Nathan Griffiths

Creawdwr Cynnwys Digidol Iau

Ymunodd Nathan (Nate) â ProMo Cymru fel rhan o raglen CychwynCyflym Blaenau Gwent yn y swydd Creawdwr Cynnwys Digidol Iau. Mae’n greawdwr cynnwys gemau ar-lein brwd ac yn hoff o ffrydio’n fyw. Mae’n mwynhau creu gofod ar-lein positif wrth lwytho fideos bywiog a rhyngweithiol.

Mae Nate yn brofiadol ag amrywiaeth o gynnyrch meddalwedd creadigol ar-lein, gan gynnwys Adobe, Sony Vegas Pro, a Blender. Mae ganddo gefndir mewn gwaith cymunedol ar-lein, cyfrannu a chynnal twrnameintiau gemau ar-lein, rhai ohonynt wedi codi arian i elusennau.

Yn ei swydd yn ProMo, mae Nate yn cefnogi creu cynnwys i’r wefan a chyfryngau cymdeithasol ar gyfer Institiwt Glyn Ebwy a phrosiect TheSprout.