Cyfle Interniaeth: Ysgrifennwr Cynnwys Cymraeg Iau

by Tania Russell-Owen | 12th Gor 2024

Yn galw ar holl grewyr cynnwys y dyfodol i ymuno â’n tîm! Wyt ti’n angerddol am ysgrifennu cynnwys? Mae gan ProMo Cymru gyfle 6 mis ar gyfer intern gyda thâl i greu cynnwys diddorol yng Nghymraeg a Saesneg ar gyfer ein prosiectau.

Mae hwn yn gyfle perffaith i fyfyrwyr neu raddedigion ac yn gyfle i gychwyn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig a chreadigol.

Lleoliad: Gweithio o gartref a/neu’r swyddfa yng Nghaerdydd
Cyflog: Cyflog byw o £12 yr awr
Oriau: Rhwng 14 a 21 awr yr wythnos 
Dyddiad cau: 2il Awst 2024
Cyfweliadau: 19eg, 20fed neu 21ain Awst 2024

Pam y byddi di’n hoff o weithio yn ProMo Cymru:

Gweithio’n hyblyg ac yn hybrid: Byddem yn gweithio gyda thi i benderfynu ar yr oriau sydd yn gweithio i bawb (o fewn oriau swyddfa) a bydd posib i ti weithio un ai o’n swyddfa yng Nghaerdydd neu o adref, unrhyw le yng Nghymru.
Gwneud newid: Rydym yn sefydliad trydydd sector sydd yn gweithio gyda phobl a chymunedau i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.
Bod yn rhan o dîm: Byddi di’n gweithio ochr yn ochr gyda thîm o grewyr sy’n angerddol am eu gwaith.
Dysgu a thyfu: Datblyga dy sgiliau mewn amgylchedd gwaith prysur.

Beth fyddi di’n gwneud:

– Cynllunio a chreu cynnwys dwyieithog
– Cyfieithu
– Cyfryngau Cymdeithasol
– Ysgrifennu sgriptiau
– Cydweithio mewn tîm a gyda chleientiaid

Cysyllta os:

– Rwyt ti’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg
– Mae gen ti ddiddordeb mewn cyfathrebu, newyddiaduraeth neu’r cyfryngau
– Mae gen ti angerdd a phrofiad yn ysgrifennu cynnwys
– Rwyt ti eisiau datblygu dy sgiliau a dysgu

Diddordeb? Byddem wrth ein boddau yn clywed gen ti!

Clicia i lawrlwytho

Gyrra dy ffurflen gais neu ofyn am wybodaeth bellach: people@promo.cymru

Mae ProMo Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.

Mae ProMo Cymru Cyf yn elusen gofrestredig. Rhif elusen: 1094652 Rhif Cwmni Cyfyngedig: 1816889