{"id":22784,"date":"2023-02-22T00:00:00","date_gmt":"2023-02-22T00:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/resource-articles\/tips-for-a-user-focused-content-first-homepage\/"},"modified":"2026-02-02T12:33:30","modified_gmt":"2026-02-02T12:33:30","slug":"awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/","title":{"rendered":"Gwefannau Elusen: 8 Awgrym i&#8217;ch Tudalen Cartref i Ganolbwyntio ar y Defnyddiwr"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gall gweithio ar dudalen cartref gwefan deimlo fel prosiect sydd \u00e2 llawer yn fantol. Dyma&#8217;r ffenestr siop i&#8217;ch elusen, mae rhanddeiliaid eisiau dweud eu dweud, ac mae yna lawer o bwysau i greu rhywbeth perffaith.<\/h3>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Gellir gwneud hyn yn llai brawychus gyda dull sy&#8217;n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan ddechrau gyda chynnwys, ac anghofio am y syniad o berffeithrwydd. Dyma awgrymiadau ar sut i gynllunio eich tudalen gartref a mewnwelediadau o arolwg gyda 30 o elusennau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">1. Byddwch yn glir ar swyddogaeth eich tudalen gartref<\/h4>\n\n\n\n<p>Y broblem gyda nifer o dudalennau cartref yw ein bod yn colli persbectif ac yn ceisio plesio pawb. Ond mae gwneud gormod yn gallu creu tudalen gartref hir, anniben, a dryslyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid oes rhaid i&#8217;ch tudalen gartref arddangos yr holl bethau bach rydych chi&#8217;n ei wneud, yn cynnig dolenni i bethau sydd heb gartref, neu gadw&#8217;r Prif Swyddog yn hapus. Pwrpas tudalen gartref yw gwneud un neu ddau o&#8217;r pethau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Dangos i bobl beth yw eich sefydliad:<\/strong> Ar gyfer defnyddwyr sy&#8217;n newydd i&#8217;ch brand ac sydd angen deall pwy ydych chi a&#8217;r pham bod eich gwaith yn bwysig<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Helpu pobl i lywio&#8217;ch gwefan: <\/strong>Nid ydynt yn dod i&#8217;ch tudalen gartref i edrych arno yn unig. Maent eisiau llywio i rywbeth arall sy&#8217;n eu helpu i gwblhau tasg.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>I ddeall mwy am y swydd sydd gan eich tudalen gartref, edrychwch ar eich data dadansoddeg a chwilio. Darganfyddwch:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Faint o bobl sy&#8217;n glanio ar eich tudalen gartref o gymharu \u00e2 thudalennau eraill eich gwefan?<\/li>\n\n\n\n<li>Sut mae pobl yn cyrraedd eich tudalen cartref? Chwilio organig, hysbysebu talu fesul clic, dolen gyfeirio, neu&#8217;n uniongyrchol?<\/li>\n\n\n\n<li>Pa gyfran o bobl sy&#8217;n chwilio am enw eich elusen, neu ydynt yn chwilio am eich cynnwys am wasanaethau, pynciau, ac ati?<\/li>\n\n\n\n<li>Beth yw&#8217;r llwybrau ymlaen mwyaf cyffredin o&#8217;ch tudalen gartref? Ble mae pobl yn debygol o fynd nesaf?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">2. Adnabod eich defnyddwyr a&#8217;u hanghenion<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n hanfodol cael dealltwriaeth dda o bwy sy&#8217;n defnyddio&#8217;ch gwefan a pham. Os oes gennych ymchwil defnyddwyr, adolygwch ef i gael dealltwriaeth o&#8217;ch defnyddwyr a&#8217;u hanghenion. Rydych chi&#8217;n casglu tystiolaeth ac adeiladu achos fel y gallwch wneud y penderfyniadau cywir, dangos sut y cyrhaeddoch chi&#8217;r penderfyniadau yma, a chefnogi eich dadl yn nes ymlaen. Canolbwyntiwch ar ddatgelu a dogfennu:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Anghenion defnyddwyr: <\/strong>beth sydd ei angen arnynt a pham?<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Grwpiau defnyddwyr: <\/strong>pa persona neu gr\u0175p maen nhw&#8217;n rhan ohono?<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Teithiau defnyddwyr: <\/strong>pryd ar eu taith y maen nhw&#8217;n debygol o ddefnyddio&#8217;r dudalen gartref?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Os nad ydych chi&#8217;n glir ar anghenion defnyddwyr ac nad oes gennych unrhyw ymchwil defnyddiwr i dynnu ohono, mae&#8217;n werth oedi a buddsoddi ychydig o amser yn hyn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">3. Deall eich strategaeth<\/h4>\n\n\n\n<p>Ymgyfarwyddwch \u00e2 strategaeth neu genhadaeth gyffredinol eich sefydliad. Dylai eich hafan fod yn gweithio i gefnogi eich nodau strategol, felly mae angen i chi fod yn glir ar beth ydynt cyn i chi ddechrau. Dylai eich amcanion gael effaith fawr ar ddyluniad cynnwys eich tudalen gartref. Os mai derbyn rhoddion yw eich ffocws strategol mwyaf, yna mae angen i&#8217;ch tudalen gartref fod yn wahanol iawn o gymharu \u00e2 ffocws i ddarparu gwasanaethau neu recriwtio gwirfoddolwyr.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">4. Ymgysylltu \u00e2&#8217;ch rhanddeiliaid<\/h4>\n\n\n\n<p>Gall rhanddeiliaid fod yn hanfodol i lwyddiant eich tudalen gartref. Er bod eu barn nhw&#8217;n bwysig, ac maent yn ffynhonnell syniadau da, os ydych chi&#8217;n canolbwyntio arnyn nhw&#8217;n unig yna mae&#8217;n beryg i chi fod \u00e2 thudalen sydd ddim yn ymateb i ofynion eich defnyddwyr. Felly mae angen i chi gydbwyso eu dymuniadau nhw ag anghenion eich defnyddwyr a blaenoriaethau strategol i osgoi tudalen sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r sefydliad yn unig.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bwysig ymgysylltu \u00e2 rhanddeiliaid yn y broses. Ar gychwyn prosiect, gofynnwch am eu barn, beth maen nhw&#8217;n dymuno o&#8217;r tudalen cartref a pham. Yna, yn ystod weddill y prosiect, rhowch ddiweddariadau, dangoswch eich ymchwil a&#8217;ch tystiolaeth. Mae sgyrsiau rheolaidd, agored yn rhoi&#8217;r cyfle gorau i chi osgoi&#8217;r sgyrsiau &#8220;Ond mae fy mheth i angen bod ar frig y dudalen&#8221; yn hwyrach ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">5. Cofiwch fod &#8216;perffaith&#8217; yn amhosibl<\/h4>\n\n\n\n<p>Nid oes y fath beth \u00e2 thudalen gartref perffaith. Ni allwch wasanaethu pob angen neu gadw pawb yn hapus &#8211; mae rhaid cael cyfaddawd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen i chi flaenoriaethu a chael nod clir mewn golwg. Mae hefyd angen cofio y bydd llawer o bobl yn glanio ar dudalennau eraill ar eich gwefan trwy chwiliadau Google, atgyfeiriadau a dolenni. Felly os nad yw rhywbeth ar y dudalen gartref, nid yw hynny&#8217;n golygu ei fod yn anweledig.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">6. Cychwyn gyda&#8217;r cynnwys<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n gyffredin iawn cychwyn gyda ffr\u00e2m weiren neu ddyluniad, yna ei lenwi \u00e2 chynnwys. Ond y broblem gyda hynny yw ei fod yn blaenoriaethu ffurf dros swyddogaeth. Yn lle hynny, cychwynnwch y broses ddylunio trwy feddwl am y cynnwys rydych chi&#8217;n mynd i&#8217;w ddefnyddio a pham.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall helpu cael rhai syniadau o&#8217;r hyn y mae elusennau eraill yn ei roi ar eu tudalennau cartref. Mae arolwg o 30 elusen wedi dangos bod 53 elfen cynnwys gyffredin o fewn 10 categori gwahanol. Y 10 elfen cynnwys fwyaf cyffredin oedd:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Newyddion\/blog: <\/strong>crynodebau a dolenni i bostiadau\/straeon diweddar (ar 73% o dudalennau cartref)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Llinell tag\/cenhadaeth\/disgrifiad <\/strong>(63%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cyfrannu rhodd: <\/strong>galwad i weithredu cyffredinol (53%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Tanysgrifiad e-bost:<\/strong> galwad i weithredu tanysgrifio (47%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Ymgyrch\/deiseb: <\/strong>galwad i weithredu ymgyrch benodol (43%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Recriwtio gwirfoddolwyr:<\/strong> galwad i weithredu gweld swyddi neu fanylion pellach (40%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwybodaeth\/help\/cyngor: <\/strong>dolenni i dudalennau pynciau neu gategor\u00efau (37%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwybodaeth\/help\/cyngor: <\/strong>dolenni i ddarn penodol o gynnwys (33%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Amdanom ni\/beth rydyn ni&#8217;n ei wneud: <\/strong>dolen neu ddolenni i ddarganfod mwy am yr elusen (33%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cymryd rhan\/ein cefnogi: <\/strong>galwad i weithredu i ddarganfod mwy am gefnogi&#8217;r elusen (33%)<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/lapope.com\/2022\/09\/16\/what-makes-a-good-charity-website-homepage\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gweld y 53 elfen gyffredin cynnwys tudalennau cartref<\/a><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">7. Bod yn ymwybodol o&#8217;r plyg<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r plyg yn cyfeirio at waelod tybiannol y dudalen cyn i rywun orfod sgrolio i weld mwy. Mae&#8217;r hyn rydych chi&#8217;n ei roi uwchben y plyg ar eich hafan yn bwysig iawn, ond nid am nad yw defnyddwyr yn sgrolio &#8211; myth yw hynny. Bydd defnyddwyr yn sgrolio, ond dim ond os ydych chi&#8217;n rhoi &#8216;arogl gwybodaeth&#8217; da iddynt ar frig y dudalen. Mae pobl angen y cliwiau yma i wybod eu bod yn y lle iawn a byddant yn dod o hyd i&#8217;r hyn sydd ei angen arnynt wrth sgrolio.<\/p>\n\n\n\n<p>Allan o&#8217;r 53 elfen wahanol a ymddangosodd yn yr arolwg, dim ond 10 a ymddangosodd fel yr elfen gyntaf ar y dudalen gartref:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Llinell tag\/cenhadaeth\/disgrifiad <\/strong>(elfen gyntaf 37% o&#8217;r amser)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cyfrannu rhodd <\/strong>(20%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Ymgyrch\/deiseb <\/strong>(13%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Digwyddiad codi arian: <\/strong>galwad i weithredu digwyddiad codi arian penodol (7%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwybodaeth\/help\/cyngor: <\/strong>tudalen pynciau\/categori (3%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwybodaeth\/help\/cyngor: <\/strong>darn penodol o gynnwys (3%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Llinell gymorth\/llinell gyngor: <\/strong>galwad i weithredu e-bost\/sgwrs ar-lein\/rhif ff\u00f4n (3%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwasanaethau: <\/strong>blwch chwilio neu offeryn canfod ar gyfer gwasanaethau (3%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cyllid: <\/strong>galwad i weithredu gwneud cais am gyllid (galwad i weithredu\/gwneud cais) (3%)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Carws\u00e9l delweddau <\/strong>(3%)<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Yr elfen gyntaf fwyaf cyffredin oedd llinell tag, cenhadaeth, neu ddisgrifiad. Mae llinell tag yn elfen ddiogel i&#8217;w chael fel yr elfen gyntaf ar y dudalen, gan ei fod yn debygol o gyd-fynd ag anghenion y defnyddiwr.<\/p>\n\n\n\n<p>Yr elfen fwyaf cyffredin nesaf oedd galwad i weithredu i gyfrannu at ymgyrch benodol, ac yna dolenni i ymgyrchoedd neu ddeisebau. Efallai y bydd gan yr elfennau hyn oes silff fer ac mae angen eu newid yn rheolaidd. Os ydych chi&#8217;n dewis elfen fel hyn i ddod yn gyntaf, sicrhewch eich bod yn dilyn angen defnyddiwr ac nid dymuniadau rhanddeiliaid.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">8. Deall eich bod chi&#8217;n tynnu edau rydd<\/h4>\n\n\n\n<p>Gall gweithio ar eich tudalen gartref deimlo fel eich bod yn tynnu ar edau rydd sy&#8217;n dadwneud eich gwefan gyfan. Trwy ganolbwyntio ar anghenion eich defnyddwyr, strategaeth, a sut mae pobl yn llywio&#8217;ch safle, mae&#8217;n debygol iawn y byddwch chi&#8217;n darganfod llawer iawn y byddech chi eisiau newid.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond nid yw hyn yn golygu bod angen i chi newid y safle cyfan i ailgynllunio&#8217;r dudalen gartref. Nid oes angen i chi wneud popeth ar unwaith. Newidiwch y dudalen gartref gymaint ag y gallwch heb dorri gweddill y wefan, neu greu teithiau dryslyd i ddefnyddwyr. Gallwch ddefnyddio eich dysgu i wneud yr achos dros newidiadau eraill.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mwy o adnoddau defnyddiol<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/lapope.com\/2022\/09\/29\/how-to-create-a-great-charity-website-homepage\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Sut I Greu Hafan Gwefan Elusen Wych<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ymchwil-defnyddwyr-beth-ydyw-a-pham-ei-fod-yn-bwysig\/\">Ymchwil Defnyddwyr: Beth Ydyw A Pham Ei Fod Yn Bwysig<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-category\/ymchwil-defnyddwyr\/\">Deall Anghenion Eich Defnyddwyr<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.nngroup.com\/articles\/page-fold-manifesto\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Pam Mae&#8217;r Plygu Tudalen Yn Dal I Fod Yn Bwysig<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/promo.cymru\/resource-articles\/the-philosophy-and-benefits-of-iterative-development\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Datblygiad Ailadroddol: Ei Athroniaeth A&#8217;i Fanteision<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.thecatalyst.org.uk\/what-we-mean-by-digital\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Beth Rydyn Ni&#8217;n Ei Olygu Gyda Digidol<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size\"><em>Llun gan <a href=\"https:\/\/www.flickr.com\/photos\/47379017@N00\/5734993652\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Baldiri ar Flickr<\/a>.&nbsp;Ailddefnyddir o dan <a href=\"https:\/\/creativecommons.org\/licenses\/by\/2.0\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">drwydded<\/a>.<\/em><\/p>\n","protected":false},"featured_media":18850,"template":"","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2003,2015],"class_list":["post-22784","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","resource-category-hyfforddiant","resource-category-cynllunio-cynnwys"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Gwefannau Elusen: 8 Awgrym i&#039;ch Tudalen Cartref i Ganolbwyntio ar y Defnyddiwr - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Cyngor dylunio tudalen gartref sy&#039;n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mewnwelediadau arolwg o 30 o dudalennau cartref elusennol.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Gwefannau Elusen: 8 Awgrym i&#039;ch Tudalen Cartref i Ganolbwyntio ar y Defnyddiwr - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cyngor dylunio tudalen gartref sy&#039;n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mewnwelediadau arolwg o 30 o dudalennau cartref elusennol.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-02-02T12:33:30+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac4c1a43f8481f82d2a_6396f99a93929234fb7999e7_wire.jpeg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1067\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/\",\"name\":\"Gwefannau Elusen: 8 Awgrym i'ch Tudalen Cartref i Ganolbwyntio ar y Defnyddiwr - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac4c1a43f8481f82d2a_6396f99a93929234fb7999e7_wire.jpeg\",\"datePublished\":\"2023-02-22T00:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2026-02-02T12:33:30+00:00\",\"description\":\"Cyngor dylunio tudalen gartref sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mewnwelediadau arolwg o 30 o dudalennau cartref elusennol.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac4c1a43f8481f82d2a_6396f99a93929234fb7999e7_wire.jpeg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac4c1a43f8481f82d2a_6396f99a93929234fb7999e7_wire.jpeg\",\"width\":1600,\"height\":1067},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Gwefannau Elusen: 8 Awgrym i&#8217;ch Tudalen Cartref i Ganolbwyntio ar y Defnyddiwr\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Gwefannau Elusen: 8 Awgrym i'ch Tudalen Cartref i Ganolbwyntio ar y Defnyddiwr - ProMo Cymru","description":"Cyngor dylunio tudalen gartref sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mewnwelediadau arolwg o 30 o dudalennau cartref elusennol.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Gwefannau Elusen: 8 Awgrym i'ch Tudalen Cartref i Ganolbwyntio ar y Defnyddiwr - ProMo Cymru","og_description":"Cyngor dylunio tudalen gartref sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mewnwelediadau arolwg o 30 o dudalennau cartref elusennol.","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2026-02-02T12:33:30+00:00","og_image":[{"width":1600,"height":1067,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac4c1a43f8481f82d2a_6396f99a93929234fb7999e7_wire.jpeg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/","name":"Gwefannau Elusen: 8 Awgrym i'ch Tudalen Cartref i Ganolbwyntio ar y Defnyddiwr - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac4c1a43f8481f82d2a_6396f99a93929234fb7999e7_wire.jpeg","datePublished":"2023-02-22T00:00:00+00:00","dateModified":"2026-02-02T12:33:30+00:00","description":"Cyngor dylunio tudalen gartref sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mewnwelediadau arolwg o 30 o dudalennau cartref elusennol.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac4c1a43f8481f82d2a_6396f99a93929234fb7999e7_wire.jpeg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cac4c1a43f8481f82d2a_6396f99a93929234fb7999e7_wire.jpeg","width":1600,"height":1067},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/awgrymiadau-tudalen-cartref-canolbwyntio-ar-defnyddiwr\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Gwefannau Elusen: 8 Awgrym i&#8217;ch Tudalen Cartref i Ganolbwyntio ar y Defnyddiwr"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/22784","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18850"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22784"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22784"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=22784"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}