Ffion Powell

Swyddog Cyllid a Datblygu

Gyda chefndir yn y maes gwerthu, mae gan Ffion brofiad yn creu a chynnal perthnasoedd busnes hirdymor a chynyddu ffrydiau refeniw.

Penderfynodd gymryd y naid i’r trydydd sector ac ymuno â ProMo Cymru, ble mae’n awyddus i ddefnyddio’i sgiliau i wneud gwahaniaeth ystyrlon yn y cymunedau sydd ei angen.

Rôl Ffion yw cefnogi cynhyrchiad incwm ProMo, ynghyd â chynorthwyo’r uwch reolwyr i ddatblygu prosiectau a chyfleodd busnes newydd.