Stephanie Hoffman
Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol
Yn dilyn graddio o Brifysgol Abertawe, mae Stephanie wedi treulio dros 30 o flynyddoedd yn adeiladu ei gyrfa yn y sector anllywodraethol (NGO) yng Nghymru. Mae ganddi ymrwymiad cryf i gyfiawnder cymdeithasol ac wedi mireinio ei sgiliau arweinyddiaeth wrth weithio gyda phobl sydd mewn tai annigonol, yn byw gyda salwch meddwl difrifol, yn ymdopi â gwrthdaro teuluol a chwalfa perthnasoedd, neu’n camddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Mae Stephanie yn angerddol am roi llais i’r rhai sydd ddim yn cael eu clywed trwy ddylanwadu ac eiriolaeth.
Gan dynnu ar ei phrofiadau personol o deithio byd-eang a bod yn fam-gu, mae ei 10+ mlynedd yn ProMo Cymru wedi ailgynnau ei chysylltiad â llawenydd plentyndod ac ieuenctid ac wedi atgyfnerthu ei chred ym mhŵer dysgu a thwf parhaus.