Mynediad i Eiriolaeth Gwent
Un pwynt cyswllt ar gyfer gwybodaeth a chyngor am eiriolaeth yng Ngwent.
Cleient
Anhysbys
Sector
Sector Cyhoeddus
Partneriaid
Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent
Age Cymru Gwent
Dewis Cil
Training in Mind
NYAS Caerffili
Pobl yn Gyntaf Blaenau Gwent
Pobl yn Gyntaf Caerffili
Pobl yn Gyntaf Sir Fynwy
Pobl yn Gyntaf Torfaen
Gwasanaethau
Llinell Gymorth
Eiriolaeth
Beth oedd y broblem?
Dywedodd Phil Robson, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent: “Mae’n hollbwysig sicrhau bod pob dinesydd yn gallu lleisio eu barn os ydym am drawsnewid a gwella ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fel ei fod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Gwyddom fod y system ofal yn gallu bod yn rhy gymhleth ac nad yw bob amser yn hawdd i ddinasyddion ddarganfod a chael mynediad i’r wybodaeth a’r cymorth gorau iddynt.
Mae gan eiriolaeth rôl bwysig i’w chwarae o ran sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed – ac rydym yn cydnabod bod hwn yn wasanaeth pwysig y mae angen iddo fod ar gael yn deg, lle a phan fo angen.”
Ein dull
Dan arweiniad Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent, gyda chymorth gan Raglen Eiriolaeth Edau Aur Age Cymru, datblygwyd y llinell gymorth gan ddefnyddio dull cwbl gydgynhyrchiol
Partneriaid pwysig eraill y datblygiad yma yw Age Cymru Gwent, Dewis Cil, Training in Mind, NYAS Caerffili a sefydliadau Pobl yn Gyntaf o fewn pob ardal Awdurdod Lleol.
Gyda’r bwriad o fod yn fan cyswllt cyntaf, gellir cysylltu â’r llinell gymorth rhad ac am ddim yma ar 0808 8010566 i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud ag eiriolaeth. Mae Mynediad i Eiriolaeth Gwent yn agored o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10yb tan 3yp.
Mae’r llinell gymorth yn cael ei staffio gan dîm proffesiynol medrus iawn o Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth, a gyflogir gan ProMo Cymru.
Canlyniadau
Mae Mynediad i Eiriolaeth Gwent (MiEG) wedi cael effaith sylweddol ar fywydau unigolion yng Ngwent.
Ers ei sefydlu ym mis Ebrill 2019, mae MiEG wedi cefnogi nifer fawr o bobl i gael mynediad at eiriolaeth broffesiynol annibynnol (IPA) neu wasanaethau priodol eraill. Cyflawnwyd hyn trwy 1,207 o atgyfeiriadau i ddarparwyr IPA (ffigwr yn gywir Awst 2024).
Wrth ddarparu un pwynt cyswllt ar gyfer gwybodaeth a chyngor am eiriolaeth, mae GATA wedi grymuso unigolion i lywio systemau gofal a chymorth cymhleth. Mae’r gwasanaeth wedi sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed, bod eu dewisiadau’n cael eu parchu, a’u hawliau’n cael eu cynnal.
Mae’r ffaith bod MiEG yn annibynnol o’r awdurdodau lleol a’r GIG yn sicrhau cymorth diduedd sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hyn wedi arwain at fwy o hyder a rheolaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth mewn prosesau gwneud penderfyniadau sydd yn cael effaith ar eu bywydau.