Meirion Morgan

Cadeirydd

Ganwyd Meirion Morgan yng Nghwm Cynon ble mynychodd yr ysgol leol. Bu’n astudio mathemateg ym mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen, ac mae’n ddarlithydd mathemateg a busnes mewn addysg uwch yn bresennol.

Treuliodd dros ddegawd mewn amrywiaeth o swyddi bancio technegol yn Llundain, gan gynnwys cyd-sefydlu cwmni gwasanaethau ariannol a darparydd meddalwedd arbenigol.

Mae wedi bod yn gwneud gwaith helaeth fel Ymddiriedolwr elusennau yn Ne Cymru.