Wedi’i leoli yng nghanol Bae Caerdydd, mae gan ProMo-Cymru sawl ystafell i’w logi ar gyfer eich holl anghenion gweithdai, seminarau, cyfweliadau, cyfarfodydd neu hyfforddiant.
Gallem hefyd ddarparu lluniaeth, bwffe, taflunydd, bwrdd gwyn, siart troi a WiFi. Rydym ychydig funudau ar droed o orsaf trên Bae Caerdydd a safleoedd Bws Caerdydd, neu 25 munud o daith ar droed o orsaf drên Caerdydd Canolog.
Venue-Hire-CymCyrraedd Yma
Mae’r adeilad wedi’i leoli ar ben llwybr sydd yn rhedeg rhwng siop barbwr Jack Bourne a siop pryd parod Roscoes BBQ Grill.
Mynediad
Y ffordd hawsaf i gyrraedd Bae Caerdydd o’r M4 ydy defnyddio’r A4232 (Ffordd Cyswllt Caerdydd) o Gyffordd 33.
Parcio
Mae parcio ar y stryd yn brin iawn ym Mae Caerdydd, ond os ydych chi’n ddigon ffodus i gael lle yna mae’r awr gyntaf ar Stryd Bute y Gorllewin am ddim.
Otherwise we would advise using the Havannah Street Car Park (it’s about an eight-minute walk).
Trên
Yr orsaf drenau agosaf yw Bae Caerdydd ac mae gwasanaeth rheolaidd (tua phedwar trên yr awr) o orsaf Heol-y-Frenhines i’r Bae. Fel arall mae prif linell Gorsaf Ganolog Caerdydd tua 15-20 munud o gerdded i lawr Dumballs Road neu Stryd Bute. Os yw hyn yn hy bell i gerdded, gallech chi neidio ar fws #6 (Baycar), sydd yn gadael o gefn yr orsaf drenau a dadlwytho ger Canolfan Mileniwm Cymru.
Bws
Mae Bws Caerdydd yn darparu gwasanaeth da ym Mae Caerdydd, gan gynnwys gwasanaethau #1, #2, #6 (Baycar), #7 a #8. Mae N.A.T. hefyd yn rhedeg gwasanaeth X8 sydd yn mynd o Thornhill i Fae Caerdydd. Mae Traveline Cymru yn ddefnyddiol iawn os ydych chi’n chwilio am siwrne bws neu drên.
Beicio a cherdded
Mae ein swyddfeydd wedi’u lleoli ar waelod y Daith Taf. Mae gan Sustrans fapiau da i feicwyr.
Tacsi
Capital Cabs – 029 20 777 777 Dragon Taxis – 029 20 333 333