Gwybodaeth Ieuenctid Ar Draws Ffiniau: Mewnwelediadau o Gatalonia

by ProMo Cymru | 23rd Awst 2024

Llynedd, fel rhan o daith gyfnewid a ariannwyd gan Taith, ymwelodd ein tîm â Chatalonia, ynghyd â chynrychiolwyr o Fwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru, i archwilio eu systemau gwybodaeth ieuenctid.

Rydym yn awyddus i rannu rhai o’n mewnwelediadau a’n cymariaethau â Chymru. Os oes gennych ddiddordeb yn ein gweithgareddau yn ystod y daith, mae mwy am hynny yma.

Pam Cymru a Chatalonia?

Yn 2018, ymwelodd Asiantaeth Ieuenctid Catalonia â ProMo Cymru i archwilio ein gwasanaethau.

Mae Catalonia a Chymru yn debyg o ran llywodraethu, iaith a diwylliant, gyda llywodraethau datganoledig yn ymdrin ag addysg ac iechyd. Mae’r ddau ranbarth yn wynebu heriau sy’n ymwneud â dwyieithrwydd a darpariaeth gwasanaethau gwledig.

Catalonia – Cydgysylltu Canolog

Mae Generalitat Catalonia yn cydlynu gwasanaethau ieuenctid trwy rwydwaith Xarxa Nacional d’Emancipació Juvenil (XNEJ). O fewn y rhwydwaith mae Agència Catalana de la Joventut yn gweithredu polisïau, yn rheoli rhaglenni, ac yn cydweithio â sefydliadau lleol.

Mae’r XNEJ yn cynnig cymorth cyflogaeth, cymorth tai, arweiniad addysgol, adnoddau iechyd a mwy. Mae dros 300 o Bwyntiau Gwybodaeth Ieuenctid. Er bod y model hwn yn darparu unffurfiaeth, mae biwrocratiaeth yn ei gwneud yn anodd addasu a dyrannu adnoddau.

Cymru – Hyblygrwydd Datganoledig

Mae gwasanaethau ieuenctid ac addysg wedi’u hintegreiddio o fewn Adran Addysg a’r Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Mae’r dull datganoledig yn caniatáu hyblygrwydd ac arloesedd gydag awdurdodau lleol yn teilwra gwasanaethau i anghenion cymunedol. Mae sawl sefydliad lluosog yn cynnig cymorth amrywiol mewn lleoliadau fel ysgolion, canolfannau cymunedol a llwyfannau ar-lein

Gall hyn arwain at anghysondebau o ran ansawdd ac argaeledd gwasanaethau sydd yn arwain at gefnogaeth anghyson, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.

Cymariaethau allweddol

Mae’r ddau ranbarth yn wynebu heriau tebyg, yn enwedig o ran hygyrchedd gwasanaethau gwledig a chynnal ieithoedd lleol.

Mae Catalonia yn integreiddio iechyd mewn gwasanaethau ieuenctid yn fwy effeithiol, gyda chymorth iechyd pwrpasol mewn lleoliadau fel Canolfan Iechyd Ieuenctid Girona.

Mae’r cynghorwyr iechyd yno yn cael eu hystyried fel gweithwyr ieuenctid,  sydd yn gwella darpariaeth ac yn creu canolfannau iechyd gyda gweithwyr proffesiynol hyfforddedig sydd yn canolbwyntio ar ieuenctid.

Mae pobl ifanc yn 12-35 yng Nghatalonia (11-25 yng Nghymru). Maent yn cynnig cymorth cynhwysfawr ar bethau fel cyflogaeth a thai, ond gallai’r ystod oedran ehangach yma roi straen ar adnoddau. Gall Cymru gynnig cymorth wedi’i dargedu i’n hystod oedran llai ond nid i oedolion ifanc hŷn sy’n trosglwyddo i annibyniaeth.

Tu allan i adeilad yn Catalonia gyda brics llwyd/gwyn
Y tu allan i Ganolfan Iechyd Ieuenctid Girona

Heriau Integreiddio Digidol

Mae gwasanaethau ieuenctid Catalonia yn dibynnu’n fawr ar ymgysylltu wyneb yn wyneb gydag adnoddau digidol cyfyngedig, ond gallai’r amgylchedd ffurfiol, tebyg i swyddfeydd sydd i’w cael mewn rhai canolfannau annog pobl ifanc i beidio ag ymgysylltu. Gwelsom rai elfennau digidol yn ystod ein hymweliad â chlwb ieuenctid Breda, fel gemau a chystadleuaeth gwneud fideos.

Gallai ymgorffori ymgysylltu digidol gyrraedd y rhai sydd yn osgoi neu’n cael trafferth gyda gwasanaethau wyneb yn wyneb. Mae prosiectau ProMo fel Sprout a Meic, ynghyd â thîm digidol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, yn dangos sut mae platfformau ar-lein yn gallu gwella hygyrchedd i bobl ifanc.

Cerdyn hawliau ac apiau

Gyda dros 500,000 o ddefnyddwyr, mae cerdyn hawliau Catalonia yn canolbwyntio ar ostyngiadau yn hytrach na rhannu gwybodaeth yn ddigidol. Ymddangosai fel nad oedd apiau a chardiau wedi’u datblygu’n ddigonol, gyda diffyg diweddariadau ac ymgysylltiad isel. Roedd rhai gweithwyr proffesiynol yn pryderu am bartneriaethau â brandiau sy’n hyrwyddo cynhyrchion sydd ddim yn iach.

Grŵp o 7 o bobl yn sefyll yn gwenu ar y camera yn Catalonia
Aelodau Bwrdd Gweithredu Ieuenctid Cymru yn cyfarfod â Chyfarwyddwr Cyffredinol Ieuenctid Catalonia, Rut Ribas.

Dysgu gan ein gilydd

Gallai Cymru fabwysiadu cydgysylltu canolog Catalonia, cerdyn hawliau ieuenctid, a gweithwyr iechyd ieuenctid. Gallai Catalonia elwa o ddulliau digidol Cymru. Gallai cyfuno ein dulliau wella cymorth ieuenctid a mynediad at wybodaeth.