Molly Brown

Dylunydd Cyfryngau Digidol ac Animeiddiwr Iau

Mae Molly yn astudio Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudiad yn y brifysgol ar hyn o bryd. Mae ganddi swydd interniaeth â thâl yn ProMo Cymru. Gyda chefndir mewn animeiddio 2D a 3D, VFX a dylunio graffeg, mae Molly yn dod a sgiliau gwerthfawr i’n tîm Cyfryngau.

Yn ei swydd, mae Molly yn creu dyluniadau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau wedi’u hargraffu, helpu gyda sawl agwedd o gynhyrchu cyfryngau, cyfrannu at raffeg symud a phrosiectau animeiddio, a chynorthwyo mewn gweithdai a sesiynau hyfforddiant.

Mae Molly yn awyddus i ehangu ei ymwybyddiaeth o’r diwydiant cynhyrchu cyfryngau, ac i ddilyn ei hangerdd dros olygu fideo a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â chymunedau. Ei nod ar gyfer y dyfodol yw bod yn Ddylunydd Cyfryngau Digidol!