Sian Tucker

Rheolwr Canolfan EVI

Gyda phrofiad helaeth o ddatblygiad cymunedol a rheoli canolfannau, ymunodd Sian â ProMo yn 2022 i reoli ein canolfan cymunedol a diwylliannol EVI ym Mlaenau Gwent. Mae’n brofiadol iawn mewn Polisi Cymdeithasol a Dysgu Gydol Oes ac wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau gyda chymunedau ledled Cymru.

Yn arwain ar ein prosiect UKCRF yn y Ganolfan, roedd Sian yn ganolog i ailagor yr adeilad ar ôl iddo gau’n rhannol yn ystod y pandemig Covid-19. Wrth weithio gyda’r tîm, aeth ymlaen i agor y ‘Caffi yn EVI’, trefnu sawl academi hyfforddiant, lansio Caffi Trwsio’r EVI a Pantri’r EVI (storfa fwyd cymunedol lleol), a llawer mwy. Mae hefyd yn gyfrifol am oruchwylio sawl agwedd o gynnal y canolfan, yn gweithio gyda thenantiaid a llogwyr a chydlynu gweithgareddau bob dydd.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ailddyfeisio gofod yng nghalon eich cymuned ac eisiau cymorth arbenigol ar sut i dynnu gweledigaeth gyfunol bwerus at ei gilydd, yna byddem wrth ein bodd yn helpu.