{"id":22908,"date":"2023-02-08T00:00:00","date_gmt":"2023-02-08T00:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/resource-articles\/how-to-take-action-once-youve-written-your-user-stories\/"},"modified":"2026-01-14T16:52:25","modified_gmt":"2026-01-14T16:52:25","slug":"sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/","title":{"rendered":"Sut i Ysgrifennu Straeon Defnyddwyr"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae straeon defnyddwyr wedi dod yn rhan annatod o&#8217;r broses ymchwil a chynllunio rwy&#8217;n dilyn. Maent yn helpu sefydliadau i ganolbwyntio ar y defnyddiwr a chyflawni amcanion eu defnyddwyr.<\/h3>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Mae straeon defnyddwyr yn ddatganiadau syml sy&#8217;n canolbwyntio ar yr hyn y mae&#8217;r defnyddiwr eisiau ei gyflawni. Maent yn diffinio&#8217;r gynulleidfa\/sefyllfa, y cymhelliant a&#8217;r disgwyliad sydd gan berson, sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 gwasanaeth neu gynnyrch. Maent yn wych am eu bod yn helpu rhywun i ddeall cyd-destun, angen a nod penodol defnyddiwr mewn un datganiad. <strong>Yn bwysicaf oll, mae straeon defnyddwyr yn eich galluogi i gysylltu anghenion defnyddwyr yn uniongyrchol ag atebion y gallwch eu cynllunio neu eu hadeiladu.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi newydd dreulio amser yn dod i ddeall eich cynulleidfa&#8217;n well ac wedi defnyddio&#8217;r wybodaeth yma i ysgrifennu cyfres o straeon defnyddwyr, yna rwy&#8217;n dychmygu eich bod chi&#8217;n awyddus i roi cychwyn arni a gwneud rhywfaint o gynnydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai eich bod chi&#8217;n meddwl bod angen i chi ddechrau cynllunio ychydig o syniadau ac atebion? Ond nid ydych yn si\u0175r iawn sut i gychwyn, neu os mai dyma&#8217;r peth cywir i&#8217;w wneud hyd yn oed. Mae&#8217;r gyllideb a&#8217;r adnoddau&#8217;n dynn, ac mae gennych chi lawer i&#8217;w gyflawni. Felly, mae pwysau arnom i weithredu, ond eto rydym angen sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf o&#8217;n hamser, egni ac arian.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Dylai straeon defnyddwyr fod yn weithredadwy<\/h3>\n\n\n\n<p>Unwaith mae gennych chi stori defnyddiwr sy&#8217;n mynegi angen penodol, dylech allu blaenoriaethu&#8217;r stori yma a&#8217;i neilltuo fel tasg i aelod o&#8217;ch t\u00eem. Mae cyfres o straeon defnyddwyr yn arwain at gwblhau prosiectau gyda chwmpas penodol. Dylech allu dweud &#8220;Mae XXX a YYY yn caniat\u00e1u inni gwblhau&#8217;r stori yma&#8221; ac wrth wneud hynny, gwybod eich bod wedi ateb angen defnyddiwr gyda&#8217;ch gwefan neu wasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond mae&#8217;n rhaid ysgrifennu straeon defnyddwyr yn y ffordd gywir er mwyn iddynt fod yn weithredadwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae oriau a dyddiau wedi&#8217;u gwastraffu am fod timau wedi drysu am yr hyn y dylent fod yn gweithio arno &#8211; nid oedd y straeon defnyddwyr yn ddigon clir, neu roeddent mor fawr nes ei bod yn amhosibl amcangyfrif faint o amser y byddai&#8217;n ei gymryd i gynllunio datrysiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Dychmygwch fod gennych gyfres o straeon defnyddwyr rydych chi&#8217;n teimlo&#8217;n glir iawn amdanynt. Rydych chi&#8217;n gwybod beth ydynt, pam mae eu hangen a byddwch chi&#8217;n gwybod yn union pryd rydych chi wedi&#8217;u cwblhau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn golygu y gallwch chi reoli amser, adnoddau a chyllideb yn gywir, a sicrhau eich bod chi&#8217;n cyrraedd yr amcanion hynny, ar gyfer eich defnyddwyr a&#8217;ch sefydliad.<\/p>\n\n\n\n<p>Y peth gwych yw nad yw&#8217;n anodd cyrraedd y pwynt yma. Bydd yr erthygl yma yn rhoi camau syml i chi i wneud yn union hynny, felly heb fwy na buddsoddiad o ychydig oriau, byddwch chi&#8217;n barod i gychwyn gwneud gwelliannau i&#8217;ch profiad digidol a gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter w-richtext-figure-type-image w-richtext-align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/6048aaba418585bd1f7e1e46_INVEST-2.png\" alt=\"\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut ydych chi&#8217;n gwirio bod eich straeon defnyddwyr yn weithredadwy?<\/h3>\n\n\n\n<p>Rwy&#8217;n defnyddio fframwaith INVEST i wneud hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Cr\u00ebwyd y fframwaith yma&#8217;n wreiddiol gan Bill Wake ac mae&#8217;n ffordd o sicrhau eich bod chi&#8217;n ysgrifennu straeon gyda&#8217;r nodweddion cywir i sicrhau eu bod nhw&#8217;n weithredadwy ac yn fesuradwy. Fel arall, sut ydych chi&#8217;n gwybod beth i&#8217;w wneud \u00e2 nhw? Sut fyddwch chi&#8217;n gwybod sut i&#8217;w blaenoriaethu? Yn olaf, sut fyddwch chi&#8217;n gwybod pryd maent wedi gorffen?<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ddelfrydol, bydd INVEST (ATGABP) ar eich meddwl wrth i chi ysgrifennu eich straeon, ond mae&#8217;r un mor hawdd adolygu eich straeon hefyd. Felly, gadewch i ni ddadbacio beth mae INVEST yn ei olygu.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Annibynnol (Independent)<\/h4>\n\n\n\n<p><strong>Dylai stori defnyddiwr sefyll ar ben ei hun, yn annibynnol o unrhyw stori arall, er mwyn caniat\u00e1u gwir flaenoriaethu.<\/strong> Golygai hyn y gallwch chi weithredu neu amserlennu&#8217;r stori mewn unrhyw drefn, i weddu i anghenion defnyddiwr neu adnoddau eich sefydliad.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw hyn yn bosib bob amser mewn gwirionedd, felly os oes gennych ddwy stori arall sydd \u00e2 chyswllt cryf i stori arall, yna dylid ystyried cyfuno&#8217;r rhain yn un stori.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Trafodadwy (Negotiable)<\/h4>\n\n\n\n<p><strong>Dylai stori ddangos hanfod yr angen sydd angen ei ddiwallu, ond heb fod yn rhy bendant yngl\u0177n \u00e2 sut y dylid ei ddatrys. <\/strong>Nid rhestr benodol o fanylion a nodweddion cadarn yw stori. Pwynt stori defnyddiwr yw sicrhau eich bod yn diwallu angen defnyddiwr, ond efallai nad ydych wedi diffinio neu&#8217;n gwybod beth yw&#8217;r manylion penodol o sut rydych chi&#8217;n ei ddatrys eto, ac nid oes wastad angen hyn i flaenoriaethu straeon. Mae&#8217;n debygol y bydd y mwyafrif o straeon yn gofyn am gydweithio ag aelodau gwahanol o&#8217;ch t\u00eem, e.e. y rhai sy&#8217;n adnabod y defnyddiwr, y rhai fydd yn adeiladu&#8217;r datrysiad terfynol, neu&#8217;r rhai sy&#8217;n blaenoriaethu&#8217;r gwaith rydych chi&#8217;n ei wneud, i roi eglurder ar sut y gallech chi ei ddatrys. Mae angen i&#8217;ch stori fod yn ddigon agored i alluogi&#8217;r cydweithio yma, ac i ganiat\u00e1u pawb i gyfrannu syniadau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Gwerthfawr (Valuable)<\/h4>\n\n\n\n<p><strong>Os na fydd stori&#8217;n dod \u00e2 gwerth i&#8217;r defnyddiwr, neu&#8217;ch sefydliad, yna ni ddylid ei wneud!<\/strong> Cofiwch mai holl bwynt stori defnyddiwr yw sicrhau bod yr hyn a wnewch yn canolbwyntio ar y defnyddiwr. Felly wrth edrych ar eich straeon, os ymddangosai bod cwblhau stori yn fwy gwerthfawr i&#8217;r rheolwyr neu i&#8217;r t\u00eem datblygu, na&#8217;r defnyddiwr, mae angen cwestiynu gwir werth y stori ac os yw&#8217;n rhywbeth y dylid ei wneud.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter w-richtext-figure-type-image w-richtext-align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/6048aaba41858564d27e1e45_INVEST-1.png\" alt=\"\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Amcangyfrifadwy (Estimable)<\/h4>\n\n\n\n<p><strong>Dylid gallu mesur lefel yr adnoddau, amser a chyllideb sydd eu hangen wrth edrych ar stori defnyddiwr, fel eich bod yn deall y gwaith sydd ei angen i ddatrys problem y defnyddiwr, ac yn gallu blaenoriaethu.<\/strong> Os nad ydych chi&#8217;n gwybod pa mor hir y bydd yn ei gymryd i fynd i&#8217;r afael \u00e2 phroblem y defnyddiwr, neu pa adnoddau sydd eu hangen, sut ydych chi&#8217;n gwybod os fedrwch chi amserlennu neu gyflawni&#8217;r dasg? Nid oes rhaid iddo fod yn union, ond yn ddigon i&#8217;w restru a&#8217;i amserlennu. Mae hyn yn gysylltiedig \u00e2 pha mor gyfnewidiadwy a bach ydyw\u2026 os nad oes gennych chi ddigon o wybodaeth i ddeall y stori, neu os yw mor fawr fel na ellir ei deall, yna ni allech ei amcangyfrif.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gallu amcangyfrif hefyd yn dibynnu ar brofiad eich t\u00eem a&#8217;r stori ei hun. Er enghraifft, os yw&#8217;n stori dechnegol iawn ac nid oes gennych chi ddatblygwr gwe dechnegol wrth law, bydd yn anodd i chi ei amcangyfrif. Yn yr achos yma, gallech chi neilltuo symiau cyfyngedig o amser fesul stori i edrych ar fanylion yr hyn y gallai ei gymryd i&#8217;w weithredu. Fel hyn, gallwch chi ei ddatrys, heb wastraffu amser.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Bach (Small)<\/h4>\n\n\n\n<p><strong>Mae straeon yn ddarnau bach o waith a dylai unrhyw un fedru deall stori yn hawdd. <\/strong>Mae dau ystyr i &#8216;bach&#8217; yma. Yn gyntaf, mae straeon yn ddarnau bach o waith. Dyddiau neu wythnosau ar y mwyaf, nid misoedd. Os yw&#8217;n fwy, dylid rhannu&#8217;r dasg yn straeon llai, annibynnol, fel arall ni allwch eu hamcangyfrif. Mae straeon defnyddwyr yn dod o&#8217;r ffordd &#8216;ystwyth&#8217; o feddwl, lle mae&#8217;r ffocws ar ddarparu gwerth bob amser, a gwneud y peth symlaf sy&#8217;n gweithio, yna stopio! Efallai y gallech chi ddiwallu angen defnyddiwr trwy ddatrysiad manwl a chymhleth, ond os gallwch chi ddiwallu&#8217;r angen yn ddigonol gyda datrysiad sydd hanner mor gymhleth, yna gwnewch hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ail, cadwch ysgrifennu gwirioneddol y stori defnyddiwr yn fach &#8211; dylai fod yn hawdd i unrhyw un ei ddeall ar y darlleniad cyntaf. Cofiwch, mae&#8217;n ymwneud \u00e2 rhannu&#8217;r hanfodion, gellir ymhelaethu ar hyn wedyn, trwy drafodaeth neu gydweithio pellach.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Profadwy (Testable)<\/h4>\n\n\n\n<p><strong>Mae angen i chi fedru profi pan fydd y stori wedi&#8217;i chwblhau.<\/strong> Eglurir hyn yn berffaith gan Bill Wakes: <em>\u201cMae ysgrifennu cerdyn stori yn cario addewid goblygeidig: \u201cRwy\u2019n deall yr hyn rwyf eisiau\u2019n ddigon da fel y gallwn ysgrifennu prawf ar ei gyfer.\u201d<\/em> Os nad ydych chi\u2019n si\u0175r sut y byddech chi\u2019n profi stori, yna efallai nad yw\u2019r stori\u2019n ddigon clir.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter w-richtext-figure-type-image w-richtext-align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/6048aaba41858578687e1e47_INVEST-3.png\" alt=\"\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut i ddefnyddio&#8217;r fframwaith INVEST i wella eich straeon defnyddwyr<\/h3>\n\n\n\n<p>Gan edrych ar y stori defnyddiwr uchod, dewch i ni ddefnyddio INVEST:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Annibynnol \u2013<\/strong> Na. Mae&#8217;r stori defnyddiwr yn rhy fawr i sefyll ar ben ei hun neu i&#8217;w flaenoriaethu.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Trafodadwy <\/strong>\u2013 Eithaf. Ond gellir treulio oes yn ei drafod! Nid yw&#8217;r stori yma yn hanfod yr angen yn ddigon penodol i&#8217;ch helpu i&#8217;w deall yn glir.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwerthfawr <\/strong>\u2013 Na. Er y gellir gweld sut y gallai hyn fod yn werthfawr i&#8217;r defnyddiwr, nid yw&#8217;n ddigon penodol i nodi&#8217;n union pa werth rydych chi&#8217;n ei gyflwyno.<\/li>\n\n\n\n<li>Amcangyfrifadwy \u2013 Na. Ni ellir amcangyfrif hyn yn hawdd gan fod sawl rhan bosibl iddo. Ydych chi&#8217;n siarad am gyfrannu arian ar-lein neu all-lein? Yn rheolaidd neu unwaith? Ni fydd siarad \u00e2 rhywun mwy technegol yn helpu o reidrwydd am nad yw&#8217;n ffocysu digon ar yr hyn rydych chi&#8217;n bwriadu cyflawni.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Bach<\/strong> \u2013 Na. Mae&#8217;n stori eithaf mawr! Mae angen ei dorri yn ddarnau llai sy&#8217;n haws i&#8217;w deall a&#8217;u hamcangyfrif.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Profadwy <\/strong>\u2013 Na. Ni ellir ei brofi am nad yw&#8217;r stori&#8217;n ddigon penodol am yr hyn y mae&#8217;n ei olygu.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter w-richtext-figure-type-image w-richtext-align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/6048aaba41858509767e1e48_INVEST-4.png\" alt=\"\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut gellir ailysgrifennu hwn?<\/h3>\n\n\n\n<p>Nawr mae&#8217;r stori&#8217;r defnyddiwr diwygiedig yn ticio blychau INVEST. Gellir ei flaenoriaethu&#8217;n annibynnol, mae&#8217;n gadael digon o le i drafod ond mae&#8217;n glir ynghylch cwmpas yr angen y mae&#8217;n rhaid i chi ei ddiwallu. Gallwch ddeall y gwerth penodol rydych chi&#8217;n ei gyflwyno i&#8217;r defnyddiwr. Mae&#8217;n ddigon bach i chi allu ei amcangyfrif, ac yn ddigon clir del eich bod yn gwybod pryd y caiff ei wneud, os yw&#8217;n gweithio yn y ffordd a ddisgrifir, rydych chi wedi gorffen!<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi eisoes wedi ysgrifennu eich holl straeon defnyddiwr, mae gorfod eu hadolygu yn teimlo fel ei fod yn cymryd llawer o amser. Bydd peidio \u00e2&#8217;u hadolygu yn costio mwy o amser i chi!<\/p>\n\n\n\n<p>Os nad yw eich straeon yn cydymffurfio \u00e2 fframwaith INVEST, byddwch yn gwastraffu llawer o amser yn ceisio deall ble i gychwyn. Oriau a dreulir yn trafod manylion y straeon, neu amser a wastraffir lle mae cynllunwyr neu ddatblygwyr yn dechrau gweithio ar straeon sydd ddim yn ddigon clir iddynt eu cyflwyno. Wrth ddefnyddio INVEST, byddwch yn didoli&#8217;r straeon sy&#8217;n amherthnasol ac yn buddio o gyfres o straeon rydych chi&#8217;n glir amdanynt, ac sy&#8217;n weithredadwy ac yn fesuradwy.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cychwyn Arni<\/h3>\n\n\n\n<p>Defnyddiwch y raffeg INVEST uchod, fel bod gennych atgof syml o sut i adolygu eich straeon defnyddwyr.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Os ydych chi&#8217;n adolygu straeon defnyddwyr rydych chi eisoes wedi&#8217;u hysgrifennu<\/h4>\n\n\n\n<p>Y ffordd orau i wneud hynny yw tynnu&#8217;r un t\u00eem a ysgrifennodd y straeon defnyddwyr at ei gilydd. Fel t\u00eem, gweithiwch ar bob un. Yn dibynnu ar set sgiliau eich t\u00eem, mae&#8217;n debygol y bydd pob un yn dod \u00e2 safbwynt gwahanol iddo. Er enghraifft, bydd cynlluniwr neu ddatblygwr yn well am amcangyfrif, tra bod gan ymchwilydd neu aelod o&#8217;r t\u00eem sy&#8217;n wynebu defnyddwyr ddarlun cliriach o anghenion craidd y defnyddiwr, a&#8217;r gwerth sydd ei angen.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Os nad ydych chi wedi ysgrifennu eich straeon defnyddwyr eto<\/h4>\n\n\n\n<p>Wrth i chi eu hysgrifennu, edrychwch ar ddrafft cyntaf pob un, yna addasu&#8217;r rhain nes eich bod chi&#8217;n hapus eu bod nhw&#8217;n dilyn INVEST. Unwaith i chi ddod i arfer, byddwch yn eu hysgrifennu yn y ffordd gywir y tro cyntaf. Mae&#8217;n well ysgrifennu&#8217;r straeon fel t\u00eem gan ei fod yn helpu chi i&#8217;w dilysu wrth i chi weithio &#8211; mae cydweithio yn dod \u00e2 chymysgedd defnyddiol o safbwyntiau a phrofiadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Nawr mae gennych chi gyfres o straeon defnyddwyr clir, ymarferol a mesuradwy. Y cam nesaf yw eu blaenoriaethu, a fydd yn rhoi rhestr o waith i chi gychwyn arni ar unwaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn yr <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/resource-articles\/how-to-turn-your-user-stories-into-a-prioritised-action-plan\/\">erthygl nesaf<\/a>, byddaf yn eich tywys trwy ymarfer syml a fydd yn eich helpu i flaenoriaethu eich straeon defnyddwyr. Byddwn yn edrych ar eu rhestru yn \u00f4l gwerth yr hyn maent yn cynnig i&#8217;r defnyddiwr yn erbyn y buddsoddiad sydd ei angen arnoch i&#8217;w cyflwyno.<br><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p><em>Llun gan <a id=\"\" href=\"https:\/\/unsplash.com\/@readysetfreddy?utm_source=unsplash&amp;utm_medium=referral&amp;utm_content=creditCopyText\">Freddy Castro<\/a> ar <a id=\"\" href=\"https:\/\/unsplash.com\/?utm_source=unsplash&amp;utm_medium=referral&amp;utm_content=creditCopyText\">Unsplash<\/a><\/em><\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"featured_media":18728,"template":"","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[1999],"class_list":["post-22908","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","resource-category-darparu-gwasanaeth"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Sut i Ysgrifennu Straeon Defnyddwyr - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Cyngor ar sut i ysgrifennu straeon defnyddwyr a sut i weithredu eich straeon gan ddefnyddio&#039;r broses chwe cham INVEST.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Sut i Ysgrifennu Straeon Defnyddwyr - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cyngor ar sut i ysgrifennu straeon defnyddwyr a sut i weithredu eich straeon gan ddefnyddio&#039;r broses chwe cham INVEST.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-01-14T16:52:25+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/6074745f459a7bbf4940ff97_6048aaba41858531b17e1e44_User20stories.jpeg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"630\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"10 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/\",\"name\":\"Sut i Ysgrifennu Straeon Defnyddwyr - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/6074745f459a7bbf4940ff97_6048aaba41858531b17e1e44_User20stories.jpeg\",\"datePublished\":\"2023-02-08T00:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2026-01-14T16:52:25+00:00\",\"description\":\"Cyngor ar sut i ysgrifennu straeon defnyddwyr a sut i weithredu eich straeon gan ddefnyddio'r broses chwe cham INVEST.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/6074745f459a7bbf4940ff97_6048aaba41858531b17e1e44_User20stories.jpeg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/6074745f459a7bbf4940ff97_6048aaba41858531b17e1e44_User20stories.jpeg\",\"width\":1200,\"height\":630},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Sut i Ysgrifennu Straeon Defnyddwyr\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Sut i Ysgrifennu Straeon Defnyddwyr - ProMo Cymru","description":"Cyngor ar sut i ysgrifennu straeon defnyddwyr a sut i weithredu eich straeon gan ddefnyddio'r broses chwe cham INVEST.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Sut i Ysgrifennu Straeon Defnyddwyr - ProMo Cymru","og_description":"Cyngor ar sut i ysgrifennu straeon defnyddwyr a sut i weithredu eich straeon gan ddefnyddio'r broses chwe cham INVEST.","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2026-01-14T16:52:25+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":630,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/6074745f459a7bbf4940ff97_6048aaba41858531b17e1e44_User20stories.jpeg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"10 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/","name":"Sut i Ysgrifennu Straeon Defnyddwyr - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/6074745f459a7bbf4940ff97_6048aaba41858531b17e1e44_User20stories.jpeg","datePublished":"2023-02-08T00:00:00+00:00","dateModified":"2026-01-14T16:52:25+00:00","description":"Cyngor ar sut i ysgrifennu straeon defnyddwyr a sut i weithredu eich straeon gan ddefnyddio'r broses chwe cham INVEST.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/6074745f459a7bbf4940ff97_6048aaba41858531b17e1e44_User20stories.jpeg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/6074745f459a7bbf4940ff97_6048aaba41858531b17e1e44_User20stories.jpeg","width":1200,"height":630},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/sut-i-ysgrifennu-straeon-defnyddwyr\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Sut i Ysgrifennu Straeon Defnyddwyr"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/22908","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18728"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22908"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22908"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=22908"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}