{"id":23116,"date":"2026-04-01T21:28:11","date_gmt":"2026-04-01T20:28:11","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/resource-articles\/ai-and-funding-applications-what-you-need-to-know\/"},"modified":"2026-04-16T17:29:10","modified_gmt":"2026-04-16T16:29:10","slug":"deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/","title":{"rendered":"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Cheisiadau am Gyllid: Yr\u00a0hyn y\u00a0dylech ei\u00a0wybod\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong>Defnyddio AI i\u00a0ategu eich\u00a0ceisiadau am\u00a0gyllid\u00a0<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Os ydych erioed wedi syllu&nbsp;ar ffurflen gais wag a meddwl ble i ddechrau, nid ydych ar eich pen eich hun. Mae angen amser i lenwi ceisiadau am gyllid; ac i sefydliadau \u00e2&nbsp;chapasiti&nbsp;cyfyngedig,&nbsp;gallant&nbsp;deimlo fel rhwystr mawr. Gall adnoddau AI helpu gyda hyn \u2013 ond dim ond os defnyddiwch nhw yn y ffordd iawn.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Y newyddion da yn hyn o beth yw bod nifer o gyllidwyr yn agored ynghylch eu safbwynt yngl\u0177n ag AI. Mae&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.tnlcommunityfund.org.uk\/welsh\/cyllid\/cymorth-ariannol\/paratoi-i-wneud-cais\/paratoi-eich-cais\/defnyddio-adnoddau-deallusrwydd-artiffisial-ai-wrth-ymgeisio\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cronfa Gymunedol y Loteri&nbsp;Genedlaethol<\/a>, sef un o\u2019r cyllidwyr mwyaf yng Nghymru, wedi cyhoeddi canllawiau clir ar hyn. Mae safbwynt y Gronfa yn syml \u2013 cewch ddefnyddio AI i helpu i ysgrifennu eich cais, ac ni fydd eich cais yn cael ei wrthod dim ond oherwydd eich bod wedi defnyddio AI.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi dweud hyn,&nbsp;mae\u2019r Gronfa yr un mor glir yngl\u0177n \u00e2\u2019r risgiau. Mae cynnwys a&nbsp;gynhyrchir gan AI yn tueddu i fod yn generig, ac mae ceisiadau generig yn geisiadau gwannach. Mae cyllidwyr&nbsp;yn dymuno deall eich cymuned, eich prosiect a pham y mae\u2019n bwysig. Ni all unrhyw adnodd AI gyfleu\u2019r stori honno ar eich rhan, ond efallai y bydd modd iddo eich helpu i adrodd y stori\u2019n fwy effeithlon.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n werth nodi bod y canllawiau\u2019n amrywio o gyllidwr i gyllidwr. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn coleddu un o\u2019r safbwyntiau mwyaf agored. Cyn defnyddio AI mewn cais ar gyfer cyllidwr arall, byddai\u2019n syniad da cadarnhau a yw\u2019r cyllidwr hwnnw wedi cyhoeddi ei ganllawiau ei hun, oherwydd efallai y bydd rhai cyllidwyr \u00e2 disgwyliadau gwahanol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong>Cadw eich data\u2019n ddiogel\u00a0<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Dyma rywbeth y mae nifer o bobl yn&nbsp;anghofio amdano, ond efallai mai dyma\u2019r ystyriaeth bwysicaf. Pan fyddwch yn teipio gwybodaeth ar adnodd AI am ddim, efallai y bydd yr wybodaeth honno\u2019n cael ei defnyddio i hyfforddi fersiynau o\u2019r model ar gyfer y dyfodol. Yn achos y mwyafrif o dasgau beunyddiol, mae\u2019r risg hon yn&nbsp;dderbyniol. Ond yn achos ceisiadau am gyllid, dylid ystyried y mater yn fwy gofalus.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn aml, mae ceisiadau\u2019n cynnwys manylion sensitif \u2013 er enghraifft, gwybodaeth am y bobl rydych yn eu cefnogi, data ariannol mewnol, manylion am yr heriau sy\u2019n wynebu eich sefydliad, neu astudiaethau achos personol. Nid arfer da yw nodi\u2019r wybodaeth hon yn ddifeddwl mewn adnodd AI am ddim.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma rai camau ymarferol ar gyfer diogelu eich&nbsp;data:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Peidiwch \u00e2 defnyddio adnoddau am ddim ar gyfer unrhyw wybodaeth sensitif. Mae cynlluniau y telir amdanynt, fel Claude neu ChatGPT, yn diogelu data yn well \u2013 yn cynnwys opsiynau i atal eich sgyrsiau rhag cael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant.<\/li>\n\n\n\n<li>Peidiwch \u00e2 gludo gwybodaeth bersonol adnabyddadwy am ddefnyddwyr gwasanaethau mewn unrhyw adnodd AI.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwiriwch osodiadau preifatrwydd a thelerau pob adnodd cyn ei ddefnyddio ar gyfer ceisiadau.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yw eich sefydliad yn trin data sensitif, ystyriwch lunio polisi mewnol syml yn ymwneud \u00e2\u2019r hyn y caniateir\/na chaniateir i\u2019r staff ei rannu gydag adnoddau AI.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Yn ProMo Cymru, un o\u2019n hegwyddorion craidd ar gyfer defnydd cyfrifol o AI yw na fyddwn yn rhannu data pobl gydag adnoddau AI heb eu cydsyniad. Gallwch ddarllen ein Datganiad Deallusrwydd Artiffisial llawn yma:\u00a0<a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/datganiad-deallusrwydd-artiffisial\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/promo.cymru\/cy\/datganiad-deallusrwydd-artiffisial\/<\/a>.\u00a0\u00a0<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong>Gwneud yn fawr o AI trwy ychwanegu cynnwys\u00a0<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Un rhwystredigaeth fawr a ddaw i ran pobl wrth&nbsp;ddefnyddio adnoddau AI yw\u2019r ffaith bod yr allbwn yn teimlo\u2019n generig&nbsp;ac yn ddigyswllt&nbsp;oddi wrth eu gwaith. Mae yna reswm syml am hyn \u2013 ni&nbsp;fydd&nbsp;AI yn gwybod unrhyw beth am eich sefydliad, oni bai&nbsp;y rhowch yr&nbsp;wybodaeth iddo.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Gall adnoddau sy\u2019n eich galluogi i ychwanegu cynnwys fod yn wirioneddol ddefnyddiol yn hyn o beth. Mae&nbsp;Claude&nbsp;Projects&nbsp;(sydd ar gael os ydych&nbsp;yn talu am&nbsp;gynllun&nbsp;Claude) yn enghraifft dda. Mae\u2019n eich galluogi i greu&nbsp;gweithle pwrpasol lle gallwch&nbsp;lanlwytho&nbsp;dogfennau\u2019n ymwneud \u00e2\u2019ch sefydliad \u2013 eich strategaeth, ceisiadau blaenorol, adroddiadau effaith, theori newid. Yna,&nbsp;bydd yr adnodd AI yn defnyddio\u2019r holl wybodaeth honno pan fyddwch yn gofyn cwestiynau iddo neu\u2019n gofyn iddo ddrafftio rhywbeth.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn hytrach na gofyn i AI gwag ysgrifennu amdanoch chi a\u2019ch gwaith, a chael rhywbeth a allai fod yn berthnasol i unrhyw elusen, rydych yn gweithio gydag adnodd sydd wedi darllen eich&nbsp;deunyddiau ac a all adlewyrchu eich llais, eich data a\u2019ch ymagwedd. Mae hyn yn arwain at wahaniaeth mawr yn ansawdd yr allbwn.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae adnoddau eraill yn cynnig&nbsp;swyddogaethau tebyg. Mae&nbsp;ChatGPT&nbsp;yn eich galluogi i greu&nbsp;GPTs&nbsp;teilwredig gyda dogfennau sydd wedi\u2019u&nbsp;lanlwytho. Os yw eich sefydliad yn defnyddio Microsoft 365,&nbsp;gall&nbsp;Microsoft&nbsp;Copilot&nbsp;ddefnyddio ffeiliau sydd wedi\u2019u storio ar SharePoint neu&nbsp;OneDrive. Po fwyaf perthnasol a manwl fydd y cynnwys a roddwch i\u2019r adnodd AI, po&nbsp;fwyaf defnyddiol fydd yr adnodd&nbsp;hwnnw&nbsp;yn y pen draw.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong>Sut i ddefnyddio AI yn dda yn eich ceisiadau\u00a0<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae canllawiau&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.tnlcommunityfund.org.uk\/welsh\/cyllid\/cymorth-ariannol\/paratoi-i-wneud-cais\/paratoi-eich-cais\/defnyddio-adnoddau-deallusrwydd-artiffisial-ai-wrth-ymgeisio\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol<\/a>&nbsp;yn cynnig cyngor ymarferol sy\u2019n berthnasol, fwy neu lai, i bob cyllidwr y byddwch yn anfon cais ato:&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Dechreuwch gyda\u2019ch cymuned, nid\u00a0prompt\u00a0gwag:\u00a0<\/strong>Bydd AI yn gweithio ar ei orau os cyflwynwch\u00a0fewnwelediadau, adborth ar ymgynghoriadau, a data y gellir gweithio\u00a0gydag ef, yn hytrach na gofyn iddo ddyfeisio\u2019r pethau hynny ei hun.\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Byddwch yn benodol:<\/strong>\u00a0Bydd\u00a0promptiau\u00a0generig yn cynhyrchu allbynnau generig. Dywedwch wrth yr adnodd AI beth yn union y mae eich prosiect yn ei wneud, pwy a wasanaethir, a\u2019r hyn sy\u2019n ei wneud yn arbennig.\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Ystyriwch yr allbwn fel drafft cyntaf, nid fel cynnyrch gorffenedig:<\/strong>\u00a0Golygwch y testun er mwyn iddo gyd-fynd \u00e2\u2019ch arddull, ychwanegwch fanylion nad oes neb ond chi yn eu gwybod, a gwnewch yn si\u0175r bod pob honiad yn gywir.\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Peidiwch \u00e2 dibynnu ar gyllidebau a awgrymir gan AI:<\/strong>\u00a0Cofiwch wirio ffigurau\u2019n ofalus yn erbyn eich cynlluniau gwirioneddol a meini prawf cymhwystra\u2019r cyllidwr.\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Chwiliwch am\u00a0bethau anghywir:<\/strong>\u00a0Mae AI yn gallu cynhyrchu cynnwys sy\u2019n swnio fel pe bai modd dibynnu arno ond sydd, mewn gwirionedd, yn cynnwys ffeithiau anghywir.\u00a0Gwiriwch yr holl bethau pwysig cyn eu cynnwys yn eich cais.\u00a0<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong>Adnodd defnyddiol, nid llwybr byr\u00a0<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Y sefydliadau&nbsp;sy\u2019n&nbsp;defnyddio AI gogyfer gweithio\u2019n fwy effeithlon yw\u2019r sefydliadau a&nbsp;fydd&nbsp;yn elwa fwyaf ar AI&nbsp;mewn perthynas \u00e2 cheisiadau am gyllid, nid y sefydliadau sy\u2019n defnyddio AI gogyfer osgoi gwaith caled.&nbsp;Cofiwch fod yn rhaid i geisiadau da gynnwys mewnwelediadau gwirioneddol yn ymwneud \u00e2\u2019ch cymuned, ynghyd \u00e2 chynllun clir sydd wedi\u2019i gostio ac achos&nbsp;argyhoeddiadol&nbsp;sy\u2019n cyfleu pam y mae eich prosiect yn bwysig. Ni all AI gynhyrchu\u2019r pethau hyn&nbsp;o wagle.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ond gall AI eich helpu i&nbsp;drosglwyddo&nbsp;geiriau ar y dudalen yn gyflymach, ynghyd \u00e2 gwella trefn ac eglurder yr hyn a ysgrifennwch a gwneud i\u2019r broses deimlo\u2019n llai&nbsp;brawychus. Os defnyddiwch AI yn y ffordd hon, gall fod yn arf ychwanegol gwirioneddol ddefnyddiol&nbsp;wrth lunio ceisiadau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Os hoffech gael cymorth i ddefnyddio adnoddau AI yn ddiogel ac yn effeithiol yn eich sefydliad,&nbsp;cysylltwch \u00e2\u2019n t\u00eem i weld sut y gallwn eich helpu.<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div class=\"text-center\">\n    <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/person\/andrew-collins\/\" class=\"btn btn-blue\">Cysylltwch<\/a>\n<\/div>\n    ","protected":false},"featured_media":0,"template":"","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2573],"class_list":["post-23116","resource","type-resource","status-publish","hentry","resource-category-polisiau-canllawiau-a-darllen-pellach-ai"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Cheisiadau am Gyllid: Yr\u00a0hyn y\u00a0dylech ei\u00a0wybod\u00a0 - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Cheisiadau am Gyllid: Yr\u00a0hyn y\u00a0dylech ei\u00a0wybod\u00a0 - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Defnyddio AI i\u00a0ategu eich\u00a0ceisiadau am\u00a0gyllid\u00a0 Os ydych erioed wedi syllu&nbsp;ar ffurflen gais wag a meddwl ble i ddechrau, nid ydych ar eich pen eich hun. Mae angen amser i lenwi ceisiadau am gyllid; ac i sefydliadau \u00e2&nbsp;chapasiti&nbsp;cyfyngedig,&nbsp;gallant&nbsp;deimlo fel rhwystr mawr. Gall adnoddau AI helpu gyda hyn \u2013 ond dim ond os defnyddiwch nhw yn y [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-04-16T16:29:10+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/\",\"name\":\"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Cheisiadau am Gyllid: Yr\u00a0hyn y\u00a0dylech ei\u00a0wybod\u00a0 - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2026-04-01T20:28:11+00:00\",\"dateModified\":\"2026-04-16T16:29:10+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Cheisiadau am Gyllid: Yr\u00a0hyn y\u00a0dylech ei\u00a0wybod\u00a0\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Cheisiadau am Gyllid: Yr\u00a0hyn y\u00a0dylech ei\u00a0wybod\u00a0 - ProMo Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Cheisiadau am Gyllid: Yr\u00a0hyn y\u00a0dylech ei\u00a0wybod\u00a0 - ProMo Cymru","og_description":"Defnyddio AI i\u00a0ategu eich\u00a0ceisiadau am\u00a0gyllid\u00a0 Os ydych erioed wedi syllu&nbsp;ar ffurflen gais wag a meddwl ble i ddechrau, nid ydych ar eich pen eich hun. Mae angen amser i lenwi ceisiadau am gyllid; ac i sefydliadau \u00e2&nbsp;chapasiti&nbsp;cyfyngedig,&nbsp;gallant&nbsp;deimlo fel rhwystr mawr. Gall adnoddau AI helpu gyda hyn \u2013 ond dim ond os defnyddiwch nhw yn y [&hellip;]","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2026-04-16T16:29:10+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/","name":"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Cheisiadau am Gyllid: Yr\u00a0hyn y\u00a0dylech ei\u00a0wybod\u00a0 - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"datePublished":"2026-04-01T20:28:11+00:00","dateModified":"2026-04-16T16:29:10+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/deallusrwydd-artiffisial-a-cheisiadau-am-ariannu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Cheisiadau am Gyllid: Yr\u00a0hyn y\u00a0dylech ei\u00a0wybod\u00a0"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/23116","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=23116"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=23116"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=23116"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}