DigiCymru

Cymorth digidol un-i-un, am ddim a chyfeillgar, i sefydliadau trydydd sector Cymru.

Newyddion da: mae DigiCymru yma o hyd

Dechreuodd DigiCymru fel rhan o raglen dair blynedd a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae’r cyllid yma bellach wedi dod i ben – ond mae’r gwasanaeth yn parhau.

Profodd DigiCymru i fod yn werthfawr iawn i sefydliadau ledled Cymru felly roedd y penderfyniad i barhau gyda’r gwasanaeth yn syml. Fel menter gymdeithasol, mae ProMo Cymru yn ail-fuddsoddi ein helw yn ôl i’r cymunedau rydym yn gwasanaethu, a defnyddir hyn i barhau i gynnig DigiCymru. Nid oes unrhyw wasanaeth arall yng Nghymru sy’n gwneud yn union yr hyn y mae DigiCymru yn ei wneud, felly roeddem yn awyddus i beidio gweld y gwasanaeth yn diflannu.

Felly, beth bynnag eich her ddigidol, mae’r drws yn agored i chi o hyd.

Pwy all ei ddefnyddio?

Mae DigiCymru ar gyfer trydydd sector Cymru. Mae croeso i chi os ydych chi’n:

  • Elusen
  • Sefydliad nid-er-elw
  • Menter gymdeithasol (rhaid cael clo asedau, neu fod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol gyda chlo asedau)
  • Grŵp cymunedol neu wirfoddol (nid oes rhaid bod yn sefydliad cofrestredig)

O grwpiau cymunedol bach iawn i elusennau cenedlaethol, mae sefydliadau o bob maint wedi defnyddio DigiCymru.

DigiCymru logo

Pa fath o gymorth gall DigiCymru ei gynnig?

Rydym yn cynnig cymorth ymarferol, heb jargon, gydag ochr ddigidol eich gwaith, gan gynnwys:

  • Deall adnoddau digidol a pha rai sydd orau i chi
  • Adeiladu, defnyddio a gwella adnoddau eich hun – er mwyn i chi gael gwneud pethau eich hun yn hytrach na thalu amdanynt
  • Datrys problemau technegol pan fydd rhywbeth ddim yn gweithio
  • Defnyddio AI yn gyfrifol i arbed amser gyda dasgau bob dydd

Mae DigiCymru wedi helpu sefydliadau i sefydlu Hysbysebion Facebook, creu ffurflenni digidol, deall Google Analytics, creu cronfa ddata, dewis rhwng Microsoft 365 a Google Workspace, cychwyn TikTok yn ddiogel, a llawer mwy.

Os nad yw’n rhywbeth gallem helpu ag ef, byddem yn ceisio cyfeirio chi at rywun fydd yn gallu helpu.

Sut mae’n gweithio

Mae trefnu sesiwn yn gyflym ac mae’r gefnogaeth yn cael ei adeiladu o’ch cwmpas chi, nid sgript ydyw.

  1. Trefnu sesiwn sy’n addas i chi.
  2. Rhannu eich her ddigidol.
  3. Cyfarfod ag arbenigwr digidol o dîm ProMo, un-i-un, ar-lein.

Dim tric, dim taliad, dim ond cyngor defnyddiol, wedi’i deilwra, gan bobl sy’n deall y sector.

Dwy ffordd i dderbyn cymorth

Sesiwn awr am ddim – agored i bawb.

Gall unrhyw sefydliad cymwys archebu sesiwn awr am ddim gydag un o’n harbenigwyr digidol. Dyma’r ffordd berffaith i drafod her, derbyn camau nesaf clir, a gadael yn fwy hyderus am eich dewisiadau digidol.

Cymorth mwy manwl drwy eich cyllidwr.

Rydym yn ymwybodol y gall newid go iawn, yn aml, gymryd mwy nag awr. Dyma pam rydym yn gweithio gyda chyllidwyr sydd yn awyddus i gynnig cymorth digidol ehangach i’w deiliaid grant – hyd at bum awr o gymorth un-i-un i bob sefydliad, digon i symud o gyngor i weithredu ymarferol. Os yw eich rhaglen cyllido yn cynnwys DigiCymru, fe gewch wybod sut i gael mynediad iddo. (Cyllidwyr: gweler isod.)

Pam fod DigiCymru yn wahanol

Nid cyngor digidol cyffredinol yw DigiCymru. Mae’n:

  • Dwyieithog a balch o’i Gymreictod – wedi’i greu i drydydd sector Cymru, yn Gymraeg a Saesneg, gan fanteisio ar dros 25 mlynedd o brofiad ProMo Cymru yn cyflawni digidol.
  • Seiliedig ar berthynas, nid y gweithrediadol – fe ddawn i adnabod eich sefydliad a’ch cyfarfod lle bynnag ydych chi.
  • Seiliedig ar gryfderau – cychwynnir gyda’r hyn rydych chi eisoes yn ei wneud yn wych a’ch helpu gyda’r darn digidol.
  • Ymddiriedaeth y sector – mae sefydliadau’n ein cyrraedd drwy bartneriaid gan gynnwys CGGC, Cwmpas, Cynghorau Gwirfoddol Sirol ac eraill, gan nad oes gwasanaeth tebyg arall yng Nghymru.

“Mae’n anarferol cael gwasanaeth lle gallwch chi fynd atynt a gofyn cwestiwn.”

“Mae’r math yma o ddull sydd wedi’i deilwra, yn ateb cwestiynau am yr union beth sydd ei angen, ac yn cyfeirio chi at y bobl addas, mor werthfawr.”

Y gwahaniaeth cyflawnir

Dros dair blynedd, cefnogodd DigiCymru 169 o sefydliadau ledled Cymru gyda 331 o sesiynau un-i-un. Pan holwyd am eu profiad:

  • Rhoddodd 83% sgôr Rhagorol i’r gwasanaeth (a 15% arall Da Iawn)
  • Teimlodd 95% yn fwy hyderus yn defnyddio adnoddau digidol wedyn
  • Daeth 100% o’r sesiwn yn fwy ymwybodol o arfer digidol da

Canfu gwerthusiad annibynnol bod proses, effaith a gwerth am arian DigiCymru wedi rhagori disgwyliadau, ac amcangyfrif bod dwy ran o dair o sefydliadau wedi symud ymlaen i greu effaith gymdeithasol neu amgylcheddol positif o ganlyniad effeithiolrwydd digidol gwell.

“Roedd y sesiynau’n hynod ddefnyddiol wrth gynyddu fy nealltwriaeth o’r gwahanol opsiynau a chyfleoedd i gasglu data ac adrodd. Helpodd hyn i mi roi mecanweithiau adrodd ar waith a fydd yn llywio dulliau’r dyfodol.”

“Roedd y gwasanaeth yn fwrdd sain a chyngor pellach gwych ar yr hyn roedd angen i mi ei wneud i sicrhau bod gennym gefnogaeth ddigidol gynaliadwy yn y dyfodol.”

“Arloesedd ffantastig, gwasanaethau gwych, diwylliant gwych, criw gwych.”

Gwir sefydliadau, gwir newid

Y Fenter (Wrecsam) yn cyfnewid proses cofrestru ar bapur, ble mae cannoedd o rai sydd wedi cofrestru yn cael eu mewnbynnu â llaw bob blwyddyn, am gofrestr ddigidol am ddim, sydd yn datrys eu heriau adrodd, diogelwch a data mewn un.

Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn sefydlu cyfrif TikTok i roi mwy o lais i bobl ag anableddau dysgu, gydag arweiniad ymarferol ar greu fideo a chadw’n ddiogel ar-lein.

Moss Rose Cottage (Caerdydd) wedi adferu cannoedd o ffeiliau gwaith ‘coll’ fel bod y sylfaenydd bellach yn gallu rhannu popeth yn iawn gyda’i haelod staff cyflogedig cyntaf o’r diwrnod cyntaf.

Barod am sgwrs?

Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs. Cyflwynwch eich her ddigidol i ni – mawr neu fach – a dewch i ni ei datrys gyda’n gilydd.

Eisiau mwy? Archwiliwch Gefnogaeth Ddigidol ehangach ProMo Cymru a’n llyfrgell o adnoddau digidol dwyieithog am ddim – y mwyaf o’i fath ar gyfer trydydd sector Cymru.


I gyllidwyr

Ydych chi’n cyllido sefydliadau trydydd sector Cymru? Gall DigiCymru roi’r cymorth digidol ymarferol i’ch deiliaid grant fydd yn helpu i ymestyn eich buddsoddiad ymhellach.

Rydym yn gweithio â chyllidwyr i gynnig hyd at bum awr o gymorth digidol un-i-un, wedi’i deilwro, i’w deiliaid grant. Mae’n ffordd syml, brofedig o gryfhau’r sefydliadau rydych chi eisoes yn eu cefnogi.


Charity number: 1094652
Company number: 01816889