{"id":22385,"date":"2023-05-01T00:00:00","date_gmt":"2023-04-30T23:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/?post_type=resource&#038;p=22385"},"modified":"2026-01-07T17:11:25","modified_gmt":"2026-01-07T17:11:25","slug":"beth-yw-cynllunio-gwasanaeth","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/","title":{"rendered":"Beth Rydym yn ei Olygu Wrth Siarad am Gynllunio Gwasanaeth"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae&#8217;r adnodd hwn ar gyfer unrhyw un sydd efallai wedi clywed am gynllunio gwasanaeth ond sydd ddim yn sicr beth mae&#8217;n ei olygu na sut i&#8217;w wneud.<\/h2>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Bydd yn eich helpu i ddeall:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Egwyddorion sylfaenol cynllunio gwasanaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Pam mae cynllunio gwasanaeth yn berthnasol i elusennau a sefydliadau dielw<\/li>\n\n\n\n<li>Sut i gynllunio gwasanaethau sy&#8217;n canolbwyntio mwy ar y defnyddiwr<\/li>\n\n\n\n<li>Sut i gychwyn gyda chynllunio gwasanaeth<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw gwasanaeth?<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn llyfr Lou Downe, &#8216;<em>Good Services&#8217;<\/em>, maen nhw&#8217;n dweud <em>&#8220;Mae gwasanaeth yn rhywbeth sy&#8217;n helpu rhywun i wneud rhywbeth&#8221;.<\/em> Gallai&#8217;r rhywbeth hwnnw fod yn fach ac yn syml, fel prynu coffi. Neu gallai fod yn fawr ac yn gymhleth, fel gwneud cais am loches. Ond yr hyn sydd yn gyffredin i bob gwasanaeth yw eu bod yn helpu rhywun i gyflawni nod.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw cynllunio gwasanaeth<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn aml, mae cynllunio gwasanaethau yn cael ei ystyried fel methodoleg \u2014 er enghraifft, defnyddio fframweithiau fel y Diemwnt Dwbl i ddeall problemau, datblygu syniadau, a phrofi atebion. Mae&#8217;r adnoddau yma yn ein helpu gyda sut i gyflawni cynllunio gwasanaethau da, ond mae cynllunio gwasanaeth yn fwy nag unrhyw un dull. Yn ei hanfod, mae cynllunio gwasanaeth yn golygu cynllunio gwasanaethau&#8217;n fwriadol: deall y bobl sy&#8217;n eu defnyddio, y bobl sy&#8217;n eu darparu, a&#8217;r systemau o&#8217;u cwmpas, yna llunio sut mae&#8217;r cyfan yn gweithio gyda&#8217;i gilydd i greu profiad gwell.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae elusennau a sefydliadau dielw eraill yn ddarparwyr gwasanaethau<\/h3>\n\n\n\n<p>Os ydych chi&#8217;n cynnal elusen, rydych chi&#8217;n ceisio helpu pobl i wneud rhywbeth y mae ei angen arnynt neu maent eisiau ei wneud. Rydych chi wedi cynllunio gwasanaethau, hyd yn oed os nad ydych chi erioed wedi gweithio gyda chynllunwyr gwasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid peth &#8216;digidol&#8217; yn unig yw cynllunio gwasanaeth. Efallai bod <a href=\"https:\/\/www.thecatalyst.org.uk\/resource-articles\/what-we-mean-by-digital-welsh\/\">rhannau digidol i&#8217;ch gwasanaeth<\/a>, ond mae cynllunio gwasanaeth yn cynnwys meddwl am yr holl rannau o wasanaeth, ar-lein AC all-lein. Mae angen i chi hefyd ystyried y bobl, y prosesau a&#8217;r systemau sydd eu hangen i ddarparu&#8217;r gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cynllunio gwasanaeth ar waith: Gwasanaeth cwnsela ar-lein am ddim<\/h3>\n\n\n\n<p>Os yw eich elusen yn cynnig sesiynau cwnsela ar-lein am ddim. Efallai y bydd angen i chi feddwl am:<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">1. Sut mae pobl yn dechrau defnyddio&#8217;r gwasanaeth<\/h4>\n\n\n\n<p>Sut mae pobl yn gwybod os ydynt yn gymwys i gael cwnsela am ddim? Sut maen nhw&#8217;n archebu sesiynau cwnsela? Oes angen iddynt ddefnyddio ffurflen ar-lein, anfon e-bost neu&#8217;ch ffonio? Ydy&#8217;r defnyddiwr yn cael cadarnhad archebu?<\/p>\n\n\n\n<p>Pan ddaw&#8217;r archebion i mewn, pwy sy&#8217;n rheoli&#8217;r rheiny? Pa systemau ydych chi&#8217;n eu defnyddio i reoli&#8217;r archebion?<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">2. Sut mae pobl yn defnyddio&#8217;r gwasanaeth<\/h4>\n\n\n\n<p>Ydych chi&#8217;n anfon nodyn atgoffa at y defnyddiwr cyn eu hapwyntiad? Beth sy&#8217;n digwydd pan fydd yr apwyntiad yn cychwyn? Beth sy&#8217;n digwydd os yw&#8217;r cwnselydd neu&#8217;r defnyddiwr yn colli cysylltiad rhyngrwyd?<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">3. Beth sy&#8217;n digwydd ar \u00f4l i bobl ddefnyddio&#8217;r gwasanaeth<\/h4>\n\n\n\n<p>Sut ydych chi&#8217;n cofnodi&#8217;r hyn a ddigwyddodd yn yr apwyntiad? Ydych chi&#8217;n cysylltu \u00e2&#8217;r defnyddiwr wedyn i weld os ydynt angen cefnogaeth bellach? Ydych chi&#8217;n gofyn am adborth ar y sesiwn gwnsela?<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Egwyddorion cynllunio gwasanaeth da<\/h3>\n\n\n\n<p>Dyma ychydig o ganllawiau syml ar gyfer cynllunio gwasanaethau da:<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">1. Mae gwasanaethau da yn diwallu anghenion defnyddwyr<\/h4>\n\n\n\n<p>Dylech gynllunio eich gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr. Os nad ydych chi&#8217;n deall y bobl sy&#8217;n defnyddio eich gwasanaeth a&#8217;r hyn sydd ei angen arnynt, nid yw&#8217;n bosib i chi greu&#8217;r peth cywir.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna lawer o wahanol ffyrdd o ddarganfod am anghenion eich defnyddwyr. Gallech:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cynnal <a href=\"https:\/\/mailchi.mp\/thecatalyst\/learn-user-research\">cyfweliadau ymchwil<\/a> gyda&#8217;ch defnyddwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Adolygu eich data presennol, fel dadansoddeg gwe, data canolfannau galwadau neu ddata arolygon<\/li>\n\n\n\n<li>Gwneud ymchwil desg i weld pa fewnwelediadau sydd gan sefydliadau eraill am eich defnyddwyr.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bwysig herio&#8217;ch rhagdybiaethau am yr hyn sydd ei angen ar eich defnyddwyr. Darganfyddwch <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/resource-articles\/assumptions\/\">sut i brofi&#8217;r hyn rydych chi&#8217;n meddwl eich bod chi&#8217;n ei wybod am eich defnyddwyr.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">2. Mae gwasanaethau da yn hawdd i&#8217;w canfod a&#8217;u defnyddio<\/h4>\n\n\n\n<p>Ni allwch helpu pobl os na allant ddod o hyd i&#8217;ch gwasanaeth. Dylai&#8217;r hyn rydych chi&#8217;n galw&#8217;ch gwasanaeth, a&#8217;r ffordd rydych chi&#8217;n ei ddisgrifio, osod yn glir beth ydyw ac i bwy y mae. Mae hyn yn ei gwneud hi&#8217;n hawdd i bobl &#8211; a pheiriannau chwilio &#8211; ddod o hyd iddo.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai defnyddwyr eich gwasanaeth allu cyrraedd eu nod mewn cyn lleied o gamau \u00e2 phosibl. Dylent allu defnyddio&#8217;ch gwasanaeth heb orfod gwneud &#8216;cysylltiadau&#8217; eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p>Dychmygwch fod eich elusen yn cynnal dosbarthiadau celf i bobl yn eich ardal leol. Mae&#8217;r archebion, prosesu taliadau ac addysgu yn cael eu trin gan dair adran wahanol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ni ddylai&#8217;r person sy&#8217;n mynychu&#8217;r dosbarthiadau orfod gwneud cysylltiadau eu hunain rhwng gwahanol rannau&#8217;r gwasanaeth. Dylent ei brofi fel un gwasanaeth, waeth faint o wahanol adrannau sy&#8217;n gysylltiedig.<\/p>\n\n\n\n<p>Ni ddylai pobl orfod wynebu rhwystrau. Dylent ddeall beth yw&#8217;r camau nesaf, hyd yn oed os nad ydynt yn gymwys ar gyfer eich gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">3. Mae gwasanaethau da yn teimlo&#8217;n gyfarwydd ac yn gyson<\/h4>\n\n\n\n<p>Dylai eich gwasanaeth weithio mewn ffordd sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2 disgwyliadau pobl, yn seiliedig ar wasanaethau eraill y gallent fod wedi&#8217;u defnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p>Dychmygwch eich bod yn cynllunio cymuned ar-lein. Efallai bod pobl wedi defnyddio cymunedau ar-lein eraill o&#8217;r blaen, fel Facebook neu LinkedIn. Mae&#8217;r llwyfannau yma&#8217;n defnyddio hashnodau i groesgyfeirio pynciau a&#8217;r symbol &#8216;@&#8217; i dagio rhywun. Os yw&#8217;ch cymuned yn defnyddio symbolau gwahanol yn lle hynny, gallai hyn eu drysu, gan nad yw&#8217;n cyd-fynd \u00e2&#8217;u model meddyliol am sut mae cymunedau ar-lein yn gweithio.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai hefyd deimlo fel un gwasanaeth cyson, pa bynnag sianel y mae rhywun yn ei defnyddio. Er enghraifft, gallech ddefnyddio&#8217;r un logo a th\u00f4n llais pan fyddwch chi&#8217;n siarad am eich gwasanaeth ar eich gwefan, eich sianeli cyfryngau cymdeithasol a&#8217;r posteri rydych chi&#8217;n eu gosod mewn llyfrgelloedd lleol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">4. Mae gwasanaethau da yn hygyrch<\/h4>\n\n\n\n<p>Dylech ystyried pa rwystrau a allai atal rhywun rhag defnyddio&#8217;ch gwasanaeth. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad ydych chi&#8217;n gwahardd pobl ar ddamwain yn seiliedig ar eu hamgylchiadau neu eu galluoedd. Nid opsiwn braf i&#8217;w gael yw <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynhwysol-hygyrchedd-rhagdybiaeth-rhwystrau\/\">hygyrchedd<\/a>, dylech ei gynnwys yn eich gwasanaeth o&#8217;r dechrau i&#8217;r diwedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel enghraifft, meddyliwch am sut mae pobl yn cysylltu \u00e2&#8217;ch gwasanaeth. Os mai dim ond dros y ff\u00f4n y gall pobl gysylltu \u00e2 chi, efallai na fydd pobl sy&#8217;n fyddar neu \u00e2 cholled clyw yn gallu defnyddio&#8217;ch gwasanaeth. Ac os mai dim ond drwy ffurflen we y gall pobl gysylltu \u00e2 chi, efallai eich bod yn eithrio pobl sydd \u00e2 sgiliau digidol neu fynediad cyfyngedig i&#8217;r rhyngrwyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch asesu hygyrchedd eich gwefan yn erbyn <a href=\"https:\/\/www.w3.org\/WAI\/standards-guidelines\/wcag\/\">Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We<\/a> (WCAG), sef cyfres o argymhellion a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer gwella hygyrchedd y we.<\/p>\n\n\n\n<p>Maent yn egluro sut i wneud rhannau digidol eich gwasanaethau yn hygyrch i bobl \u00e2 namau sy&#8217;n effeithio ar eu:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Golwg<\/li>\n\n\n\n<li>Clyw<\/li>\n\n\n\n<li>Symudedd<\/li>\n\n\n\n<li>Lleferydd<\/li>\n\n\n\n<li>Gwybyddiaeth (meddwl a dealltwriaeth)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ond y ffordd orau o ddylunio gwasanaethau hygyrch yw cynnwys pobl anabl pan fyddwch chi&#8217;n dylunio, ymchwilio a phrofi eich gwasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<p>Darganfyddwch sut i <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-category\/hygyrchedd-digidol\/\">wneud eich gwasanaethau&#8217;n hygyrch<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">5. Mae gwasanaethau da yn ymdrech t\u00eem<\/h4>\n\n\n\n<p>Nid ar gyfer cynllunwyr yn unig y mae cynllunio gwasanaethau; mae&#8217;n gamp d\u00eem. Mae popeth y mae elusen yn ei wneud yn cael effaith ar brofiad y bobl cefnogir, gan gynnwys y systemau defnyddir a&#8217;r polis\u00efau a&#8217;r prosesau dilynir. Mae angen i bawb weithio gyda&#8217;i gilydd i adeiladu gwasanaethau da. Gall un ddolen wan yn y t\u00eem achosi i&#8217;r gwasanaeth chwalu.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Safon Gwasanaethau Digidol Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru\/arweiniad-a-safonau\/safon-gwasanaeth-digidol-cymru?__hsfp=1798150035&amp;__hssc=22580580.3.1766481369343&amp;__hstc=22580580.8e6ef2763f6fbe3acfe2336794dc419f.1766481369343.1766481369343.1766481369343.1&amp;_gl=1*19bwwwu*_ga*OTY1MDMwNzQ4LjE3NjY0ODUzMzc.*_ga_HKYTNYNSKE*czE3NjY0ODUzMzckbzEkZzAkdDE3NjY0ODUzMzckajYwJGwwJGgw\">Safon Gwasanaethau Digidol Cymru<\/a> yn rhoi canllawiau ar sut beth yw gwasanaethau cyhoeddus da. Er iddo gael ei ddatblygu ar gyfer sefydliadau&#8217;r sector cyhoeddus, mae ei egwyddorion yn werthfawr i elusennau hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n cwmpasu tair prif faes:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru\/arweiniad-a-safonau\/safon-gwasanaeth-digidol-cymru\/bodloni-anghenion-defnyddwyr?__hstc=22580580.04bd61aee1feb3173996ed124502852c.1766485355057.1766485355057.1766485355057.1&amp;__hssc=22580580.1.1766485355057&amp;__hsfp=1798150035\">Bodloni anghenion defnyddwyr<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru\/arweiniad-a-safonau\/safon-gwasanaeth-digidol-cymru\/creu-timau-digidol\">Creu timau digidol<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru\/arweiniad-a-safonau\/safon-gwasanaeth-digidol-cymru\/defnyddior-dechnoleg-iawn\">Defnyddio&#8217;r dechnoleg iawn<\/a><\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Gall y safonau hyn helpu i arwain eich gwaith cynllunio gwasanaeth a sicrhau eich bod yn creu gwasanaethau sy&#8217;n gweithio&#8217;n dda i bobl yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru\/arweiniad-a-safonau\/safon-gwasanaeth-digidol-cymru?__hsfp=1798150035&amp;__hssc=22580580.3.1766481369343&amp;__hstc=22580580.8e6ef2763f6fbe3acfe2336794dc419f.1766481369343.1766481369343.1766481369343.1&amp;_gl=1*19bwwwu*_ga*OTY1MDMwNzQ4LjE3NjY0ODUzMzc.*_ga_HKYTNYNSKE*czE3NjY0ODUzMzckbzEkZzAkdDE3NjY0ODUzMzckajYwJGwwJGgw\">Darllenwch Safon Gwasanaethau Digidol Cymru<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Barod i roi hyn ar waith?<\/h3>\n\n\n\n<p>Bydd <a href=\"https:\/\/www.newid.cymru\/cy\/cwrs-cynllunio-gwasanaethau-digidol-ionawr-2026\/\">Cwrs Cynllunio Gwasanaeth Digidol Newid<\/a> yn eich helpu i ddysgu ffyrdd ymarferol i gynllunio gyda defnyddwyr, nid ar eu cyfer nhw&#8217;n unig. Byddwch yn dilyn y broses Darganfod, Diffinio, Datblygu ac yn symud o &#8216;ddyfalu&#8217; beth sydd angen i bobl ei wybod i &#8216;wybod&#8217; wrth gyflawni ymchwil defnyddwyr eich hun.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Yr hyn a ddywedodd cyfranogwyr blaenorol<\/h4>\n\n\n\n<p><em>&#8220;Rwy&#8217;n gwella pob rhan o fy niwrnod gwaith yn gyson trwy feddwl sut y gallaf weithredu&#8217;r hyn rydw i wedi&#8217;i ddysgu.&#8221;<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>&#8220;Mae angen i bob sefydliad trydydd sector wneud hyn.&#8221;<\/em><\/p>\n\n\n\n<div class=\"text-center\">\n    <a href=\"https:\/\/www.newid.cymru\/cy\/cwrs-cynllunio-gwasanaethau-digidol-ionawr-2026\/\" class=\"btn btn-blue\">Dysgu mwy a chofrestru<\/a>\n<\/div>\n    \n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"featured_media":18452,"template":"","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2000],"class_list":["post-22385","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","resource-category-cynllunio-gwasanaethau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Beth Rydym yn ei Olygu Wrth Siarad am Gynllunio Gwasanaeth - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Beth yw ystyr cynllunio gwasanaeth. Sut i&#039;w ddefnyddio yn eich sefydliad. Sut i gynllunio gwasanaeth sy&#039;n canolbwyntio ar y defnyddiwr.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Beth Rydym yn ei Olygu Wrth Siarad am Gynllunio Gwasanaeth - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Beth yw ystyr cynllunio gwasanaeth. Sut i&#039;w ddefnyddio yn eich sefydliad. Sut i gynllunio gwasanaeth sy&#039;n canolbwyntio ar y defnyddiwr.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-01-07T17:11:25+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/643d29a704e53edaa0977833_service-designers.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/\",\"name\":\"Beth Rydym yn ei Olygu Wrth Siarad am Gynllunio Gwasanaeth - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/643d29a704e53edaa0977833_service-designers.jpg\",\"datePublished\":\"2023-04-30T23:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2026-01-07T17:11:25+00:00\",\"description\":\"Beth yw ystyr cynllunio gwasanaeth. Sut i'w ddefnyddio yn eich sefydliad. Sut i gynllunio gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/643d29a704e53edaa0977833_service-designers.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/643d29a704e53edaa0977833_service-designers.jpg\",\"width\":1200,\"height\":800},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Beth Rydym yn ei Olygu Wrth Siarad am Gynllunio Gwasanaeth\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Beth Rydym yn ei Olygu Wrth Siarad am Gynllunio Gwasanaeth - ProMo Cymru","description":"Beth yw ystyr cynllunio gwasanaeth. Sut i'w ddefnyddio yn eich sefydliad. Sut i gynllunio gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Beth Rydym yn ei Olygu Wrth Siarad am Gynllunio Gwasanaeth - ProMo Cymru","og_description":"Beth yw ystyr cynllunio gwasanaeth. Sut i'w ddefnyddio yn eich sefydliad. Sut i gynllunio gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2026-01-07T17:11:25+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":800,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/643d29a704e53edaa0977833_service-designers.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/","name":"Beth Rydym yn ei Olygu Wrth Siarad am Gynllunio Gwasanaeth - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/643d29a704e53edaa0977833_service-designers.jpg","datePublished":"2023-04-30T23:00:00+00:00","dateModified":"2026-01-07T17:11:25+00:00","description":"Beth yw ystyr cynllunio gwasanaeth. Sut i'w ddefnyddio yn eich sefydliad. Sut i gynllunio gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/643d29a704e53edaa0977833_service-designers.jpg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/643d29a704e53edaa0977833_service-designers.jpg","width":1200,"height":800},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/beth-yw-cynllunio-gwasanaeth\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Beth Rydym yn ei Olygu Wrth Siarad am Gynllunio Gwasanaeth"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/22385","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18452"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22385"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22385"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=22385"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}