Simran Sandhu
Swyddog Datblygu Cyllid
Ymunodd Simran â ProMo Cymru yn wreiddiol yn 2018 ar leoliad profiad gwaith gyda’r tîm Cyfrifeg a Chyllid. Yn dilyn y cyfnod yma, enillodd radd Cyfrifeg a Chyllid a bu’n gweithio fel Rheolwr Cynnyrch mewn cwmni nwyddau tŷ cyn dychwelyd i ProMo ar ddiwedd 2023.
Mae Simran yn awyddus i ddefnyddio systemau ac adroddiadau digidol i gynyddu effeithlonrwydd. Mae’r amrywiaeth o gyfleoedd sydd yn dod fel rhan o weithio yn ProMo yn ei chyffroi.