{"id":23137,"date":"2026-04-01T22:22:04","date_gmt":"2026-04-01T21:22:04","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/resource-articles\/ai-and-the-environment-what-you-need-to-know\/"},"modified":"2026-04-16T13:08:22","modified_gmt":"2026-04-16T12:08:22","slug":"ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/","title":{"rendered":"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a\u2019r Amgylchedd: Yr hyn y dylech ei wybod"},"content":{"rendered":"\n<p>Yn y byd AI, mae effaith amgylcheddol AI yn esgor ar fwy o drafodaethau nag ymron unrhyw bwnc arall. Mae ambell bennawd yn achosi dychryn a braw tra mae penawdau eraill yn diystyru\u2019r effaith, ac mae rhagfarn o ryw fath yn perthyn i bron pob ffynhonnell. Ond y gwir amdani, mewn gwirionedd, yw bod effaith AI ar yr amgylchedd yn gorwedd rywle yn y canol rhwng y ddau begwn.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym ni yn ProMo Cymru yn rhoi ystyriaeth ofalus i\u2019r pwnc hwn. Mae ein Datganiad AI yn cydnabod bod AI yn esgor ar gost amgylcheddol wirioneddol, ac nad ydym eto yn meddu ar yr holl atebion ar gyfer sut i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r gost honno; ond rydym wedi ymrwymo i ddysgu, bod yn onest yngl\u0177n \u00e2\u2019r cyfaddawdau, a rhannu\u2019r pethau a ddysgwn.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Faint o ynni y mae prompt AI yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>I fod yn onest, nid yw rhyngweithiad nodweddiadol sy\u2019n seiliedig ar destun yn defnyddio llawer o ynni. Yn 2025, <a href=\"https:\/\/cloud.google.com\/blog\/products\/infrastructure\/measuring-the-environmental-impact-of-ai-inference\/\">cyhoeddodd Google waith ymchwil <\/a>a oedd yn mesur effaith amgylcheddol Gemini AI ar draws ynni, allyriadau a d\u0175r. Awgryma\u2019r canfyddiadau fod prompt testun arferol yn defnyddio oddeutu 0.24 o oriau watt o ynni, ei fod yn allyrru oddeutu 0.03 gram o CO2 a\u2019i fod yn defnyddio oddeutu 0.26 milimetr o dd\u0175r \u2013 sef oddeutu pum diferyn. Mae hyn yn cyfateb i wylio\u2019r teledu am lai na naw eiliad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Andy Masley, blogiwr technoleg, wedi <a href=\"https:\/\/blog.andymasley.com\/p\/a-cheat-sheet-for-conversations-about\">cynnal dadansoddiad manwl<\/a> o \u00f4l troed amgylcheddol ChatGPT, gan ddod i gasgliadau tebyg. Awgryma ei waith ymchwil fod un prompt yn defnyddio oddeutu\u2019r un faint o ynni \u00e2 gadael llwybrydd di-wifr ymlaen am dri munud, ac y byddai\u2019n cymryd oddeutu 1,000 o bromptiau i arwain at gynnydd o 1% yn eich defnydd dyddiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n werth nodi bod gan y ddwy ffynhonnell hyn fudd yn y naratif. Google yw un o\u2019r darparwyr AI mwyaf, ac mae Masley yn ei ddisgrifio\u2019i hun fel rhywun sy\u2019n optimistaidd yngl\u0177n ag AI. Nid yw hyn yn golygu bod eu casgliadau\u2019n anghywir, ond mae\u2019n werth cadw\u2019r wybodaeth hon mewn cof wrth ddarllen y manylion.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych eisiau mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019ch \u00f4l troed AI eich hun, gallwch ddefnyddio <a href=\"https:\/\/huggingface.co\/spaces\/genai-impact\/ecologits-calculator\">EcoLogits Calculator<\/a> i amcangyfrif faint o ynni y mae gwahanol fodelau AI yn ei ddefnyddio \u2013 ffordd ddefnyddiol o gael ymdeimlad mwy niwtral o\u2019r darlun.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Felly, pam y caiff AI ei feirniadu i\u2019r fath raddau?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae yna fwy nag un rheswm am hyn. Yn gyntaf, mae\u2019r niferoedd yn eu crynswth yn fawr. Mae canolfannau data AI yn defnyddio llawer iawn o drydan, ac mae\u2019r galw\u2019n cynyddu\u2019n gyflym. Yn ail, mae rhan helaeth o\u2019r trydan hwnnw\u2019n deillio o ffynonellau sy\u2019n drwm ar garbon. Yn drydydd, mae\u2019r gwaith adeiladu sydd ynghlwm wrth seilwaith AI (caledwedd ac adeiladau canolfannau data) yn esgor ar gost amgylcheddol sylweddol ymlaen llaw; a chan fod y gost honno\u2019n anodd ei mesur, yn aml caiff ei hepgor o gymariaethau \u2018fesul prompt\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Hefyd, ceir gwahaniaeth ystyrlon rhwng modelau. Mae cwestiwn syml a anfonir at fodel ysgafn yn defnyddio llawer llai o ynni na thasg gymhleth ag amryfal gamau sy\u2019n rhedeg ar y model mwyaf pwerus sydd ar gael. Mae\u2019r gwahaniaeth hwn yn bwysig, ac mae\u2019n rhywbeth y mae\u2019r mwyafrif o\u2019r penawdau mwyaf brawychus yn tueddu i\u2019w bwysleisio.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r rhaglen Newid \u2013 sef menter cymorth digidol a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir mewn partneriaeth \u00e2 ProMo Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Cwmpas \u2013 yn cwmpasu effaith amgylcheddol a dulliau llywodraethu AI yn ei hyfforddiant ar gyfer arweinwyr yn y trydydd sector. Un o\u2019r pwyntiau hollbwysig a wneir yn yr hyfforddiant hwnnw yw bod gwahanol fodelau\u2019n meddu ar olion traed gwahanol iawn. Nodir hefyd mai un o\u2019r pethau mwyaf ymarferol y gall sefydliadau ei wneud yw gwneud dewisiadau ymwybodol yngl\u0177n \u00e2 pha adnodd a ddefnyddir ar gyfer pa dasg. Mae Newid yn cynnal yr hyfforddiant hwn ychydig o weithiau bob blwyddyn; felly, os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan ynddo, cymerwch gipolwg ar <a href=\"https:\/\/www.newid.cymru\/tag\/hyffordiant-a-chefnogaeth\/\">newid.cymru\/tag\/training-and-support<\/a> i weld pryd y cynhelir y sesiwn nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Y darlun mwy<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Go brin y bydd promptiau unigol yn cyfrannu\u2019n fawr at \u00f4l troed amgylcheddol unrhyw sefydliad. Dylid gofyn y cwestiynau mwy ystyrlon ar lefel systemig: sut y caiff seilwaith AI ei bweru; sut y caiff y galedwedd ei gweithgynhyrchu; a wireddir potensial AI i optimeiddio\u2019r defnydd o ynni ledled sectorau eraill mewn gwirionedd. Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.iea.org\/reports\/energy-and-ai\/ai-and-climate-change\">Asiantaeth Ynni Ryngwladol wedi awgrymu y gallai cymwysiadau AI ryddhau llawer llai o garbon erbyn 2035<\/a> os c\u00e2nt eu defnyddio\u2019n eang ar draws yr economi, gyda\u2019r posibilrwydd o wrthbwyso allyriadau canolfannau data sawl gwaith drosodd. Dyma amcanestyniad gobeithiol, ond mae ansicrwydd gwirioneddol yn perthyn iddo.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw hyn yn golygu y dylid anwybyddu ystyriaethau amgylcheddol. <a href=\"https:\/\/www.tnlcommunityfund.org.uk\/welsh\/cyllid\/cymorth-ariannol\/paratoi-i-wneud-cais\/paratoi-eich-cais\/defnyddio-adnoddau-deallusrwydd-artiffisial-ai-wrth-ymgeisio\">Yng nghanllawiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar AI<\/a>, nodir bod adnoddau AI yn defnyddio llawer o ynni a d\u0175r, ac anogir sefydliadau i ddefnyddio AI yn ofalus, a dim ond pan fydd modd iddo helpu ceisiadau. Dyma safbwynt rhesymol, yn ein barn ni.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Pethau ymarferol y gall eich sefydliad eu gwneud<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Ni fydd yn rhaid rhoi\u2019r gorau i ddefnyddio AI er mwyn ystyried yr amgylchedd o ddifrif. Dyma bethau syml sy\u2019n werth eu hystyried:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Parwch y model \u00e2\u2019r dasg: Fel arfer, bydd model ysgafn yn ddigonol ar gyfer crynhoi dogfen neu ddrafftio e-bost. Nid oes yn rhaid defnyddio\u2019r model mwyaf pwerus sydd ar gael ar gyfer pob tasg, ac mae modelau llai yn defnyddio llawer llai o ynni.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwch osgoi ailadrodd diangen: Mae anfon yr un prompt bum gwaith, yn y gobaith y cewch ganlyniad gwell, yn defnyddio mwy o ynni na threulio munud neu ddau yn ysgrifennu prompt cliriach yn y lle cyntaf.<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddiwch yr EcoLogits Calculator: Cewch syniad bras o \u00f4l troed gwahanol fodelau a thasgau, ac mae\u2019n adnodd defnyddiol ar gyfer meithrin ymwybyddiaeth ledled eich t\u00eem.<\/li>\n\n\n\n<li>Trafodwch y mater yn eich sefydliad: Mae cynnal trafodaeth fewnol syml yngl\u0177n \u00e2 phryd a sut y defnyddir AI, a pha fodelau sy\u2019n addas ar gyfer gwahanol dasgau, yn fan cychwyn da ar gyfer defnyddio AI yn gyfrifol.<\/li>\n\n\n\n<li>Cymerwch gipolwg ar Ddatganiad AI ProMo Cymru: Rydym wedi rhannu ein syniadau yngl\u0177n ag AI, ynghyd \u00e2\u2019r adnoddau a ddefnyddiwn, ar <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/datganiad-deallusrwydd-artiffisial\/\">https:\/\/promo.cymru\/cy\/datganiad-deallusrwydd-artiffisial\/,<\/a> a cheir dolen sy\u2019n arwain at <a href=\"https:\/\/www.newid.cymru\/cy\/adnodd-asesu-risg-ai-am-ddim-ir-trydydd-sector\/\">Adnodd Asesu Risg AI Newid<\/a> a all helpu eich sefydliad i ystyried ei ddull.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae effaith amgylcheddol AI yn fater gwirioneddol ac mae\u2019r sector yn dal i geisio deall yr effaith honno. Ond gall defnyddio AI mewn ffordd ystyrlon a chytbwys wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Nid rhoi\u2019r gorau i ddefnyddio AI yw\u2019r nod, ond ei ddefnyddio\u2019n well.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Os hoffech gael cymorth i ystyried dull eich sefydliad o ymdrin ag AI, cysylltwch \u00e2\u2019n t\u00eem i weld sut y gallwn eich helpu.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"text-center\">\n    <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/person\/andrew-collins\/\" class=\"btn btn-blue\">Cysylltwch<\/a>\n<\/div>\n    \n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"featured_media":0,"template":"","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false},"tags":[],"resource-category":[2573],"class_list":["post-23137","resource","type-resource","status-publish","hentry","resource-category-polisiau-canllawiau-a-darllen-pellach-ai"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Deallusrwydd Artiffisial (AI) a\u2019r Amgylchedd: Yr hyn y dylech ei wybod - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a\u2019r Amgylchedd: Yr hyn y dylech ei wybod - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn y byd AI, mae effaith amgylcheddol AI yn esgor ar fwy o drafodaethau nag ymron unrhyw bwnc arall. Mae ambell bennawd yn achosi dychryn a braw tra mae penawdau eraill yn diystyru\u2019r effaith, ac mae rhagfarn o ryw fath yn perthyn i bron pob ffynhonnell. Ond y gwir amdani, mewn gwirionedd, yw bod effaith [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-04-16T12:08:22+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/\",\"name\":\"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a\u2019r Amgylchedd: Yr hyn y dylech ei wybod - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2026-04-01T21:22:04+00:00\",\"dateModified\":\"2026-04-16T12:08:22+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a\u2019r Amgylchedd: Yr hyn y dylech ei wybod\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a\u2019r Amgylchedd: Yr hyn y dylech ei wybod - ProMo Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a\u2019r Amgylchedd: Yr hyn y dylech ei wybod - ProMo Cymru","og_description":"Yn y byd AI, mae effaith amgylcheddol AI yn esgor ar fwy o drafodaethau nag ymron unrhyw bwnc arall. Mae ambell bennawd yn achosi dychryn a braw tra mae penawdau eraill yn diystyru\u2019r effaith, ac mae rhagfarn o ryw fath yn perthyn i bron pob ffynhonnell. Ond y gwir amdani, mewn gwirionedd, yw bod effaith [&hellip;]","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2026-04-16T12:08:22+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/","name":"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a\u2019r Amgylchedd: Yr hyn y dylech ei wybod - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"datePublished":"2026-04-01T21:22:04+00:00","dateModified":"2026-04-16T12:08:22+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/ai-ar-amgylchedd-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Deallusrwydd Artiffisial (AI) a\u2019r Amgylchedd: Yr hyn y dylech ei wybod"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/23137","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=23137"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=23137"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=23137"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}