Joe Williams

Swyddog Prosiectau Digidol

Mae gan Joe flynyddoedd o brofiad yn gweithio yn y trydydd sector yng Nghymru, yn cysylltu gyda chymunedau a phobl ifanc o gefndiroedd economaidd difreintiedig.

Mae wedi darparu cymorth iechyd meddwl a lles i famau ifanc yng Nghymoedd De Cymru, wedi cyflwyno dosbarthiadau sgiliau bywyd i ddisgyblion sydd mewn perygl o gael eu gwahardd, ac wedi cynnal clybiau ar ôl ysgol. Mae hefyd wedi bod yn rhan o drefnu rhaglenni lles yn cefnogi oedolion bregus.

Bu Joe hefyd yn gweithio fel trefnydd rhanbarthol ar gyfer plaid wleidyddol, yn ymgysylltu gyda’r gymuned, rhanddeiliaid a gwleidyddwyr ac yn creu cynnwys digidol.

Mae Joe yn angerddol am ddefnyddio digidol i wella bywydau cymunedau a phobl ifanc yng Nghymru.

Contact