Daniel J. Finnegan

Pwyllgor Rheoli

Mae Daniel J.Finnegan yn academydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gyd-gyfarwyddwr Echo Games, cwmni budd cymunedol yn datblygu gemau a phrofiadau digidol ar gyfer y sector treftadaeth ddiwylliannol. Yn wyddonydd cyfrifiadurol, mae’n cysylltu ei ddiddordebau ymchwil gyda’i ymarfer proffesiynol er mwyn ymrwymo pobl o bob oedran i bynciau cymdeithasol diwylliannol.