Datganiad Caethwasiaeth Fodern
Gwneir y datganiad hwn ar ran ProMo Cymru, cwmni dielw sydd â changen fasnachu gofrestredig. Mae’n gosod camau gweithredu ProMo ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-2025 i ddeall y risgiau posibl o gaethwasiaeth fodern sydd yn gysylltiedig â’i weithgareddau ac i roi camau ar waith sydd â’r nod o sicrhau nad oes unrhyw gaethwasiaeth na masnachu mewn pobl yn ein busnes – a, chyn belled ag sydd yn bosib i ni wybod, bod ein cyflenwyr yn gytûn â’r ethos yma.
Mae ProMo yn sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau’n cael gwybodaeth, yn gysylltiedig, ac yn cael eu clywed. Rydym yn gweithio’n gydweithredol i greu cyswllt rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Rydym yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell.
Mae ProMo yn gweithio gyda chymunedau gan ddefnyddio cyfathrebu, eiriolaeth, ymgysylltu diwylliannol, a chynhyrchu digidol a chyfryngau. Yn llywio ein gwaith mae degawdau o weithio’n cyflenwi prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol. Rydym yn defnyddio hyfforddiant ac ymgynghoriad i rannu’r wybodaeth yma, gan greu partneriaethau hirdymor er budd pobl a sefydliadau.
Mae ProMo yn elusen gofrestredig ac yn fenter gymdeithasol; mae’r elw yn cael ei fuddsoddi’n ôl i mewn i’n prosiectau cymunedol.
Fel sefydliad rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu gyda’n heiriolaeth. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ein rôl gydag ymagwedd gadarn tuag at y broblem fyd-eang o gaethwasiaeth a masnachu mewn pobl.
Rydym yn helpu miloedd o bobl wrth ddarparu cymorth ar-lein, sgwrsio ar y we, ffôn a neges destun yn ogystal â gwasanaethau wyneb i wyneb.
Rydym yn darparu hyfforddiant i’n cynghorwyr fel eu bod yn deall beth yw caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl, a’u bod yn ymwybodol o’r rhybuddion amlwg pan ddaw at oedolion a phlant. Rydym yn cyfeirio at sefydliadau cymorth arbenigol pan fydd hyn yn briodol.
Oherwydd natur ein busnes mae gennym gadwyni cyflenwi cyfyngedig.
Mae ProMo Cymru, ran amlaf, yn defnyddio dull integreiddio llorweddol wrth gyflenwi gwasanaethau. Felly, gellir darparu’r mwyafrif o wasanaethau yn fewnol.
Pan fydd angen defnyddio cyflenwyr allanol, bydd y rhain yn mynd drwy broses caffael ProMo ac arweinwyr cyswllt yn cael eu dynodi. Mae cofrestrau risg prosiect yn cael eu llenwi, ac mae unrhyw beryglon sydd yn ymwneud â’r gadwyn cyflenwi yn cael eu hystyried a mesurau lliniaru yn cael eu gosod, eu hadolygu a’u rheoli gan reolwyr prosiect cymwys. Yn bresennol, rydym yn datblygu Côd Ymddygiad Cyflenwyr o liniaru’r risg ymhellach pan ddaw at gaethwasiaeth fodern.
Rydym yn cydnabod y gallem ni, fel sefydliad, wneud mwy.
Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau eraill, yn enwedig sefydliadau’r trydydd sector, i rannu syniadau ac arferion gorau ar sut i wrthwynebu caethwasiaeth fodern ac archwilio cyfleoedd i gydweithio i wneud hyn.
Mae ein polisïau sefydliadol cenedlaethol sydd â pherthnasedd uniongyrchol i gaethwasiaeth fodern yn cynnwys diogelu, chwythu’r chwiban, cwynion, urddas yn y gwaith, a chaffael. Nid yw ein staff, y mwyafrif yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol, nac ein gwirfoddolwyr wedi’u gosod yn unrhyw gategori sydd yn cael ei ystyried, yn gyffredinol, yn fregus pan ddaw at gaethwasiaeth fodern yn y DU.
Mae’r datganiad hon yn cael ei gwneud yn wirfoddol ac yn cefnogi egwyddorion Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Cymeradwyir gan fwrdd ymddiriedolwyr ProMo Cymru.