, ni fydd cyfres newydd cynhwysfawr o gyfreithiau AI. A ni fydd rheolydd AI newydd. Yn hytrach, bydd rheolyddion fel Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU a&#8217;r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, yn goruchwylio sut mae eu diwydiannau&#8217;n defnyddio AI. Bydd rhan newydd o&#8217;r Llywodraeth ganolog yn cefnogi&#8217;r gwaith yma.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r papur gwyn yn cynnwys 5 egwyddor y dylai rheolyddion eu dilyn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Diogelwch, sicrwydd, cadernid \u2013 dylai systemau AI fod yn ddiogel, yn gadarn ac yn addas at y diben.<\/li>\n\n\n\n<li>Tryloywder ac eglurder \u2013 dylai cwmn\u00efau sy&#8217;n creu ac yn defnyddio AI fedru egluro at ba bwrpas mae&#8217;n cael ei ddefnyddio a phryd. A hefyd, y ffordd maent yn gweithio a sut maent yn&nbsp; gwneud penderfyniadau.<\/li>\n\n\n\n<li>Tegwch: ni ddylai systemau AI wahaniaethu yn erbyn unigolion na sefydliadau, torri eu hawliau na chreu canlyniadau annheg.<\/li>\n\n\n\n<li>Atebolrwydd a llywodraethu: dylai mesurau fod ar waith i oruchwylio systemau AI. Rhaid cael llinellau cyfrifoldeb clir wrth eu defnyddio.<\/li>\n\n\n\n<li>Cystadleuaeth a chywiro: rhaid cael ffyrdd clir i herio canlyniadau niweidiol a phenderfyniadau a wneir gan AI.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Yn anffodus, mae<a href=\"https:\/\/charitydigital.org.uk\/topics\/topics\/the-problems-of-ai-regulation-11053#:~:text=Lack%20of%20government%20expertise%3A%20Since,the%20potential%20risks%20they%20pose\"> llawer o broblemau gyda rheoleiddio AI. <\/a>Ac oherwydd bod cwmn\u00efau technoleg yn symud mor gyflym, mae llywodraethau&#8217;n ymdrechu i ddal i fyny.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Sut i ddefnyddio AI mewn ffordd foesegol<\/h4>\n\n\n\n<p>Nid oes amheuaeth bod offer AI yn ddefnyddiol. Ond i&#8217;w defnyddio&#8217;n foesegol mae angen i chi fod yn agored, yn gynhwysol ac yn atebol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Cwestiynau i&#8217;w hystyried<\/h4>\n\n\n\n<p>Gofynnwch hyn i chi&#8217;ch hun:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ydych chi&#8217;n deall yr effaith gall AI ei gael ar eich elusen? (ystyriwch brosesau dadansoddi data a chynhyrchu cynnwys fel man cychwyn)<\/li>\n\n\n\n<li>Sut effaith bydd AI yn ei gael ar y bobl rydych chi&#8217;n eu cefnogi?<\/li>\n\n\n\n<li>Ydy offer AI yn cyd-fynd \u00e2&#8217;ch cenhadaeth a&#8217;ch gwerthoedd?<\/li>\n\n\n\n<li>Sut y gallent eich helpu i gyflawni eich nodau?<\/li>\n\n\n\n<li>Beth yw lefel <a href=\"https:\/\/www.ncvo.org.uk\/help-and-guidance\/digital-technology\/technology-tools-and-software\/digital-maturity-matrix\/\">aeddfedrwydd digidol <\/a>eich sefydliad?<\/li>\n\n\n\n<li>Sut mae defnyddio offer AI yn cyd-fynd \u00e2&#8217;ch nodau digidol ehangach?<\/li>\n\n\n\n<li>Ble fyddech chi&#8217;n eu defnyddio? Darparu gwasanaethau? Cyfathrebu a marchnata? Codi arian?<\/li>\n\n\n\n<li>Beth yw&#8217;r niwed posibl i&#8217;ch elusen, staff a&#8217;ch defnyddwyr?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/docs.google.com\/document\/d\/1ypERtE-lshuq-9vrsHWmYCECiAXBMQUzFnjdv1FnSMY\/edit?tab=t.0#heading=h.isq08dtkf1zv\">Llawlyfr Civic AI <\/a>yn awgrymu y dylech:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bod yn agored am sut a phryd y defnyddir AI<\/li>\n\n\n\n<li>Cael person yn adolygu&#8217;r cynnwys bob tro<\/li>\n\n\n\n<li>Peidio rhannu gwybodaeth breifat na sensitif gyda gwasanaethau AI trydydd parti (heb wirio eu polis\u00efau preifatrwydd yn gyntaf)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae angen i chi wybod hefyd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Pa ddata y byddwch chi&#8217;n mewnbynnu i offer fel ChatGPT<\/li>\n\n\n\n<li>Sut y byddwch chi&#8217;n sicrhau eich bod chi&#8217;n gwirio cywirdeb yr hyn sy&#8217;n cael ei greu<\/li>\n\n\n\n<li>Sut y byddwch chi&#8217;n sicrhau bod person yn rhan o&#8217;r broses<\/li>\n\n\n\n<li>Yr effaith bosibl ar swyddi yn eich elusen<\/li>\n\n\n\n<li>Pryd y dylech chi ddatblygu llif gwaith sy&#8217;n dibynnu ar AI<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Camau i&#8217;w cymryd<\/h4>\n\n\n\n<p>Gallwch chi:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cynyddu eich dealltwriaeth o beth yw AI a&#8217;i effaith gymdeithasol. Mae <a href=\"https:\/\/alliedmedia.org\/resources\/peoples-guide-to-ai\">A People&#8217;s Guide to AI <\/a>Allied Media yn fan cychwyn da.<\/li>\n\n\n\n<li>Darllen <a href=\"https:\/\/zoeamar.com\/2023\/11\/09\/why-do-charity-leaders-need-to-know-about-ai\/\">Why do charity leaders need to know about AI<\/a> gan Zoe Amar Digital, a defnyddio&#8217;r <a href=\"https:\/\/zoeamar.com\/digital-guides-resources\/artificial-intelligence-resources\/ai-checklist-for-charity-trustees-and-leaders\/\">rhestr wirio AI ar gyfer ymddiriedolwyr ac arweinwyr elusennau<\/a>. Gyda&#8217;i gilydd gall y rhain greu dealltwriaeth gyffredin o AI ymhlith uwch arweinwyr, cefnogi gwneud penderfyniadau cadarn am AI a&#8217;ch helpu i adolygu eich cynnydd.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnal <a href=\"https:\/\/www.charityexcellence.co.uk\/charity-ai-risk-register\/?link=charity_ai_risk_management\">asesiad risg AI<\/a>.<\/li>\n\n\n\n<li>Creu <a href=\"https:\/\/www.hibob.com\/guides\/ai-policy-template\/\">polisi AI<\/a>. Mae gan y Corporate Governance Institute <a href=\"https:\/\/www.thecorporategovernanceinstitute.com\/insights\/guides\/creating-an-ai-policy\/\">ganllaw 10 cam i greu polisi AI<\/a>. Ac mae UNESCO wedi amlinellu&#8217;r prif egwyddorion ar gyfer <a href=\"https:\/\/www.unesco.org\/en\/artificial-intelligence\/recommendation-ethics\">dull seiliedig ar hawliau dynol o AI.<\/a><\/li>\n\n\n\n<li>Ystyried sut rydych chi&#8217;n mynd i sicrhau bod y ffordd rydych chi&#8217;n defnyddio AI yn cydymffurfio \u00e2 diogelu data. Mae Swyddfa&#8217;r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cynhyrchu <a href=\"https:\/\/cy.ico.org.uk\/for-organisations\/uk-gdpr-guidance-and-resources\/artificial-intelligence\/guidance-on-ai-and-data-protection\/ai-and-data-protection-risk-toolkit\/\">pecyn cymorth risg AI a diogelu data.<\/a><\/li>\n\n\n\n<li>Ystyried yr hyn y <a href=\"https:\/\/empower.agency\/further-faster-fairer-using-ai-to-enhance-empowers-work\/\">dylech chi ei ddisgwyl gan asiantaethau a phartneriaid digidol <\/a>sy&#8217;n defnyddio AI i wneud darnau o waith i chi.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p><strong>Credydau: <\/strong>Diolch i Ed Baldry, Cyfarwyddwr Arloesi <a href=\"https:\/\/torchbox.com\/\">Torchbox<\/a>, a Tom Pratt,, Cyfarwyddwr <a href=\"https:\/\/www.albertroadconsulting.co.uk\/\">Albert Road Consulting<\/a>, am gymryd rhan mewn cyfweliadau ar gyfer yr erthygl yma.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":21965,"template":"","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2010],"class_list":["post-21966","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","resource-category-adnoddau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Sut Gall eich Elusen Ddefnyddio AI yn Foesegol - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Cyfleoedd AI. Fframweithiau a pholis\u00efau i&#039;ch helpu i&#039;w ddefnyddio&#039;n foesegol. Crynodeb o&#039;i risgiau, ei gyfyngiadau a&#039;i faterion moesegol.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Sut Gall eich Elusen Ddefnyddio AI yn Foesegol - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cyfleoedd AI. Fframweithiau a pholis\u00efau i&#039;ch helpu i&#039;w ddefnyddio&#039;n foesegol. Crynodeb o&#039;i risgiau, ei gyfyngiadau a&#039;i faterion moesegol.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-06-06T08:55:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/ai-cloud-concept-with-robot-arms.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/\",\"name\":\"Sut Gall eich Elusen Ddefnyddio AI yn Foesegol - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/ai-cloud-concept-with-robot-arms.jpg\",\"datePublished\":\"2024-02-21T00:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-06-06T08:55:58+00:00\",\"description\":\"Cyfleoedd AI. Fframweithiau a pholis\u00efau i'ch helpu i'w ddefnyddio'n foesegol. Crynodeb o'i risgiau, ei gyfyngiadau a'i faterion moesegol.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/ai-cloud-concept-with-robot-arms.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/ai-cloud-concept-with-robot-arms.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1920},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Sut Gall eich Elusen Ddefnyddio AI yn Foesegol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Sut Gall eich Elusen Ddefnyddio AI yn Foesegol - ProMo Cymru","description":"Cyfleoedd AI. Fframweithiau a pholis\u00efau i'ch helpu i'w ddefnyddio'n foesegol. Crynodeb o'i risgiau, ei gyfyngiadau a'i faterion moesegol.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Sut Gall eich Elusen Ddefnyddio AI yn Foesegol - ProMo Cymru","og_description":"Cyfleoedd AI. Fframweithiau a pholis\u00efau i'ch helpu i'w ddefnyddio'n foesegol. Crynodeb o'i risgiau, ei gyfyngiadau a'i faterion moesegol.","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2025-06-06T08:55:58+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1920,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/ai-cloud-concept-with-robot-arms.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/","name":"Sut Gall eich Elusen Ddefnyddio AI yn Foesegol - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/ai-cloud-concept-with-robot-arms.jpg","datePublished":"2024-02-21T00:00:00+00:00","dateModified":"2025-06-06T08:55:58+00:00","description":"Cyfleoedd AI. Fframweithiau a pholis\u00efau i'ch helpu i'w ddefnyddio'n foesegol. Crynodeb o'i risgiau, ei gyfyngiadau a'i faterion moesegol.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/ai-cloud-concept-with-robot-arms.jpg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/ai-cloud-concept-with-robot-arms.jpg","width":2560,"height":1920},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/defnyddio-ai-yn-foesegol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Sut Gall eich Elusen Ddefnyddio AI yn Foesegol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/21966","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21965"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21966"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21966"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=21966"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}