Arielle Tye

Pennaeth Digidol

Mae gan Arielle dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phobl ifanc a chymunedau, yn eu cefnogi i gael llais a chymryd rhan mewn cynllunio a datblygu gwasanaethau.

Mae Arielle yn arweinydd yn ei maes, yn cynnal amrywiaeth eang o brosiectau ymchwilio a chynllunio, yn gweithio ar draws y Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gwasanaeth Arian a Phensiynau a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae hi’n arbenigo mewn cyd-gynllunio gwasanaethau, yn sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion pobl ac yn effeithiol i ddarparwyr.

Mae’n angerddol am waith ieuenctid ac yn cynnal hyfforddiant i bobl ifanc mewn Sgiliau Radio fel rhan o Radio Platfform yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Cyd-sylfaenydd Tech4Good UK, cymuned o drefnwyr rhwydwaith yn gweithio i hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg ar gyfer budd cymdeithasol.

Os hoffech adeiladu’n well gyda’ch cymuned, bydda Arielle wrth ei bodd yn siarad â chi.