Cynllunio Digidol Cynhwysol: Hygyrchedd, Rhagdybiaethau a Rhwystrau
Awdur: Jamie Knight;
Amser Darllen: 9 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
I fod yn effeithiol yn yr hyn a wnawn, rhaid cyrraedd y bobl sydd ein hangen. Er mwyn cyflawni’r cyrhaeddiad yma, rhaid i ni fod yn hygyrch ac yn gynhwysol. Gan sicrhau nad oes neb yn cael ei eithrio o’r hyn a gynigiwn.
Mae’n swnio’n syml iawn, ond beth olygai hyn yn y byd digidol? Beth yn union yw ‘hygyrchedd’ a sut mae’n berthnasol i ‘gynllunio cynhwysol’? Pa lensys sydd ei angen arnom i archwilio ein gwasanaethau digidol?
Amdanaf i
Fy enw i yw Jamie. Rwy’n arbenigwr a gwneuthurwr hygyrchedd digidol awtistig. Dwi byth yn bell oddi wrth fy ffrind ffyddlon Lion.
Rydym wedi bod yn adeiladu cynhyrchion digidol ers dros 20 mlynedd. Rydym newydd orffen 10 mlynedd yn gweithio i’r BBC. Mewn rolau peirianneg am y tair blynedd gyntaf ac yna fel uwch aelod o’r Tîm Hygyrchedd Digidol am y 7 mlynedd olaf. Roeddwn yn arwain y tîm cyn gadael y BBC yn gynnar yn 2022.
Rydym yn weithgar yng nghymunedau hygyrchedd a niwroamrywiaeth gan gyfrannu at ddigwyddiadau, cyflwyno gweithdai a chreu podlediadau. Mae gennym brosiect arall hefyd sy’n datblygu offer i ganfod troseddau ariannol.
Roedd tyfu i fyny yn awtistig yn golygu gorfod byw mewn byd nad oedd yn fy neall i gymaint â nad oeddwn i’n ei ddeall o.
Yna, fe glywais am y fodel gymdeithasol o anabledd gan newid fy safbwynt ar anabledd. Bellach rwyf o’r farn nad yr awtistiaeth sy’n fy analluogi, ond y rhwystrau o fewn yr amgylchedd. Wrth ddeall mwy, a’u dileu, rwy’n ffynnu mwy.
Dewch i ni siarad am rwystrau.

3 math o rwystr
Mae rhwystrau wrth wraidd hygyrchedd a gwaith cynllunio cynhwysol. Yn dod mewn amrywiaeth o siapiau a meintiau, eu deall yw’r llwybr i gynyddu eich cyrhaeddiad.
Er bod rhwystrau yn niferus ac yn amrywiol, maent yn tueddu i fod yn un o dri math:
Rhwystrau sy’n atal
Dyma’r rhwystrau sy’n atal rhywun rhag cael mynediad i’r cyfle i wneud rhywbeth. Er enghraifft, dwi’n aml yn peidio siarad. Mae darparu gwasanaeth dros y ffôn yn rhwystr sy’n ei wneud yn anghyraeddadwy i mi.
Rhwystrau sy’n cyfyngu
Dyma’r rhwystrau sy’n codi yn ystod gweithgaredd ac sy’n ein cyfyngu rhag cyflawni ein potensial. Er enghraifft, mae gen i sgiliau ar-lein gwych, ond efallai na fydd proses archebu gyda therfyn amser yn rhoi digon o amser i mi i ddod i’r penderfyniadau sydd eu hangen. Mae fy ymatebion brysiog yn golygu nad wyf yn cyflawni i’m ngallu gorau.
Rhwystrau sy’n blocio
Dyma’r rhwystrau sy’n ein hatal rhag cwblhau gweithgaredd neu dasg. Er enghraifft, methu â chyflwyno ffurflen treth cyngor am fod y botwm cyflwyno yn anweledig i’r darllenydd sgrin. Mae’r darllenydd sgrin yn darllen tudalennau gwe yn uchel wrth i mi eu defnyddio.
Wrth i ni wneud penderfyniadau am ein cynnyrch a’n gwasanaethau, mae’n bwysig edrych am ffyrdd y gall y penderfyniadau yma atal, cyfyngu neu rwystro defnyddwyr.
Mae’n anodd gweld rhwystrau weithiau. Yn aml rydym yn gyfyngedig i’r rhwystrau y gallwn eu dychmygu. Ac mae’r hyn y gallwn ei ddychmygu yn cael ei lunio gan ein safbwyntiau a’n profiadau. Felly, i ddeall rhwystrau, mae angen i ni ystyried cyfyngiadau ein safbwyntiau a’n profiadau; y tybiaethau a wnawn.
O ble y daw rhwystrau
Daw rhwystrau yn bennaf o ragdybiaethau. Mae popeth rydyn ni’n ei greu yn dod o amgodio ein rhagdybiaethau o’r byd o’n cwmpas.
Mae rhagdybiaethau’n ddefnyddiol, yn helpu ni i fodelu’r byd a gwneud penderfyniadau bywyd. Datblygir barn dda dros amser wrth ddod yn ymwybodol o’r rhagdybiaethau a wnawn a’u gwella. Byddem hefyd yn sicr o wneud rhagdybiaethau anghywir ar y daith hon.
Fel arfer mae dau fath o ragdybiaethau sy’n arwain at rwystrau:
- Rhagdybiaeth am gorff a gallu defnyddiwr
- Rhagdybiaeth am amgylchedd neu sefyllfa defnyddiwr

Rhagdybiaethau math 1: cyrff a galluoedd
Mae pobl yn dod ymhob lliw a llun. Gellir grwpio ein rhagdybiaethau yn bedwar maes sy’n effeithio ar hygyrchedd. Rhagdybiaethau ynghylch galluoedd gweithredol, gwybyddol, golwg a chlyw pobl.
Ar yr un pryd mae angen ystyried gallu, medrusrwydd a chapasiti.
1. Gweithredol
Mae gweithredol yn cyfeirio at ein gallu i symud a rheoli ein cyrff. Gall fod yn bethau mawr fel cerdded neu bethau bach fel cydlynu symudiadau mân ar gyfer ysgrifennu neu glymu careiau esgidiau. Gall fod am gyfnod byr (fel torri braich) neu am byth.
Yn y byd digidol, gallwn dybio bod pob defnyddiwr yn gallu defnyddio sgrin gyffwrdd, llygoden neu dracpad yn gywir. Gall hyn arwain at rwystrau i ddefnyddwyr sy’n defnyddio offer i fewnbynnu fel lleferydd, technoleg eyegaze, bysellfyrddau a switshis brathu.
2. Gwybyddol
Mae gwybyddol yn ymwneud â sut rydym yn derbyn, prosesu a gweithredu ar wybodaeth. Mae’n cynnwys meysydd fel canolbwyntio, cof, gwneud penderfyniadau a chyfathrebu.
Yn y byd digidol, gallwn dybio’r hyn mae rhywun yn ei wybod yn barod, neu sut y byddant yn dehongli ein cynnwys. Gall hyn arwain at rwystrau i ddefnyddwyr hŷn neu niwrowahanol a allai fod yn anghyfarwydd â therm neu gysyniad a ddefnyddiwn, neu gysylltiad a wnawn.
3. Golwg
Mae golwg yn ymwneud â sut canfyddir gwybodaeth weledol. Mae golwg yn cwmpasu ystod o feysydd megis craffter (yr hyn mae optegydd yn ei fesur), yn ogystal â’r gallu i wahanu lliwiau ac amcangyfrif pellteroedd.
Yn y byd digidol, gallwn dybio bob pob defnyddiwr yn gallu cael mynediad at wybodaeth weledol. Gall hyn gyflwyno rhwystrau pan fyddwn yn defnyddio lliwiau i gyfleu gwybodaeth mewn siart na all rhai defnyddwyr ei weld. Neu pan fyddwn yn mewnosod geiriau o fewn delwedd na all darllenydd sgrin ei ddarllen yn uchel.
4. Clyw
Mae clyw yn ymwneud â sut canfyddir sain. Mae’r clyw yn cwmpasu meysydd fel sensitifrwydd sain a dehongliad.
Yn y byd digidol, gallwn dybio bod pob defnyddiwr yn gallu cael mynediad at sain, neu dybio bod iaith arwyddion a chynnwys ysgrifenedig yr un mor hygyrch. Gall hyn gyflwyno rhwystrau pan na ellir cynhyrchu sain ar lefel ganfyddadwy, na ellir ei deall yn glir neu pan fydd gallu defnyddiwr iaith arwyddion yn llawer cryfach na’i allu i ddarllen.
Gallu
Mae gallu yn faes cymhleth. Er nad yw’n un o’r pedwar prif grŵp bydd yn effeithio arnoch chi a phob un o’ch defnyddwyr ar ryw adeg. Pan fyddwn yn ei ystyried yng nghyd-destun gallu a chapasiti unigolyn, mae’n ein helpu i nodi rhagor o rwystrau a thybiaethau.
Gallu – Popeth y gall defnyddiwr ei wneud. Eu holl wybodaeth a sgiliau. Mae’n debyg bod hon yn rhestr hir.
E.e. Rwy’n gallu cwblhau siopa bwyd ar-lein
Medrusrwydd – Dyma restr fyrrach o’r pethau y gall defnyddwyr eu gwneud heddiw. Mae hyn yn dibynnu ar ffactorau fel hyder, pryder, yfed alcohol, yr amser a’r offer sydd ar gael.
E.e. Nid allaf gwblhau siopa bwyd ar-lein heddiw gan nad wyf yn hyderus y bydd eitem cyfnewid yn briodol ar gyfer fy anghenion dietegol.
Capasiti – Dyma’r egni sydd gennym i wneud yr hyn y gallwn ei wneud. Mae pethau fel salwch a blinder yn cael effaith ar hyn. Cyfeirir ato fel llwyau weithiau.
E.e. Hyd yn oed os byddwn yn gwybod pa eitemau fydda’n diwallu fy anghenion, mae’n ddiwedd y dydd ac rwyf wedi blino gormod i gwblhau’r broses o dalu.
Bydd gallu a chapasiti’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn newid trwy gydol y dydd.
Gall y rhagdybiaethau a wnawn am allu arwain yn sydyn iawn at rwystrau i lawer o ddefnyddwyr mewn sefyllfaoedd byd go iawn.

Rhagdybiaethau math 2: amgylchedd a sefyllfa
Mae ail fath o ragdybiaeth yn gorgyffwrdd â gallu. Gall y byd go iawn fod yn flêr ac yn gymhleth i bob defnyddiwr.
Amgylchedd
Gallwn dybio bod ein defnyddwyr mewn amgylchedd statig, sefydlog a chaniataol. Gall y tybiaethau yma gyflwyno rhwystrau e.e. wrth ddefnyddio dyfais symudol gydag un llaw ar drên ysgytiog, neu yn y gwely wrth ochr partner sy’n cysgu.
Sefyllfa
Gallwn dybio bod defnyddiwr mewn sefyllfa gyfforddus a diogel. Gall defnyddwyr fod dan straen, yn rhuthro neu’n delio ag argyfwng.
Gall rhwystrau sefyllfaol eraill ddod i’r amlwg o ragdybiaethau cymdeithasol, megis fforddiadwyedd (bod yn berchen ar ddyfais symudol â data) neu ragdybiaethau diwylliannol o ran sut rydym yn defnyddio lliw neu eiconograffig. I rai defnyddwyr gall coch ddangos perygl, i ddefnyddwyr eraill gall coch ddangos lwc a llawenydd. Efallai y bydd rhai defnyddwyr yn dehongli eicon o amlen fel cyfeiriad e-bost, eraill yn ei weld fel cyfeiriad post.
Dileu’r rhwystrau yma o’n gwasanaethau
Wrth ymchwilio i’r mathau yma o dybiaethau gallwn wella ein cyrhaeddiad gyda defnyddwyr. Dyma rai camau gellir eu cymryd i ddefnyddio ein gwybodaeth am rwystrau yn ein gwaith.
Awgrym 1: Aros yn chwilfrydig
Mae chwilfrydedd am ein defnyddwyr a brwdfrydedd i ddysgu am y rhwystrau y maent yn eu hwynebu yn gyfuniad da.
Gallwn ymgysylltu â’n defnyddwyr trwy ddulliau ffurfiol megis ymchwil defnyddwyr neu brofi defnyddwyr, neu’n anffurfiol wrth gysylltu â gwahanol gymunedau, gwahodd adborth a chynnig cefnogaeth.
Awgrym 2: Bod yn strategol
Strategaeth gychwynnol dda yw nodi pa grwpiau yr ydych yn gyfforddus i’w heithrio.
Gall hyn ymddangos yn groes i’r cysyniad o gynllunio cynhwysol, ond mae’n helpu i osod y cwmpas.
Er enghraifft, mae llawer o’r cynhyrchion digidol rwy’n gweithio arnynt yn hapus i eithrio plant bach a phlant ifanc oherwydd rhwystrau gwybyddol fel darllen. Fodd bynnag, nid ydynt eisiau eithrio defnyddwyr sydd yn wynebu rhwystrau tebyg yn ddamweiniol, fel rhywun sy’n siarad Saesneg fel ail iaith.
Yn seiliedig ar hyn, canolbwyntiwyd ein gwaith wrth dracio rhwystrau darllen defnyddwyr, y rhagdybiaethau oedd wedi creu’r rhwystrau yma, a’r hyn a wnaethpwyd i fynd i’r afael â’r rhwystrau yma’n llwyddiannus o fewn sylfaen defnyddwyr y cynnyrch.
Dylech chi:
- Nodi pwy sy’n cael ei wahardd yn fwriadol
- Rhestru’r rhwystrau pam
- Ystyried pa grwpiau eraill gellir eu heithrio’n ddamweiniol gan yr un rhwystrau.
Awgrym 3: Ymestyn allan
Mae adeiladu cymuned o amgylch eich gwaith yn ffordd wych o hybu ei effeithiolrwydd. Mae grwpiau cynllunio cynhwysol yn bodoli yn y rhan fwyaf o ddiwydiannau a dinasoedd. Ystyriwch gysylltu ag eraill sydd ar lwybr tebyg. Mae’n gymuned gyfeillgar i fod yn rhan ohoni.
I gloi
Mae hygyrchedd a chynllunio cynhwysol yn bynciau dwfn. Ond, daw’r cyfan yn ôl at y cysyniad o rwystrau. Mae ymwybyddiaeth o’n rhagdybiaethau yn ein galluogi i leihau rhwystrau, cynyddu ein cyrhaeddiad a galluogi ein buddiolwyr i ffynnu.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst