{"id":23616,"date":"2023-02-08T00:00:00","date_gmt":"2023-02-08T00:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/promo.cymru\/resource-articles\/how-to-plan-a-new-website-for-your-charity\/"},"modified":"2026-06-17T16:56:58","modified_gmt":"2026-06-17T15:56:58","slug":"cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/","title":{"rendered":"Cynllunio ar Gyfer Gwefan Elusen Newydd"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae eich gwefan yn fwy na ffenestr i&#8217;ch elusen. Mae&#8217;n adnodd ar gyfer hunaniaeth, darparu gwasanaethau, a thwf sefydliadol. Mae adnodd i gynhyrchu incwm hefyd os dewiswch chi hynny. Yn bwysicaf oll, mae&#8217;n lle i&#8217;ch defnyddwyr gael gwybodaeth sy&#8217;n berthnasol iddyn nhw.<\/h3>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em id=\"\"><em>&#8220;Os nad yw&#8217;ch defnyddwyr yn teimlo bod cynnwys eich gwefan yn berthnasol ac yn ffres ac yn ddibynadwy, yna beth ydych chi&#8217;n disgwyl iddyn nhw ei wneud? Ni fyddant yn disgwyl o gwmpas yn ceisio&#8217;i ddarganfod.&#8221;<\/em><\/em><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Eich gwefan fel archfarchnad<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">>>Gwyliwch o 0.00 i 3.59 o <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=dwgBer1XESs&amp;feature=youtu.be\">&#8216;Pam nad yw eich gwefan yn ffenestr eich elusen. Mae&#8217;n archfarchnad gyfan<\/a>&#8216;.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Talk: All Things Digital with Gemma Hampson of Hactar\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/dwgBer1XESs?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os ydych chi&#8217;n adeiladu gwefan newydd, mae angen i&#8217;ch proses ddechrau ymhell cyn penderfynu sut olwg fydd ar y wefan. Mae angen iddo gychwyn yn gofyn beth sydd angen i&#8217;ch gwefan ei wneud i gefnogi llwyddiant eich sefydliad a&#8217;i ddefnyddwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r broses hon yn berthnasol p&#8217;un a yw&#8217;ch cyllideb yn \u00a31,000 neu&#8217;n \u00a3100,000. Mae angen i chi deimlo&#8217;n hyderus y bydd pob punt rydych chi&#8217;n ei gwario yn cael effaith gadarnhaol ar y bobl rydych chi&#8217;n eu cefnogi. Golygai hyn bod rhaid i&#8217;r wefan gyd-fynd \u00e2 chynllun eich sefydliad, beth bynnag fo&#8217;r cynllun hwnnw.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Cynhwysion allweddol yng nghynllun eich gwefan<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae angen tri chynhwysyn i sicrhau bod cynllun eich gwefan yn gweithio.<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Eich t\u00eem arweinyddiaeth. <\/strong>Mae angen iddyn nhw fod yn rhan o, a deall, y broses.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cynllun strategol eich elusen<\/strong>.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Eich &#8216;defnyddwyr&#8217; \u2013 eich cynulleidfa.<\/strong> Y bobl yma yw&#8217;r rheswm pam bod yr elusen yn bodoli. Mae eich llwyddiant yn ddibynnol ar y ffordd rydych chi&#8217;n eu trin, eu cefnogi, a&#8217;u cynnwys. Ac mae llwyddiant eich gwefan angen hyn hefyd.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">4 cwestiwn cynllunio<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly os ydych chi&#8217;n dechrau prosiect gwefan, anghofiwch am yr adnoddau dylunio am funud bach a chymryd cam yn \u00f4l. Gofynnwch y cwestiynau yma i&#8217;ch hun:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Beth mae&#8217;r wefan yma angen gwneud i sicrhau llwyddiant fy elusen?<\/li>\n\n\n\n<li>Pwy yw&#8217;r defnyddwyr?<\/li>\n\n\n\n<li>Beth maen nhw eisiau ei wneud?<\/li>\n\n\n\n<li>Beth rydyn ni eisiau iddyn nhw ei wneud?<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I ateb y rhain bydd angen i chi gynllunio cyfnod &#8216;darganfod&#8217; (deall beth sydd angen i chi ei wneud a pham). Bydd y cyfnod hwn yn rhoi:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Y wybodaeth i wneud penderfyniadau<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrwydd bod y penderfyniadau dylunio a wnewch naill ai&#8217;n gywir neu&#8217;n werth y risg<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Yngl\u0177n \u00e2&#8217;r canllaw hwn<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r canllaw hwn yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud ac, efallai&#8217;n bwysicach fyth, pwy sydd angen helpu chi i wneud hyn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">1. Cael noddwr prosiect<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n debygol eich bod chi&#8217;n rheolwr neu&#8217;n swyddog digidol neu gyfathrebu, efallai&#8217;n &#8216;bennaeth&#8217;. Byddwch chi&#8217;n rheoli&#8217;r prosiect hwn, ond dylai eich noddwr prosiect fod yn atebol amdano.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dylai noddwr prosiect fod yn rhywun yn eich t\u00eem arweinyddiaeth sydd \u00e2 goruchwyliaeth o amcanion a chyllidebau sefydliadol, fel cyfarwyddwr neu Brif Swyddog Gweithredol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid oes angen i&#8217;r person hwn fod yn rhan o&#8217;r broses o ddydd i ddydd, ond mae angen iddynt wybod beth mae&#8217;r wefan hon angen cyflawni a ble mae&#8217;r arian yn cael ei wario. Os caiff cais am swyddogaeth sydd ddim wrth graidd y prosiect yn cael ei wthio i mewn i&#8217;r cynllun, y person yma sy&#8217;n cael dweud ie neu na. Ac os yw&#8217;n ie, mae angen iddyn nhw ddeall y bydd angen arian ac amser i ffwrdd o&#8217;r prosiect craidd. Maen nhw&#8217;n gwneud y penderfyniad ac felly&#8217;n cymryd y risg.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>\u201cRhaid i&#8217;ch t\u00eem arweinyddiaeth fod yn rhan gan fod llwyddiant y sefydliad ar eu hysgwyddau nhw yn y pen draw.\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">2. Gwiriwch fod y bobl gywir yn cael eu cynnwys<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ynghyd \u00e2&#8217;ch noddwr a&#8217;ch t\u00eem craidd, mae angen i chi gynnwys eraill yn eich sefydliad (bydd angen cynnwys defnyddwyr hefyd ond nid eto).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd cam cyntaf y darganfod yn cynnwys gweithdai gyda rhanddeiliaid mewnol. Sicrhewch fod trawstoriad o&#8217;ch cydweithwyr, o bob t\u00eem, yn rhan o&#8217;r broses. Gyda&#8217;ch gilydd, gallwch siarad am yr hyn sy&#8217;n bwysig i&#8217;ch sefydliad\u2026 bydd yr atebion yn eich synnu!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <a href=\"https:\/\/hactar.is\/\">Hactar<\/a> (stiwdio dylunio a thechnoleg ddigidol) bob amser yn dweud &#8216;gwahoddwch y person anoddaf yn eich sefydliad&#8217;. Nid yn unig y mae angen i chi wybod sut mae gwefan yn cefnogi eich cydweithwyr (neu&#8217;n gwneud bywyd yn anodd), ond mae angen i chi gael cefnogaeth a&#8217;u dealltwriaeth nhw hefyd. Gall barn wahanol ymhellach ymlaen achosi problemau fel oedi, newidiadau mewn cwmpas neu gyllideb yn codi yn araf bach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai y byddwch chi&#8217;n cael eich temtio i greu bwrdd prosiect neu gr\u0175p gwaith. Ond, o ran gwneud penderfyniadau, gall fod yn anodd gweithio gyda gormod o leisiau. Yn lle hynny, sicrhewch eich bod chi, neu&#8217;ch pennaeth, yn cael eich ymddiried i fod yn y gwneuthurwyr penderfyniadau a defnyddiwch unrhyw grwpiau gwaith ar gyfer ymchwil a barn yn unig.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">3. Deall beth sy&#8217;n bwysig i&#8217;ch sefydliad<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw hyn yn ymwneud \u00e2&#8217;ch cenhadaeth na&#8217;r strategaeth hyfryd yn nr\u00f4r eich desg! Mae&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r hyn y mae&#8217;n rhaid i&#8217;ch sefydliad ei wneud yn yr 1-5 mlynedd nesaf i fod y sefydliad y mae am fod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae wedi bod yn anodd ar elusennau yn y degawd diwethaf, felly efallai mai un o&#8217;r rhain yw cynnydd (neu gynnal) incwm. Ond gall hefyd fod yn dwf aelodaeth neu gynnydd darparu gwasanaethau ar-lein. Efallai bod eich sefydliad yn gweithio tuag at newid mawr mewn cyfeiriad yn y blynyddoedd i ddod, felly mae angen i&#8217;r wefan addasu i hynny.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os ydych chi&#8217;n gofyn y cwestiwn yma i&#8217;ch rhanddeiliaid mewnol ac mai distawrwydd yw&#8217;r ymateb\u2026 nid chi yw&#8217;r unig un.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cymaint o elusennau&#8217;n gweithio o ddydd i ddydd ac yn gwneud gwaith gwych, ond mae&#8217;n beth cyffredin iawn bod rhanddeiliaid mewnol ddim yn gwybod beth sy&#8217;n bwysig y tu hwnt i&#8217;w r\u00f4l neu d\u00eem. Dyma pryd bydd eich noddwr yn bwysig &#8211; gallant ddod \u00e2&#8217;r arweiniad hwn. Ac os na allant, yna stopiwch \u00e2 chael eglurder ar strategaeth cyn i chi fynd ymhellach. Os na wnewch hynny, rydych chi&#8217;n taflu miloedd o bunnoedd i mewn i ffynnon dywyll i adeiladu rhywbeth heb unrhyw syniad beth sydd angen iddo ei wneud.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai y byddwch chi&#8217;n cael llawer o atebion ar gyfer amcanion, felly blaenoriaethwch gyda&#8217;ch gilydd, fel gr\u0175p. Pleidleisiwch arno a chytunwch.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Cyngor: Os ydych chi&#8217;n gwneud hyn yn bersonol, defnyddiwch nodiadau gludiog ar wal a chael pawb i siarad amdanynt. Hwyluswch sgwrs a heriwch bobl ar eu hatebion. Os ydych chi&#8217;n gwneud hyn ar-lein, mae <a href=\"https:\/\/miro.com\/\">Miro<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.mural.co\/\">Mural<\/a> yn adnoddau gwych.<\/em><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">4. Darganfyddwch nodau&#8217;r wefan a fydd yn gwneud yr amcanion pwysig hynny&#8217;n realiti<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Unwaith y byddwch chi&#8217;n deall cyfeiriad y sefydliad, bydd yna haws i chi weld yr hyn mae angen i&#8217;r gwefan ei chyflawni.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n anochel y bydd gennych restr o bethau y mae eich cydweithwyr eisiau eu &#8216;trwsio&#8217; ar y wefan \u2013 cynnwys ar goll, problemau golygu \u2013 neu ymarferoldeb maen nhw wedi&#8217;i weld ar wefannau eraill maen nhw&#8217;n eu hoffi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond ni allwch blesio pawb ac ni ddylech addo gwneud hynny.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy flaenoriaethu a phleidleisio fel gr\u0175p, gallwch ddewis y nodau sy&#8217;n cyd-fynd orau ag amcanion eich sefydliad: beth fydd yn helpu&#8217;r incwm hwnnw i dyfu (neu&#8217;n rhwystr iddo), sut allwch chi ddod \u00e2&#8217;r cyngor hanfodol hwnnw i&#8217;r amlwg yn well neu sut allwch chi roi hwb i&#8217;r ymgyrch honno ar adeg pan fydd yn atseinio gyda&#8217;r cyhoedd?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Osgowch swyddogaeth benodol, fel &#8216;botwm i lawrlwytho PDF&#8217; &#8211; bydd eich asiantaeth yn dylunio hynny i chi. Yn lle hynny, meddyliwch am y darlun ehangach &#8211; y rheswm pam bod angen i&#8217;ch gwefan fodoli a&#8217;r swyddogaeth sydd ganddi ar gyfer eich sefydliad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er enghraifft, os yw cynhyrchu incwm trwy roddion unigol yn hanfodol, yna mae canolbwyntio&#8217;r gyllideb ar dudalennau rhoddion a phorth talu da yn nod sy&#8217;n cyd-fynd. Yn yr un modd, os yw tyfu aelodaeth yn bwysig, yna gallai proses gofrestru well gyd-fynd orau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os byddwch chi&#8217;n gorffen eich gweithdy gyda nod sydd ddim yn cyd-fynd ag amcan (rhywbeth y mae pawb gwir ei eisiau), yna mae angen i noddwr eich prosiect wybod a deall hyn. Nhw yw&#8217;r rhaid dylai ddweud ie neu na iddo.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">5. Deall pwy yw&#8217;ch defnyddwyr a beth maent eisiau<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hyd yn hyn, barn yw&#8217;r holl bethau rydych chi wedi&#8217;u darganfod o&#8217;ch gweithdai amcanion a nodau. Nid ydych chi eto&#8217;n gwybod a ydyn nhw&#8217;n cyd-fynd \u00e2&#8217;r hyn sydd ei angen neu ei eisiau ar eich defnyddwyr. Rydych chi&#8217;n gobeithio, ac yn gwneud rhagdybiaethau angenrheidiol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae angen i chi ddilysu&#8217;r rhagdybiaethau hyn gan feddwl pwy yw&#8217;ch defnyddwyr, beth maen nhw eisiau gennych chi ac, yn hollbwysig, beth rydych chi eisiau ganddyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y ffordd fwyaf effeithiol i wneud hyn yw gydag ymchwil, ac mae&#8217;n werth y gyllideb yn aml. Nid oes angen iddo fod yn ddrud \u2013 gallwch gael llawer o sgyrsiau 30 munud mewn dau ddiwrnod. Mae&#8217;n syniad da hyd yn oed os ydych chi&#8217;n dylunio gwefan sy&#8217;n ddigon hyblyg i addasu cynnwys a siwrnai ar \u00f4l lansio (a dylai eich gwefan fod mor hyblyg \u00e2 hyn!).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhestrwch eich defnyddwyr \u2013 unrhyw rai a phob un y gallwch chi feddwl amdanynt. Dewiswch y rhai sy&#8217;n cyd-fynd ag amcanion eich sefydliad \u2013 efallai&#8217;r rhai sy&#8217;n dod \u00e2&#8217;r incwm i mewn, yr aelodau gweithredol, neu&#8217;r buddiolwr newydd hwnnw rydych chi&#8217;n ei dargedu wrth i chi newid cyfeiriad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trowch nhw&#8217;n bobl go iawn gan ddefnyddio <a href=\"https:\/\/lightful.com\/blog\/strategy\/how-and-why-to-create-personas-for-your-charity\">person\u00e2u<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae person\u00e2u yn stereoteipiau, mewn ffordd dda. Maent yn crynhoi pwy yw defnyddiwr a&#8217;r hyn sydd ei angen arnynt er mwyn ymgysylltu \u00e2 chi. Ni allwch ac ni ddylech gynllunio popeth i bawb o gwbl. Os gwnewch hynny, byddwch yn creu rhwystrau i&#8217;ch defnyddwyr pwysicaf. Gallai gormod o pop-yps am e-byst atal rhywun rhag rhoi rhodd. Gallai gofyn am ormod o ddata ymlaen llaw atal aelod posibl rhag cofrestru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnewch i&#8217;ch person\u00e2u deimlo&#8217;n real. Rhowch enw a phersonoliaeth iddynt. Seiliwch nhw ar rywun rydych chi&#8217;n ei adnabod fel eich bod chi&#8217;n teimlo cysylltiad \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw &#8216;pawb sy&#8217;n gallu pleidleisio&#8217; yn dweud dim wrthym, ond mae &#8216;Sarah, pobydd, 26 oed, mam i un plentyn, yn ennill \u00a317,000 y flwyddyn, yn gwirfoddoli gyda&#8217;i banc bwyd lleol, yn ofalwr i&#8217;w mam ac yn mwynhau beicio&#8217;, yn gwneud hynny.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd gwybod cymaint \u00e2 hyn am Sarah yn eich helpu i feddwl yn fwy gofalus am yr hyn y mae hi eisiau gennych chi a sut y gallwch chi ei roi iddi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mapio taith eich defnyddiwr o&#8217;r mynediad i&#8217;r nod, gan chwalu unrhyw rwystrau sy&#8217;n codi a chanolbwyntio ar unrhyw gyfleoedd sy&#8217;n eu helpu ar eu ffordd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">6. Allwch chi fforddio hyn?<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Unwaith y byddwch chi&#8217;n glir yngl\u0177n \u00e2&#8217;r hyn sydd angen i chi ei adeiladu ac i bwy, mae angen i chi ofyn\u2026 a yw&#8217;r gyllideb yn ddigonol?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os nad yw, yna beth allwch chi ei ddileu neu ei leihau? Bydd asiantaeth dda yn eich helpu i ddod o hyd i atebion, gan adeiladu&#8217;r peth lleiaf a hawsaf posibl. Rhywbeth y gallwch chi ei brofi ac ailadrodd yn ddiweddarach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch chi <a href=\"https:\/\/www.pixelparlour.co.uk\/knowledge\/website-development-roadmaps\/\">fapio<\/a> unrhyw beth na allwch chi ei adeiladu nawr, sy&#8217;n golygu bod gennych chi gynllun cynnyrch ac amcangyfrif cyllideb ar gyfer cam nesaf y gwaith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os nad oes gennych chi&#8217;r arian, mae&#8217;r ymchwil gennych o hyd, felly defnyddiwch hwn i adeiladu achos. Gofynnwch i&#8217;ch t\u00eem arweinyddiaeth am fwy o gyllideb ac esboniwch y risgiau mewn strategaeth sefydliadol os na allwch chi barhau. Efallai y byddwch chi&#8217;n gallu defnyddio&#8217;r gwaith ymchwil hwn i&#8217;ch helpu i wneud cais am gyllid.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">7. Llongyfarchiadau\u2026 rydych chi&#8217;n barod i ddechrau dylunio<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os oes gennych chi fap nawr sy&#8217;n dangos taith defnyddiwr delfrydol trwy&#8217;ch gwefan a gallwch chi weld enillion clir lle mae eich defnyddwyr wedi cyrraedd eu nod, yna rydych chi&#8217;n barod i ddechrau dylunio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond daliwch funud!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-category\/cynllunio-gwasanaethau\/\">dylunio<\/a> yn ymwneud \u00e2 sut olwg sydd ar eich gwefan \u2013 mae&#8217;n ymwneud \u00e2 strwythur, tacsonomeg, llywio, sut mae eich cynnwys yn gweithio, a&#8217;r adnoddau sydd eu hangen ar olygyddion.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ewch ati i ddeall hyn gyntaf, yna gwnewch brototeip ohono, profwch ef ac yna\u2026 dim ond wedyn\u2026 y dylech chi ychwanegu eich brand a&#8217;ch hunaniaeth weledol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n bwysig nodi nad yw dyluniad yn gwmpas technegol, felly cymerwch ddyluniadau fel cysyniad yn unig bob amser a gadael lle i ailadrodd wrth i chi adeiladu er mwyn creu&#8217;r wefan orau bosibl ar gyfer eich sefydliad, eich defnyddwyr a&#8217;ch golygyddion.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Crynodeb<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae eich gwefan yn adnodd hanfodol a ddylai helpu eich sefydliad i lwyddo.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae golwg y llwyddiant hwn yn dibynnu ar gynllun eich sefydliad \u2013 beth sydd angen iddo ei wneud, i ble mae&#8217;n mynd, beth sy&#8217;n bwysig?<\/li>\n\n\n\n<li>Peidiwch \u00e2&#8217;i wneud ar eich pen eich hun \u2013 gofynnwch i&#8217;ch cydweithwyr ymuno a gofynnwch am eu barn.<\/li>\n\n\n\n<li>Dyluniwch ac adeiladwch ar gyfer y defnyddwyr a fydd yn hanfodol i wneud i hyn \u00a0digwydd.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhewch fod eich t\u00eem arweinyddiaeth nid yn unig yn deall hyn, ond yn cymryd cyfrifoldeb amdano.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mwy o <a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-category\/hyfforddiant\/\">adnoddau am adeiladu gwefan ar gyfer eich elusen yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Manylion am Gemma<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy&#8217;n Rheolwr Gyfarwyddwr stiwdio dylunio a thechnoleg ddigidol da cymdeithasol <a href=\"v\">Hactar<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cysylltwch \u00e2 fi ar <a href=\"mailto:mailto:hello@hactar.is\">e-bost<\/a> neu ar <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/gemmahampson\/\">LinkedIn<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">\u200d<br><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"featured_media":18815,"template":"","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false},"tags":[2765,2766,2767,2768,2769,2770,2771,2772,2756,2764],"resource-category":[2003],"class_list":["post-23616","resource","type-resource","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","tag-cynllunio","tag-cynnwys-pobl","tag-dylunio-gwefan","tag-cwestiynnau-cynllunio","tag-personau-defnyddwyr","tag-dyluniad-gwefan","tag-map-siwrne","tag-nodau-gwefan","tag-hactar","tag-dylunio","resource-category-hyfforddiant"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cynllunio ar Gyfer Gwefan Elusen Newydd - ProMo Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Cynhwysion allweddol yn eich cynllun i gynllunio gwefan elusen newydd. 4 cwestiwn i&#039;w gofyn i chi&#039;ch hun a 7 cam cynllunio.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cynllunio ar Gyfer Gwefan Elusen Newydd - ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cynhwysion allweddol yn eich cynllun i gynllunio gwefan elusen newydd. 4 cwestiwn i&#039;w gofyn i chi&#039;ch hun a 7 cam cynllunio.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"ProMo Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-06-17T15:56:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabacb232142ad292ce6_61f7ed723d17e744e470f566_supermarket.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1725\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"907\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"12 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/\",\"name\":\"Cynllunio ar Gyfer Gwefan Elusen Newydd - ProMo Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabacb232142ad292ce6_61f7ed723d17e744e470f566_supermarket.png\",\"datePublished\":\"2023-02-08T00:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2026-06-17T15:56:58+00:00\",\"description\":\"Cynhwysion allweddol yn eich cynllun i gynllunio gwefan elusen newydd. 4 cwestiwn i'w gofyn i chi'ch hun a 7 cam cynllunio.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabacb232142ad292ce6_61f7ed723d17e744e470f566_supermarket.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabacb232142ad292ce6_61f7ed723d17e744e470f566_supermarket.png\",\"width\":1725,\"height\":907},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Cynllunio ar Gyfer Gwefan Elusen Newydd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"ProMo Cymru\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg\",\"width\":151,\"height\":54,\"caption\":\"ProMo Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cynllunio ar Gyfer Gwefan Elusen Newydd - ProMo Cymru","description":"Cynhwysion allweddol yn eich cynllun i gynllunio gwefan elusen newydd. 4 cwestiwn i'w gofyn i chi'ch hun a 7 cam cynllunio.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cynllunio ar Gyfer Gwefan Elusen Newydd - ProMo Cymru","og_description":"Cynhwysion allweddol yn eich cynllun i gynllunio gwefan elusen newydd. 4 cwestiwn i'w gofyn i chi'ch hun a 7 cam cynllunio.","og_url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/","og_site_name":"ProMo Cymru","article_modified_time":"2026-06-17T15:56:58+00:00","og_image":[{"width":1725,"height":907,"url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabacb232142ad292ce6_61f7ed723d17e744e470f566_supermarket.png","type":"image\/png"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"12 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/","name":"Cynllunio ar Gyfer Gwefan Elusen Newydd - ProMo Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabacb232142ad292ce6_61f7ed723d17e744e470f566_supermarket.png","datePublished":"2023-02-08T00:00:00+00:00","dateModified":"2026-06-17T15:56:58+00:00","description":"Cynhwysion allweddol yn eich cynllun i gynllunio gwefan elusen newydd. 4 cwestiwn i'w gofyn i chi'ch hun a 7 cam cynllunio.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/#primaryimage","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabacb232142ad292ce6_61f7ed723d17e744e470f566_supermarket.png","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/63e3cabacb232142ad292ce6_61f7ed723d17e744e470f566_supermarket.png","width":1725,"height":907},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/cynllunio-ar-gyfer-gwefan-elusen-newydd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/resource-articles\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Cynllunio ar Gyfer Gwefan Elusen Newydd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","name":"ProMo Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#organization","name":"ProMo Cymru","url":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","contentUrl":"https:\/\/promo.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/logo.svg","width":151,"height":54,"caption":"ProMo Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/23616","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18815"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=23616"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=23616"},{"taxonomy":"resource-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/promo.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource-category?post=23616"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}