Llinell gymorth sydd yn cefnogi pobl i gael eu clywed, deall gwasanaethau cymdeithasol, a derbyn y cymorth cywir i aros yn annibynnol yw Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr.

star

Cleient

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

star

Sector

Sector Cyhoeddus

star

Partneriaid

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mental Health Matters Wales
Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont
Rhaglen Edau Euraidd Eiriolaeth

star

Gwasanaethau

Llinell Gymorth
Eiriolaeth

Mae Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr yn wasanaeth llinell gymorth i rai 18+ oed sydd yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn gymwys i gymorth gwasanaethau cymdeithasol.

Gall y llinell gymorth helpu pobl i gyrraedd y gwasanaeth cymdeithasol cywir, i ddeall eu hopsiynau, deall eu sefyllfa, a sicrhau bod rhywun yn siarad ar eu rhan ac eirioli ar eu rhan.

Gall Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr:

  • Edrych ar anghenion gofal a chymorth cymdeithasol personol a’r opsiynau sydd yn agored i bobl
  • Rhannu gwybodaeth gyda phobl a’u helpu i gyrraedd y gwasanaethau cywir ar gyfer eu hanghenion
  • Helpu defnyddwyr i ddeall gwybodaeth a sgyrsiau
  • Eu cefnogi i wneud dewisiadau
  • Darganfod Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (gelwir yn IPA weithiau)
  • Gwrando ar y defnyddwyr
  • Siarad ar eu rhan
Dyn yn eistedd ar soffa ar alwad ffôn, gyda'i ben yn ei ddwylo. Mae'n edrych fel ei fod yn poeni.

Beth oedd y broblem?

Yn dilyn arweiniad gan y Rhaglen Edau Euraidd Eiriolaeth Llywodraeth Cymru, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awyddus i greu ffordd y gall pobl Pen-y-bont ar Ogwr gael mynediad i eiriolaeth annibynnol.

Y syniad oedd rhoi mwy o lais i bobl fregus, a’r rhai sydd yn derbyn cefnogaeth gwasanaethau cymdeithasol, i fedru mynegi eu barn.

Roeddent eisiau datblygu pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un sydd angen ‘eiriolwr’ i gynrychioli’u barn ac i sefyll i fyny dros eu hawliau.

Ffôn swyddfa draddodiadol du gyda chlustffonau a microffon yn sownd ynddo.

Ein dull

Daeth sawl sefydliad at ei gilydd i greu Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Mental Health Matters Cymru, Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont, a’r Rhaglen Edau Euraidd Eiriolaeth.

Cefnogodd ProMo Cymru y bartneriaeth yma i sefydlu llinell gymorth un pwrpas gall y cyhoedd ei ffonio ar 0808 801 0330. Mae’r llinell gymorth yn agored rhwng 9yb – 5yh, dydd Llun i ddydd Gwener.

Mae ProMo Cymru yn cyflogi Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth wedi’u hyfforddi i weithio ar y llinell gymorth.

Fel rhan o’r datblygiad yma, mae ProMo wedi creu gwefan a deunyddiau marchnata i hyrwyddo’r gwasanaeth i’r bobl fydda’n buddio ohono.

Dwylo yn darllen braille mewn llyfr.

Canlyniadau

Mae Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael effaith sylweddol ar fywydau unigolion yn Sir Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.

Ers ei gychwyn fel peilot blwyddyn o hyd yn 2017, mae’r gwasanaeth wedi tyfu i ddod yn adnodd hanfodol i’r gymuned.

Erbyn mis Awst 2024, roeddem wedi cefnogi 706 o unigolion, gan ddangos gwir angen am eiriolaeth annibynnol yn yr ardal. Mae’r gwaith o gysylltu pobl gyda’r cymorth cywir wedi arwain at 1,116 o atgyfeiriadau i Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol.

Mae darparu’r gwasanaeth llinell gymorth ac eiriolaeth bwrpasol yma wedi grymuso unigolion i:

  • Gael mynediad i gymorth hanfodol: Rydym wedi helpu pobl i lywio’r systemau gofal cymdeithasol cymhleth, gan sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt
  • Deall eu hawliau: Mae ein gwasanaeth wedi rhoi’r wybodaeth i unigolion i fedru mynnu eu hawliau a gwneud penderfyniadau gwybodus.
  • Canfod eu llais: Rydym wedi creu llwyfan i bobl fedru mynegi eu hanghenion a’u pryderon, gan arwain at ganlyniadau gwell.

Mae Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod yn wasanaeth cymorth pwysig i’r gymuned ac rydym wedi’n hymrwymo i wneud gwahaniaeth positif ym mywydau’r bobl rydym yn eu gwasanaethu.