{"id":21982,"date":"2024-01-11T00:00:00","date_gmt":"2024-01-11T00:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/?post_type=resource&#038;p=21982"},"modified":"2025-06-06T11:44:09","modified_gmt":"2025-06-06T10:44:09","slug":"dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/","title":{"rendered":"Dewis Adnodd Digidol i&#8217;ch Sefydliad Dielw \u2013 Osgoi\u2019r Hunllefau"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae\u2019r adnodd yma ar gyfer unrhyw un sy\u2019n gyfrifol am adnabod, dewis a chyflwyno adnodd neu feddalwedd digidol newydd i\u2019w sefydliad.<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n arbennig o ddefnyddiol i bobl sy\u2019n teimlo\u2019n nerfus am y broses.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n trafod:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Materion cyffredin a sut i\u2019w hosgoi<\/li>\n\n\n\n<li>Camau allweddol sydd eu cangen wrth ddewis adnodd newydd<\/li>\n\n\n\n<li>Dolenni i ganllawiau sy\u2019n trafod y camau yma&#8217;n fanwl<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Os yw\u2019n well gennych, ewch yn syth i\u2019r <a href=\"https:\/\/www.ncvo.org.uk\/help-and-guidance\/digital-technology\/technology-tools-and-software\/choosing-new-software-or-digital-tools\/\">prif ganllaw a ddarperir gan NCVO<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Yr hyn sy&#8217;n ein poeni am feddalwedd newydd<\/h4>\n\n\n\n<p>Un o achosion mwyaf nosweithiau digwsg i bobl sy\u2019n gweithio mewn sefydliadau dielw yw gorfod dewis adnodd digidol neu ddarn o feddalwedd newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cymaint o bryderon a all effeithio arnom:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>A fydd yn gwneud yr hyn sydd ei angen?<\/li>\n\n\n\n<li>A fyddwn yn gallu ei fforddio?<\/li>\n\n\n\n<li>A fyddwn yn deall yr hyn y mae\u2019r t\u00eem gwerthu neu\u2019r arbenigwyr technegol yn ei ddweud wrthym?<\/li>\n\n\n\n<li>A fydd gweddill y staff yn iawn yn ei ddefnyddio?<\/li>\n\n\n\n<li>Beth am y bobl rydym yn eu cefnogi \u2013 fydda nhw&#8217;n iawn gydag ef?<\/li>\n\n\n\n<li>Beth os bydd pethau&#8217;n mynd o chwith \u2013 pa mor hir fydd yn ei gymryd i\u2019w drwsio beth fydd cost hyn?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n waeth pan fydd cymaint ohonom wedi cael profiad o weithio&#8217;n rhywle lle&#8217;r oedd darn newydd o feddalwedd wedi bod aflwyddiannus.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Wedi cael profiad gwael?<\/h4>\n\n\n\n<p>Ydych chi erioed wedi gweithio yn rhywle sydd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Wedi cael system CRM newydd drud i helpu pawb i rannu data, a oedd mor anodd ei defnyddio fel bod y mwyafrif o&#8217;r timau yn dal i ddefnyddio taenlenni?<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi comisiynu gwefan newydd a oedd yn edrych yn hyfryd, ond yn amhosibl i unrhyw un heblaw&#8217;r person a&#8217;i hadeiladodd ei diweddaru?<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi dewis rhaglen arbenigol i gynnal sgyrsiau cymorth un i un, ond wedi darganfod wedyn bod y rhan fwyaf yn hoffi defnyddio WhatsApp yn well?<\/li>\n\n\n\n<li>Neu bethau tebyg?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Nid yw&#8217;n syndod ein bod dewis meddalwedd newydd yn gallu bod yn straen. Peidiwch \u00e2 phoeni os bydd hyn yn digwydd i chi!<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">5 camgymeriad cyffredin i&#8217;w hosgoi<\/h4>\n\n\n\n<p>Y newyddion da yw y gallwn leihau&#8217;r risg o brofiad gwael &#8211; wrth osgoi rhai o&#8217;r camgymeriadau mwyaf cyffredin. Dyma 5 dylid bod yn ymwybodol ohonynt.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">1. Peidio dibynnu ar weledigaeth un person<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n anodd i un person gael darlun llawn o bopeth sydd ei angen ar sefydliad. Maw&#8217;n hawdd dibynnu ar un person &#8211; yn enwedig os yw&#8217;n rhywun sydd \u00e2 chefndir digidol neu ddylunio sy&#8217;n dweud &#8220;bydd hwn yn datrys ein holl broblemau&#8221;. Ond fe gewch chi well canlyniad os ydych chi&#8217;n cynnwys gr\u0175p o bobl ac yn gweithio trwy&#8217;r broses gyda&#8217;ch gilydd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">2. Peidio rhuthro i mewn i ddarn newydd o dechnoleg<\/h4>\n\n\n\n<p>Weithiau gall deimlo fel y byddai gwneud rhywbeth yn ddigidol yn arbed lot o amser i chi. Neu mae&#8217;n teimlo fel bod eich meddalwedd mor drwsgl fel eich bod yn teimlo byddai rhywbeth newydd yn well. Er enghraifft, efallai bod eich timau&#8217;n ysgrifennu nodiadau achos \u00e2 llaw, ac yna&#8217;n eu teipio i system ddigidol wedyn &#8211; pan fyddant yn cofio.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond ym mhob sefyllfa, dim ond un rhan o ddarlun gwasanaeth yw&#8217;r dechnoleg ddigidol. Mae&#8217;r bobl a&#8217;r prosesau dan sylw&#8217;r un mor bwysig.<\/p>\n\n\n\n<p>Er enghraifft, yn y sefyllfa uchod cyn i chi neidio i: &#8220;mae angen i bobl deipio nodiadau&#8217;n syth i mewn i system rheoli achosion digidol&#8221; mae yna bethau eraill i&#8217;w hystyried.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r rhain yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<h5 class=\"wp-block-heading\">Ydy&#8217;r broses yn ddigon syml?<\/h5>\n\n\n\n<p>Er enghraifft, a oes angen nodiadau achos ar eich holl wasanaethau, neu ydych chi wedi dod i arfer cadw&#8217;r rhain ar gyfer gweithgareddau lle nad oes eu hangen, am fod rhai o&#8217;ch gwasanaethau eu hangen.<\/p>\n\n\n\n<h5 class=\"wp-block-heading\">Sut fydd y bobl dan sylw yn teimlo am y system newydd?<\/h5>\n\n\n\n<p>Yn yr enghraifft yma \u2013 a fyddai cymryd nodiadau&#8217;n ddigidol yn teimlo&#8217;n wahanol iawn i nodiadau wedi&#8217;u hysgrifennu \u00e2 llaw \u2013 i&#8217;r gweithwyr a&#8217;r bobl sy&#8217;n cael eu cefnogi? A fyddent yn barod i ddefnyddio technoleg yn ystod sesiynau byth?<\/p>\n\n\n\n<h5 class=\"wp-block-heading\">A fydd hyn yn gweithio mewn realiti?<\/h5>\n\n\n\n<p>Gwiriwch y pethau yma cyn i chi benderfynu bod angen adnodd digidol newydd:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Ydy&#8217;n ni wirioneddol angen gwneud yr holl bethau gwneir ar hyn o bryd? Oes rhywbeth gallwn ni stopio?<\/li>\n\n\n\n<li>A fyddai cynnwys gwahanol bobl yn gwella ein proses bresennol?<\/li>\n\n\n\n<li>A ydym yn deall ein system bresennol yn ddigon da? Oes yna opsiynau nad ydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd?<\/li>\n\n\n\n<li>A allai fod anfanteision os ydym yn dewis datrysiad digidol? Er enghraifft, a allai leihau&#8217;r cysylltiad rhwng pobl?<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">3. Peidiwch ag anghofio neb sydd angen defnyddio&#8217;r adnodd<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n gyffredin meddwl am anghenion y prif gr\u0175p o bobl a fydd yn defnyddio adnodd.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond mae&#8217;n gyffredin hefyd i anghofio am anghenion pobl sydd angen gwerthuso ac adrodd ar wybodaeth a gedwir mewn adnodd digidol. Mae gwahanol brosiectau hefyd yn anghofio grwpiau defnyddwyr eraill &#8211; yn enwedig pobl ag anghenion hygyrchedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Weithiau mae&#8217;n dderbyniol peidio rhoi blaenoriaeth i un set o anghenion tan yn hwyrach ymlaen yn y prosiect &#8211; ond rhaid sicrhau nad ydych yn anghofio amdanynt yn gyfan gwbl.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">4. Peidiwch \u00e2 chymryd gormod o amser i ddewis technoleg newydd<\/h4>\n\n\n\n<p>Weithiau rydym yn treulio gormod o amser yn ystyried beth yw&#8217;r ateb cywir. Rydym yn cynnal cyfarfodydd rhanddeiliaid ac yn casglu anghenion defnyddwyr ac yn siarad \u00e2 gwahanol bobl am atebion posibl &#8211; ond byth yn gwneud penderfyniad.<\/p>\n\n\n\n<p>Dros amser mae&#8217;r wybodaeth sydd wedi&#8217;i gasglu yn mynd yn hen, ac mae&#8217;n rhaid ailgychwyn y broses gyfan eto.<\/p>\n\n\n\n<p>Osgowch hyn wrth feddwl am faint a graddfa&#8217;r newid a wneir. Sicrhewch fod yr amser cynllunio a gwneud penderfyniadau yn gymesur \u00e2&#8217;r risgiau dan sylw. Osgowch orweithio.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">5. Peidiwch \u00e2 chael eich temtio gan nodweddion sy&#8217;n swnio&#8217;n c\u0175l ond mae&#8217;n debyg na fyddech chi&#8217;n eu defnyddio eto<\/h4>\n\n\n\n<p>Gall hyn ddigwydd mewn sawl ffordd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Brocer neu werthwr yn rhannu nodwedd ddiddorol efallai.<\/li>\n\n\n\n<li>Darllen am rywbeth ar wefan farchnata adnodd.<\/li>\n\n\n\n<li>Un o&#8217;r bobl rydych chi&#8217;n eu cefnogi&#8217;n dweud &#8220;byddai&#8217;n c\u0175l iawn pe gallech chi wneud x&#8221;. Nid yw hyn yr un peth ag angen defnyddiwr. Os yw&#8217;n digwydd, gofynnwch pam eu bod nhw&#8217;n meddwl hynny a sut y byddent yn ei ddefnyddio.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Sut bynnag y bydd yn digwydd, rydych chi&#8217;n clywed am nodwedd sy&#8217;n swnio&#8217;n ddiddorol iawn. Nid yw&#8217;r nodwedd yn eich rhestr o anghenion blaenoriaeth. Efallai eich bod chi&#8217;n ansicr os yw&#8217;ch timau yn barod amdano.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond rydych chi&#8217;n <em>credu y dylech chi<\/em> ddewis yr opsiwn sy&#8217;n gwneud hyn yn bosibl.<\/p>\n\n\n\n<p>Naw gwaith allan o ddeg, pan fyddwch yn dewis yr opsiwn yma, byddwch chi&#8217;n talu am rywbeth nad ydych chi byth yn ei ddefnyddio. Mae hynny oherwydd bod manteisio ar nodwedd sydd y tu allan i&#8217;ch blaenoriaethau yn gofyn am amser cynllunio ac adnoddau i ddarganfod sut mae&#8217;n gweddu. A bydd hynny bob amser yn her ac yn llai o flaenoriaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Felly mae&#8217;n well peidio \u00e2 dewis yr opsiwn yma.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Osgowch gamgymeriadau wrth ddilyn cynllun cam wrth gam<\/h4>\n\n\n\n<p>Y ffordd i osgoi&#8217;r holl gamgymeriadau yma yw dilyn cynllun cam wrth gam.<\/p>\n\n\n\n<p>Sicrhewch eich bod yn cynnwys y camau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Deall nod eich prosiect a&#8217;i gynllunio<\/li>\n\n\n\n<li>Casglu gwybodaeth am beth mae angen i&#8217;r meddalwedd neu adnodd ei wneud, a blaenoriaethu&#8217;r anghenion hynny<\/li>\n\n\n\n<li>Cael cefnogaeth cyfoedion neu arbenigwyr i&#8217;ch helpu gyda&#8217;r camau nesaf<\/li>\n\n\n\n<li>Dewiswch rai opsiynau a&#8217;u cymharu<\/li>\n\n\n\n<li>Profwch un neu fwy o opsiynau a myfyrio ar yr hyn a ddysgwyd<\/li>\n\n\n\n<li>Cyflwyno&#8217;r adnodd newydd i&#8217;ch timau yn ofalus<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae pob dolen i ganllawiau ar ddiwedd yr erthygl yma yn eich tywys trwy gynllun tebyg, mewn ffyrdd ychydig yn wahanol. Gallech ddefnyddio un ohonynt, neu addasu i weddu.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Cael cymorth gyda&#8217;ch cynllun<\/h4>\n\n\n\n<p>Argymhellir dau brif adnodd:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Dewis unrhyw fath o feddalwedd neu adnodd newydd? <\/strong>Gall canllaw NCVO fod yn fuddiol. Mae&#8217;r adrannau cyntaf yn eich atgoffa i raddio faint o amser ac ymdrech rydych chi&#8217;n ei roi yn dibynnu ar risgiau eich prosiect. Yn cynnwys templed i&#8217;w lawrlwytho. <a href=\"https:\/\/www.ncvo.org.uk\/help-and-guidance\/digital-technology\/technology-tools-and-software\/choosing-new-software-or-digital-tools\/\">Edrychwch ar ganllaw NCVO.\u200d<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><strong>Angen cronfa ddata newydd neu system Rheoli Perthynas \u00e2 Chwsmeriaid (CRM)?<\/strong> Mae canllaw Datawise London yn canolbwyntio ar ddewis CRM i helpu gydag effaith a gwerthuso, ond gall fod yn ddefnyddiol beth bynnag rydych chi angen i&#8217;ch cronfa ddata ei wneud. Yn cynnwys templed i&#8217;w lawrlwytho. <a href=\"https:\/\/datawise.london\/resources\/choosing-a-database\/\">Edrychwch ar ganllaw Datawise London.<\/a><\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Derbyn cymorth pellach<\/h4>\n\n\n\n<p>Gall galwad awr am ddim gyda gwirfoddolwr arbenigol Digital Candle eich helpu i osod cynllun eich prosiect neu i gael ail farn ar eich blaenoriaethau neu gymariaethau. <a href=\"https:\/\/www.digitalcandle.org.uk\/\">Gofynnwch am eu cymorth.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">\u200dTawelwch eich meddwl wrth ddarllen sut y dewisodd elusennau eraill adnoddau newydd<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.shareddigitalguides.org.uk\/\">3 Canllaw Digidol a Rennir<\/a> yma yn dangos gwahanol safbwyntiau ar y camau dewis a gweithredu:<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.shareddigitalguides.org.uk\/guides\/twilio-helpline-service-young-people-action-for-children\">Gweithredu Dros Blant yn dewis meddalwedd i reoli cyfathrebu SMS gyda phlant.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.shareddigitalguides.org.uk\/guides\/producing-an-online-guide-for-peer-support-initiatives\">Parents 1st yn dewis llwyfan rhwydweithio i ddarparu canllawiau ar-lein<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.shareddigitalguides.org.uk\/guides\/typeform-feedback-venue\">Street Soccer Scotland yn dewis adnodd i gasglu adborth ar leoliad<\/a><\/p>\n","protected":false},"featured_media":0,"template":"","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2010],"class_list":["post-21982","resource","type-resource","status-publish","hentry","resource-category-adnoddau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Dewis Adnodd Digidol i&#039;ch Sefydliad Dielw \u2013 Osgoi\u2019r Hunllefau - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Osgowch broblemau cyffredin wrth ddewis neu gomisiynu adnodd neu feddalwedd digidol newydd, a chael hyder i wneud penderfyniadau.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Dewis Adnodd Digidol i&#039;ch Sefydliad Dielw \u2013 Osgoi\u2019r Hunllefau - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Osgowch broblemau cyffredin wrth ddewis neu gomisiynu adnodd neu feddalwedd digidol newydd, a chael hyder i wneud penderfyniadau.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-06-06T10:44:09+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/\",\"name\":\"Dewis Adnodd Digidol i'ch Sefydliad Dielw \u2013 Osgoi\u2019r Hunllefau - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2024-01-11T00:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-06-06T10:44:09+00:00\",\"description\":\"Osgowch broblemau cyffredin wrth ddewis neu gomisiynu adnodd neu feddalwedd digidol newydd, a chael hyder i wneud penderfyniadau.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Dewis Adnodd Digidol i&#8217;ch Sefydliad Dielw \u2013 Osgoi\u2019r Hunllefau\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Dewis Adnodd Digidol i'ch Sefydliad Dielw \u2013 Osgoi\u2019r Hunllefau - ProMo Cymru","description":"Osgowch broblemau cyffredin wrth ddewis neu gomisiynu adnodd neu feddalwedd digidol newydd, a chael hyder i wneud penderfyniadau.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Dewis Adnodd Digidol i'ch Sefydliad Dielw \u2013 Osgoi\u2019r Hunllefau - ProMo Cymru","og_description":"Osgowch broblemau cyffredin wrth ddewis neu gomisiynu adnodd neu feddalwedd digidol newydd, a chael hyder i wneud penderfyniadau.","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2025-06-06T10:44:09+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/","name":"Dewis Adnodd Digidol i'ch Sefydliad Dielw \u2013 Osgoi\u2019r Hunllefau - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"datePublished":"2024-01-11T00:00:00+00:00","dateModified":"2025-06-06T10:44:09+00:00","description":"Osgowch broblemau cyffredin wrth ddewis neu gomisiynu adnodd neu feddalwedd digidol newydd, a chael hyder i wneud penderfyniadau.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/dewis-adnodd-digidol-sefydliad-dielw\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Dewis Adnodd Digidol i&#8217;ch Sefydliad Dielw \u2013 Osgoi\u2019r Hunllefau"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/21982","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21982"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21982"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=21982"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}