Sut i Greu a Chyflwyno Dysgu Ar-lein Cynhwysol
Awdur: Cat Ainsworth;
Amser Darllen: 5 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Mae profiad dysgu cynhwysol yn ystyried eich cynulleidfa a’r rhwystrau neu’r heriau y gallent eu hwynebu wrth ymgysylltu â dysgu.
Pam fod profiadau dysgu cynhwysol yn bwysig
Mae hyn yn arbennig o bwysig ar-lein, gan fod gennych lai o wybodaeth a chyd-destun am eich dysgwyr ac mae’n anoddach gweld os yw rhywun yn profi unrhyw rwystrau.
Rhwystr yw unrhyw beth sydd yn golygu bod rhaid i rywun gysylltu gyda dysgu mewn ffordd wahanol. Mae’n cynnwys unrhyw namau dros dro neu sefyllfaol a allai fod yn anablu eu gallu i gymryd rhan yn y gweithgaredd dysgu (e.e. jyglo cyfrifoldebau gofal neu ymuno â’r dysgu o amgylchedd swnllyd).
Pan fyddwch chi’n dileu rhwystrau i rai rydych chi’n eu dileu i bawb
Mae dysgu hygyrch yn dileu’r gofyniad i unrhyw un orfod datgelu bod ganddynt anhawster neu anabledd. Nid yw pawb eisiau datgelu hynny. Mae hefyd yn dileu’r angen i ail-gynllunio deunydd neu greu adnoddau arall i weddu i anghenion unigol. Dylai darparu hyblygrwydd ac opsiynau eich helpu i ragweld a mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o rwystrau. Pan fyddwch chi’n dileu rhwystrau, rydych chi’n gwneud hynny i bawb.
Naw darn o gyngor i fod yn gynhwysol
1. Defnyddiwch amrywiaeth o ddulliau
Bydd dulliau cymysg yn rhoi cyfle i bobl gyfleu eu meddyliau, eu hemosiynau a’u barn mewn ffordd sydd fwyaf cyfforddus iddynt. Er enghraifft, mae gan Beyond* weminarau, gweithdai, Huddles, a sesiynau 1:1 ar gyfer dysgu. Os oes gan ein dysgwyr unrhyw gwestiynau neu bryderon, gellir cyrraedd y tîm trwy Zoom, Slack, e-byst, neu dros y ffôn mewn ymgais i wneud hygyrchedd dysgu ac ymgysylltu yn agnostig. [* Sylwer: mae rhaglen Beyond bellach wedi dod i ben.]
2. Cynnig opsiwn i ddewis ymuno mewn rhai gweithgareddau neu beidio
Mae pawb yn dysgu’n wahanol, ac mae bod yn hyblyg yn caniatáu i bobl gael perchnogaeth o’u dysgu a gallant ddewis gweithio ar rywbeth o’u dewis nhw e.e. gyda’n gweithdy Prototeipio ar Waith. O’r cychwyn cyntaf, mae’r dull yma yn rhoi cyfle i ddysgwyr roi adborth ac adlewyrchu eu barn am yr amgylchedd dysgu wrth iddynt wneud eu penderfyniadau eu hunain.
3. Gosod disgwyliadau clir ar gyfer tasgau, gan gynnwys yr hyn sy’n ‘ddigon’
Mae hyn yn annog dysgu gweithredol ac yn hyrwyddo normau clir o ymgysylltu i bobl e.e. nodi faint o amser y dylai tasg benodol ei gymryd. Gall hyn hefyd helpu i feithrin cysylltiad, ac ymateb i bryderon sydd gan eich dysgwyr. Mae gosod disgwyliadau clir, a deall y dylai dysgwyr ddim ond gwneud cymaint ag sy’n teimlo’n bosib iddynt, yn gallu helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u paratoi yn yr amgylchedd, gall arwain at gynhyrchu gwaith o ansawdd uchel.
4. Ystyried medusrwydd
Efallai bod rhai pobl yn gyfyngedig o ran gallu cydlynu symudiad. Gall fod yn fuddiol i gau’r bwlch cynhwysiant heb orfod dibynnu ar y dybiaeth bod pawb yn defnyddio dyfeisiau, fel bysellfwrdd a llygoden, yn yr un ffordd.
5. Cynnwys (a chymryd) egwyl
Mae pawb wedi bod yn gaeth i fod o flaen sgrin am oriau, gall fod yn anodd i sawl un. Gall seibiannau leddfu’r llwyth gwybyddol; gan helpu gyda chanolbwyntio a chynyddu cynhyrchiant. Mae yna fanteision eraill hefyd, gan gynnwys lleihau straen, rhoi hwb i’r cof a’r creadigrwydd, a pherfformiad da.
6. Rhannu recordiad o’r sesiwn
Yna aml, gall gweithdai a gweminarau fod yn addysgiadol iawn, sydd yn wych, ond gallant fod yn anodd i rai. Mae recordio’r sesiynau (i’w rhannu’n gyhoeddus neu gyda’r mynychwyr yn unig) yn helpu pobl i wrando a/neu wylio eto a dysgu ar gyflymder eu hunain os ydynt wedi methu rhywbeth, neu ddim yn gallu mynychu’r sesiwn lawn. Mae hefyd yn ddefnyddiol i bobl sydd eisiau ail-wylio cynnwys er mwyn gallu deall. Gallant reoli cyflymder y cynnwys wedyn.
7. Braslunio’ch agenda
Gall hyn gynnwys sylabws y cwrs neu’r hyn sy’n cael ei gynnwys ym mhob sesiwn. Bydd bod yn agored am hyn yn tawelu meddwl pobl bod eu hanghenion yn cael eu diwallu, a hefyd yn helpu i nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth fel y gallant dynnu sylw at hyn.
8. Osgoi idiomau a jargon
Os nad yw rhywun yn gyfarwydd â’r pwnc, gall hyfforddiant deimlo’n llethol weithiau. Gall defnyddio jargon neu idiomau fod yn rhwystr ychwanegol, tra bod defnyddio iaith glir yn gallu helpu pobl i ddeall gwybodaeth ysgrifenedig yn gyflym ac yn hawdd. Gall hefyd helpu siaradwyr i gyfleu eu neges, gan gyfyngu ar unrhyw gamddealltwriaeth bosibl.
9. Creu cynnwys hygyrch
Mae cynnwys hygyrch yn rhoi mynediad a chyfle cyfartal ac yn creu amgylchedd cyfeillgar.
Wrth greu cynnwys, yr arfer gorau yw sicrhau bod eich cynnwys yn weledol ac ar-weledol (e.e. is-deitlau ar fideo), bod gan eich delweddau ddisgrifiadau ynghlwm ac yn cynnwys testun amgen (Alt text).
Gall hygyrchedd deimlo’n gymhleth neu’n llethol, ond gall dilyn y camau ymarferol yma sicrhau bod pawb sy’n ymgysylltu â’ch gwaith yn gallu manteisio i’r eithaf.
Adnoddau defnyddiol
- Hygyrchedd gwefan ac ap gan RNIB.org.uk
- Creu cyfryngau cymdeithasol hygyrch
- Cynllunio Digidol Cynhwysol: Hygyrchedd, Rhagdybiaethau a Rhwystrau
- Sut i Newid Eich Strategaeth Ddigidol i Fod yn Fwy Cynhwysol
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst