{"id":22395,"date":"2024-01-11T00:00:00","date_gmt":"2024-01-11T00:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/?post_type=resource&#038;p=22395"},"modified":"2025-08-11T17:19:06","modified_gmt":"2025-08-11T16:19:06","slug":"ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/","title":{"rendered":"Ymchwil Defnyddwyr: Beth Ydyw a Pham ei Fod yn Bwysig"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rydych chi wedi bod yn cefnogi eich buddiolwyr ers blynyddoedd. Rydych chi&#8217;n meddwl eich bod chi&#8217;n gwybod beth sydd ei angen arnyn nhw. Rydych chi&#8217;n credu eich bod chi&#8217;n gwybod pa fath o wasanaeth digidol i&#8217;w greu.<\/h3>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Ond arhoswch. Oni bai eich bod chi eisoes wedi profi eich syniad, ni allwch fod yn sicr y bydd yn gweithio i&#8217;ch defnyddwyr. Ni allwch chi wybod sut i&#8217;w wneud yn hygyrch ac yn ddefnyddiadwy iddyn nhw eto. Bydd gennych chi dybiaethau o hyd. Dim ond ymchwil defnyddwyr, ac yna profi, fydd yn dilysu&#8217;r rhain, neu&#8217;n dangos i chi eu bod nhw&#8217;n anghywir.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Catalyst yn credu mewn cynnal ymchwil defnyddwyr. Golygai hynny:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ymchwilio i anghenion eich defnyddwyr: eu nodau, problemau, agweddau ac ymddygiadau<\/li>\n\n\n\n<li>Dadansoddi a herio&#8217;r canfyddiadau yma gydag o leiaf un cydweithiwr<\/li>\n\n\n\n<li>Troi eich mewnwelediadau yn rhestr o <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/service-manual\/user-research\/start-by-learning-user-needs\">anghenion defnyddwyr<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Dyma beth yw ymchwil defnyddwyr a sut mae&#8217;n gweithio.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mae ymchwil defnyddwyr yn arwain yn uniongyrchol at werth i ddefnyddwyr<\/h4>\n\n\n\n<p>Dim ond elusennau sy&#8217;n deall eu defnyddwyr all greu&#8217;r gwasanaethau digidol gorau. Mae eu gwasanaethau yn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Hawdd ac yn bleserus i&#8217;w defnyddio<\/li>\n\n\n\n<li>Perthnasol yn uniongyrchol i fywydau defnyddwyr o ddydd i ddydd<\/li>\n\n\n\n<li>Helpu defnyddwyr i ddatrys problem neu rwystredigaeth profir yn rheolaidd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Yn fyr, mae ganddyn nhw werth i&#8217;r defnyddiwr.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ganddynt werth i&#8217;r defnyddiwr gan fod t\u00eem y gwasanaeth wedi gwneud digon o&#8217;r ymchwil gywir cyn iddynt ddatblygu cysyniad, <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sgrialfwrdd-cynllunio\/\">creu sgrialfwrdd<\/a>, neu ysgrifennu llinell o god (<a href=\"https:\/\/promo.cymru\/resource-articles\/webflow\/\">nid oes angen cod ar bob gwasanaeth hyd yn oed<\/a>).<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>&#8220;Mae&#8217;n ffordd o ddeall anghenion, cymhellion, ymddygiadau, a dymuniadau pobl pan maen nhw&#8217;n &#8216;defnyddio&#8217; cynnyrch neu wasanaeth. Mae cynnal ymchwil defnyddwyr yn helpu i gynhyrchu mewnwelediadau ymarferol.&#8221; &#8211; Cassie Robinson, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image w-richtext-figure-type-image w-richtext-align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/6048aaba418585d0857e1d5f_VvZQg4LsSFOGFH9IlNKxpDrDs_DXrOFJFmEQHsIEKdJMqroLWKfRhxSP-BQVcq9YsWKmBdvLOJ2OS-Qy_mERWHkK6Z71R23NJ_UfmUBiP2JhxJBVwYmPp8_fS2k8I1dRhgbHX9g3.gif\" alt=\"Dilbert user research joke\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mae&#8217;n creu empathi a dealltwriaeth<\/h4>\n\n\n\n<p>Yn eich gwaith o ddydd i ddydd, mae&#8217;n debyg eich bod wedi datblygu dealltwriaeth dda o&#8217;ch defnyddwyr. Mae hynny&#8217;n bwysig. Ond i adeiladu gwasanaeth digidol da, mae angen i chi gloddio&#8217;n ddyfnach i sut a pham mae pobl yn ymddwyn fel y maent. Mae angen i chi ymchwilio i mewn i dri pheth:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Sut maent yn datrys eu problemau ar hyn o bryd<\/li>\n\n\n\n<li>Eu hymddygiad digidol a dyfeisiau a ddefnyddir yn gyffredin<\/li>\n\n\n\n<li>Y cyd-destun y maen nhw&#8217;n profi eu problemau ynddo<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Mae angen i chi siarad \u00e2 phobl mewn ffyrdd sy&#8217;n cynhyrchu empathi (nid oes angen grwpiau ffocws yma).<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>&#8220;Empathi sydd wrth wraidd cynllunio. Heb ddealltwriaeth o&#8217;r hyn y mae eraill yn ei weld, ei deimlo, a&#8217;i brofi, mae cynllunio yn dasg ddibwrpas.&#8221; \u2014 Tim Brown, Prif Swyddog Gweithredol IDEO<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Fe allech chi feithrin hyd yn oed mwy o empathi wrth ddysgu hyd yn oed mwy am eu bywydau. Ond fel arfer, mae&#8217;n well canolbwyntio ar y broblem a&#8217;r pethau sy&#8217;n cael effaith ar y ffordd mae eich defnyddwyr yn ei brofi ac yn ymdopi ag ef.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mae&#8217;n defnyddio adnoddau cyffredin rydym eisoes yn ymwybodol ohonynt<\/h4>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>&#8220;Er mwyn deall ymddygiadau defnyddwyr yn iawn, mae&#8217;n well treulio llawer o amser gyda llai o bobl, yn hytrach nag munud bach gyda llawer. Felly yn hytrach nag arolygon, rydych chi&#8217;n defnyddio technegau fel cyfweliadau lled-strwythuredig neu gysgodi.&#8221; \u2014 <a href=\"https:\/\/betterdigital.services\/principles\/start-with-user-needs-and-keep-them-involved\/\">Egwyddor Gwasanaeth Digidol 1, CAST<\/a><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae ymchwil defnyddiwr fel arfer yn defnyddio&#8217;r technegau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Wrth ddesg \u2013 dysgu am eich gr\u0175p defnyddwyr o ymchwil flaenorol<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfweliadau \u2013 siarad yn fanwl \u00e2 phum defnyddiwr i gael mewnwelediad i&#8217;w bywydau<\/li>\n\n\n\n<li>Saffari gwasanaeth \u2013 arsylwi defnyddwyr yn eu bywydau bob dydd (weithiau&#8217;n bosibl, bob tro&#8217;n werthfawr)<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/promo.cymru\/resource-articles\/how-to-get-your-users-involved-in-shaping-your-services\/\">Dyma awgrymiadau ar sut i wneud y pethau yma o bell<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ddiweddarach byddwch yn ymchwilio ac yn profi prototeipiau gyda&#8217;ch defnyddwyr. Efallai y byddwch hyd yn oed yn cynnal rhai sesiynau cyd-gynllunio. Ond dim ond ar \u00f4l cynnal digon o ymchwil defnyddwyr yn gyntaf.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Nid oes angen i chi wneud cymaint ag yr ydych chi&#8217;n meddwl<\/h4>\n\n\n\n<p>Yn ei llyfr &#8216;Just Enough User Research&#8217; mae <a href=\"https:\/\/medium.com\/@mulegirl\">Erika Hall<\/a> yn egluro egwyddorion ac arferion gwneud hynny&#8217;n union: dim ond digon o ymchwil. Mae&#8217;n galonogol gwybod nad oes angen i chi wneud cymaint ag yr oeddech chi&#8217;n meddwl. Mae Erika hefyd yn ein hannog i fyfyrio ar ein mannau dall a&#8217;n rhagfarnau.<\/p>\n\n\n\n<p>Deall bod gwneud llai o&#8217;r ymchwil gywir yn fwy defnyddiol na gwneud llawer o&#8217;r math anghywir. Ar \u00f4l pum cyfweliad, dylech fod wedi sefydlu prif anghenion ac ymddygiadau eich defnyddwyr. Os nad ydych wedi gwneud hynny, yna gwnewch pump arall.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/abookapart.com\/products\/just-enough-research\">Darllenwch y llyfr Just Enough User Research.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Nid yw&#8217;n ymwneud \u00e2 grwpiau ffocws a digwyddiadau ymgynghori<\/h4>\n\n\n\n<p>Sori, dwi&#8217;n gwybod bod pawb yn y sector yn caru&#8217;r rhain, ond <a href=\"https:\/\/abookapart.com\/products\/just-enough-research\">nid oes llawer o werth<\/a> iddynt pan ddaw at ymchwil defnyddwyr. Mae&#8217;r ddau ddigwyddiad yn creu amgylcheddau artiffisial ble mae trafodaeth yn cael ei chymedroli a&#8217;i dylanwadu gan ddeinameg gr\u0175p. Mae sgyrsiau&#8217;n troi&#8217;n haniaethol, mae defnyddwyr yn teimlo&#8217;n rhwystredig yn y pen draw.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>&#8220;Mae&#8217;n anodd iawn cynllunio cynnyrch gyda grwpiau ffocws. Yn aml, nid yw pobl yn deall yr hyn sydd eisiau arnynt nes i chi ddangos iddynt.&#8221; &#8211; Steve Jobs<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae cyfweliadau defnyddwyr yn wahanol. Mae deinameg gr\u0175p yn diflannu, mae <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/resource-articles\/relational-wellbeing-online-service-part-one\/\">cysylltiad 1-1 yn dod yn bosibl<\/a>, ac mae defnyddwyr yn teimlo&#8217;n fwy cyfforddus yn bod yn agored a rhannu profiadau. Mae hyn yn cynhyrchu mewnwelediadau dyfnach a mwy dibynadwy.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Nid yw&#8217;n gofyn i bobl beth maent eisiau<\/h4>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>&#8220;Rheol gyntaf ymchwil defnyddwyr: peidiwch byth gofyn i unrhyw un beth maent eisiau.&#8221;\u2014 Erika Hall, Just Enough Research<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Un o&#8217;r newidiadau mwyaf y mae elusennau&#8217;n gwneud yn eu dull o ymchwilio defnyddwyr a <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/resource-articles\/design-more-important-than-digital-for-charities\/\">chynllunio digidol<\/a> yw stopio gofyn beth mae pobl eisiau. Roedd Steve Jobs a Henry Ford yn gwybod, fel bodau dynol, nad ydym yn dda am wybod beth rydym eisiau. Hyd yn oed pan fyddwn yn meddwl ein bod ni. Os oes angen eich argyhoeddi o hyd mai dyma&#8217;r peth cywir i&#8217;w wneud, yna <a href=\"https:\/\/www.psychologytoday.com\/gb\/blog\/the-second-noble-truth\/201711\/you-dont-know-what-you-want\">darllenwch hwn<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn lle hynny, gofynnwch &#8216;pam&#8217;? Ceisiwch ddarganfod beth yw anghenion ac ymddygiadau sylfaenol eich defnyddwyr. Cadwch feddylfryd amheus am eich darganfyddiadau. <a href=\"https:\/\/medium.com\/user-research\/never-ask-what-they-want-3-better-questions-to-ask-in-user-interviews-aeddd2a2101e\">Defnyddiwch gwestiynau fel y rhain<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mae&#8217;n gydweithredol<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae ymchwil defnyddwyr da yn cynnwys y t\u00eem cyfan. Efallai y byddwch chi&#8217;n rhannu tasgau ymchwil, ond byddwch chi bob amser yn dadansoddi canfyddiadau ac yn cynhyrchu mewnwelediadau gyda&#8217;ch gilydd. Mae&#8217;n rhaid iddo weithio fel hyn. Os na fyddwch chi&#8217;n cydweithio yna mae rhagfarn yn digwydd a mewnwelediadau yn cael eu colli.<\/p>\n\n\n\n<p>Hefyd, y bobl orau i gymhwyso&#8217;ch ymchwil yn ddiweddarach fydd y bobl a&#8217;i cyflawnodd. Felly, gofynnwch i&#8217;ch cynllunwyr a&#8217;ch gweithwyr rheng flaen gymryd rhan. Rhowch gyfle i bawb gyflwyno&#8217;u mewnwelediadau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Digon am y tro<\/h4>\n\n\n\n<p>Gallem fynd yn ddyfnach. Ond dyma orffen am y tro.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch ddarllen am gamau nesaf yn <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/resource-articles\/synthesising-user-research-how-to-do-it\/\">sut i syntheseiddio eich ymchwil defnyddwyr.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch hefyd fynd yn ddyfnach i ymchwil defnyddwyr gyda&#8217;n <a href=\"https:\/\/mailchi.mp\/thecatalyst\/learn-user-research\">cwrs e-bost 6 gwers.<\/a><\/p>\n","protected":false},"featured_media":18931,"template":"","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2011],"class_list":["post-22395","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","resource-category-ymchwil-defnyddwyr"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Ymchwil Defnyddwyr: Beth Ydyw a Pham ei Fod yn Bwysig - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae ymchwil defnyddwyr yn hanfodol ar gyfer adeiladu gwasanaeth digidol sy\u2019n diwallu anghenion eich defnyddwyr.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ymchwil Defnyddwyr: Beth Ydyw a Pham ei Fod yn Bwysig - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae ymchwil defnyddwyr yn hanfodol ar gyfer adeiladu gwasanaeth digidol sy\u2019n diwallu anghenion eich defnyddwyr.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-08-11T16:19:06+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/607474bc459a7b9eea4101f2_6048aaba418585f8927e1d60_user20research20synthesis.jpeg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"631\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/\",\"name\":\"Ymchwil Defnyddwyr: Beth Ydyw a Pham ei Fod yn Bwysig - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/607474bc459a7b9eea4101f2_6048aaba418585f8927e1d60_user20research20synthesis.jpeg\",\"datePublished\":\"2024-01-11T00:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-08-11T16:19:06+00:00\",\"description\":\"Mae ymchwil defnyddwyr yn hanfodol ar gyfer adeiladu gwasanaeth digidol sy\u2019n diwallu anghenion eich defnyddwyr.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/607474bc459a7b9eea4101f2_6048aaba418585f8927e1d60_user20research20synthesis.jpeg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/607474bc459a7b9eea4101f2_6048aaba418585f8927e1d60_user20research20synthesis.jpeg\",\"width\":1200,\"height\":631},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Ymchwil Defnyddwyr: Beth Ydyw a Pham ei Fod yn Bwysig\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ymchwil Defnyddwyr: Beth Ydyw a Pham ei Fod yn Bwysig - ProMo Cymru","description":"Mae ymchwil defnyddwyr yn hanfodol ar gyfer adeiladu gwasanaeth digidol sy\u2019n diwallu anghenion eich defnyddwyr.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Ymchwil Defnyddwyr: Beth Ydyw a Pham ei Fod yn Bwysig - ProMo Cymru","og_description":"Mae ymchwil defnyddwyr yn hanfodol ar gyfer adeiladu gwasanaeth digidol sy\u2019n diwallu anghenion eich defnyddwyr.","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2025-08-11T16:19:06+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":631,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/607474bc459a7b9eea4101f2_6048aaba418585f8927e1d60_user20research20synthesis.jpeg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/","name":"Ymchwil Defnyddwyr: Beth Ydyw a Pham ei Fod yn Bwysig - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/607474bc459a7b9eea4101f2_6048aaba418585f8927e1d60_user20research20synthesis.jpeg","datePublished":"2024-01-11T00:00:00+00:00","dateModified":"2025-08-11T16:19:06+00:00","description":"Mae ymchwil defnyddwyr yn hanfodol ar gyfer adeiladu gwasanaeth digidol sy\u2019n diwallu anghenion eich defnyddwyr.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/607474bc459a7b9eea4101f2_6048aaba418585f8927e1d60_user20research20synthesis.jpeg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/607474bc459a7b9eea4101f2_6048aaba418585f8927e1d60_user20research20synthesis.jpeg","width":1200,"height":631},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Ymchwil Defnyddwyr: Beth Ydyw a Pham ei Fod yn Bwysig"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/22395","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18931"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22395"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22395"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=22395"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}